Ymholiadau a ofynnir yn aml
Mae Gwasanaeth Ymholiad Ar-lein Galw Iechyd Cymru yn ffordd poblogaid i dderbyn . Mae’r Gwasanaeth Ymholiad Ar-Lein yn derbyn ymholiadau ar amrywiaeth eang o bynciau, gweler rhestr o’r pynciau mwyaf cyffredin isod.
I dderbyn ymateb personol i’ch cwestiynau iechyd, gallwch wneud ymholiad ar-lein drwy glicio yma.
Os ydych chi neu rhywun arall yn teimlo’n anhwylus, neu eich bod yn pryderu am eich/eu symptomau, plîs ffoniwch eich/eu Meddyg Teulu neu ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i gael cyngor wrth nyrs.
Os ydych yn fyddar neu yn drwm eich clyw gallwch ffonio ffon testun Galw Iechyd Cymru ar 0845 606 4647, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos neu ffoniwch ni drwy ddefnyddio BT Typetalk ar 1 8001 0845 46 47.
- Poen Cefn
- Atal Cenhedlu
- Llawdriniaeth Gosmetig
- Ffrwythlondeb
- Costau Iechyd
- Cyflyrau y Galon
- Costau Cartrefi Nyrsio
- Brechiadau Teithio
- Salwch/Anhwylderau Plentyndod
- Strôc
- Beichiogrwydd
- Erthyliad Naturiol
Poen Cefn
Mae dros dwy rhan o dair o’r boblogaeth yn dioddef o boen cefn yn ystod un adeg o’u bywyd. Fydd y cysylltau isod yn eich cyfeirio at wefannau sy’n darparu gwybodaeth am yr achosion a triniaeth ar gyfer poen cefn.
Cefnau Cymru Gwybodaeth am boen cefn a’r neges ‘Peidiwch â chael eich llorio gan poen cefn.’
Patient UK Gwybodaeth cyffredinol am achosion poen cefn a’r math o driniaeth sydd ar gael.
Backcare Taflenni ffeithiau ar nifer o bynciau i ymwneud gyda cefnau megis clunwst a atchwipio.
Galw Iechyd Cymru Gwybodaeth cyffredinol am boen cefn.
Atal Cenhedlu
I gael gwybodaeth am y wahanol dulliau o atal cenhedlu sydd ar gael ac atebion i gwestiynau fel ‘Beth i wneud os ydwyf wedi anghofio fy bilsen atal cenhedlu?’a ‘Beth sydd yn gwneud condomau yn llai effeithiol?’ cliciwch ar y cysylltau isod os gwelwch yn dda.
Galw Iechyd Cymru Gwybodaeth cyffredinol ar y wahanol dulliau o atal cenhedlu sydd ar gael.
Cymdeithas Cynllunio Teulu Taflennu ffeithiau atal cenhedlu.
Llawdriniaeth Gosmetig
Mae’r Gwasanaeth Ymholiad Ar-Lein yn derbyn ymholiadau am nifer o ddulliau cosmetig fel helaethu’r bronnau. Fydd y cysylltau canlynol yn eich cyfeirio at wefannau sy’n darparu gwybodaeth pellach.
Yr Adran Iechyd Cyngor i bobl sy’n ystyried llawdriniaeth cosmetig.
Yr Adran Iechyd Cwestiynau defnyddiol i ofyn.
Yr Adran Iechyd A-Z o weithdrefnau cosmetig.
Galw Iechyd Cymru Llawdriniaeth blastig neu lawdriniaeth esthetig.
The British Association of Aesthetic Plastic Surgeons Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am ddulliau cosmetig.
Ffrwythlondeb
Mae’r Gwasanaeth Ymholiad Ar-Lein yn darparu gwybodaeth ar nifer o faterion i ymwneud â ffrwythlondeb, megis pryd dylai person ddechrau ymchwilio am broblemau ffrwythlondeb, pa driniaeth sydd ar gael i gynorthwyo ffrwythlondeb, a beth sydd ar gael drwy’r GIG. Fydd y cysylltau canlynol yn eich cyfeirio at wefannau i ateb y cwestiynau yma.
Human Fertilisation and Embryology Authority Canllaw y Human Fertilisation and Embryology Authority am driniaeth ac ariannu.
Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol Canllawiau ar asesu a trin pobl gyda problemau ffrwythlondeb.
