Alcohol

Gall yfed alcohol yn gymedrol fod yn bleserus i lawer o bobl, ond gall goryfed a goryfed mewn pyliau gael effaith niweidiol ac achosi problemau iechyd difrifol.

Argymhelliad y GIG:

  • peidio ag yfed mwy na 14 uned o alcohol yn rheolaidd pob wythnos
  • os ydych yn yfed cymaint â 14 uned yr wythnos, mae'n well i ledaenu hyn yn gyfartal dros dri diwrnod neu fwy
  • os ydych yn ceisio lleihau faint o alcohol rydych yn ei yfed, mae'n syniad da i gael nifer o ddiwrnod di-alcohol bob wythnos

Mae yfed yn rheolaidd neu'n aml yn golygu yfed alcohol yn y rhan fwyaf o wythnosau. Mae'r risg i'ch iechyd yn cynyddu trwy yfed unrhyw faint o alcohol yn gyson. Mae un uned o alcohol yn cyfateb i 10ml o alcohol pur.

Mesurwch y nifer o unedau fyddwch chi'n eu hyfed trwy ddefnyddio ein cyfrifiannell rhyngweithiol.

Dyddiadur Alcohol

Buddion Yfed Llai o Alcohol–

  • Byddwch yn gostwng y risg o glefyd y galon a chanser
  • Byddwch yn llai tebygol o gael damwain
  • Byddwch yn llai tebygol o ymddwyn yn beryglus, er enghraifft - rhyw diamddiffyn
  • Gall eich afu neu iau adfer a gwneud iawn am y difrod
  • Byddwch yn arbed arian
  • Bydd lefelau eich egni'n cynyddu
  • Byddwch yn cysgu'n well ac yn  teimlo'n llai blinedig ac wedi'ch adfywio pan fyddwch yn deffro
  • Byddwch yn gallu canolbwyntio'n well
  • Byddwch yn llai tebygol o aflonyddu ar eich teulu a'ch ffrindiau
  • Byddwch yn llai tebygol o ddioddef gan iselder sy'n deillio o alcohol

Goryfed mewn Pyliau

Diffinnir goryfed mewn pyliau fel yfed wyth neu fwy o unedau o alcohol mewn un sesiwn i ddynion a chwe uned i wragedd.  Mae ymchwil yn dangos bod yfed llawer o alcohol mewn cyfnod byr yn fwy peryglus nag yfed llai o gyfanswm yn gyson.

Effeithiau byr dymor

Mae alcohol yn effeithio ar gydlyniant eich corff, yn peri aneglurder yn eich mynegiant, aneglurder o ran gweld neu weld yn ddwbl a cholli cydbwysedd.  Rydych yn debycach o gael eich hunain mewn sefyllfaoedd peryglus pan fyddwch wedi yfed tipyn, gan fod alcohol yn effeithio ar eich synnwyr a gallech wneud pethau na fyddech wedi ystyried eu gwneud pan yn syber.

Ymddygiad peryglus iawn arall a gysylltir ag yfed trwm yw:

  • Rhyw achlysurol, diamddiffyn, a all arwain at feichiogrwydd annisgwyl a chlefydau rhyw
  • Trais a dadleuon
  • Damweiniau yn y cartref ac ar y ffordd

Effeithiau Hir dymor

Mae'r peryglon i iechyd a gysylltir ag yfed trwm yn cynnwys:

  • Niwed i'r afu/iau
  • Anaemia oherwydd alcohol
  • Gowt
  • Pancreatitis
  • Clefyd y Galon
  • Niwed i'r Ymennydd
  • Problemau Rhyw fel analluedd
  • Anffrwythlondeb
  • Pwysau Gwaed Uchel 
  • Strôc
  • Gorbryder,iselder a diffyg canolbwyntio  

 

Mae'r problemau cymdeithasol a gysylltir ag yfed trwm yn cynnwys:
 

 

  • Ysgariad
  • Trais yn y cartref
  • Cam-drin Plant
  • Problemau yn y Gweithle
  • Problemau Ariannol
  • Digartrefedd
  • Troseddu

Yfed a Beichiogrwydd

Cyngor yr Adran Iechyd yw na ddylech yfed o gwbl pan fyddwch yn feichiog neu'n ceisio bod yn feichiog. Os byddwch yn yfed yn drwm, mae'r perygl o erthyliad naturiol yn cynyddu a gall yr yfed hwnnw amharu'n ddifrifol ar dwf y babi ac ar ddatblygiad ei ymennydd.

Eich cymeriant o alcohol

Os byddwch yn ateb yn gadarnhaol i ddau neu fwy o'r cwestiynau canlynol, dylech ystyried eich cymeriant o alcohol:

  • Ydych chi wedi ystyried torri'n ôl ar eich yfed erioed?
  • A gawsoch eich digio erioed gan bobl yn sylwi ar eich yfed?
  • A fyddwch yn teimlo'n euog weithiau am y cyfanswm o alcohol y byddwch yn ei yfed?
  • Ydych chi erioed wedi cymryd diod yn y bore i liniaru effaith yr alcohol (cudyn o'r ci)?

Os  byddwch yn ateb yn gadarnhaol i dri neu fwy o'r cwestiynau canlynol, dylech ystyried chwilio am gymorth gan eich Meddyg Teulu, a all eich cyfeirio at arbenigwr:

  • Os mai dyn ydych, a ydych yn yfed mwy na 50 uned o alcohol bob wythnos?
  • Os mai menyw ydych, a ydych yn yfed mwy  na 35 uned mewn wythnos?
  • A oes gennych awydd cryf, neu ydych chi angen yfed alcohol?
  • A fyddwch yn cael trafferth i wrthod yr awydd i yfed, i ymatal rhag yfed neu i reoli'r cyfanswm y byddwch yn ei yfed?
  • A yw eich ymddygiad yn newid neu a fyddwch yn teimlo'n wahanol pan na fyddwch yn gallu yfed?
  • A fyddwch chi'n yfed i leddfu neu i atal y teimladau hynny?
  • A ydych chi'n ymddangos fel petaech chi’n gallu yfed mwy o alcohol na'r rhan fwyaf o bobl o'ch cwmpas?
  • A fydd yr awydd i yfed neu effeithiau’r alcohol yn eich atal rhag bod yn rhan o ddiddordebau neu bleserau eraill?
  • A ydych yn dal i yfed, er eich bod yn ymwybodol o'r canlyniadau niweidiol?

 

Podlediadau Lles

Gallwch wrando ar rai podlediadau Lles ar wefan Iechyd Meddwl trwy glicio ar y ddolen berthnasol, ar ochr dde'r tudalen yma.