I ddarganfod beth i'w wneud os credwch fod gennych symptomau, ewch i wiriwr symptomau Coronafeirws. Neu ymwelwch â’n tudalen gwyddoniadur, sydd â gwybodaeth cyffredinol a fideo BSL.

SYLWCH: Ar gyfer gwybodaeth ddiweddar am Coronafeirws (COVID-19) ymwelwch ag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU.

Cyflwyniad

Mae rwbela (y frech Almaenig) yn haint firaol a oedd yn arfer bod yn gyffredin ymhlith plant. Mae'n haint ysgafn, fel arfer, a fydd yn gwella heb driniaeth mewn 7 i 10 niwrnod.

Mae symptomau rwbela yn cynnwys:

  • brech lliw coch-pinc sy'n cynnwys smotiau bach
  • chwarennau chwyddedig o gwmpas y pen a'r gwddf
  • tymheredd uchel (twymyn)
  • symptomau tebyg i annwyd fel peswch a thrwyn yn rhedeg
  • cymalau poenus a dolurus – sy'n fwy cyffredin mewn oedolion

Fel arfer, bydd symptomau rwbela ond yn para ychydig ddyddiau, ond gallai'ch chwarennau fod wedi chwyddo am sawl wythnos.

Darllenwch fwy am symptomau rwbela.

Pryd i weld eich meddyg teulu

Dylech bob amser gysylltu â'ch meddyg teulu neu Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47 os ydych yn amau bod rwbela gennych chi neu'ch plentyn.

Peidiwch â mynd i'ch meddygfa heb ffonio'n gyntaf, oherwydd gallai fod angen gwneud trefniadau i leihau'r risg o heintio pobl eraill.

Os ydych chi'n feichiog ac yn datblygu brech neu'n dod i gysylltiad â rhywun sydd â brech, cysylltwch â'ch meddyg teulu neu'ch bydwraig ar unwaith.

Darllenwch fwy ynghylch rhoi diagnosis o rwbela.

Rwbela a beichiogrwydd

Yr unig bryd y bydd rwbela yn dod yn bryder difrifol yw pan fydd menyw feichiog yn dal yr haint yn ystod yr 20 wythnos gyntaf o'i beichiogrwydd.

Y rheswm am hyn yw bod y firws rwbela yn gallu amharu ar ddatblygiad y baban ac achosi ystod eang o broblemau iechyd, gan gynnwys:

Yr enw ar y namau geni sy'n cael eu hachosi gan y firws rwbela yw syndrom rwbela cynhenid (CRS).

Ers cyflwyno brechlyn clwy'r pennau, y frech goch a rwbela (MMR), mae CRS yn anghyffredin iawn yn y DU erbyn hyn.

Darllenwch fwy ynghylch cymhlethdodau rwbela.

Sut mae'n cael ei ledaenu

Mae rwbela yn cael ei achosi gan fath o firws o'r enw togafirws. Mae'n cael ei ledaenu mewn ffordd debyg i annwyd neu'r ffliw, trwy ddefnynnau o leithder o drwyn neu wddf rhywun sydd wedi'i heintio. Mae'r defnynnau hyn yn cael eu rhyddhau i'r aer pan fydd rhywun yn pesychu, yn tisian neu'n siarad.

Gallwch chi gael eich heintio os byddwch yn dod i gysylltiad â'r defnynnau gan rywun heintiedig, er y gall gymryd 2-3 wythnos i'r symptomau ddatblygu.

Os bydd rwbela arnoch, byddwch yn heintus i bobl eraill o wythnos cyn i'r symptomau ddatblygu, ac am hyd at bedwar diwrnod ar ôl i'r frech ymddangos.

Dylech gadw draw o'r ysgol neu'r gwaith am bedwar diwrnod ar ôl i'r frech ddechrau er mwyn osgoi heintio pobl eraill, a cheisiwch osgoi dod i gysylltiad â menywod beichiog yn ystod y cyfnod hwn.

Pwy sy'n cael eu heffeithio?

Mae rwbela yn anghyffredin iawn yn y DU erbyn hyn. Mae'r rhan fwyaf o achosion yn digwydd mewn pobl a ddaeth i'r DU o wledydd nad ydynt yn cynnig imiwneiddio rheolaidd yn erbyn rwbela.

Fodd bynnag, gall nifer fawr o achosion o rwbela ddigwydd yn y DU ambell waith. Digwyddodd un o'r rheiny ym 1996 pan oedd bron i 4,000 o achosion yng Nghymru a Lloegr. Cadarnhawyd 12 o achosion o rwbela yng Nghymru a Lloegr yn 2013.

Trin rwbela

Nid oes unrhyw driniaeth benodol ar gyfer rwbela, ond bydd y symptomau fel arfer yn diflannu ymhen 7-10 diwrnod. Os yw'r symptomau'n anghyfforddus i chi neu'ch plentyn, gallwch drin rhai o'r rhain gartref tra byddwch yn aros i'r haint wella.

Er enghraifft, gallwch ddefnyddio paracetamol neu ibuprofen i leihau'r dwymyn a thrin unrhyw gur neu boen. Gall paracetamol hylif i fabanod gael ei ddefnyddio ar gyfer plant bach. Ni ddylid rhoi aspirin i blant o dan 16 oed.

Darllenwch fwy ynghylch trin rwbela.

Atal rwbela

Y ffordd orau i atal rwbela yw cael eich imiwneiddio â'r brechlyn MMR. Mae plant yn cael cynnig y brechlyn hwn fel rhan o'r rhaglen brechu plant arferol.

Mae'n cael ei roi mewn dau ddos: un pan maent yn 12 i 13 mis oed, a dos atgyfnerthol pan maent rhwng tair a phum mlwydd oed.

Mae brechiadau arferol yn bwysig gan eu bod yn lleihau'r risg o achosion mawr o'r firws ac yn helpu i ddiogelu menywod beichiog a'u babanod.

Gall y brechlyn MMR gael ei roi i blant hŷn ac oedolion nad ydynt wedi cael eu himiwneiddio'n llawn o'r blaen hefyd.

Cysylltwch â'ch meddyg teulu os ydych yn ansicr ynghylch p'un a ydych chi neu'ch plentyn wedi cael eich holl frechiadau ai peidio.

Os ydych yn ystyried beichiogi ac nid ydych yn siwr p'un a ydych chi wedi cael dau ddos o'r brechlyn MMR, mae'n syniad da gofyn i'ch meddygfa. Os bydd eich cofnodion yn dangos nad ydych chi wedi cael dau ddos o MMR neu fod dim cofnod, gofynnwch am y brechiadau.

Darllenwch fwy ynghylch atal rwbela.

 

^^ Yn ôl i’r brig


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 21/10/2019 11:39:20