Galw Iechyd Cymru Gwybodaeth cyffredinol am anffrwythlondeb.
Costau Iechyd
Yn gyffredinol mae gofal y GIG ar gael yn rhad ac am ddim i holl breswylwyr y DU, ond codir tâl am rai gwasanaethau megis triniaeth ddeintyddol, profion llygad a sbectolau. Fodd bynnag, gall rhai pobl gael y gwasanaethau yma am ddim neu am bris gostyngol.
Os ydych yn ansicr os ydych wedi eithrio rhag talu taliadau’r GIG fydd y cysylltau canlynol yn eich cyfeirio ar wefannau sydd yn darparu y math yna o wybodaeth a gwybodaeth am y math o fudd-daliadau sydd ar gael.
Llywodraeth Cymru Mae’r cyswllt yma at y llyfryn HC11W – A oes help ar gael i chi gyda’ch costau iechyd? Mae’r llyfryn hwn yn rhoi arweiniad ar drefniadau’r GIG o ran costau yng Nghymru yn unig.
Nodwch fod y llyfryn yma yn cael ei ddiweddaru oherwydd ei bod yn cynnwys gwybodaeth anghywir am siars presgripsiynau (o Ebrill 1af 2007). Am wybodaeth cyfoes am bresgripsiynau, cliciwch y cyswllt isod os gwelwch yn dda.
www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Yr Adran Gwaith a Phensiynau Gwybodaeth cyffredinol ar y gwasanaethau a budd-daliadau sydd ar gael.
Gov UK Gwybodaeth am arian, treth a budd-daliadau.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau Gwybodaeth am y budd-daliadau sydd ar gael i pobl sydd yn gofalu am rhywun arall.
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi Gwybodaeth ar gredyd treth.
Am wybodaeth pellach am budd-daliadau ewch at adran Costau iechyd a buddion Galw Iechyd Cymru.
Cyflyrau y Galon
Os ydych chi neu rhywun rydych yn adnabod yn dioddef o gyflwr sy’n effeithio’r galon, efallai fod gennych cwestiynau am triniaeth neu os allwch gyrru car yn ddiogel. Mae’r cysylltau isod yn darparu gwybodaeth pellach ar nifer o gyflyrau y galon.
Sefydliad Prydeinig y Galon Gwybodaeth am sawl cyflwr y galon. Hefyd manylion cysylltu llinell gymorth Sefydliad Prydeinig y Galon sef y Heart Infoline
Sefydliad Prydeinig y Galon Ymgyrch ‘Doubt Kills’ y British Heart Foundation sy’n annog bobl sy’n amau trawiad ar y galon i ffonio 999 os ydynt yn dioddef symptomau.
Costau Cartrefi Nyrsio
Os ydych angen gwybodaeth ar dalu am gostau cartrefi nyrsio neu eisiau manylion am bwy i gysylltu gyda i gael mwy o wybodaeth am gyfleusterau cartrefi nyrsio, dilynwch y cysylltau canlynol os gwelwch yn dda.
Age UK Gwybodaeth cyffredinol ar dalu am gostau cartrefi nyrsio.
Age UK Gwybodaeth am pwy sy’n talu costau cartrefi nyrsio, cyllid awdurdodau lleol a cysylltau defnyddiol.
Ac Cymru
Fydd gan bob Awdurdod Lleol wybodaeth ar sut i drefnu asesiad o anghenion gofal personol a manylion gofal cymdeithasol lleol a ba wasanaethau sydd ar gael i bobl hyn.
Llywodraeth Cymru Manylion cysylltu Awdurdodau yng Nghymru.
Galw Iechyd Cymru Cwestiynau cyffredin am wasanaethau cymdeithasol.
Brechiadau Teithio
Os ydych yn mynd dramor ar eich gwyliau dylech ymchwilio os oes angen unrhyw frechiadau i deithio i’r wlad penodedig. Mae’r gwefannau canlynol yn darparu gwybodaeth ar ba brechiadau teithio sydd angen, cyngor am ba ardaloedd mae malaria a gwybodaeth defnyddiol fel teithio gyda plant,teithio busnes a osgoi cnoadau pryfed.
Fit for Travel Gwefan gan GIG Yr Alban gyda amrywiaeth o wybodaeth i unrhyw un sy’n teithio o’r DU dramor.
Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad Cyngor i bobl sy’n teithio dramor, pynciau megis cyfreithiau lleol a diogelwch ar yr heol.
ymatebion personol i ymholiadau sy'n ymwneud gyda iechyd yn syth at eich cyfrifiadur
Salwch/Anhwylderau Plentyndod
Mae nifer o dudalennau o fewn Gwyddionadur Galw Iechyd Cymru sy'n darparu gwybodaeth am lawer o afiechydon/anhwylderau plentyndod sydd yn effeithio ar blant yn aml. Bydd y cysylltau isod yn eich cyfeirio at wefannau a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi allai fod yn defnyssio os ydych yn gwybod plentyn sy'n dioddef o un o'r afiechydon canlynol.
Brech yr Ieir
Mae brech yr ieir, yn aml, yn gyflwr ysgafn ond yn heintus iawn. Mae'n achosi brech pothelli sy'n cosi ac yna crystiau throsodd.
Netdoctor Gwybodaeth ar frech yr ieir
Patient UK Gwybodaeth ar frech yr ieir dan y teitl 'Brech yr ieir mewn plant o dan 12'
Tymheredd/Twymyn
Mae twymyn yn dymheredd uchel. Fel rheol gyffredinol, mewn plant, mae tymheredd sy'n fwy na 37.5°C yn dwymyn.
Galw Iechyd Cymru Gwybodaeth am dwymyn.
Patient UK Gwybodaeth am dwymyn (tymheredd uchel) mewn plant
Netdoctor Gwybodaeth am dwymyn mewn plant
Llau Pen
Ni all llau pen hedfan, neidio neu nofio. Maent yn cael eu lledaenu gan gyswllt ben-i-ben a dringo o wallt rhywun sydd wedi'i heintio a gwallt rhywun arall.
Cymdeithas Brydeinig o Dermatolegwyr Mae'r daflen yma yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar lau pen
Patient UK Mae'r cyswllt yma yn rhoi gwybodaeth am lau pen a nedd
Strôc
Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy'n digwydd pan fydd y cyflenwad gwaed i'r ymennydd yn cael ei dorri i ffwrdd. Os ydych yn amau eich bod chi, neu rywun arall yn cael strôc ffoniwch 999 ar unwaith a gofyn am ambiwlans. Bydd y cysylltau isod yn rhoi gwybodaeth am strôc.
Y Gymdeithas Strôc Mae'r cyswllt yma ar gyfer y gymdeithas strôc. Mae ganddynt linell gymorth gallech alw ar 0303 3033 100
Cymdeithas Pwysedd Gwaed Mae'r cyswllt yma yn darparu gwybodaeth am strôc a phwysedd gwaed uchel
Iechyd yng Nghymru Gwybodaeth am yr arwyddion i edrych am os ydych yn meddwl y gallai rhywun fod yn cael strôc
Galw Iechyd Cymru Gwybodaeth am strôc
Beichiogrwydd
Os ydych yn amau eich bod yn feichiog neu wedi gwneud prawf cartref sy'n cadarnhau eich bod yn feichiog, trefnwch i weld eich meddyg teulu neu fydwraig ar unwaith. Mae'r cysylltiadau isod yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i fenywod beichiog a'u teuluoedd.
Cymdeithas Cynllunio Teulu Gwybodaeth am gynllunio beichiogrwydd
Llywodraeth Cymru Mae'r cyswllt yma yn darparu gwybodaeth am feichiogrwydd a'r blynyddoedd cynnar
Galw Iechyd Cymru Gwybodaeth am feichiogrwydd
Erthyliad Naturiol
Erthyliad naturiol yw colli babi sy'n digwydd rywbryd yn ystod y 23 wythnos gyntaf. Mae tua thri chwarter o gamesgor yn digwydd yn ystod 12 wythnos gyntaf y beichiogrwydd. Mae'r cysylltiadau isod yn rhoi gwybodaeth am erthyliad naturiol ac mae manylion ar gyfer llinell gymorth efallai y byddwch am ddefnyddio i gael cymorth os oes angen.
Cymdeithas Erthyliad Mae'r wefan yma yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth. Mae ganddynt linell gymorth sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 4pm ar 01924 200799
Babyloss Yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth ar-lein i unrhyw un a effeithwyd gan farwolaeth babi yn ystod beichiogrwydd, pan gaiff ei eni neu yn fuan wedyn.
Coleg Brenhinol o Obstetryddion a Gynecolegwyr Gwybodaeth dan y teitl 'Early Miscarriage: Information for you'