Cyflwyniad

Shingles
Shingles

Haint ar nerf a'r croen o'i gwmpas yw’r eryr, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel herpes zoster. Mae'n cael ei achosi gan firws varicella-zoster, sydd hefyd yn achosi brech yr ieir.

Amcangyfrifir y bydd tua un o bob pedwar o bobl yn cael o leiaf un pwl o'r eryr yn ystod eu hoes.

Mae'r testun hwn yn cwmpasu:

Symptomau'r eryr

Y prif symptom yw poen, wedi'i ddilyn gan frech sy'n datblygu i fod yn pothelli coslyd sy'n edrych yn debyg i frech yr ieir.

Gallai pothelli newydd ymddangos am hyd at wythnos, ond ychydig ddyddiau ar ôl ymddangos, maen nhw'n troi'n lliw melyn, yn gwastadu ac yn sychu.

Wedyn, mae crachod yn ffurfio ble roedd y pothelli, a gallai hyn adael ychydig o graith ac achosi i bigment y croen gael ei golli.

Gallai'r poen fod yn barhaus, ac yn deimlad mud neu'n deimlad o losgi, a gall pa mor ddwys yw'r poen amrywio o ysgafn i ddifrifol.

Gallech gael poenau gwayw o bryd i'w gilydd, a bydd y darn o groen sydd wedi'i effeithio fel arfer yn dyner.

Mewn rhai achosion, gallai'r eryr achosi symptomau cynnar sy'n datblygu ychydig ddyddiau cyn i'r frech boenus ymddangos am y tro cyntaf.

Mae'r symptomau cynnar hyn yn gallu cynnwys:

  • cur pen / pen tost
  • teimlad fel llosgi, fferdod neu'r croen yn cosi yn y man sydd wedi'i effeithio
  • teimlo'n anhwylus yn gyffredinol
  • tymheredd uchel (twymyn)

Mae pwl o'r eryr fel arfer yn para tua phythefnos i bedair wythnos. Mae fel arfer yn effeithio ar ardal benodol ar un ochr o'r corff yn unig.

Nid yw'n croesi dros linell ganol y corff, sef llinell ddychmygol sy'n rhedeg o rhwng eich llygaid i lawr heibio'r botwm bol.

Gall unrhyw ran o'ch corff gael ei heffeithio, gan gynnwys eich wyneb a'ch llygaid, ond y frest a'r bol (abdomen) yw'r mannau mwyaf cyffredin.

Pryd i gael cyngor meddygol

Nid yw'r eryr fel arfer yn ddifrifol, ond dylech fynd i weld eich meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd os byddwch yn adnabod y symptomau. Gallai triniaeth gynnar helpu i leihau difrifoldeb eich symptomau a risg datblygu cymhlethdodau.

Fel arfer, gall eich meddyg teulu wneud diagnosis o'r eryr ar sail eich symptomau a'r ffordd mae'r frech yn edrych.

Cyfeirio i ysbyty

Mae'n anarferol i rywun sydd â'r eryr gael ei gyfeirio i ysbyty, ond gallai eich meddyg teulu ystyried gofyn am gyngor arbenigol yn yr achosion canlynol:

  • os yw'n amau bod cymhlethdod yn sgil yr eryr, fel meningitis neu enseffalitis
  • os yw'r eryr yn effeithio ar un o'ch llygaid - mae perygl y gallech ddatblygu problemau parhaol â'ch golwg os na chaiff y cyflwr ei drin yn gyflym
  • os nad yw diagnosis yn bendant
  • os oes gennych achos anarferol o barhaus o'r eryr nad yw'n ymateb i driniaeth
  • os ydych wedi cael diagnosis o'r cyflwr ddwywaith
  • os ydych chi'n feichiog
  • os oes gennych system imiwnedd wan - yn enwedig mewn achosion difrifol neu achosion sy'n effeithio ar blant

Beth sy'n achosi'r eryr?

