Cwynion am wasanaethau’r GIG

Cyflwyniad

Er 1 Ebrill 2011, mae’r ffordd y mae sefydliadau’r GIG yng Nghymru’n delio â chwynion, hawliadau a digwyddiadau (y’u gelwir yn bryderon) wedi newid. Yr enw ar y trefniadau newydd hyn yw Gweithio i Wella, ac maen nhw’n galw am ddull gwahanol o ddelio â phryderon. Mae staff y GIG wedi derbyn hyfforddiant i'w helpu a'u hannog nhw i ddatrys problemau wrth iddyn nhw godi, ac i fod yn agored os oes rhywbeth wedi mynd o’i le

Mae gan bob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth y GIG eu tîm pryderon eu hunain.

Gall y tîm pryderon eich cynorthwyo i godi'ch problem gyda'r gwasanaeth sy'n gyfrifol am eich triniaeth. Cewch fanylion cyswllt y tîm yn eich ardal ar wefan eich Bwrdd Iechyd:



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 26/10/2022 15:34:24