Cyflwyniad

Gum disease
Gum disease

Cyflwr cyffredin iawn yw clefyd y deintgig sy'n achosi i'r deintgig ymchwyddo, mynd yn ddolurus neu'n heintiedig.

Amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar fwy na hanner yr holl oedolion yng Nghymru i ryw raddau a bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei gael o leiaf unwaith. Mae'n llawer llai cyffredin mewn plant.

Os bydd clefyd y deintgig arnoch chi, fe allai eich deintgig waedu wrth i chi frwsio eich dannedd ac efallai y bydd eich anadl yn arogli'n ddrwg. Caiff y cyfnod cynnar hwn yng nghlefyd y deintgig ei alw'n llid y goruchafant neu gingivitis.

Os na chaiff llid y goruchafant ei drin, gall cyflwr o'r enw periodontitis ddatblygu. Bydd hyn yn effeithio ar y meinweoedd sy'n cynnal y dannedd a'u dal yn eu lle.

Os na chaiff periodontitis ei drin, gall yr asgwrn yn eich gên ddirywio a gall bylchau bach agor rhwng y deintgig a'r dannedd. Gall eich dannedd fynd yn rhydd, ac efallai y byddant yn cwympo allan yn y pen draw.

Darllenwch ragor am symptomau clefyd y deintgig.

Beth sy'n achosi clefyd y deintgig?

Caiff clefyd y deintgig ei achosi wrth i blac gronni ar y dannedd. Sylwedd gludiog sy'n cynnwys bacteria yw plac.

Mae rhai bacteria mewn plac yn ddiniwed, ond mae rhai eraill yn gwneud llawer o niwed i iechyd eich deintgig. Os nad ydych chi'n cael gwared ar y plac o'ch dannedd trwy eu brwsio, bydd yn cronni yno gan lidio'ch deintgig. Gall hyn arwain at gochni, chwyddo a dolur.

Darllenwch ragor am achosion clefyd y deintgig

Mynd i weld eich deintydd

Fe ddylech chi drefnu apwyntiad i weld eich deintydd os bydd eich deintgig yn boenus, wedi chwyddo, neu os bydd yn gwaedu wrth i chi frwsio'ch dannedd. Chwiliwch am ddeintydd yn eich ardal.

Gall eich deintydd gynnal archwiliad deintyddol trylwyr i edrych ar iechyd eich deintgig, a allai gynnwys gosod ffon fetel denau gyda phlygiant yn un pen (chwiliedydd periodontol) wrth eich dannedd.

Mewn rhai achosion, bydd angen tynnu sawl llun pelydr-X i ddeall beth yw cyflwr eich dannedd ac asgwrn eich gên.

Atal a thrin clefyd y deintgig

Fel arfer, gall achosion ysgafn o glefyd y deintgig gael eu trin trwy gadw at safonau hylendid geneuol da. Mae hyn yn cynnwys brwsio'ch dannedd o leiaf ddwywaith y dydd a fflosio yn rheolaidd. Dylech chi hefyd sicrhau eich bod yn mynd i gael archwiliadau deintyddol yn rheolaidd.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich deintydd neu'ch hylenydd deintyddol yn gallu glanhau'ch dannedd yn drylwyr gan gael gwared ar unrhyw blac caled (cen). Yn ogystal â hyn, bydd yn gallu dangos i chi sut mae glanhau'ch dannedd yn effeithiol er mwyn atal y plac rhag cronni yn y dyfodol.

Os bydd achos difrifol o glefyd y deintgig gennych chi, bydd angen triniaeth feddygol a deintyddol bellach arnoch chi gan amlaf, ac mewn ambell achos, efallai y bydd angen llawdriniaeth. Caiff hyn ei gwneud gan arbenigwr mewn problemau â'r deintgig (periodonteg) fel rheol.

Darllenwch fwy ynghylch trin clefyd y deintgig a chadw'ch dannedd yn lân.

Archwiliadau deintyddol

Mae hi'n bwysig eich bod yn cael archwiliadau deintyddol yn rheolaidd i sicrhau bod unrhyw broblemau â'ch dannedd a'ch deintgig yn cael eu darganfod a'u trin cyn gynted ag y bo modd.

Os nad ydych erioed wedi cael clefyd y deintgig a bod gennych iechyd geneuol da, efallai y bydd ond angen i chi fynd i weld eich deintydd bob blwyddyn i ddwy flynedd i gael archwiliad.