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael brech yr ieir pan fyddant yn blentyn ond ar ôl i'r salwch fynd, mae'r firws yn dal yn segur (anweithredol) yn y system nerfol. Mae'r system imiwnedd yn cadw'r firws dan reolaeth, ond yn nes ymlaen mewn bywyd mae'n gallu cael ei ailysgogi ac achosi'r eryr.

Mae'n bosibl cael yr eryr fwy nag unwaith, ond mae'n anaml iawn ei gael fwy na dwywaith.

Ni wyddom pam yn union y mae firws yr eryr yn cael ei ailysgogi yn nes ymlaen mewn bywyd, ond credir bod y rhan fwyaf o achosion yn digwydd o ganlyniad i imiwnedd gwannach (amddiffyniad yn erbyn clefydau heintus). 

Gallai hwn fod o ganlyniad i:

  • henaint - wrth i chi heneiddio, gallai eich imiwnedd fynd yn llai; mae'r eryr yn fwyaf cyffredin ymhlith pobl dros 70 oed
  • bod o dan straen corfforol ac emosiynol - mae'r cemegion sy'n cael eu rhyddhau gan eich corff pan fyddwch dan straen yn gallu atal eich system imiwnedd rhag gweithio'n iawn
  • HIV ac AIDS - mae pobl sydd â HIV yn llawer mwy tebygol o gael yr eryr na gweddill y boblogaeth gan fod eu system imiwnedd yn wan
  • cael trawsblaniad mêr esgyrn yn ddiweddar - mae'r cyflyriad sydd ei angen arnoch cyn y trawsblaniad yn gwanhau eich imiwnedd
  • cael trawsblaniad organ yn ddiweddar - efallai y bydd angen i chi gymryd meddyginiaeth i atal eich system imiwnedd fel bod eich corff yn derbyn yr organ a roddwyd
  • cemotherapi - mae meddyginiaeth cemotherapi, sy'n cael ei defnyddio'n aml i drin canser, yn gallu gwanhau eich system imiwnedd dros dro

Fodd bynnag, mae pobl ifanc sy'n iach fel arall yn gallu datblygu'r eryr weithiau.

A yw'r eryr yn heintus?

Ni allwch ddal yr eryr gan rywun sydd â'r cyflwr, na gan rywun sydd â brech yr ieir.

Fodd bynnag, gallwch chi ddal brech yr ieir gan rywun sydd â'r eryr os nad ydych wedi cael brech yr ieir o'r blaen.

Atal y firws rhag lledu

Os oes gennych yr eryr, rydych chi'n heintus nes bydd y bothell olaf wedi sychu a chrachen wedi ffurfio (gallwch ddal brech yr ieir gan rywun sydd â'r eryr os nad ydych chi wedi cael brech yr ieir o'r blaen).

I helpu atal y firws rhag lledu, dylech osgoi rhannu tywelion neu gadachau wyneb, nofio neu gymryd rhan mewn chwaraeon cyswllt. Dylech chi osgoi mynd i'r gwaith neu'r ysgol hefyd os yw eich brech yn gollwng hylif (yn diferu) ac ni ellir gorchuddio'r frech.

Gall brech yr ieir fod yn hynod beryglus ar gyfer rhai grwpiau o bobl. Os oes gennych yr eryr, dylech osgoi:

  • menywod sy'n feichiog ac nad ydynt wedi cael brech yr ieir o'r blaen oherwydd gallen nhw ei ddal gennych chi - gallai hyn niweidio eu baban sydd heb ei eni
  • pobl sydd â system imiwnedd wan - fel rhywun â HIV neu AIDS
  • babanod sy'n llai na mis oed - oni bai mai eich baban eich hun ydyw; yn yr achos hwn, dylai fod gan eich baban broteinau sy'n ymladd haint (gwrthgyrff) i'w amddiffyn rhag y firws

Trin yr eryr

Nid oes modd gwella'r eryr, ond mae triniaeth ar gael i leddfu'r symptomau nes bod y cyflwr yn gwella.

Mae'r rhan fwyaf o achosion o'r eryr yn para tua phythefnos i bedair wythnos.

