Cyflwyniad

Dental abscess
Dental abscess

Croniad o grawn yw crawniad deintiol sy'n gallu ffurfio y tu mewn i ddannedd, yn y deintgig, neu yn yr asgwrn sy'n dal y dannedd yn eu lle. Caiff ei achosi gan haint bacterol.

Caiff crawniad ar ddiwedd dant ei alw'n grawniad perifrigol. Yr enw am grawniad yn y deintgig yw crawniad periodontol.

Mae crawniadau deintiol yn aml yn boenus, ond dydyn nhw ddim bob amser. Yn y naill achos neu'r llall, dylai deintydd edrych arnynt.

Mae'n bwysig cael cymorth cyn gynted ag y bo modd, gan nad yw crawniadau'n diflannu ar eu pen eu hunain. Weithiau, gallant ledaenu i rannau eraill o'r corff ac achosi i chi fod yn sâl.

Mae'r dudalen hon yn cwmpasu:

Symptomau crawniad deintiol

Beth i'w wneud os oes gennych grawniad deintiol

Lleddfu eich symptomau

Triniaethau ar gyfer crawniad deintiol

Beth sy'n achosi crawniadau deintiol

Atal crawniadau deintiol

Symptomau crawniad deintiol

Gallai symptomau crawniad yn eich dant neu'ch deintgig gynnwys:

  • gallai poen dwys a gwyniol yn y dant neu'r deintgig sydd wedi ei effeithio/eu heffeithio ddechrau'n sydyn a gwaethygu'n raddol
  • poen sy'n lledu i'ch clust, eich gên a'ch gwddf ar yr un ochr â'r dant neu'r deintgig sydd wedi ei effeithio/eu heffeithio
  • poen sy'n waeth wrth orwedd i lawr, a allai darfu ar eich cwsg
  • cochni a chwyddo yn eich wyneb
  • dant tyner, â staen a/neu rydd
  • deintgig sgleiniog, coch a chwyddedig
  • sensitifrwydd i fwydydd a diodydd poeth neu oer
  • anadl ddrwg a/neu flas cas yn eich ceg 

Os bydd yr haint yn lledaenu, gallech ddatblygu tymheredd uchel (twymyn) hefyd, a theimlo'n anhwylus yn gyffredinol. Mewn achosion difrifol, efallai y byddwch yn ei chael yn anodd agor eich ceg yn llawn ac yn cael anhawster yn llyncu neu'n anadlu.

Beth i'w wneud os oes gennych grawniad deintiol

Dylech fynd i weld deintydd cyn gynted ag y bo modd os ydych yn meddwl bod gennych grawniad deintiol. Dylech osgoi mynd i weld eich meddyg teulu, gan na fydd yn gallu gwneud rhyw lawer i helpu.

Gallwch gael cymorth gan:

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am driniaeth ddeintyddol frys ar y GIG, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Darllenwch fwy ynghylch costau deintyddol y GIG.

Lleddfu eich symptomau

Tra byddwch yn aros i weld deintydd, gall cyffuriau lladd poen helpu i reoli eich poen.

Ibuprofen yw'r cyffur lladd poen sy'n cael ei ffafrio fwyaf ar gyfer crawniadau deintiol, ond os na allwch ei gymryd am resymau meddygol, gallwch gymryd paracetamol yn lle. Ni ddylid rhoi aspirin i blant o dan 16 oed.

Os nad yw un cyffur lladd poen yn lleddfu'r poen, gallech gymryd dosau o paracetamol ac ibuprofen a ddangosir yn nhaflen y feddyginiaeth i helpu. Mae hyn yn ddiogel ar gyfer oedolion, ond nid ar gyfer plant o dan 16 oed.

Gallai hefyd helpu:

  • os byddwch yn osgoi bwydydd a diodydd poeth neu oer os yw'n gwneud y poen yn waeth
  • os byddwch yn ceisio bwyta bwydydd eithaf oer a meddal, gan ddefnyddio ochr arall eich ceg
  • os byddwch yn defnyddio brwsh dannedd meddal ac yn osgoi fflosio o amgylch y dant sydd wedi ei effeithio dros dro

Gall y camau hyn helpu i leddfu eich symptomau dros dro, ond ni ddylech eu defnyddio i ohirio cael cymorth gan ddeintydd.