Efallai y bydd angen i chi fynd i weld eich deintydd yn amlach os ydych chi wedi cael problemau â chlefyd y deintgig yn y gorffennol. Ym mhob apwyntiad, bydd eich deintydd yn rhoi cyngor i chi ynghylch pryd i drefnu'ch apwyntiad nesaf.

Os oes gennych chi risg gynyddol o ddatblygu problemau â'r deintgig - er enghraifft, os byddwch yn ysmygu neu fod diabetes arnoch chi - mae'n bosibl y cewch chi eich cynghori i fynd i weld eich deintydd yn amlach er mwyn gallu monitro cyflwr eich dannedd yn fanwl.

Cymhlethdodau clefyd y deintgig

Os bydd gennych glefyd y deintgig nad yw wedi cael ei drin, sy'n datblygu i fod yn beriodontitis, gall arwain at gymhlethdodau pellach, megis:

Darllenwch ragor ynghylch cymhlethdodau clefyd y deintgig.

^^ Yn ôl i’r brig

Symptomau

Dylai deintgig iach fod yn binc a chryf, a byddant yn cadw eich dannedd yn ddiogel yn eu lle. Ni ddylai eich deintgig waedu pan fyddwch yn ei gyffwrdd neu'n ei frwsio.

Nid yw clefyd y deintgig yn achosi poen pob tro, ac mae'n bosib nad ydych yn ymwybodol ei fod arnoch chi. Dyma'r rheswm ei bod yn bwysig cael archwiliadau deintyddol rheolaidd.

Symptomau cynnar clefyd y deintgig

Mae symptomau cychwynnol clefyd y deintgig yn gallu cynnwys:

  • chwyddo a chochni yn y deintgig
  • y deintgig yn gwaedu ar ôl i chi frwsio neu fflosio eich dannedd

Gingivitis yw'r enw ar glefyd y deintgig yn y cyfnod hwn.

Symptomau datblygedig

Os na chaiff gingivitis ei drin, gall y meinweoedd ac esgyrn sy'n cynnal y dannedd gael eu heffeithio. Periodontitis neu glefyd periodontaidd yw'r enw ar hyn.

Mae symptomau periodontitis yn gallu cynnwys:

  • anadl drwg (halitosis)
  • blas cas yn eich ceg
  • dannedd rhydd, a allai wneud bwyta'n anodd
  • crawniadau yn y deintgig (casgliadau o grawn yn ffurfio o dan eich deintgig neu'ch dannedd)

Llid wlserol difrifol necrotig y goruchafant (ANUG)

Mewn achosion prin, mae cyflwr o'r enw llid wlserol difrifol necrotig y goruchafant (ANUG) yn gallu datblygu'n sydyn. Mae symptomau ANUG fel arfer yn fwy difrifol na'r rheiny sy'n gysylltiedig â chlefyd y deintgig a gallant gynnwys:

  • deintgig poenus, sy'n gwaedu
  • wlserau poenus
  • deintgig sy'n cilio rhwng eich dannedd
  • anadl drwg (halitosis)
  • blas metelig yn eich ceg
  • llawer iawn o boer yn eich ceg
  • anhawster yn llyncu neu'n siarad
  • tymheredd uchel (twymyn) 

Pryd i weld deintydd

Dylech chi drefnu apwyntiad i weld eich deintydd os byddwch yn amau bod clefyd y deintgig neu ANUG arnoch chi.

Os nad oes deintydd gennych ar hyn o bryd, chwiliwch am ddeintydd lleol.

Darllenwch ragor ynghylch trin clefyd y deintgig.

^^ Yn ôl i’r brig

Achosion

Gall clefyd y deintgig gael ei achosi gan nifer o ffactorau, ond yr achos mwyaf cyffredin yw hylendid geneuol gwael.

Gall hylendid geneuol gwael, fel peidio â brwsio'ch dannedd yn iawn ac yn rheolaidd, achosi i blac gronni ar eich dannedd.

Plac

Mae eich ceg yn llawn bacteria sy'n cyfuno â phoer i ffurfio haen ludiog o'r enw plac, sy'n cronni ar eich dannedd.

