Haint y llwybr resbiradol

Cyflwyniad

Mae heintiau'r llwybr resbiradol (RTI) yn heintiau mewn rhannau o'r corff sy'n gysylltiedig ag anadlu, fel y sinysau, y gwddf, y llwybr anadlu neu'r ysgyfaint. Mae'r rhan fwyaf o heintiau'r llwybr resbiradol yn gwella heb driniaeth, ond weithiau, efallai bydd angen i chi weld meddyg teulu.

Gwiriwch a oes gennych chi RTI

Mae symptomau RTI yn cynnwys:

  • peswch - efallai y byddwch yn codi mwcws (fflem)
  • tisian
  • trwyn llawn neu drwyn yn rhedeg
  • gwddf tost / dolur gwddf
  • pen tost / cur pen
  • poenau yn y cyhyrau
  • diffyg anadl, brest tynn neu wichian
  • tymheredd uchel
  • yn teimlo'n anhwylus yn gyffredinol

Pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun

Mae'r rhan fwyaf o heintiau'r llwybr resbiradol yn gwella o fewn 1 i 2 wythnos. Fel arfer, gallwch chi drin eich symptomau gartref.

Pethau y dylech eu gwneud

  • dylech gael digon o orffwys
  • yfwch lawer o ddŵr i lacio unrhyw fwcws a'i gwneud yn haws i'w boeri allan
  • yfwch ddiod boeth lemon a mêl i helpu lleddfu peswch (nid yw'n addas ar gyfer babanod o dan 1 oed)
  • garglwch â dŵr cynnes hallt os oes gennych chi ddolur gwddf (ni ddylai plant geisio gwneud hyn)
  • codwch eich pen i fyny tra byddwch yn cysgu gan ddefnyddio gobenyddion ychwanegol i'w gwneud yn haws anadlu a chlirio mwcws o'ch brest
  • defnyddiwch gyffuriau lladd poen i leihau twymyn a helpu lleddfu dolur gwddf, pen tost/cur pen a phoenau yn y cyhyrau
  • ceisiwch aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill os oes gennych chi dymheredd uchel neu nid ydych yn teimlo'n ddigon da i wneud eich gweithgareddau arferol  

Pethau na ddylech eu gwneud

  • peidiwch â gadael i blant anadlu stêm i mewn o bowlen o ddŵr poeth gan fod risg sgaldio
  • peidiwch â rhoi aspirin i blant o dan 16 oed
  • peidiwch ag ysmygu - gall wneud eich symptomau'n waeth

Sut i wneud diod boeth lemon a mêl

  1. Gwasgwch hanner lemon mewn mwg o ddŵr wedi'i ferwi
  2. Ychwanegwch 1 i 2 lwy de o fêl
  3. Yfwch y ddiod tra bydd yn gynnes 

Peidiwch â rhoi diodydd poeth i blant bach.

Sut i garglo â dŵr hallt

1. Toddwch hanner llwy de o halen mewn gwydraid o ddŵr cynnes - mae dŵr cynnes yn helpu halen i doddi 

2.  Garglwch â'r toddiant wedyn ei boeri allan - peidiwch â'i lyncu

3.  Gwnewch hyn mor aml ag yr ydych yn dymuno

Gall fferyllydd helpu â RTI

Gall fferyllydd awgrymu triniaethau i helpu lleddfu'ch symptomau, fel cyffuriau llacio a chwistrellau trwyn.

Gallwch chi hefyd brynu moddion peswch a losin gwddf, er nad oes llawer o dystiolaeth i ddangos eu bod yn helpu.

Mae rhai triniaethau yn cynnwys paracetamol ac ibuprofen.

Os ydych chi'n cymryd y meddyginiaethau hyn ar wahân, byddwch yn ofalus nad ydych yn cymryd mwy na'r dos sy'n cael ei argymell.

Dydy rhai triniaethau ddim yn addas ar gyfer plant, babanod a menywod beichiog. Gall eich fferyllydd eich cynghori am y driniaeth orau i chi neu'ch plentyn.

Dewch o hyd i fferyllfa

Ewch i weld meddyg teulu os oes gennych chi RTI ac:

  • rydych chi'n teimlo'n anhwylus iawn neu mae eich symptomau'n mynd yn waeth
  • rydych chi'n pesychu gwaed neu fwcws â staen gwaed
  • rydych chi wedi cael peswch am fwy na 3 wythnos
  • rydych chi'n feichiog
  • rydych chi dros 65 oed
  • mae gennych system imiwnedd wan - er enghraifft, oherwydd bod gennych chi gyflwr fel diabetes, neu rydych chi'n cael cemotherapi
  • mae gennych chi gyflwr iechyd hirdymor, fel cyflwr y galon, yr ysgyfaint neu'r arennau

Efallai bod gennych chi niwmonia os yw eich symptomau'n ddifrifol.

Triniaeth gan feddyg teulu

Bydd triniaeth yn dibynnu ar beth sy'n achosi eich RTI:

  • firws (fel annwyd) - mae hyn fel arfer yn clirio ar ei ben ei hun ar ôl ychydig wythnosau ac ni fydd gwrthfiotigau yn helpu
  • bacteria (fel niwmonia) - efallai bydd eich meddyg teulu'n rhoi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn (gwnewch yn siŵr eich bod yn gorffen y cwrs cyfan fel mae eich meddyg teulu yn eich cynghori, hyd yn oed os byddwch chi'n dechrau teimlo'n well)

Weithiau, efallai bydd angen profi sampl o'ch mwcws i weld beth sy'n achosi eich RTI.

Defnyddio gwrthfiotigau

Mae gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio i drin heintiau bacterol yn unig. Dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio ar gyfer trin heintiau feirol gan nad ydynt yn gweithio ar gyfer y math hwn o haint.

Sut i osgoi pasio heintiau'r llwybr resbiradol i bobl eraill:

  • gorchuddiwch eich ceg pan fyddwch chi'n pesychu neu'n tisian
  • golchwch eich dwylo'n rheolaidd
  • taflwch hancesi papur i ffwrdd ar unwaith

Sut i osgoi cael RTI

Os ydych chi'n cael heintiau'r llwybr resbiradol yn aml neu os oes gennych risg uchel o gael un (er enghraifft, oherwydd eich bod dros 65 oed neu os oes gennych chi gyflwr iechyd hirdymor difrifol), dylech chi:

Achosion a mathau o heintiau'r llwybr resbiradol (RTI)

Yn aml, mae heintiau'r llwybr resbiradol yn cael eu lledu pan fydd rhywun â haint yn pesychu neu'n tisian.

Mae sawl math gwahanol. Maen nhw fel arfer yn cael eu grwpio yn heintiau'r llwybr resbiradol uchaf ac isaf.

Heintiau'r llwybr resbiradol uchaf (sinysau a'r gwddf)

Annwyd cyffredin, Llid y sinysau, Tonsilitis, Laryngitis

Heintiau'r llwybr resbiradol isaf (llwybr anadlu a'r ysgyfaint)

Broncitis, Bronciolitis, Haint ar y frest, Niwmonia

Gall y ffliw fod yn haint y llwybr resbiradol uchaf neu isaf.

Mae heintiau'r llwybr resbiradol isaf yn tueddu i bara'n hirach ac yn gallu bod yn fwy difrifol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 22/02/2024 11:18:15