Llid y pendics

Cyflwyniad

Chwyddo (llid) ar y pendics yw llid y pendics, cod bychan sydd wedi'i gysylltu â'ch coluddyn mawr.

Mae ef wedi'i leoli yn rhan isaf ochr dde eich abdomen (bol).

Mae'r cyflwr yn dechrau fel poen yng nghanol yr abdomen. Wedyn mae hi'n symud i ran isaf yr ochr dde gan waethygu'n raddol.

Argyfwng meddygol yw llid y pendics, fel arfer bydd angen llawfeddygaeth frys i dynnu'r pendics. Heb ei drin, gall y pendics rwygo gan achosi heintiau a all fygwth bywyd.

Ni ddeallir achosion llid y pendics yn llwyr, er credir iddo ddigwydd wrth i rywbeth, fel arfer darn bach o ysgarthion, gau ceg y pendics, gan beri iddo chwyddo.

Beth yw pendics?

Cod fach ydy'r pendics, sydd fel arfer rhwng 5 a 10cm o hyd (2 a 4 modfedd) ac yn eithaf tenau. Mae ef yn gysylltiedig â'r coluddyn mawr, ymhle caiff ysgarthion eu ffurfio.

Ni wyr neb union reswm pam mae gennym bendics. Mae hi'n ymddangos nad oes ganddo ddiben, felly nid yw ei dynnu yn gwneud unrhyw ddrwg.

Symptomau llid y pendics

Bydd llid y pendics fel arfer yn dechrau gyda phoen ynghanol eich abdomen (bol) a all fynd a dod. O fewn oriau bydd y poen yn symud i ran isaf yr ochr dde, ymhle mae'r pendics, ac fe ddaw yn gyson a difrifol.

Gall pwyso o gylch y pendics, pesychu neu gerdded wneud y poen yn waeth. Gallwch golli eich archwaeth at fwyd, teimlo fel chwydu a dioddef y dolur rhydd.

Darllenwch ragor am symptomau llid y pendics.

Pryd mae angen cymorth?

Os oes gennych chi boen yn yr abdomen sy'n gwaethygu'n raddol, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu 111 ar unwaith.

Galwch 999 am ambiwlans os cewch chi boen sydd yn gwaethygu'n sydyn ac yn lledaenu ar draws eich abdomen. Arwyddion yw'r rhain ei bod yn bosib bod eich pendics wedi rhwygo. Darllenwch ragor am gymhlethdodau llid y pendics.

Gall fod yn anodd adnabod llid y pendics oherwydd fe all gael ei gymryd am gyflyrau eraill, megis haint ar y bledren neu'r troeth.

Trin llid y pendics

Yn y rhan fwyaf o achosion llid y pendics, fe fydd angen tynnu'r pendics â llawfeddygaeth. Un o weithdrefnau llawfeddygol mwyaf cyffredin yn y DU yw tynnu'r pendics, ac mae ganddo raddfa lwyddiant ragorol.

Yn fwyaf aml fe gaiff y llawfeddygaeth ei wneud fel llawfeddygaeth 'twll y clo' (laparascopi), gan ddefnyddio tri thorriad bach. Bydd llawfeddygaeth agored (un torriad mawr uwchben man lle mae'r pendics) yn cael ei defnyddio os bydd y pendics wedi rhwygo.

Yr enw meddygol am y math yma o lawfeddygaeth ydy apendectomi.

Darllenwch ragor am drin llif y pendics.

Pwy sydd yn cael eu heffeithio?

Cyflwr cyffredin ydy llid y pendics. Bydd tua 7% o bobl yn y Du yn dioddef llid y pendics rhywbryd yn ystod eu hoes.

Fel arfer fe fydd yn digwydd mewn pobl rhwng 10 a 20 mlwydd oed, ond fe all ddigwydd beth bynnag yw eich oedran.

Symptomau

Bydd llid y pendics fel arfer yn dechrau gyda phoen ynghanol eich abdomen (bol) a all fynd a dod.

O fewn oriau bydd y poen yn symud i ran isaf yr ochr dde, ymhle mae'r pendics, ac fe ddaw yn gyson a difrifol.

Gall pwyso o gylch y pendics, pesychu neu gerdded wneud y poen yn waeth.

Os bydd lid y pendics arnoch, mae'n bosibl y byddwch hefyd yn dioddef symptomau eraill gan gynnwys:

  • cyfog
  • chwydu
  • colli archwaeth
  • gwres a'r wyneb yn troi'n goch
  • dolur rhydd

Pryd i geisio cymorth

Os ydych yn dioddef poen abdomenol sy'n gwaethygu'n raddol, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu wasanaeth tu allan i oriau cyffreddin lleol ar unwaith. Os nad yw hynny'n bosibl ffoniwch Galw 111 Cymru.