Mae triniaeth ar gyfer yr eryr yn gallu cynnwys:

  • gorchuddio'r frech â dillad neu rwymyn nad yw'n glynu i leihau'r risg i bobl eraill gael eu heintio â brech yr ieir, gan ei bod yn anodd iawn trosglwyddo'r firws i rywun arall os yw'r frech wedi ei gorchuddio
  • meddyginiaeth lladd poen, fel paracetamol, ibuprofen neu codeine
  • meddyginiaeth wrth-firol i atal y firws rhag lluosogi, er na fydd angen hyn ar bawb.

Darllenwch fwy o wybodaeth am sut caiff yr eryr ei drin.

Cymhlethdodau

Mae'r eryr weithiau yn gallu arwain at gymhlethdodau, fel niwralgia ôl-herpetig, sef pan fydd poen nerfol difrifol yn para dros dri mis ar ôl i'r frech ddiflannu.

Mae cymhlethdodau fel hyn yn digwydd gan amlaf ymhlith pobl hŷn sydd wedi cael y cyflwr a'r rheiny sydd â system imiwnedd wan.

Darllenwch fwy ynghylch cymhlethdodau'r eryr.

Brechlyn yr eryr

Nid yw bob amser yn bosibl i atal yr eryr, ond gall brechlyn o’r enw Zostavax leihau eich siawns o ddatblygu'r cyflwr. Mae Zostavax wedi ei drwyddedu ar gyfer pobl 50 oed a hŷn.

Os ydych yn dal yn datblygu'r eryr ar ôl cael y brechlyn hwn, efallai y bydd y cyflwr yn ysgafnach ac yn para am gyfnod byrrach nag arfer.

Mae'r brechlyn yn cael ei gynnig fel mater o drefn i bobl hŷn ar y GIG fel rhan o'r rhaglen frechu genedlaethol oherwydd risg fwyaf o gael yr eryr, a'r grŵp sy’n fwyaf tebygol o fod yn sâl iawn os byddant yn ei gael hefyd. Mae'n cael ei roi fel un pigiad i unrhyw un sydd wedi cyrraedd 70 oed ers i'r rhaglen ddechrau yn 2013. Mae yna raglen dal i fyny hefyd ar gyfer y rheiny sy'n 77, 78 neu 79 ar 1 Medi 2017 ac mae ar gael hyd nes bod eich pen-blwydd yn 80 oed.


Os ydych yn dymuno cael brechlyn yr eryr ac nid ydych yn gymwys ar gyfer rhaglen frechu'r GIG, trafodwch gyda'ch meddyg teulu a fydd yn gwneud asesiad clinigol unigol i benderfynu a yw'r brechlyn yn cael ei nodi. Efallai y bydd angen i chi ymweld â chlinig preifat i'w gael fel brechiad preifat, sy'n debygol o gostio £100-200.

Darllenwch fwy ynghylch brechlyn yr eryr.

Yr eryr offthalmig

Mae rhai achosion o'r eryr yn gallu effeithio ar un o'r llygaid a'r enw am hyn yw'r eryr offthalmig.

Mae hyn yn digwydd pan gaiff y firws ei ailysgogi mewn rhan o'r nerf deircainc, sef nerf sy'n rheoli teimlad a symudiad yn eich wyneb.

Gall symptomau gynnwys:

  • brech dros eich talcen, trwyn ac o gwmpas eich llygad
  • llid yr amrantau - llid yn eich llygad sy'n achosi iddo gochi a mynd yn ddyfrllyd, gyda gorchudd gludiog ar eich amrannau
  • llygad coch
  • problemau â'ch golwg
^^ Yn ôl i’r brig

Triniaeth

Nid oes gwellhad ar gyfer yr eryr ond gall triniaeth helpu i leddfu eich symptomau nes bydd y cyflwr yn gwella. Mewn llawer o achosion, mae'r eryr yn gwella ymhen rhyw bythefnos i bedair wythnos.

Fodd bynnag, mae'n dal yn bwysig i chi fynd i weld eich meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd os ydych chi'n adnabod symptomau'r eryr. Efallai y bydd triniaeth gynnar yn helpu i leihau difrifoldeb y cyflwr a'r perygl o ddatblygu cymhlethdodau posibl.

