Cyflwyniad
Mae’r frech goch yn salwch firaol heintus dros ben sy'n gallu bod yn annifyr iawn ac arwain at gymhlethdodau difrifol ambell waith. Mae'n anghyffredin yng Nghymru erbyn hyn oherwydd effeithiolrwydd brechu.
Gall unrhyw un ddal y frech goch os nad yw wedi cael brechiad neu wedi'i dal o'r blaen, er, mae'n fwyaf cyffredin ymhlith plant ifanc.
Mae'r haint yn gwella o fewn rhyw 7-10 niwrnod fel arfer.
Symptomau'r frech goch
Mae symptomau cychwynnol y frech goch yn datblygu tua 10 niwrnod ar ôl i chi gael eich heintio. Mae'r rhain yn gallu cynnwys:
- symptomau tebyg i annwyd, fel trwyn yn rhedeg, tisian a phesychu
- llygaid coch, dolurus, a all fod yn sensitif i olau
- tymheredd uchel (twymyn), sy'n gallu cyrraedd tua 40C (104F)
- smotiau llwydwyn bach tu mewn i'r bochau
Ymhen ychydig ddiwrnodau, bydd brech smotiog frowngoch yn ymddangos. Fel arfer, bydd yn dechrau ar y pen neu ran uchaf y gwddf, cyn lledaenu i weddill y corff.
Darllenwch fwy ynghylch symptomau'r frech goch.
Pryd i weld eich meddyg teulu
Dylech chi gysylltu â'ch meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd os byddwch yn amau bod y frech goch arnoch chi neu'ch plentyn.
Mae'n well ffonio cyn eich bod yn ymweld â'r feddygfa, rhag ofn y bydd angen i'r feddygfa wneud trefniadau i leihau'r risg o ledaenu'r haint i eraill.
Hefyd, dylech fynd i weld eich meddyg teulu os daethoch i gysylltiad agos â rhywun sy'n dioddef o'r frech goch ond nid ydych wedi cael y brechiad llawn (dau ddos o'r brechlyn MMR) neu nid ydych wedi dal yr haint o'r blaen - hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau.
A yw'r frech goch yn glefyd difrifol?
Gall y frech goch fod yn annymunol, ond bydd yn gwella fel arfer o fewn rhyw 7-10 niwrnod heb achosi unrhyw broblemau eraill.
Ar ôl i chi gael y frech goch, bydd eich corff yn datblygu imiwnedd (ymwrthedd) i'r firws ac rydych chi'n annhebygol iawn o'i dal eto.
Fodd bynnag, gall y frech goch arwain at gymhlethdodau difrifol, a all roi bywyd yn y fantol, ymhlith rhai pobl. Mae'r cymhlethdodau hyn yn cynnwys heintiau'r ysgyfaint (niwmonia) a'r ymennydd (enseffalitis).
Darllenwch fwy ynghylch cymhlethdodau'r frech goch.
Sut mae'r frech goch yn cael ei lledaenu
Mae firws y frech goch wedi'i gynnwys yn y miliynau o ddefnynnau bach sy'n dod allan o'r trwyn a'r geg pan fydd rhywun sydd wedi'i heintio yn pesychu neu'n tisian.
Gallwch ddal y frech goch yn hawdd drwy anadlu'r defnynnau hyn neu, os bydd y defnynnau wedi glanio ar rywbeth, drwy gyffwrdd â hwnnw ac yna rhoi eich dwylo ger eich trwyn neu'ch ceg. Gall y firws oroesi ar arwynebau am ychydig oriau.
Bydd pobl sydd â'r frech goch yn heintus o'r adeg pan fydd y symptomau'n datblygu tan ryw bedwar diwrnod ar ôl i'r frech ymddangos.
Sut gall y frech goch gael ei hatal
Gall y frech goch gael ei hatal trwy gael brechlyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR).
Bydd dau ddos ohono'n cael ei roi fel rhan o rhaglen frechiadau plentyndod y GIG. Bydd y dos cyntaf yn cael ei roi pan fydd eich plentyn tua 13 mis oed a'r ail ddos yn cael ei roi cyn i'ch plentyn ddechrau'r ysgol.