Pan fyddwch yn bwyta bwyd ac yn yfed diodydd sy'n uchel mewn carbohydradau (bwydydd siwgraidd neu startshlyd), mae'r bacteria yn y plac yn troi'r carbohydradau gan greu'r egni sydd ei angen arnyn nhw, gan gynhyrchu asid ar yr un pryd.

Dros gyfnod, bydd asid yn y plac yn dechrau erydu wyneb eich dant gan achosi i'r dant bydru.

Gall bacteria eraill yn y plac lidio eich deintgig hefyd, gan wneud iddo ymchwyddo a mynd yn ddolurus.

Gellir cael gwared ar blac yn hawdd fel arfer trwy frwsio eich dannedd a defnyddio edau ddanedd i fflosio. Ond weithiau, pan na cheir gwared ar blac, gall galedu a ffurfio sylwedd o'r enw deintgen (tartar). Mae deintgen yn glynu'n llawer mwy cadarn at ddannedd na phlac, a dim ond deintydd neu hylenydd deintyddol sy'n gallu cael gwared ag ef fel arfer.

Pwy sydd â'r risg fwyaf?

Yn ogystal â hylendid geneuol gwael, mae nifer o ffactorau sy'n gallu cynyddu eich risg o ddatblygu problemau â'ch deintgig, sy'n cynnwys:

  • ysmygu
  • eich oedran - bydd clefyd y deintgig yn mynd yn fwy cyffredin wrth i chi heneiddio
  • hanes o glefyd y deintgig yn y teulu
  • diabetes - cyflwr gydol oes sy'n achosi i lefelau'r siwgr yng ngwaed unigolyn fynd yn rhy uchel
  • system imiwnedd wan - er enghraifft, oherwydd cyflwr fel HIV ac AIDS, neu driniaethau penodol, fel cemotherapi
  • diffyg maeth - cyflwr sy'n digwydd pan na fydd diet rhywun yn cynnwys digon o'r math cywir o faetholion
  • straen
^^ Yn ôl i’r brig

Triniaeth

Y ffordd orau o drin clefyd y deintgig yw trwy arfer hylendid geneuol da, er y bydd angen triniaethau meddygol a deintyddol ychwanegol weithiau.

Hylendid geneuol

Mae hylendid geneuol da yn cynnwys:

  • brwsio eich dannedd am ryw ddau funud y peth olaf gyda'r nos cyn mynd i'r gwely ac ar unrhyw adeg arall bob dydd - nid oes ots os byddwch yn defnyddio brwsh dannedd trydanol neu frwsh dannedd â llaw, ond mae rhai pobl yn ei chael yn haws glanhau eu dannedd yn drylwyr â brwsh dannedd trydanol
  • defnyddio pâst dannedd sy'n cynnwys y maint cywir o fflworid (sef mwyn naturiol sy'n helpu i amddiffyn yn erbyn pydredd dannedd)
  • fflosio eich dannedd yn rheolaidd - bob dydd, cyn brwsio eich dannedd, os oes modd
  • dim ysmygu
  • mynd i weld eich deintydd yn rheolaidd - o leiaf unwaith bob blwyddyn i ddwy flynedd, ond yn amlach os bydd angen

Cegolch

Mae cegolchion antiseptig sy'n cynnwys clorohecsidin neu hecsetidin ar gael dros y cownter o fferyllfeydd. Fodd bynnag, mae rhywfaint o ddadlau ynghylch a oes angen cegolch ar bobl â deintgig iach.

Gallai eich deintydd argymell eich bod yn defnyddio cegolch os yw'n helpu i reoli'r croniad o blac (y sylwedd gludiog sy'n ffurfio pan fydd bacteria yn cronni ar arwyneb eich dannedd). Bydd eich deintydd yn gallu dweud wrthych pa fath o gegolch sydd fwyaf addas a sut i'w ddefnyddio.

Gall cegolch clorohecsidin staenio eich dannedd yn frown os byddwch yn ei ddefnyddio'n rheolaidd. Rinsiwch eich ceg yn drylwyr rhwng brwsio eich dannedd a defnyddio cegolch clorohecsidin oherwydd gall rhai cynhwysion mewn pâst dannedd atal y cegolch rhag gweithio.

Triniaethau deintyddol

Weithiau bydd rhai o'r triniaethau deintyddol sy'n cael eu disgrifio isod yn cael eu hargymell hefyd os bydd gennych glefyd y deintgig.