Cadw draw o'r gwaith neu'r ysgol

Os oes gennych chi neu'ch plentyn yr eryr, mae ond angen i chi gadw draw o'r gwaith neu gadw eich plentyn draw o'r ysgol yn yr achosion canlynol:

  • tra bydd y frech yn diferu (gollwng hylif) ac ni ellir ei gorchuddio
  • tra byddwch chi neu'ch plentyn yn teimlo'n anhwylus

Os yw'r frech ar eich corff yn unig a bod dillad yn gallu ei gorchuddio, mae'r perygl o drosglwyddo'r haint i rywun arall yn fach.

Hunanofal 

Os byddwch chi'n datblygu brech yr eryr, mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i leddfu eich symptomau, er enghraifft: 

  • cadwch y frech mor lân a sych â phosibl - bydd hyn yn lleihau'r perygl y bydd eich brech yn cael ei heintio â bacteria.
  • gwisgwch ddillad llac - gall hyn eich helpu i deimlo'n fwy cyfforddus.
  • peidiwch â defnyddio gwrthfiotigau argroenol (i'w rhoi ar y croen) na phlastrau (gorchuddion adlynol) gan fod hyn yn gallu arafu'r broses wella.
  • defnyddiwch orchudd nad yw'n adlynol (gorchudd na fydd yn glynu wrth y frech) os oes angen i chi orchuddio'r pothelli, mae hyn yn atal y firws rhag cael ei drosglwyddo i rywun arall.

Mae golchdrwyth calamin yn esmwytho ac oeri'r croen a gellir ei ddefnyddio i leddfu'r cosi. 

Os oes gennych bothelli sy'n diferu, gallwch ddefnyddio clwtyn gwasgu oer (clwtyn neu gadach ymolchi gyda dŵr tap) sawl gwaith y dydd i helpu i leddfu'r croen a chadw'r pothelli'n lân.

Mae'n bwysig defnyddio'r clwtyn gwasgu am ryw 20 munud ar y tro yn unig a dylech roi'r gorau i'w ddefnyddio wedi i'r pothelli roi'r gorau i ollwng. Peidiwch â rhannu unrhyw glytiau, tywelion na chadachau ymolchi os oes gennych frech yr eryr.

Meddyginiaeth wrthfirol

Yn ogystal â meddyginiaeth sy'n lladd poen, bydd cwrs o dabledi gwrthfirol sy'n para 7 diwrnod yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn ar gyfer rhai pobl sydd â'r eryr. Mae meddyginiaethau gwrthfirol cyffredin yn cynnwys aciclovir, valaciclovir a famciclovir.

Ni all y math hwn o feddyginiaeth ladd firws yr eryr ond gall ei atal rhag lluosogi. Gall meddyginiaeth wrthfirol:

Mae meddyginiaethau gwrthfirol yn fwyaf effeithiol os byddwch yn eu cymryd o fewn 72 awr (tri diwrnod) o'r adeg y mae'r frech yn ymddangos. Fodd bynnag, gallwch ddechrau eu cymryd hyd at wythnos ar ôl i'ch brech ymddangos os ydych chi mewn perygl o gael achos difrifol o'r eryr neu ddatblygu cymhlethdodau.

Mae sgil-effeithiau meddyginiaeth wrthfirol yn anarferol iawn, ond maent yn gallu cynnwys:

Pwy sy'n cael meddyginiaeth wrthfirol ar bresgripsiwn?

Os ydych chi dros 50 oed, a bod gennych symptomau'r eryr, byddwch fel arfer yn cael meddyginiaeth wrthfirol ar bresgripsiwn.

Gellir rhoi meddyginiaeth wrthfirol i chi ar bresgripsiwn hefyd:

  • os yw'r eryr yn effeithio ar un o'ch llygaid
  • system imiwnedd wan 
  • poen cymedrol i ddifrifol
  • brech gymedrol i ddifrifol

Beichiogrwydd a meddyginiaeth wrthfirol

Os ydych yn feichiog a bod yr eryr arnoch, mae'n debygol y bydd eich meddyg teulu yn trafod eich achos ag arbenigwr i benderfynu a fyddai manteision meddyginiaeth wrthfirol yn llawer amlycach nag unrhyw beryglon posibl. Ni fydd yr eryr yn gwneud niwed i'ch baban heb ei eni.

Os ydych o dan 50 oed, nid ydych mewn cymaint o berygl o ddatblygu cymhlethdodau o'r eryr. Efallai na fydd angen meddyginiaeth wrthfirol arnoch, oni bai nad oes modd rheoli'r poen â chyffuriau lladd poen dros y cownter.

Mae meddyginiaeth wrthfirol yn dda yn rheoli poen yn ystod wythnos neu bythefnos gyntaf y frech.

Plant a meddyginiaeth wrthfirol

Nid oes angen meddyginiaeth wrthfirol fel rheol ar blant sy'n iach fel arall oherwydd:

  • dim ond symptomau ysgafn yr eryr a gaiff plant fel arfer
  • bach yw'r perygl y byddant yn datblygu cymhlethdodau

Fodd bynnag, os oes gan eich plentyn system imiwnedd wan, efallai y bydd angen iddo fynd i'r ysbyty i gael meddyginiaeth wrthfirol yn syth i mewn i wythïen (mewnwythiennol).

Meddyginiaeth sy'n lladd poen

I leddfu'r poen y mae'r eryr yn ei achosi, efallai bydd eich meddyg teulu yn rhoi meddyginiaeth lladd poen i chi ar bresgripsiwn. Mae rhai o'r prif feddyginiaethau a ddefnyddir i leddfu poen sy'n gysylltiedig â'r eryr yn cael eu disgrifio isod.

Paracetamol

Y cyffur lladd poen mwyaf cyffredin sy'n cael ei ddefnyddio yw paracetamol, sydd ar gael dros y cownter heb bresgripsiwn. Dylech ddarllen cyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchwr bob tro i sicrhau bod y feddyginiaeth yn addas i chi a'ch bod yn cymryd y dos cywir.

Cyffuriau gwrthlidiol ansteroidol (NSAID)

Mae cyffuriau gwrthlidiol ansteroidol (NSAID), fel ibuprofen, yn fath arall o feddyginiaeth lladd poen, sydd hefyd ar gael dros y cownter heb bresgripsiwn.

Fodd bynnag, efallai na fydd cyffuriau NSAID yn addas i chi:

  • os oes problemau stumog, iau/afu neu arennau gennych, fel wlser peptig neu eich bod wedi eu cael yn y gorffennol
  • os oes asthma arnoch
  • os ydych chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron

Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu fferyllydd os ydych chi'n ansicr a ddylech chi gymryd cyffuriau NSAID.

Opiadau

Ar gyfer poen mwy difrifol, efallai bydd eich meddyg teulu yn rhoi opiad ar bresgripsiwn i chi, fel codeine. Mae hwn yn fath cryfach o gyffur lladd poen sy'n debygol o gael ei roi ar bresgripsiwn ochr yn ochr â paracetamol.

O bryd i'w gilydd, gallai eich meddyg teulu ystyried gofyn am gyngor arbenigol cyn rhoi opiad hyd yn oed yn gryfach ar bresgripsiwn i chi, fel morffin. 

Cyffuriau gwrthiselder

Os yw'r eryr yn peri poen difrifol i chi, gallai meddyginiaeth gwrthiselder gael ei rhoi ar bresgripsiwn i chi.

Defnyddir cyffuriau gwrthiselder yn aml i drin iselder, ond maen nhw hefyd wedi bod yn ddefnyddiol wrth leddfu poen nerfol

Cyffuriau gwrthiselder trichylchol (TCA) yw'r enw ar y rhai a ddefnyddir gan amlaf i drin poen yr eryr. Dyma'r enghreifftiau o'r cyffuriau gwrthiselder trichylchol mwyaf cyffredin sy'n cael eu rhoi ar bresgripsiwn ar gyfer pobl sydd â'r eryr:

  • amitriptyline
  • imipramine
  • nortriptyline

Gall sgil-effeithiau'r cyffuriau gwrthiselder trichylchol gynnwys:

  • rhwymedd  
  • trafferthion troethi
  • golwg aneglur
  • ceg sych
  • magu pwysau
  • teimlo'n gysglyd.