Gall oedolion a phlant gael eu brechu unrhyw bryd os nad ydynt wedi cael y brechiad llawn o'r blaen. Holwch eich meddyg teulu am gael y brechiad.
Os na fydd y brechlyn MMR yn addas i chi, mae'n bosibl defnyddio triniaeth o'r enw imiwnoglobwlin normal dynol (HNIG) os oes perygl uniongyrchol i chi ddal y frech goch.
Darllenwch fwy ynghylch atal y frech goch.
Trin y frech goch
Gallwch wneud sawl peth i helpu i leddfu'ch symptomau a lleihau'r perygl y byddwch yn lledaenu'r haint, gan gynnwys:
- cymryd paracetamol neu ibuprofen i leddfu twymyn, doluriau a phoenau (ni ddylid rhoi aspirin i blant o dan 16 oed)
- yfed digon o ddŵr i osgoi dadhydradu
- cau'r llenni er mwyn helpu i leihau'r sensitifrwydd i olau
- defnyddio gwlân cotwm llaith i lanhau'r llygaid
- cadw draw o'r ysgol neu'r gwaith am o leiaf bedwar diwrnod ar ôl i'r frech ymddangos
Mewn achosion difrifol o'r frech goch, yn enwedig os oes cymhlethdodau, efallai bydd angen triniaeth mewn ysbyty arnoch chi neu eich plentyn.
Darllenwch fwy ynghylch trin y frech goch.
Pa mor gyffredin yw'r frech goch?
Mae effeithiolrwydd y brechlyn MMR yn golygu bod achosion o'r frech goch yng Nghymru yn anghyffredin erbyn hyn. Fodd bynnag, mae nifer yr achosion wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae ambell i achos amlwg wedi bod.
Er enghraifft, rhwng Tachwedd 2012 a Gorffennaf 2013 ymddangosodd y frech goch yn ardal Abertawe, gyda 1,200 a mwy o achosion wedi'u cofnodi.
Tybir mai'r rheswm dros y cynnydd yn nifer yr achosion o'r frech goch yw'r ffaith nad yw rhieni'n trefnu i'w plant gael eu brechu gyda'r brechlyn MMR. Mae'n debyg mai dyfalu ynghylch cysylltiad rhwng MMR ag awtistiaeth sydd i gyfrif am hyn.
Bu cyhoeddusrwydd ym 1998 i adroddiad a honnodd fod cysylltiad rhwng brechlyn MMR ac awtistiaeth. Fodd bynnag, gwnaethpwyd nifer o astudiaethau i'r honiad ac ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw gysylltiad rhwng brechlyn MMR ac awtistiaeth.
^^ Yn ôl i’r brig
Symptomau
Mae'r frech goch yn dechrau gyda symptomau tebyg i annwyd, sy'n datblygu tua 10 niwrnod ar ôl dal yr haint. Bydd y frech yn dilyn ychydig ddiwrnodau wedi hynny.
I'r rhan fwyaf o bobl, bydd y salwch yn para tua 7-10 niwrnod.
Symptomau cychwynnol
Gall symptomau cychwynnol y frech goch gynnwys:
- trwyn yn rhedeg, neu drwyn llawn
- tisian
- llygaid dyfriog
- yr amrannau wedi chwyddo
- llygaid coch, dolurus sy'n gallu bod yn sensitif i olau
- tymheredd uchel (twymyn), a all gyrraedd tua 40C (104F)
- smotiau mân llwydwyn yn y geg (gweler isod)
- doluriau a phoenau
- peswch
- diffyg awydd bwyd
- blinder, natur flin a diffyg egni’n gyffredinol
Smotiau yn y geg
Ddiwrnod neu ddau cyn bod y frech yn ymddangos, bydd llawer o bobl â'r frech goch yn datblygu smotiau mân llwydwyn yn y geg.
Ni fydd pawb sydd â'r frech goch yn datblygu'r smotiau hyn ond os bydd y rhain, ynghyd â'r symptomau eraill uchod neu'r frech isod, ar unigolyn, mae'n debygol iawn o fod yn dioddef y cyflwr.
Bydd y smotiau'n para ychydig ddyddiau, fel arfer.