Mae hi'n hawdd camgymryd llid y pendics am gyflwr arall, fel haint ar y bledren neu'r troeth, clefyd Crohn, IBS, gastroenteritis, haint ar y coluddion, beichiogrwydd eptopig a phroblemau ar yr wyfa (ofari). Fodd bynnag, bydd taer angen sylw meddygol am bob cyflwr sydd yn achosi poen cyson yn y stumog.

Dylech chi alw 999 a gofyn am ambiwlans petaech chi'n dioddef poen sydd yn gwaethygu yn sydyn iawn ac yn lledaenu ar draws eich abdomen. Arwyddion yw'r rhain ei bod hi'n bosib bod eich pendics wedi rhwygo.

Os bydd y pendics yn rhwygo, fe fydd yn gollwng bacteria, a all achosi heintiau difrifol, fel ymchwydd yn leinin mewnol yr abdomen (peritonitis) a gwenwyn gwaed.

Darllenwch ragor am gymhlethdodau llid y pendics.

Diagnosis

Gall fod yn anodd adnabod llid y pendics heblaw bod y symptomau nodweddiadol arnoch chi.

Fodd bynnag ni fydd symptomau nodweddiadol ar ddim ond tua hanner y bobl sydd â llid y pendics.

Yn ogystal i hyn, mae pendics rhai pobl wedi'i leoli mewn rhan wahanol o'r corff fel yn y pelfis, y tu ôl i'r coluddyn mawr, neu'r tu ôl i'r afu/iau.

Bydd rhai pobl yn datblygu symptomau sydd yn debyg i rai llid y pendics, ond sydd wedi eu hachosi gan rywbeth arall, fel haint ar y bledren neu'r troeth, Clefyd Crohn neu gastritis.

Bydd meddyg yn eich holi chi am eich symptomau, yn archwilio'ch abdomen, ac yna'n gweld a yw'r poen yn gwaethygu wrth roi pwysau ar leoliad eich pendics (rhan isaf y bol ar y dde).

Os yw'r symptomau yn nodweddiadol o lid y pendics, bydd yn ddigon fel arfer i'ch meddyg teulu wneud diagnosis hyderus o'r cyflwr.

Profion pellach

Fodd bynnag, os nad yw eich symptomau yn rhai nodweddiadol, mae'n bosibl y bydd angen mwy o brofion i geisio cadarnhau'r diagnosis ac i allu diystyru cyflyrau eraill.

Gall y profion eraill gynnwys: 

Gall fod ychydig ddyddiau cyn derbyn canlyniadau'r profion. Oherwydd hyn, os caiff llid y pendics ei amau, mae hi'n debyg y derbyniwch chi'r cyngor ei bod yn well tynnu eich pendics yn hytrach na wynebu'r siawns y bydd yn rhwygo.

Mae hyn yn feddwl y bydd pendics rhai pobl yn cael ei dynnu er y daw i'r amlwg wedyn ei fod yn holl iach. 

Mewn rhai achosion, pan nad yw'r diagnosis yn sicr, gallai meddyg argymell aros am hyd at 24 awr er mwyn gweld a yw'r symptomau yn gwella, aros yr un fath neu fynd yn waeth.

Os bydd eich meddyg yn amau bod eich pendics wedi rhwygo, fe gewch chi eich danfon i'r ysbyty am driniaeth ddi-oed.

Triniaeth

Os bydd llid y pendics arnoch chi, bydd rhaid tynnu'ch pendics yn llawfeddygol.

Un o weithdrefnau llawfeddygol mwyaf cyffredin yn y DU yw tynnu'r pendics (apendectomi neu apendisectomi yw enw'r meddygon ar hyn), ac mae ganddo raddfa lwyddiant ragorol.

Nid yw hi'n hawdd gwneud diagnosis clir bob tro. Ond os oes siawns bod llid y pendics arnoch, y tueddiad ymysg meddygon ydy cynghori llawfeddygaeth yn hytrach na wynebu'r siawns y bydd y pendics yn rhwygo.

Mewn bodau dynol, nid yw'r pendics yn gwneud unrhywbeth pwysig ac nid yw ei dynnu yn achosi unrhyw broblemau hir dymor.

Y weithdrefn

Caiff apendectomiau eu gwneud o dan anesthetig cyffredinol, gan ddefnyddio naill ai trefn 'twll y clo' ai'r drefn 'agored'. 

Llawdriniaeth 'Twll y Clo' 

Fel arfer caiff  llawdriniaeth twll y clo (laparoscopi ydy'r term meddygol) ei ddefnyddio gan fod amser gwella yn gynt wrth ei gymharu â llawfeddygaeth agored. 

