Meddygon Teulu - gwybodaeth a cysylltau

Mae’r adran yma yn darparu gwybodaeth am wasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru, yn cynnwys gwybodaeth am bynciau fel cofrestru, ail farn a chwynion.

Mae Practisau Meddygon Teulu yn darparu gwasanaethau dan gytundeb Byrddau Iechyd. Yn ogystal â rhoi cyngor am iechyd ac anhwylderau, mae hefyd yn bosib iddynt ddarparu gwasanaethau atal-cynhedlu, brechiadau, gwasanaethau mamolaeth a llawdriniaethau bychan. Mae rhai hefyd yn dewis cynnig gwasanaethau pellach fel brechiadau teithio, gofal i bobl ddigartref a gwasanaethau iechyd rhywiol arbenigol.

Bydd gan bob practis daflen yn dweud pa wasanaethau a gofal y gallwch eu disgwyl. I gael gwybodaeth am eich Meddyg Teulu a’r gwasanaethau sydd ar gael, ewch i ‘Cwestiynau Cyffredin am eich Meddyg Teulu’ , neu i ddarganfod eich meddygfa agosaf cliciwch yma os gwelwch yn dda.

Rhifau a Chysylltiadau Defnyddiol

I gael gwybodaeth bellach am Feddygon Teuluol a’u gwasanaethau ffoniwch GIG 111 Cymru a siarad â Chynghorydd Gwybodaeth Iechyd neu defnyddiwch ein Gwasanaeth Ymholiad Ar-Lein.

Neu, cysylltwch â GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn eich ardal a gofynnwch am ‘Gwasanaethau Contractwyr’. Dewch o hyd i'r rhif ffôn gywir ar wefan GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau trwy clicio yma.


Cysylltiadau Allanol:

Royal College of General Practitioners                                           
www.rcgp.org.uk

General Medical Council
www.gmc-uk.org