Os yw'r eryr arnoch, bydd dos llawer is o gyffuriau gwrthiselder trichylchol yn cael ei roi ar bresgripsiwn i chi fel arfer na'r hyn y byddech yn ei gael ar gyfer iselder. Bydd hwn fel arfer ar ffurf tabled i'w gymryd yn y nos. Efallai bydd eich dos yn cael ei gynyddu nes lleddfu eich poen. Gall gymryd sawl wythnos cyn i chi ddechrau teimlo bod y cyffuriau gwrthiselder yn gweithio, er nad yw hyn bob amser yn wir.

Cyffuriau gwrthgonfylsiwn

Defnyddir cyffuriau gwrthgonfylsiwn gan amlaf i reoli ffitiau a achosir gan epilepsi, ond maent yn ddefnyddiol wrth leddfu poen nerfol hefyd.

Gabapentin a pregabalin yw'r cyffur gwrthgonfylsiwn sy'n cael ei roi ar bresgripsiwn gan amlaf ar gyfer poen a achosir gan yr eryr.

Gall sgil-effeithiau'r meddyginiaethau hyn gynnwys:

  • penysgafnder
  • teimlo'n gysglyd
  • mwy o awydd bwyd
  • magu pwysau
  • teimlo'n sâl
  • chwydu

Fel y cyffuriau gwrthiselder, efallai y bydd rhaid i chi gymryd cyffur gwrthgonfylsiwn am sawl wythnos cyn i chi sylwi ei fod yn gweithio. Os na fydd eich poen yn gwella, efallai bydd eich dos yn cael ei gynyddu'n raddol nes rheoli eich symptomau'n effeithiol.

 

^^ Yn ôl i’r brig

Cymhlethdodau

Mae cymhlethdodau yn sgil yr eryr yn fwy tebygol o gael eu hachosi os yw eich system imiwnedd (system amddiffyn naturiol y corff) yn wan neu os ydych chi'n oedrannus.

Caiff rhai o'r prif gymhlethdodau sy'n gysylltiedig â'r eryr eu disgrifio isod.

Niwralgia ôl-herpetig 

Niwralgia ôl-herpetig yw cymhlethdod mwyaf cyffredin yr eryr. Nid yw'n glir faint o bobl sy'n cael eu heffeithio yn union, ond mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gallai cynifer ag un o bob pump o bobl dros 50 oed ddatblygu niwralgia ôl-herpetig o ganlyniad i'r eryr.

Mae niwralgia ôl-herpetig yn gallu achosi poen nerfol difrifol (niwralgia) a chosi dwys sy'n parhau ar ôl y frech a phan fydd unrhyw symptomau eraill yr eryr wedi mynd. 

Mae'r mathau o boen sy'n gallu effeithio ar bobl â niwralgia ôl-herpetig yn cynnwys:

  • poen cyson neu ysbeidiol sy'n llosgi, yn dolurio, yn wyniog neu'n sydyn
  • alodynia, lle byddwch yn teimlo poen o rywbeth na ddylai fod yn boenus, fel newidiadau mewn tymheredd neu'r gwynt 
  • gorboen, pan fyddwch chi'n sensitif iawn i boen 

Mae niwralgia ôl-herpetig weithiau'n gwella ar ôl tri i chwe mis, ond gall bara am flynyddoedd a gall fod yn barhaol mewn rhai achosion. Mae modd trin niwralgia ôl-herpetig â nifer o wahanol feddyginiaethau lladd poen.

Trowch at y pwnc niwralgia ôl-herpetig i gael gwybod rhagor.