Gwneir tri neu bedwar torriad bach yn eich bol. Wedyn caiff teclynnau arbennig eu rhoi i mewn trwy'r torriadau gan gynnwys:

  • tiwb y chwythir nwy drwyddo i chwyddo eich bol - bydd hyn yn caniatau i'r llawfeddyg weld eich pendics yn fwy eglur ac yn rhoi rhagor o le iddo weithio ynddo
  • laprascop (tiwb bach sydd yn cynnwys golau a chamera, a fydd yn danfon lluniau o du mewn i'r bol at sgrin teledu)
  • arfau llawfeddygol bychain a ddefnyddir i dynnu'r pendics

Unwaith bydd y pendics wedi'i dynnu, caiff y torriadau eu cau â phwythau a fydd yn toddi dros y dyddiau nesaf neu bydd angen eu tynnu yn ystod ymweliad â meddygfa eich meddyg teulu rhyw 7-10 niwrnod yn ddiweddarach.

Darllenwch ragor am laparoscopi.

Llawdriniaeth agored

O dan rai amgylchiadau, ni chaiff llawdriniaeth twlll y clo ei hargymell. Caiff llawdriniaeth agored ei gwneud yn lle.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • achosion lle bydd y pendics wedi rhwygo gan ffurfio'r hyn a elwir yn 'fàs o'r pendics'
  • pobl sydd wedi cael llawdriniaeth agored flaenorol i'r abdomen

Yn yr achosion hyn, bydd y llawdriniaeth yn golygu un torriad mawr ar ochr dde isaf eich bol i dynnu'r pendics. Bydd llawdriniaeth agored yn gadael craith fwy o faint ac mae'n bosibl y bydd wythnos yn mynd heibio cyn y byddwch wedi gwella digon i ymadael â'r ysbyty.

Pan fydd peritonitis (haint ar leinin mewnol y bol) ar led, weithiau bydd rhaid cynnal llawdriniaeth trwy endoriad hir yng nghanol y bol (laparotomi).

Yr un fath â llawdriniaeth twll y clo, caiff yr endoriad ei gau â phwythau  a fydd yn toddi dros y dyddiau nesaf neu bydd angen eu tynnu nes ymlaen.

Adferiad

Un o brif fanteision llawdriniaeth twll y clo ydy bod yr adferiad yn tueddu bod yn gyflym, a bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu ymadael â'r ysbyty o fewn dyddiau i'r llawdriniaeth. Os caiff y pendics ei dynnu'n amserol wedyn gall y rhan fwyaf o gleifion fynd adref o fewn 24 awr.

Gyda llawdriniaeth agored neu gymhleth (er enghraifft os bydd peritonitis arnoch chi), gall fod wythnos cyn y byddwch yn ddigon iach i fynd adref.

Am yr ychydig ddiwrnodau cyntaf ar ôl y llawdriniaeth mae hi'n debyg y byddwch yn profi peth poen a chleisio. Fe fydd hyn yn gwella dros amser ond gallwch chi gymryd poenladdwyr os bydd rhaid.

Os cawsoch lawdriniaeth twll y clo, mae hi'n bosib y byddwch yn profi poen ym mhen eich ysgwydd am tua wythnos. Achosir hyn gan y nwy a chwythwyd i'r bol yn ystod y llawdriniaeth.

Gallwch hefyd profi rhwymedd dros dro.  Fe allwch chi helpu lleihau hyn trwy beidio â chymryd poenladdwyr codein, fwyta digon o ffibr ac yfed digon o hylif,  er gall eich meddyg teulu foddion am y cyflwr os bydd yn profi'n neilltuol o drafferthus. 

Cyn ymadael â'r ysbyty, cewch chi gyngor ar sut mae gofalu am eich clwyf a pha weithgareddau y dylech chi eu hosgoi. Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch ail-gydio yn eich gweithgareddau arferol ar ôl tua phythefnos, er gall fod angen osgoi gweithgareddau mwy llafurus am bedair i chwe wythnos ar ôl llawdriniaeth agored.

Pryd mae eisiau cyngor meddygol?

Tra byddwch yn gwella, mae hi'n bwysig cadw llygad am unrhyw broblemau a all codi. Cysylltwch â'r ysbyty lle y cawsoch yr apendectomi neu â'ch meddyg teulu am gyngor os sylwch chi ar:

  • boen a chwyddo sydd yn cynyddu
  • y ffaith eich bod yn chwydu o hyd
  • dymheredd uchel (gwres)
  • unrhyw redlif yn dod o'r clwyf
  • y ffaith bod y clwyf yn dwym wrth gyffwrdd ag ef

Gall y symptomau hyn fod yn arwydd o haint.

Risgiau

Un o'r gweithdrefnau llawfeddygol mwyaf cyffredin a wneir yn y DU ydy apendectomi, ac mae cymhlethdodau difrifol neu hirdymor yn brin.

