Apnoea cwsg

Cyflwyniad

Mae apnoea cwsg yn achosi i'ch anadlu stopio a dechrau tra byddwch chi'n cysgu. Yr enw ar y math mwyaf cyffredin yw apnoea cwsg rhwystrol (OSA). Mae angen trin apnoea cwsg oherwydd gall arwain at broblemau mwy difrifol.

 

Gwiriwch a oes gennych chi apnoea cwsg

Mae symptomau apnoea cwsg yn digwydd yn bennaf tra byddwch chi'n cysgu.

Mae'r symptomau'n cynnwys:

  • anadlu'n stopio ac yn dechrau
  • gwneud synau ebychu, ffroeni neu dagu
  • deffro llawer
  • chwyrnu'n uchel 

Yn ystod y dydd, efallai hefyd:

  • y byddwch yn teimlo'n flinedig iawn
  • y byddwch yn ei chael yn anodd canolbwyntio
  • y bydd eich hwyliau'n amrywio
  • y bydd gennych chi ben tost / cur pen pan fyddwch chi'n deffro

Mae'n gallu bod yn anodd dweud a oes gennych chi apnoea cwsg. Efallai y bydd yn helpu i ofyn i rywun aros gyda chi tra byddwch chi'n cysgu er mwyn iddo / iddi allu gwirio am y symptomau.

 

Ewch i weld meddyg teulu:

Os oes gennych chi unrhyw un o brif symptomau apnoea cwsg:

  • mae eich anadlu yn stopio ac yn dechrau tra byddwch yn cysgu
  • rydych chi'n gwneud synau ebychu, ffroeni neu dagu tra byddwch chi'n cysgu
  • rydych chi bob amser yn teimlo'n flinedig iawn yn ystod y dydd

Os oes rhywun arall wedi gweld bod gennych y symptomau, gall helpu os yw'n dod gyda chi i weld y meddyg teulu.

 

Gall apnoea cwsg fod yn ddifrifol os na fyddwch chi'n cael diagnosis a thriniaeth.

 

Cael profion ar gyfer apnoea cwsg

 

Os yw meddyg teulu'n meddwl bod gennych chi apnoea cwsg, efallai y bydd yn eich cyfeirio i glinig cwsg arbenigol i gael profion.

 

Yn y clinig, efallai bydd dyfeisiau'n cael eu rhoi i chi sy'n gwirio pethau fel eich anadlu a churiad eich calon tra byddwch chi'n cysgu.

 

Bydd angen i chi wisgo'r rhain dros nos fel bod meddygon yn gallu gwirio am arwyddion o apnoea cwsg.

 

Gallwch chi wneud hyn gartref fel arfer, ond weithiau efallai bydd angen i chi aros yn y clinig dros nos.

 

Gall y prawf ddangos a oes gennych chi apnoea cwsg a pha mor ddifrifol ydyw. Mae hyn wedi'i seilio ar ba mor aml mae eich anadlu'n stopio tra byddwch chi'n cysgu (sgôr AHI).

  • Deall eich sgôr AHI

Mae eich sgôr AHI yn dangos pa mor ddifrifol yw eich apnoea cwsg:

  • AHI o 5 i 14 - ysgafn
  • AHI o 15 i 30 - cymedrol
  • AHI dros 30 - difrifol

Triniaethau ar gyfer apnoea cwsg

 

Weithiau, gellir trin apnoea cwsg trwy wneud newidiadau i'ch ffordd o fyw, fel colli pwysau, rhoi'r gorau i ysmygu a lleihau faint o alcohol rydych chi'n ei yfed.

 

Ond mae angen i lawer o bobl ddefnyddio dyfais o'r enw peiriant CPAP. Bydd y peiriant hwn yn cael ei roi i chi yn rhad ac am ddim ar y GIG os oes ei angen arnoch chi.

 

Peiriant CPAP

 

Mae peiriant CPAP yn pwmpio aer yn dyner i mewn i fwgwd rydych chi'n ei wisgo dros eich ceg neu'ch trwyn tra byddwch chi'n cysgu.

