Triniaeth
Fel arfer, dim ond pan fydd y rhan fwyaf o ddannedd oedolyn wedi dechrau torri trwodd y bydd triniaeth orthodontig yn dechrau, sef tua 12 oed fel arfer.
Gall triniaeth orthodontig i oedolion ddechrau unrhyw bryd, ond mae'r opsiynau triniaeth yn fwy cyfyngedig.
Ni fydd triniaeth yn dechrau oni bai bod safon hylendid eich ceg yn dda, oherwydd gall triniaeth gynyddu risg pydredd dannedd a phroblemau'r deintgig.
Pan fydd y driniaeth yn gorffen, bydd angen i chi wisgo dargadwr. Bydd eich orthodontydd yn rhoi cyngor i chi ar y math o ddargadwr y bydd ei angen arnoch chi a pha mor hir y bydd angen i chi ei wisgo. Weithiau, gall weiren denau gael ei gosod yn barhaol y tu ôl i'ch dannedd i'w dal yn eu lle.
Sut i gael triniaeth orthodontig
Gall eich deintydd eich atgyfeirio i orthodontydd, ond weithiau gallwch gael triniaeth yn uniongyrchol gan eich deintydd.
Os bydd triniaeth orthodontig yn cael ei hargymell, gall fod yn rhaid i chi benderfynu p'un ai i gael triniaeth yn breifat neu ar y GIG.
Cewch restr o'r holl orthodontyddion arbenigol sydd wedi cofrestru yn y Deyrnas Unedig ar wefan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC).
Triniaeth y GIG
Mae triniaeth orthodontig y GIG ar gael yn rhad ac am ddim i bobl o dan 18 oed sydd ag angen iechyd clir am driniaeth. Oherwydd galw mawr, mae rhestr aros hir.
Fel arfer, nid yw gofal orthodontig y GIG ar gael i oedolion. O dan rai amgylchiadau, gall gael ei gymeradwyo fesul achos os bydd ei angen am resymau iechyd.
Mae system sgorio o'r enw Mynegai'r Angen am Driniaeth Orthodontig (IOTN) yn asesu a ydych chi'n gymwys i gael triniaeth y GIG.
Triniaeth breifat
Os nad ydych chi'n gymwys i gael triniaeth y GIG am ddim neu os nad ydych am aros i driniaeth ddechrau, gallech ddewis cael triniaeth breifat.
Mae triniaeth orthodontig preifat ar gael yn helaeth. Bydd y ffioedd yn dibynnu ar gymhlethdod y driniaeth a'r math o declynnau sy'n cael eu defnyddio.
Ar ôl asesiad cychwynnol, bydd orthodontydd preifat yn trafod cynllun triniaeth posibl gyda chi, ei gost ac unrhyw opsiynau eraill.
Mathau o driniaeth orthodontig
Mae gwahanol fathau o driniaeth orthodontig sy'n defnyddio 'teclynnau' gwahanol. Bydd y driniaeth orau i chi yn dibynnu ar ba broblem yn union sydd gennych.
Cam cyntaf y driniaeth yw asesu safle presennol eich dannedd a sut maen nhw'n debygol o newid gydag amser.
Yn aml, mae hyn yn cynnwys gwneud pelydrau X, gwneud modelau plastr a thynnu ffotograffau o'ch dannedd.
Yna, cewch gynllun triniaeth. Gall hyn awgrymu mwy nag un math o driniaeth. Mewn ambell achos, gallai tynnu un neu fwy o'ch dannedd gael ei argymell.
Siaradwch â'ch orthodontydd am eich opsiynau.
Ewch i wefan Cymdeithas Orthodontig Prydain i gael mwy o wybodaeth am y gwahanol fathau o sythwyr.
Dargadwyr
Mae dargadwyr yn cael eu defnyddio tua diwedd cwrs o driniaeth. Maen nhw'n dal dannedd wedi'u sythu yn eu lle tra bydd y deintgig a'r asgwrn o'u cwmpas yn dod i arfer â'u safle newydd. Gallant gael eu tynnu oddi yno neu gallant fod yn sefydlog.
O dan y GIG, bydd eich orthodontydd yn gyfrifol am eich gofal am 12 mis ar ôl i'r driniaeth arferol ddod i ben. Wedi hynny, bydd yn rhaid i chi dalu'n breifat am ofal parhaus. Bydd hyn yn cynnwys unrhyw driniaeth arall neu newid/trwsio dargadwyr.
Mae'n debygol y bydd dannedd yn symud rhywfaint os byddwch chi'n rhoi'r gorau i wisgo'ch dargadwr. Gall newidiadau yn safle eich dannedd barhau trwy gydol eich bywyd. Yr unig ffordd o gael dannedd syth yn barhaol yw gwisgo dargadwr gan ddilyn y cyngor gewch chi.