Triniaethau ar gyfer crawniad deintiol

Caiff crawniadau deintiol eu trin trwy dynnu ffynhonnell yr haint a draenio'r crawn oddi yno.

Yn dibynnu ar leoliad y crawniad a pha mor ddifrifol yw'r haint, mae triniaethau posibl yn cynnwys:

  • tynnu'r dant sydd wedi'i effeithio - efallai bydd angen gwneud hyn os na ellir rhoi triniaeth sianel y gwreiddyn 
  • triniaeth sianel y gwreiddyn - gweithdrefn i dynnu'r crawniad o wreiddyn y dant sydd wedi'i effeithio cyn ei lenwi a'i selio
  • endorri a draenio - lle caiff toriad bach (endoriad) ei wneud yn y deintgig i ddraenio'r crawniad (ateb dros dro yw hyn gan amlaf ac efallai y bydd angen rhagor o driniaeth)

Bydd anesthetig lleol fel arfer yn cael ei ddefnyddio i fferru eich ceg ar gyfer y gweithdrefnau hyn. Gellir rhoi llawdriniaethau mwy eang o dan anesthetig cyffredinol (pan fyddwch yn cysgu).

Nid yw gwrthfiotigau yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn ar gyfer crawniadau deintiol yn aml, ond efallai y cânt eu defnyddio os bydd yr haint yn lledaenu neu os yw'n ddifrifol iawn.

Beth sy'n achosi crawniadau deintiol?

Mae eich ceg yn llawn bacteria, sy'n ffurfio haen ludiog ar eich dannedd o'r enw plac.

Os nad ydych yn cadw eich dannedd yn lân, mae asidau sy'n cael eu cynhyrchu gan y bacteria yn y plac yn gallu niweidio eich dannedd a'ch deintgig, gan arwain at pydredd dannedd neu clefyd y deintgig.

Gall y canlynol gynyddu'r posibilrwydd y byddwch yn datblygu crawniad deintiol:

  • hylendid geneuol gwael - gall plac gronni ar eich dannedd os nad ydych yn fflosio a brwsio'ch dannedd yn rheolaidd
  • bwyta ac yfed llawer o fwydydd a diodydd siwgraidd neu startshlyd - gall y rhain annog i facteria dyfu mewn plac a gallai hyn arwain at bydredd sy'n gallu achosi crawniad
  • anaf neu lawfeddygaeth flaenorol i'ch dannedd neu'ch deintgig - gall bacteria fynd i mewn i unrhyw rannau o'r dannedd neu'r deintgig sydd wedi eu niweidio
  • cael system imiwnedd wannach - mae hyn yn cynnwys pobl sydd â chyflyrau iechyd gwaelodol penodol, fel diabetes, a'r rheiny sy'n cael triniaeth, gan gynnwys meddyginiaeth steroid neu cemotherapi

Atal crawniadau deintiol

Gallwch leihau eich risg o ddatblygu crawniadau deintiol trwy gadw eich dannedd a'ch deintgig mor iach ag y bo modd.

I wneud hyn, dylech:

  • ddefnyddio fflos neu frwsh rhwng y dannedd o leiaf unwaith y dydd i lanhau rhwng eich dannedd ac o dan linell y deintgig
  • brwshio eich dannedd â phast dannedd fflworid ddwywaith y dydd - gan dreulio o leiaf ddwy funud bob tro
  • osgoi rinsio eich ceg â dŵr neu gegolch ar ôl brwshio gan fod hyn yn golchi'r past dannedd amddiffynnol i ffwrdd - poerwch allan unrhyw bast dannedd dros ben
  • lleihau faint o fwydydd a diodydd siwgraidd a startshlyd rydych yn eu bwyta a'u hyfed - yn enwedig rhwng prydau neu'n fuan cyn mynd i'r gwely
  • mynd i weld eich deintydd yn rheolaidd - gall eich deintydd awgrymu pa mor aml y dylech gael archwiliad, ar sail eich iechyd geneuol
^^ Yn ôl i’r brig


Mae’r wybodaeth ar y dudalen yma wedi addasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol gan NHS Choices.
Dyddiad diweddaru diwethaf: 09/07/2019 14:27:24