Cwestiynau cyffredin am eich Meddyg Teulu

Mae practisau meddygon teulu yng Nghymru yn darparu gwasanaethau o dan gontract i Fyrddau Iechyd. Yn ogystal â rhoi cyngor ar iechyd a salwch, gallai meddygon teulu hefyd ddarparu gwasanaethau atal cenhedlu, brechiadau, gwasanaethau mamolaeth a mân lawdriniaethau. Efallai y bydd rhai practisau yn dewis cynnig gwasanaethau pellach fel brechiadau teithio, gofal y digartref neu wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol.

Bydd pob meddygfa wedi cynhyrchu taflen practis yn amlinellu pa wasanaethau a gofal y gellir eu disgwyl.

Sut gallaf ddod o hyd i Feddyg Teulu?
I ddod o hyd i Feddyg Teulu dylech gysylltu â GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau yn eich ardal. Bydd yn gallu darparu rhestr o’r Meddygon Teulu yn eich ardal.  Gall awgrymiadau oddi wrth ffrindinau a pherthnasau fod yn ddefnyddiol hefyd. Bydd gan eich practis lleol daflen wybodaeth ac efallai y bydd ganddynt wefan hefyd.
 
Sut gallaf gofrestru gyda Meddyg Teulu?
I gofrestru gyda Meddyg Teulu dylech gysylltu â'r practis o'ch dewis a gofyn am gael eich cynnwys ar eu rhestr o gleifion.  Yna byddant yn gofyn i chi am fanylion eich cerdyn meddygol y GIG neu i lenwi ffurflen yn y feddygfa a fydd yn galluogi i’ch cofnodion meddygol gael eu trosglwyddo yno.

Beth gallaf ei wneud os byddaf wedi colli fy ngherdyn meddygol?
Os ydych wedi colli eich cerdyn meddygol dylech gysylltu â’ch GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau lleol fydd yn gallu trefnu i anfon un arall atoch. Mae cardiau meddygol ddim ar gael o hyn ymlaen, felly byddech yn derbyn llythyr gyda eich manylion GIG yn lle cerdyn meddygol newydd os ydych yn eich colli.

A all meddygfa wrthod fy nghofrestru?
I feddygfa eich gwrthod, mae’n rhaid bod ganddynt reswm digonol.  Er engrhaifft, efallai eich bod yn byw y tu allan i’r ardal y mae’r feddygfa yn ei gwasanaethu neu nad ydynt yn derbyn mwy o gleifion. Dylech gael eglurhad os caiff eich cais i gofrestru ei wrthod.  Os na allwch ddod o hyd i Feddyg Teulu fydd yn gallu eich cofrestru, gall eich GIG Cymru Partneriaeth Cydwasanaethau eich cyfeirio at bractis arall.

Sut gallaf newid fy Meddyg Teulu ac oes rhaid i mi roi rheswm pam?
Does dim rhaid i chi roi eglurhad os ydych eisiau newid eich Meddyg Teulu.  I newid eich Meddyg Teulu gallwch gysylltu â'r feddygfa rydych yn dymuno cofrestru â hi, ac os bydd yn cytuno i’ch cofrestru bydd yn rhaid i chi roi eich cerdyn meddygol iddi.  Ar ôl i chi gael eich cofrestru bydd eich cofnodion meddygol yn cael ei hanfon i’ch practis newydd.

A all y practis fy nhynnu oddi ar ei gofrestr?
Os byddwch yn symud allan o’r ardal y mae’r practis yn ei gwasanaethu neu os ydych wedi cam-drin unrhyw aelod o staff y practis yn eiriol neu’n gorfforol gallwch gael eich tynnu oddi ar y gofrestr.  Dylech dderbyn rhybudd ac eglurhad cyn i hyn ddigwydd, oni bai eich bod wedi bod yn dreisgar tuag at staff. Yn yr achos hwn gallwch gael eich tynnu oddi ar y rhestr ar unwaith.

Beth gallaf ei ddisgwyl gan fy mhractis Meddyg Teulu?
Mae’n rhaid i bractisau Meddygon Teuluol ddarparu taflen yn disgrifio’r gwasanaethau sydd ar gael i gleifion, yn cynnwys oriau’r feddygfa, ymweliadau cartref, clinigau ac yn y blaen.  Mae’r rhan fwyaf o bractisau yn ceisio gweld achosion sydd ddim yn rhai brys o fewn dau ddiwrnod, fodd bynnag gall amseroedd aros ddibynnu ar faint y practis.
Mae'r gwasanaethau clinigol a gynigir gan feddygfeydd teulu yn cael eu dosbarthu'n dri chategori: hanfodol, ychwanegol ac uwch.  Dylai taflen y practis gynnwys gwybodaeth bellach am gategorïau'r gwasanaethau sydd ar gael.

A all y feddygfa godi tâl am rai gwasanaethau?
Nid yw Meddygon Teulu yn codi tâl am driniaeth sylfaenol y GIG i breswylwyr y DU, fodd bynnag efallai y byddan nhw'n codi tâl ar rai ymwelwyr tramor mewn achosion sydd ddim yn rhai brys.  Nid yw rhai gwasanaethau meddygon teulu, megis brechiadau teithio neu adroddiadau meddygol at gyflogwyr neu ddibenion yswiriant, yn dod o dan y GIG a codir tâl amdanynt.

A allaf ofyn am ymweliad cartref gan y Meddyg Teulu?
Dylai taflen y practis egluro'r rhesymau dros ymweliadau cartref ond ni allwch fynnu cael ymweliad cartef.  Yn gyffredinol dim ond os bydd Meddyg Teulu yn credu bod cyflwr meddygol y claf yn gwarantu hynny y bydd yn ymweld â chleifion yn eu cartrefi.