Y frech
Bydd y frech yn ymddangos rhwng dau a phedwar diwrnod ar ôl y symptomau cychwynnol ac yn diflannu ar ôl rhyw wythnos.
Fel arfer, byddwch yn teimlo'n fwyaf sâl ar y diwrnod cyntaf neu'r ail ddiwrnod ar ôl i'r frech ddatblygu.
Mae'r frech:
- ar ffurf smotiau browngoch bychain sy'n llyfn ar y croen, neu sydd wedi codi ychydig, a all uno â'i gilydd a ffurfio mannau blotiog mwy
- yn ymddangos yn gyntaf fel arfer ar y pen neu'r gwddf, cyn lledaenu i weddill y corff
- yn gwneud i rai pobl gosi
- yn gallu edrych yn debyg i gyflyrau eraill plentyndod, fel syndrom y foch goch, y frech rosynnaidd neu rwbela
- yn annhebygol o gael ei hachosi gan y frech goch os yw'r unigolyn wedi cael y brechiad llawn (dau ddos o'r brechlyn MMR) neu wedi dal y frech goch o'r blaen
Gallwch ddefnyddio'r sleidiau ar gyflyrau plentyndod i gymharu'r frech goch â rhai brechau tebyg eraill sy'n gyffredin yn ystod plentyndod.
Pryd i ofyn am gyngor meddygol
Cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd os byddwch yn amau bod y frech goch arnoch chi neu'ch plentyn, hyd yn oed os nad ydych chi'n hollol siŵr.
Mae'n well ffonio cyn i chi ymweld â'r feddygfa, rhag ofn y bydd angen i'r feddygfa wneud trefniadau i leihau'r risg o ledaenu'r haint i eraill.
Hefyd, dylech fynd i weld eich meddyg teulu os daethoch i gysylltiad agos â rhywun sy'n dioddef o'r frech goch ond nid ydych wedi cael y brechiad llawn neu nid ydych wedi dal yr haint o'r blaen - hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw symptomau eto.
^^ Yn ôl i’r brig
Triniaeth
Nid oes triniaeth benodol ar gyfer y frech goch, ond mae'r cyflwr yn gwella fel arfer ymhen 7-10 niwrnod. Bydd eich meddyg teulu'n debygol o awgrymu eich bod chi'n gorffwys gartref hyd nes byddwch chi'n teimlo'n well.
Cadwch draw o'r gwaith neu'r ysgol am o leiaf bedwar diwrnod ar ôl i'r frech ymddangos i ddechrau, fel bod llai o risg lledaenu'r haint.
Hefyd, dylech geisio osgoi cysylltiad â phobl sy'n fwy agored i'r haint, fel plant ifanc a menywod beichiog.
Lleddfu symptomau
Os bydd symptomau'r frech goch yn achosi anesmwythder i chi, neu i'ch plentyn, mae rhai pethau gallwch chi eu gwneud i'w trin tra byddwch yn disgwyl i'ch corff orchfygu'r firws.
Rheoli gwres a lleddfu poen
Gall paracetamol neu ibuprofen gael eu defnyddio i dynnu gwres uchel (twymyn) i lawr ac i drin unrhyw boenau cyffredinol os bydd eich plentyn yn anghysurus.
Gellir defnyddio hylif paracetamol i fabanod ar gyfer plant ifanc. Ni ddylid rhoi aspirin i blant o dan 16 oed.
Siaradwch â'ch fferyllydd os nad ydych chi'n siŵr pa foddion sy'n addas i'ch plentyn chi.
Yfed digon
Os bydd gwres uchel ar eich plentyn, sicrhewch ei fod yn yfed digon rhag ofn y bydd yn dadhydradu.
Gall yfed digon fod o gymorth hefyd drwy leihau'r anesmwythder yn y gwddf a achosir gan besychu.
Trin llygaid tost
Gallwch lanhau unrhyw redlif sydd wedi sychu ar amrannau'ch plentyn ac ar flew'r amrannau trwy ddefnyddio gwlân cotwm wedi'i drwytho mewn dŵr.