Problemau â'r llygaid

Os caiff un o'ch llygaid ei effeithio gan yr eryr (yr eryr offthalmig), mae perygl y gallech ddatblygu rhagor o broblemau yn y llygad sydd wedi'i effeithio, fel:

  • wlseriad (briwiau) a chraith barhaol ar arwyneb eich llygad (cornbilen)
  • llid yn y llygad a'r nerf optig (y nerf sy'n trosglwyddo signalau o'r llygad i'r ymennydd)
  • glawcoma - lle mae pwysedd yn cynyddu y tu mewn i'r llygad

Os na chaiff ei drin yn brydlon, mae perygl y gallai'r eryr offthalmig achosi i rywfaint o'ch golwg gael ei golli'n barhaol.

Syndrom Ramsay Hunt

Cymhlethdod yw syndrom Ramsay Hunt sy'n gallu digwydd os bydd yr eryr yn effeithio ar nerfau penodol yn eich pen. Yn America, amcangyfrifir bod syndrom Ramsay Hunt yn effeithio ar 5 ym mhob 100,000 o bobl bob blwyddyn a gallai effeithio ar nifer debyg o bobl yn y DU.

Gall syndrom Ramsay Hunt achosi: 

  • pigyn clust / clust dost 
  • colli clyw
  • penysgafnder
  • pendro (y teimlad eich bod chi neu eich amgylchedd yn symud neu'n troi)                
  • canu yn y glust (clywed synau'n dod o'r tu mewn i'ch corff yn hytrach na'r tu allan iddo) 
  • brech o amgylch y glust 
  • colli blas
  • parlys (gwendid) yn eich wyneb

Mae syndrom Ramsay Hunt yn cael ei drin fel arfer â'r feddyginiaeth ganlynol: 

cynharaf y dechreuir y driniaeth, gorau i gyd y canlyniad. Bydd tua thri chwarter o'r bobl sy'n cael meddyginiaeth wrthfirol ymhen 72 awr (tri diwrnod) o ddechrau eu symptomau yn gwella'n gyfan gwbl fel arfer. Os bydd y driniaeth yn cael ei gohirio, dim ond tua hanner y rheiny sy'n cael eu trin fydd yn gwella'n gyfan gwbl.

Efallai y bydd y rheiny nad ydynt yn gwella'n llwyr yn wynebu problemau parhaol, fel parlys yn yr wyneb neu golli clyw.

Cymhlethdodau eraill

Mae nifer o broblemau posibl eraill yn gallu datblygu weithiau o ganlyniad i'r eryr, gan gynnwys:

  • y frech yn cael ei heintio â bacteria - ewch i weld eich meddyg teulu os byddwch yn datblygu tymheredd uchel, oherwydd gallai hyn fod yn arwydd o haint bacterol
  • mannau gwyn (colli pigment) o gwmpas y frech
  • creithio
  • llid yn yr ysgyfaint (niwmonia), yr iau/afu (hepatitis), yr ymennydd (enseffalitis), madruddyn y cefn (myelitis traws), neu bilenni amddiffynnol sy'n amgylchynu'r ymennydd a madruddyn y cefn (meningitis) - mae'r cymhlethdodau hyn yn brin, fodd bynnag

Anaml y mae'r eryr yn peryglu bywyd, ond mae cymhlethdodau fel y rheiny y sonnir amdanyn nhw uchod yn golygu bod tua 1 o bob 1,000 o achosion ymhlith oedolion dros 70 oed yn angheuol.

 

^^ Yn ôl i’r brig

Cysylltau dethol

Topig Galw Iechyd Cymru

Brech yr Ieir

Niwralgia (yn Saesneg)

Cysylltiadau Allanol

Patient UK: Yr Eryr (yn Saesneg)

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Yr Eryr

Diogelwch eich hun rhag poen yr eryr (fideo) Iechyd Cyhoeddus Cymru

Taflen Llywodraeth Cymru "Brechiad rhag yr eryr i bobl rhwng 70 a 79 oed"

^^ Yn ôl i’r brig


Mae’r wybodaeth ar y dudalen yma wedi addasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol gan NHS Choices.
Dyddiad diweddaru diwethaf: 04/04/2018 14:32:25