Sut gallaf gael mynediad i Feddyg Teulu pan fydd y feddygfa ar gau?
Os oes angen Meddyg Teulu arnoch ar ôl i’r feddygfa gau dylech ffonio’r feddygfa a gwrando ar y neges ar y peiriant ateb a fydd yn eich cyfeirio at y gwasanaeth y tu allan i oriau.

A allaf gael ail farn feddygol?
Nid oes genncyh hawl awtomatig i gael ail farn ond os nad ydych yn hapus gyda phenderfyniad eich Meddyg Teulu gallwch ofyn am weld Meddyg Teulu arall neu arbenigwr yn yr ysbyty i gael cyngor pellach.  Os bydd eich Meddyg Teulu yn cytuno â hyn mae modd trefnu apwyntiad i gael ail farn.

Oes hawl gennyf i weld fy nghofnodion meddygol?
Mae hawl gennych i weld eich cofnodion meddygol o dan y Ddeddf Diogelu Data (1998).  Gallwch wneud cais anffurfiol i weld eich cofnodion meddygol drwy gysylltu â rheolwr eich practis.  Ond, gall practisau fynnu eich bod yn gwneud cais yn ysgrifenedig a bydd rhaid iddynt ymateb i’ch cais o fewn 40 diwrnod.  Gall eich cais i weld  eich cofnodion gael ei wrthod o dan rhai amgylchiadau.  Cliciwch yma am wybodaeth bellach ar gael mynediad i'ch cofnodion iechyd.

Sut gallaf gael mynediad i Feddyg Telulu tra byddaf ar fy ngwyliau yn y DU?
Os oes angen meddyg teulu arnoch tra byddwch oddi cartref, gallwch ymweld a meddygfa arall. Gall unrhyw feddyg teulu eich trin fel claf dros dro. Os ydych i ffwrdd am fwy na 24 awr ac yn meddwl bod angen i chi weld meddyg teulu, cysylltwch â meddygfa leol dros y ffôn yn gyntaf. Fel arall, yma yng Nghymru, ffoniwch GIG 111 Cymru lle gallai Cynghorydd Nyrsio helpu gyda'ch problem. Os ydych yn bwriadu bod oddi cartref am 3 mis neu fwy dylech gofrestru gyda Meddyg Teulu gyda'ch cyfeiriad newydd cyn gynted â phosibl.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf am gwyno am fy Meddyg Teulu?
 
Mae GIG Cymru yn gweithredu proses annibynnol ar gyfer codi pryderon a chwynion o’r enw ‘Gweithio i Wella', gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses ‘Gweithio i Wella’ yma.
 
O dan Gweithio i Wella, os ydych chi'n dymuno cwyno am unrhyw agwedd o'r gwasanaethau a ddarperir gan eich meddygfa, dylech godi'r pryderon hyn yn uniongyrchol gyda'ch practis meddyg teulu, neu drwy reolwr y practis, cyn pen 12 mis ar ôl i'r digwyddiad neu'r broblem ddigwydd. Os nad ydych am ddelio â'r practis yn uniongyrchol, gallwch gysylltu â'r tîm pryderon yn eich Bwrdd Iechyd Lleol yn lle. Gall eich Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC) lleol hefyd ddarparu cyngor a chefnogaeth gyfrinachol am ddim i gleifion sydd â chwyn am wasanaethau'r GIG.

Os nad ydych yn hapus â'r ymateb terfynol i'ch cwyn, gallwch gyfeirio'ch cwyn yn uniongyrchol at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae'r Ombwdsmon yn annibynnol ar holl gyrff y llywodraeth ac mae'r gwasanaeth a ddarperir yn ddiduedd ac yn rhad ac am ddim. Gallwch ddarganfod mwy am Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru trwy edrych ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
 

Ble alla i gael cofnodion meddygon teulu sydd wedi eu archifo?

Mae llyfryn gwybodaeth a grëwyd gan GIG Cymru yn trafod 'Eich Gwybodaeth, Eich Hawliau, Yr hyn sydd angen i chi ei wybod'.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau (SSP) yn gweithredu allan o bedwar swyddfeydd yng Nghaernarfon, Yr Wyddgrug, Pontypŵl ac Abertawe ar draws tri rhanbarth, Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru a De Ddwyrain Cymru gyda Pencadlys lleoli ym Mhontypŵl. Mae SSP yn darparu amrywiaeth o wasanaethau gan gynnwys archifo cofnodion meddygol i bobl nad ydynt wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu.

Mae gwybodaeth gyswllt ar gyfer y pencadlys ym Mhontypŵl ar gael yn llawn drwy glicio yma. Byddant yn gallu eich cyfeirio at y sylfaen mwyaf priodol. Ar hyn o bryd cofnodion yn cael eu cynnal yn y gwahanol ganolfannau ledled Cymru yn dibynnu ar ba sydd agosaf at y meddyg teulu ymarfer y claf ei gofrestru diwethaf gyda.

Rhifau a Chysylltiadau Defnyddiol
I gael rhagor o wybodaeth am feddygon teulu a’u gwasanaethau, ffoniwch GIG 111 Cymru a siaradwch â Chynghorydd Gwybodaeth Iechyd neu defnyddiwch ein Gwasanaeth Ymholiadau Ar-lein.

Fel arall, gallwch gysylltu â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn eich rhanbarth a gofyn am gael siarad â 'Gwasanaethau Contractwyr'. Dilynwch y ddolen hon i dudalen gyswllt Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ddod o hyd i'r rhif ffôn perthnasol.

Dolenni allanol:

Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol
www.rcgp.org.uk

Cyngor Meddygol Cyffredinol
www.gmc-uk.org