Gall cau'r llenni neu dywyllu'r goleuadau helpu os bydd golau llachar yn gwneud dolur i'r llygaid.
Trin y symptomau sydd yn debyg i annwyd
Os bydd symptomau tebyg i annwyd, megis trwyn yn rhedeg neu peswch, ar eich plentyn, mae nifer o bethau gallwch chi eu gwneud i'w helpu i deimlo'n esmwythach.
Er enghraifft, gallai eistedd mewn ystafell ymolchi boeth, llawn stêm, helpu eich plentyn. Neu, bydd rhoi lliain gwlyb ar reiddiadur cynnes yn lleithio'r aer, sy'n gallu helpu i leddfu peswch eich plentyn.
Gall yfed diodydd cynnes, yn enwedig rhai sydd yn cynnwys lemwn neu fêl, helpu i'r llwybrau anadlu ymlacio, rhyddhau mwcws a lleddfu peswch. Fodd bynnag, ni ddylid rhoi mêl i fabanod dan 12 mis oed.
Sylwi ar arwyddion salwch difrifol
Os bydd y frech goch arnoch chi, neu'ch plentyn, dylech chi fod yn effro i arwyddion y cymhlethdodau difrifol a all ddatblygu ambell waith.
Gall arwyddion o broblem fwy difrifol gynnwys:
Ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf neu ffoniwch 999 am ambiwlans os byddwch chi neu'ch plentyn yn datblygu unrhyw rai o'r symptomau hyn.
Darllenwch ragor am gymhlethdodau'r frech goch isod.
^^ Yn ôl i’r brig
Cymhlethdodau
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella o'r frech goch ar ôl rhyw 7-10 niwrnod, ond ambell waith, gall arwain at gymhlethdodau difrifol.
Amcangyfrifir bydd un o bob 5,000 o bobl sy'n dioddef o'r frech goch yn marw o ganlyniad i'r haint.
Pwy sydd â'r risg fwyaf?
Mae cymhlethdodau sy'n codi o'r frech goch yn fwy tebygol o ddatblygu mewn grwpiau penodol o bobl, gan gynnwys:
- babanod o dan flwydd oed
- plant â diet gwael
- plant â system imiwnedd wan, fel y rheiny â lewcemia
- pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion
Plant dros eu blwydd, sydd fel arall yn iach, sydd â'r risg leiaf o ddatblygu cymhlethdodau difrifol.
Cymhlethdodau cyffredin
Mae rhai o gymhlethdodau mwy cyffredin y frech goch yn cynnwys:
Bydd tuag un o bob 15 plentyn sydd wedi dal y frech goch yn datblygu cymhlethdodau fel y rhain.
Cymhlethdodau llai cyffredin
Mae cymhlethdodau llai cyffredin y frech goch yn cynnwys:
- haint yr afu/iau (hepatitis)
- llygad cam (llygad croes), os yw'r firws yn effeithio ar nerfau a chyhyrau’r llygaid
- haint y pilenni o amgylch yr ymennydd a llinyn y cefn (meningitis) neu haint yr ymennydd ei hun (enseffalitis)
Cymhlethdodau prin
Mewn achosion prin, gall y frech goch arwain at y cyflyrau canlynol:
- anhwylderau difrifol y llygaid, fel haint y nerf optig (y nerf sy'n trosglwyddo gwybodaeth o'r llygad i'r ymennydd), a elwir yn niwritis optig, sy'n gallu arwain at nam ar y golwg
- problemau’r galon a’r system nerfol
- cymhlethdod angheuol yr ymennydd, o'r enw panenseffalitis sglerosaidd is-acíwt (subacute sclerosing panencephalitis), sy'n gallu digwydd weithiau sawl blwyddyn ar ôl y frech goch - mae'n brin iawn serch hynny, a dim ond mewn 1 o bob 25,000 o achosion o'r frech goch y mae'n digwydd
Cymhlethdodau mewn beichiogrwydd
Os nad oes gennych imiwnedd i'r frech goch a chewch eich heintio tra byddwch yn feichiog, bydd perygl:
Os ydych chi'n feichiog ac rydych yn credu i chi fod mewn cysylltiad â rhywun sy'n dioddef o'r frech goch ac fe wyddoch chi nad ydych yn imiwn, dylech weld eich meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd.
