Haint ar y frest, mewn oedolyn

Cyflwyniad

Chest infection, Adult
Chest infection, Adult

Mae haint ar y frest yn haint ar yr ysgyfaint neu lwybrau anadlu mawr. Mae rhai heintiau ar y frest yn ysgafn ac yn clirio ar eu pennau eu hunain, ond gall eraill fod yn ddifrifol a pheryglu bywyd.

Gwiriwch a oes gennych haint ar y frest

Mae haint ar y frest yn aml yn dilyn annwyd neu’r ffliw.

Dyma’r prif symptomau:

  • peswch ar y frest - efallai y byddwch yn peswch mwcws gwyrdd neu felyn
  • gwichian a diffyg anadl
  • poen neu anghysur yn y frest
  • tymheredd uchel
  • cur pen
  • cyhyrau poenus
  • blinder

Gall y symptomau hyn fod yn annymunol, ond fel arfer maen nhw'n gwella ar eu pennau eu hunain mewn tua 7 i 10 diwrnod.

Gall y peswch a'r mwcws bara hyd at 3 wythnos.

Pethau y gallwch chi eu gwneud eich hun

Os oes gennych chi haint ar y frest:

Gwnewch y canlynol:

  • cewch ddigon o orffwys
  • yfwch lawer o ddŵr i lacio'r mwcws a'i gwneud hi'n haws peswch
  • codwch eich pen wrth gysgu gan ddefnyddio clustogau ychwanegol i wneud anadlu'n haws a chlirio'ch brest o fwcws
  • Defnyddiwch boenladdwyr i ddod â thwymyn i lawr a lleddfu cur pen a phoen yn y cyhyrau
  • yfwch ddiod boeth lemwn a mêl i leddfu dolur gwddf
  • ceisiwch aros gartref ac osgoi cyswllt â phobl eraill os oes gennych dymheredd uchel neu os nad ydych yn teimlo'n ddigon da i wneud eich gweithgareddau arferol

Peidiwch:

  • gadael i blant anadlu stêm o bowlen o ddŵr poeth oherwydd y perygl o losgi
  • rhoi asbirin i blant dan 16 oed
  • cymryd meddyginiaethau peswch – ychydig iawn o dystiolaeth sydd i ddangos eu bod yn helpu
  • ysmygu - gall wneud eich symptomau'n waeth

Sut i wneud diod boeth lemwn a mêl

  1. Gwasgwch hanner lemwn i mewn i fwg o ddŵr berwedig
  2. Ychwanegwch 1 i 2 llwy de o fêl
  3. Yfwch tra ei fod yn dal yn gynnes

Peidiwch â rhoi diodydd poeth i blant bach.

Gallwch ofyn i fferyllydd am:

  • moddion llacio i lacio'r mwcws yn eich ysgyfaint - bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws peswch a helpu i glirio'r haint o'ch ysgyfaint

Dewch o hyd i fferyllfa yma.

Ewch i weld meddyg teulu os oes gennych haint ar y frest ac:

  • eich bod chi’n teimlo'n sâl iawn neu os bydd eich symptomau'n gwaethygu
  • eich bod chi’n pesychu gwaed neu fwcws wedi'i staenio â gwaed
  • eich bod chi wedi bod yn pesychu am fwy na 3 wythnos
  • eich bod chi’n feichiog
  • eich bod chi dros 65 oed
  • bod gennych chi system imiwnedd wan - er enghraifft, os oes gennych gyflwr fel diabetes neu os ydych chi’n cael cemotherapi
  • bod gennych gyflwr iechyd hirdymor fel cyflwr y galon, ysgyfaint neu aren

Gall fod gennych niwmonia os yw eich symptomau'n ddifrifol.

Triniaeth gan feddyg teulu

Bydd triniaeth yn dibynnu ar beth achosodd yr haint ar eich brest.

Bydd yn cael ei achosi gan naill ai:

  • feirws (fel broncitis feirysol) - mae hwn fel arfer yn clirio ar ei ben ei hun ar ôl ychydig wythnosau ac ni fydd gwrthfiotigau'n helpu
  • bacteria (fel niwmonia) - gall meddyg teulu ragnodi gwrthfiotigau (gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r cwrs cyfan fel y cynghorir gan y meddyg teulu, hyd yn oed os byddwch chi'n dechrau teimlo'n well)

Mae gwrthfiotigau'n cael eu defnyddio i drin heintiau bacterol ar y frest yn unig. Nid ydyn nhw’n cael eu defnyddio i drin heintiau feirysol ar y frest, fel y ffliw neu broncitis feirysol. Nid yw gwrthfiotigau'n gweithio ar gyfer heintiau feirysol.

Efallai y bydd angen profi sampl o'ch mwcws i weld beth sy'n achosi’r haint ar eich brest.

Sut i osgoi lledaenu heintiau ar y frest:

Er mwyn osgoi pasio haint ar y frest i bobl eraill:

  • gorchuddiwch eich ceg pan fyddwch chi'n peswch neu'n tisian
  • golchwch eich dwylo'n rheolaidd
  • taflwch hancesi papur wedi’u defnyddio yn syth

Sut i osgoi cael haint ar y frest

Os ydych chi'n parhau i gael heintiau ar y frest neu os ydych chi mewn perygl uchel o gael un (er enghraifft, oherwydd eich bod chi dros 65 oed neu â chyflwr iechyd hirdymor difrifol), dylech wneud y canlynol:



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 17/03/2023 15:13:03