Digennu a llathru

I gael gwared ar blac a deintgen (plac wedi caledu) sy'n gallu cronni ar eich dannedd, gallai eich deintydd awgrymu y dylech gael eich dannedd wedi'u digennu a'u llathru. Math o 'lanhad proffesiynol' sydd fel arfer yn cael ei wneud yn eich deintyddfa gan hylenydd deintyddol yw digennu a llathru.

Bydd yr hylenydd deintyddol yn crafu plac a deintgen oddi ar eich dannedd gan ddefnyddio offer arbennig, cyn llathru eich dannedd i gael gwared ar unrhyw farciau neu staeniau. Os bydd llawer o blac neu ddeintgen wedi cronni ar eich dannedd, efallai y bydd angen i chi gael mwy nag un driniaeth digennu a llathru.

Gall pris triniaethau digennu a llathru amrywio yn dibynnu ar beth yn union sy'n cael ei wneud, felly gofynnwch i'ch hylenydd deintyddol faint fydd cost y driniaeth ymlaen llaw.

Darllenwch fwy ynghylch costau deintyddol y GIG.

Llyfnu gwreiddyn

Mewn rhai achosion o glefyd y deintgig, efallai y bydd angen llyfnu gwreiddyn (debridement). Gweithdrefn lanhau ddofn o dan y deintgig yw hon sy'n cael gwared ar facteria oddi ar wreiddiau eich dannedd.

Cyn cael y driniaeth, efallai y bydd angen i chi gael anesthetig lleol (meddyginiaeth lladd poen) i fferru'r man. Gallech deimlo ychydig o boen ac anesmwythder am hyd at 48 awr ar ôl llyfnu gwreiddyn.

Triniaeth bellach

Os oes gennych chi achos difrifol o glefyd y deintgig, efallai y bydd angen mwy o driniaeth arnoch, megis llawdriniaeth beriodontaidd. Mewn rhai achosion, bydd angen tynnu'r dant sydd wedi'i effeithio. Gall eich deintydd ddweud wrthych am y weithdrefn sydd ei hangen a sut y caiff ei gwneud. Os bydd angen, gall eich cyfeirio at arbenigwr.

Os byddwch yn cael llawdriniaeth neu lyfnu gwreiddyn, efallai y byddwch yn cael gwrthfiotigau (meddyginiaeth i drin heintiau). Bydd eich deintydd yn dweud wrthych a yw hyn yn angenrheidiol.

Llid wlserol difrifol necrotig y goruchfan

Dylai llid wlserol difrifol necrotig y goruchfan (ANUG) bob amser gael ei drin gan ddeintydd. Fodd bynnag, os byddwch yn gweld eich meddyg teulu cyn mynd i weld deintydd, gallai roi rhywfaint o driniaeth i chi tra byddwch yn aros i weld eich deintydd.

Yn ogystal â'r cyngor ar hylendid geneuol a thriniaethau deintyddol sy'n cael eu crybwyll uchod, gallai triniaethau ar gyfer ANUG gynnwys gwrthfiotigau, cyffuriau lladd poen a gwahanol fathau o gegolch hefyd. Disgrifir y rhain isod.

Gwrthfiotigau

Gallai triniaeth â gwrthfiotigau, fel metronidazole neu amoxicillin, gael eu hargymell os oes gennych chi ANUG. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi gymryd y gwrthfiotigau hyn am dridiau.

Nid yw amoxicillin yn addas ar gyfer pobl sydd ag alergedd i penicillin. Gall metronidazole adweithio ag alcohol, gan achosi i chi deimlo'n sâl iawn. Felly, mae'n syniad da i chi beidio ag yfed unrhyw alcohol tra byddwch yn cymryd metronidazole ac am 48 awr ar ôl gorffen y cwrs triniaeth.

Mae sgîl-effeithiau eraill metronidazole ac amoxicillin yn gallu cynnwys cyfog (teimlo'n sâl), chwydu a dolur rhydd.

Cyffuriau lladd poen

Paracetamol ac ibuprofen yw'r cyffuriau lladd poen mwyaf cyffredin a roddir ar bresgripsiwn. Maent hefyd ar gael dros y cownter o fferyllfeydd. Gallent helpu i leihau'r boen a'r anesmwythder.