Bydd eich meddyg teulu yn gallu rhoi cyngor ar driniaeth i leihau'ch risg o ddatblygu'r frech goch. Darllenwch fwy am atal y frech goch.
Pryd i geisio cyngor meddygol ar unwaith
Ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf neu ffoniwch 999 a gofyn am ambiwlans os bydd y frech goch arnoch chi neu eich plentyn, a'ch bod yn datblygu'r canlynol:
Gallai'r symptomau hyn fod yn arwydd o haint bacteriol difrifol, sy'n galw am driniaeth yn yr ysbyty gan ddefnyddio gwrthfiotigau.
^^ Yn ôl i’r brig
Atal
Gallwch osgoi dal y frech goch trwy gael brechlyn y frech goch, clwy'r pennau a rwbela (MMR).
Os na fydd y brechlyn MMR yn addas i chi, mae'n bosibl defnyddio triniaeth o'r enw imiwnoglobwlin normal dynol (HNIG) os oes perygl uniongyrchol ichi ddal y frech goch.
Brechlyn MMR
Brechu arferol
Mae'r brechlyn MMR yn cael ei roi fel rhan o rhaglen frechiadau plentyndod y GIG. Fel arfer, bydd un dos yn cael ei roi i blentyn pan fydd rhwng 12 a 13 mis oed a'r ail ddos yn cael ei roi cyn i'r plentyn ddechrau'r ysgol, pan fydd rhwng tair a phum mlwydd oed fel arfer.
Cysylltwch â'ch meddyg teulu os nad ydych yn siŵr a yw eich plentyn wedi cael ei holl frechiadau hyd yn hyn.
Os nad ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich holl frechiadau, gallwch gael brechiad unrhyw bryd. Os nad ydych yn siŵr a gawsoch chi'r brechiad yn y gorffennol, ni fydd cael y brechiad eto yn achosi unrhyw niwed.
Amgylchiadau arbennig
Gall dos o frechlyn MMR gael ei roi i unrhyw un dros chwe mis oed os bydd perygl uniongyrchol iddo ddal y frech goch, er enghraifft:
- os bydd achosion o'r frech goch yn eich ardal leol
- os buoch mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â'r frech goch arno
- os ydych yn bwriadu teithio i ardal lle y mae'r haint yn gyffredin
Os bydd plentyn wedi cael y brechlyn cyn ei ben-blwydd cyntaf, dylid parhau i roi dau ddos pellach iddo pan fydd tua 13 mis oed a chyn iddo ddechrau'r ysgol.
Imiwnoglobwlin normal dynol (HNIG)
Mae HNIG yn grynodiad arbennig o wrthgyrff sy'n gallu rhoi amddiffyniad byrdymor, ond ar unwaith, yn erbyn y frech goch.
Caiff ei argymell i bobl yn y grwpiau canlynol, os daethant i gysylltiad â rhywun â'r frech goch arno:
- babanod o dan chwe mis oed
- menywod beichiog sydd heb gael y brechiad llawn neu heb gael y frech goch o'r blaen
- pobl â systemau imiwnedd gwan, fel pobl â HIV neu bobl sy'n derbyn triniaeth sy'n gwanhau eu system imiwnedd (fel triniaeth ar gyfer lewcemia)
Yn ddelfrydol, dylai HNIG gael ei roi o fewn chwe diwrnod o ddod i gysylltiad â'r frech goch.
Atal y frech goch rhag lledaenu i eraill
Os bydd y frech goch arnoch chi, mae'n bwysig lleihau'r risg o ledaenu'r haint i bobl eraill.
Dylech:
- osgoi mynd i'r gwaith neu'r ysgol am o leiaf bedwar diwrnod o'r amser y daw'r frech ar eich croen
- ceisio osgoi dod i gysylltiad â phobl sydd yn fwy agored i'r haint, megis plant ifanc a menywod beichiog, tra byddwch chi'n sâl
^^ Yn ôl i’r brig
Mae’r wybodaeth ar y dudalen yma wedi addasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol gan NHS Choices.
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16/11/2018 13:53:36