Fodd bynnag, yn debyg i bob math o lawfeddygaeth, bydd elfen o risg. Mae hyn yn cynnwys:

  • haint yn y clwyf (er o bosib y caiff gwrthfiotigau eu rhoi cyn, yn ystod ac ar ôl y llawdriniaeth er mwyn lleihau'r risg o haint ddifrifol)
  • gwaedu o dan y croen sydd yn achosi ymchwydd cadarn (haematoma) - bydd hyn yn gwella ar ei ben ei hun fel arfer, ond fe ddylech chi fynd at eich meddyg teulu os ydych yn poeni amdano.
  • creithio - fe fydd y ddwy weithdrefn lawfeddygol yn gadael rhywfaint o greithio o gylch yr endoriadau
  • crawn yn casglu (crawniad) - mewn achosion prin fe all haint a achoswyd gan i'r pendics rwygo arwain at grawniad wedi llawdriniaeth
  • hernia - yn y man a wnaethpwyd yr endoriadau am lawdriniaeth agored neu laparascopig

Mae gan y defnydd o anesthetig cyffredinol ei risgiau hefyd, megis y risg y bydd adwaith alergaidd neu anadlu cynnwys y stumog gan arwain at niwmonia. Fodd bynnag mae cymhlethdodau difrifol o'r math yma yn brin iawn.

Llawdriniaeth frys - oes dewis arall?

Mewn rhai achosion, gall llid y pendics yn arwain at ddatblygu talp ar y pendics o'r enw 'màs pendics' Mae'r talp, sydd wedi ei ffurfio o'r pendics a meinwe brasterog, yn ymgais gan y corff i ymdopi â'r broblem a gwella ohono ei hun.

Os deuir o hyd i fàs pendics yn ystod archwiliad, mae hi'n bosib y bydd eich meddyg yn penderfynu nad oes rhaid gwneud llawdriniaeth yn syth. Yn lle fe gewch chi gwrs o feddyginiaeth wrthfiotig ac apwyntiad am apendectomi ychydig wythnosau nes ymlaen, pan fydd y màs wedi sefydlogi.

Dewis arall yn lle cael llawdriniaeth ar unwaith ydy defnyddio gwrthfiotigau i drin y pendics. Fodd bynnag, mae astudiaethau wedi edrych ar y cwestiwn a ydy hi'n bosib defnyddio gwrthfiotigau yn lle llawdriniaeth, a hyd yma nid oes digon o dystiolaeth glir ei bod hi'n bosib. 

Cymhlethdodau

Os na chaiff llid y pendics ei drin, fe all y pendics rwygo gan achosi heintiau a all bygwth bywyd.

Galwch 999 am ambiwlans petaech chi'n dioddef poen sydd yn gwaethygu yn sydyn iawn ac yn lledaenu ar draws eich abdomen. Arwydd yw hwn  ei bod hi'n bosib bod eich pendics wedi rhwygo.

Peritonitis

Os bydd eich pendics yn rhwygo, bydd yn rhyddhau’r bacteria i rannau eraill o'ch corff,  a all arwain at haint yn yr abdomen o'r enw peritonitis.

Ymchwydd poenus o'r abdomen o amgylch y stumog a'r iau/afu yw peritonitis. Mae'r cyflwr yn achosi i symudiad arferol eich coluddyn stopio gan rwystro'r coluddyn yn llwyr.

Mae hyn yn achosi:

  • poen difrifol yn y bol
  • cyfog
  • chwydu
  • twymyn
  • curiad calon cyflym 
  • diffyg anadl
  • ymchwydd o'r abdomen

Os na fydd yn cael ei drin ar unwaith, gall achosi problemau tymor hir, a hyd yn oed marwolaeth. Fel arfer bydd triniaeth am beritonitis yn golygu defnyddio gwrthfiotigau a llawfeddygaeth i dynnu'r pendics (apendectomi).

Crawniad

Weithiau bydd crawniad yn ffurfio o amgylch pendics sydd wedi rhwygo. Casgliad poenus o grawn ydy crawniad sydd yn dod o ymgais y corff i ymladd â haint. Gall ddigwydd hefyd fel un o gymhlethdodau llawdriniaeth i dynnu'r pendics mewn tua un ymhob 500 o achosion.

Caiff crawniadau eu trin gan ddefnyddio gwrthfiotigau, ond yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n bosibl y bydd angen draenio'r crawn o'r crawniad. Gellid gwneud hyn o dan arweiniad sgan uwchsain neu sgan CT, a defnyddio anesthetig lleol a nodwydd a roir trwy'r croen i wneud lle i roi draen.

Os deuir o hyd i grawniad yn ystod y llawdriniaeth, bydd y man yn cael ei olchi'n ofalus a wedyn rhoddir cwrs o wrthfiotigau.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 01/03/2024 15:09:16