 

Mae'n gallu helpu:

  • gwella'ch anadlu tra byddwch chi'n cysgu trwy atal eich llwybr anadlu rhag mynd yn rhy gul
  • gwella ansawdd eich cwsg a'ch helpu i deimlo'n llai blinedig
  • lleihau risg problemau yn gysylltiedig ag apnoea cwsg, fel pwysedd gwaed uchel

Efallai y bydd yn teimlo'n od neu'n lletchwith defnyddio peiriant CPAP i ddechrau, ond ceisiwch ddal ati i'w ddefnyddio. Mae'n gweithio orau os ydych chi'n ei ddefnyddio bob nos.

 

Dywedwch wrth eich meddyg os yw'n anghyfforddus neu'n anodd i'w ddefnyddio.

 

Triniaethau eraill

 

Mae triniaethau eraill sy'n cael eu defnyddio weithiau ar gyfer apnoea cwsg yn cynnwys:

  • dyfais yn debyg i orchudd dannedd sy'n dal eich llwybr anadlu ar agor tra byddwch chi'n cysgu (dyfais addasu mandibwlaidd)
  • llawdriniaeth i helpu'ch anadlu, fel tynnu tonsiliau mawr

Efallai na fydd y triniaethau hyn yn gweithio cystal â pheiriant CPAP.

 

Gallwch chi ddarganfod mwy ynghylch peiriannau CPAP a triniaethau eraill ar gyfer apnoea cwsg ar wefan y British Lung Foundation.

 

Pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu ag apnoea cwsg

 

Os ydych chi wedi cael diagnosis o apnoea cwsg, gallwch chi wneud rhai pethau i helpu.

 

Efallai mai dyma'r cyfan y bydd angen i chi ei wneud os yw eich apnoea cwsg yn ysgafn.

 

Pethau y dylech chi eu gwneud

  • ceisiwch golli pwysau os ydych chi dros eich pwysau
  • gwneud ymarfer corff yn rheolaidd - mae bod yn egnïol yn gallu gwella'ch symptomau a'ch helpu i gadw at bwysau iach
  • cael arferion cysgu da, fel gwneud yn siŵr fod eich ystafell wely yn dywyll ac yn dawel, a mynd i'r gwely a deffro'r un amser bob dydd
  • cysgu ar eich ochr - ceisiwch dapio pêl dennis ar gefn eich dillad nos, neu brynu obennydd arbennig neu letem gwely i helpu'ch cadw ar eich ochr

Peidiwch â gwneud y canlynol

  • peidiwch ag ysmygu
  • peidiwch ag yfed gormod o alcohol - yn enwedig yn fuan cyn mynd i gysgu
  • peidiwch â chymryd tabledi cysgu oni bai eu bod wedi cael eu hargymell gan feddyg - maen nhw'n gallu gwneud apnoea cwsg yn waeth

Mae gan y British Lung Foundation grwpiau cymorth lleol a gallwch chi gael cyngor am deithio gan y British Snoring and Sleep Apnoea Association.

 

Gall apnoea cwsg achosi problemau eraill

 

Heb driniaeth, gall apnoea cwsg arwain at broblemau eraill, gan gynnwys:

Gall apnoea cwsg hefyd fod yn anodd i'ch partner a rhoi straen ar eich perthynas ag ef / â hi.

 

Gyrru ac apnoea cwsg

 

Efallai bydd angen i chi ddweud wrth y DVLA os oes gennych chi apnoea cwsg.

 

Os nad yw apnoea cwsg wedi cael ei gadarnhau, rhaid i chi beidio â gyrru hyd nes bydd eich symptomau dan reolaeth.

 

Gallwch chi wirio'r rheolau ar gyfer gyrru os oes gennych chi apnoea cwsg ar wefan GOV.UK.

 

Achosion apnoea cwsg

 

Mae apnoea cwsg yn digwydd os yw eich llwybr anadlu yn mynd yn rhy gul tra byddwch chi'n cysgu. Mae hyn yn eich atal rhag anadlu'n iawn.

 

Mae apnoea cwsg wedi bod yn gysylltiedig â'r canlynol:



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 18/12/2023 08:00:29