Fodd bynnag, nid yw paracetamol ac ibuprofen yn addas i bawb, felly darllenwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr cyn eu cymryd.

Cegolch

Gall cegolch sy'n cynnwys clorohecsidin neu hydrogen perocsid gael ei roi ar bresgripsiwn i drin ANUG. Mae rhai cegolchion clorohecsidin hefyd ar gael dros y cownter, ond efallai nad ydynt mor effeithiol â chegolch hydrogen perocsid.

Darllenwch y cyfarwyddiadau bob amser cyn defnyddio cegolch. Efallai bod angen gwanhau rhai mathau mewn dwr cyn eu cymryd.

Rhoi'r gorau i ysmygu

Ysmygu yw un o'r ffactorau mwyaf arwyddocaol ar gyfer clefyd y deintgig.

Mae rhoi'r gorau i ysmygu yn gallu gwella eich hylendid geneuol yn fawr.

Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu, ffoniwch Linell Gymorth Dim Smygu Cymru ar 0800 250 6885.

Gall eich meddyg teulu roi gwybodaeth a chyngor i chi ynghylch rhoi'r gorau i ysmygu. Gallwch hefyd edrych ar gwefan Dim Smygu Cymru.

^^ Yn ôl i’r brig

Cymhlethdodau

Os byddwch yn datblygu llid y goruchafant (gingivitis) ac nad ydych yn cael y plac neu'r deintgen (plac wedi caledu) wedi'i dynnu oddi ar eich dannedd, gallai'r cyflwr waethygu ac arwain at beriodontitis.

Gallech ddatblygu rhagor o gymhlethdodau os oes gennych beriodontitis (pan fydd y feinwe sy'n cynnal dannedd yn cael ei heffeithio) ac nad ydych yn cael triniaeth, gan gynnwys:

  • crawniadau ar y deintgig dro ar ôl tro (croniadau poenus o grawn)
  • niwed cynyddol i'r ligament periodontol (y feinwe sy'n cysylltu'r dant â'r twll)
  • niwed cynyddol i'r asgwrn alfeolaidd (yr asgwrn yn yr ên sy'n cynnwys tyllau'r dannedd), a cholli'r asgwrn alfeolaidd
  • ciliad y deintgig
  • dannedd rhydd
  • colli dannedd

Llid wlserol difrifol necrotig y deintgig (ANUG)

Os oes gennych lid wlserol difrifol necrotig y deintgig (ANUG) ac nid yw'n cael ei drin, gall achosi cymhlethdodau mwy difrifol.

Gall yr haint ledu i bob rhan o'ch deintgig a'r asgwrn alfeolaidd sy'n amgylchynu eich dannedd. Gall hyn achosi'r canlynol:

  • bydd y deintgig rhwng eich dannedd yn cael eu difrodi'n llwyr
  • bydd wlserau mawr (briwiau agored) yn gadael tyllau parhaol yn eich deintgig
  • bydd eich dannedd yn mynd yn rhydd ac ansefydlog

Os na chaiff ANUG ei drin yn gywir y tro cyntaf y byddwch yn ei gael, rydych yn fwy tebygol o gael achosion dro ar ôl tro yn y dyfodol. Gall hyn achosi anadl drwg (halitosis) parhaus a deintgig yn gwaedu, yn ogystal â deintgig sy'n encilio'n raddol.

Mewn achosion prin, gall ANUG arwain at gyflwr o'r enw madredd sy'n effeithio ar y gwefusau a'r bochau. Mae madredd yn digwydd pan fydd y feinwe yn dechrau marw a nychu. Os byddwch yn datblygu madredd, efallai y bydd angen tynnu'r feinwe sydd wedi marw.

Cymhlethdodau eraill

Mae clefyd y deintgig wedi cael ei gysylltu hefyd â risg gynyddol o ddatblygu nifer o gyflyrau iechyd eraill, gan gynnwys:

Fodd bynnag, er bod risg gynyddol o bosibl y bydd pobl â chlefyd y deintgig yn dioddef yn sgil y problemau hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth glir ar hyn o bryd eu bod yn cael eu hachosi'n uniongyrchol gan glefyd y deintgig.

^^ Yn ôl i’r brig


Mae’r wybodaeth ar y dudalen yma wedi addasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol gan NHS Choices.
Dyddiad diweddaru diwethaf: 28/08/2019 13:28:48