Gwybodaeth beichiogrwydd


Cymorth bwydo o'r potel

Os ydych yn bwriadu bwydo â photel gyda llaeth a dynnwyd o’r fron neu laeth fformiwla, bydd y cyngor hwn yn eich helpu i gadw'ch babi'n ddiogel ac yn iach.

Prynu offer bwydo â photeli

Byddwch angen nifer o boteli a thethau, yn ogystal ag offer sterileiddio. 

Does dim tystiolaeth bod un math o deth neu botel yn well nag un arall.

Mae'n debyg mai poteli syml sy'n hawdd eu golchi a'u sterileiddio sydd orau.

Paratoi poteli o laeth

Gwnewch yn siŵr bod eich poteli a'ch tethau'n cael eu sterileiddio. Golchwch eich dwylo'n drylwyr.

Os ydych chi'n defnyddio llaeth fformiwla, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn yn ofalus pan fyddwch chi'n cymysgu’r llaeth.

Sut i fwydo eich babi â photel

Gwnewch yn siŵr eich bod yn eistedd yn gyfforddus.  Mwynhewch ddal eich babi ac edrych i mewn i'w llygaid wrth i chi ei fwydo.  Mae bwydo â photel yn gyfle i deimlo'n agos at eich babi a dod i'w adnabod.

Daliwch eich babi'n weddol syth pan ydych chi’n ei fwydo o’r botel. Cefnogwch ei ben fel y gall anadlu a llyncu'n gyfforddus.  Brwsiwch y deth yn erbyn gwefusau eich babi a, phan fydd yn agor ei geg yn llydan, gadewch iddo gael gafael ar y deth.

Rhowch ddigon o amser i'ch babi fwydo bob amser.

Cadwch y deth yn llawn o laeth

Pan fyddwch chi’n bwydo â photel, cadwch y deth yn llawn llaeth, neu bydd eich babi'n anadlu aer i mewn.

Os yw'r deth yn mynd yn wastad wrth i chi fwydo, rhowch eich bys bach i gornel ceg y babi i ryddhau'r deth.

Os ydy'r deth yn blocio, defnyddiwch deth arall sydd wedi’i sterileiddio yn ei lle.

Codi gwynt eich babi

Efallai y bydd eich babi'n cymryd ambell i seibiant byr wrth gael ei fwydo ac efallai y bydd angen iddo ollwng gwynt pob hyn a hyn.

Pan fydd eich babi wedi cael digon o laeth, daliwch y babi’n syth a rhwbio'r cefn yn ysgafn neu guro ei gefn i godi unrhyw wynt.

Gwaredu llaeth fformiwla nad ydych wedi’i ddefnyddio

Taflwch unrhyw laeth fformiwla neu laeth a dynnwyd o’r fron nad ydych wedi’i ddefnyddio ar ôl i chi orffen bwydo eich babi â photel.

Cael eich arwain gan eich babi

Mae pob babi yn wahanol. Mae rhai am fwydo'n amlach nag eraill. Mae rhai eisiau mwy o laeth.

Dilynwch yr hyn sy’n plesio’r babi.

Bydd angen bwydo’r babi pan mae’n edrych yn llwglyd. Peidiwch â phoeni os nad yw'n gorffen y botel.

Peidiwch â gadael eich babi ar ei ben ei hun

Peidiwch byth â gadael babi ar ei ben ei hun i fwydo gyda photel gan y gall dagu ar y llaeth.

Help gyda bwydo â photel

Siaradwch â'ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu famau eraill sydd wedi bwydo â photel os oes angen help arnoch.

Bydd y rhif ffôn ar gyfer eich ymwelydd iechyd yn llyfr coch eich babi.

Cwestiynau sy’n cael eu gofyn yn aml am fwydo â photel

Pam nad ydy’r babi yn setlo ar ôl cael llaeth?

Os yw eich babi'n llyncu aer wrth gael ei fwydo â photel, efallai y bydd yn teimlo'n anghyfforddus ac yn crio.

Ar ôl bwydo, daliwch eich babi i fyny yn erbyn eich ysgwydd neu ei roi i orwedd ar eich glin. Rhwbiwch ei gefn yn ofalus fel y gall unrhyw aer gael ei ryddhau.

Does dim angen gorwneud – dydy gwynt ddim yn broblem mor fawr â hynny.

Pam mae’r babi yn chwydu weithiau ar ôl cael llaeth?

Mae'n arferol i fabis ddod ag ychydig o laeth i fyny yn ystod neu ar ôl cael eu bwydo. Enw hyn yw ailchwydiad neu adlif. 

Cadwch ddarn o fwslin wrth law rhag ofn.

Gwnewch yn siŵr nad ydy'r twll yn nheth y botel laeth yn rhy fawr. Gall eich babi fynd yn sâl os yw’n yfed llaeth yn rhy gyflym.

Peidiwch â'i orfodi i gymryd mwy o laeth.

Mae eistedd eich babi ar eich glin ar ôl bwydo yn gallu helpu.

Os yw'n digwydd yn aml, neu os yw eich babi'n sâl iawn, mae'n ymddangos ei fod mewn poen neu os ydych yn poeni am unrhyw reswm arall, siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu.

A allai bwydo â llaeth fformiwla achosi i’r babi i fod yn rhwym?

Wrth ddefnyddio llaeth fformiwla, defnyddiwch y swm o bowdr sy’n cael ei argymell pob amser.

Peidiwch ag ychwanegu powdr fformiwla ychwanegol. Gall defnyddio gormod wneud eich babi yn rhwym a gall arwain at ddadhydradu.

Os yw eich babi o dan 8 wythnos oed ac nad ydy’r babi wedi gwneud pŵ am 2 i 3 diwrnod, siaradwch â'ch bydwraig, ymwelydd iechyd neu feddyg teulu, yn enwedig os yw’n araf yn magu pwysau.

Dylai eich babi fod yn magu pwysau a bod a digonedd o gewynnau gwlyb a budr.

Llaeth Fformiwla ac alergedd

Os ydych chi'n meddwl y gallai eich babi fod ag alergedd i laeth fformiwla neu’n methu dygymod a’r llaeth yna cysylltwch â'ch meddyg teulu. Os bydd angen, gall y meddyg awgrymu llaeth fformiwla arbennig i’ch babi.

Mae rhai cwmnïau sy’n cynhyrchu llaeth fformiwla yn nodi eu bod yn hypoallergenig, ond dydy’r llaeth hwn ddim yn addas ar gyfer babis sydd wedi cael diagnosis o alergedd i laeth buwch.

Dim ond i fabis dan oruchwyliaeth feddygol y dylid rhoi llaeth fformiwla soia.

Siaradwch â'ch meddyg teulu bob amser cyn defnyddio llaeth fformiwla hypoallergenig neu laeth sy’n cynnwys soia.


Last Updated: 25/05/2023 10:16:30
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk