Ymarfer Corff

Mae'r Adran Iechyd yn diffinio ymarfer corff fel gweithgarwch corfforol sydd wedi'i gynllunio i wella neu gynnal iechyd neu ffitrwydd rhywun.

 

Mae gan weithgaredd corfforol rheolaidd lawer o fuddion i iechyd, gan gynnwys iechyd meddwl a lles. Mae gan bobl sy'n gorfforol egnïol hyd at 50% yn llai o risg o ddatblygu'r prif glefydau cronig fel clefyd coronaidd y galon, strôc, diabetes a rhai canserau a llai o risg o 20-30% o farwolaeth gynamserol.

Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar sut y gellir defnyddio ymarfer corff i helpu i drin neu atal ystod eang o gyflyrau iechyd. Mae adran Ffordd o Fyw a Lles y wefan hon yn darparu gwybodaeth a chyngor ar sut y gall ymarfer corff eich helpu i wella'ch diet a'ch ffitrwydd.

Buddion ymarfer corff                                                                                                       

Profwyd bod ymarfer corff rheolaidd o fudd i unrhyw un sydd eisiau cynnal ffordd iach o fyw, colli pwysau a gwella eu lefel ffitrwydd.

Yn ogystal â helpu cynnal iechyd a ffitrwydd, mae rhaglen ymarfer corff reoledig sy'n cael ei goruchwylio'n ofalus hefyd yn cynnig buddion therapiwtig pwysig i bobl â chyflyrau iechyd cronig (tymor hir), er enghraifft:

  • dystroffi'r cyhyrau: cyflwr genetig sy'n achosi i'r cyhyrau wanhau yn raddol
  • syndrom blinder cronig (CFS): cyflwr sy'n achosi blinder cronig (gorflinder)
  • iselder: teimladau o dristwch eithafol sy'n para am sawl wythnos neu fis, neu sy'n ddigon difrifol i ymyrryd â bywyd bob dydd

 

Ymarfer corff ar gyfer adfer

Mae gan ymarfer corff rôl sylweddol mewn helpu pobl i wella ar ôl afiechyd neu anaf difrifol. Er enghraifft, os ydych chi wedi cael trawiad ar y galon, mae'n bwysig iawn aros yn weithgar i wella cryfder eich calon a lleihau'r perygl o gael trawiad arall ar y galon.

Ar ôl salwch neu gyflwr iechyd difrifol, fel problem â'r galon, mae'n bwysig bod ymarfer corff ar gyfer adfer yn cael ei gynllunio'n ofalus a'i fod yn seiliedig ar eich lefelau ffitrwydd a gweithgarwch blaenorol.

Yn y sefyllfa hon, bydd arbenigwr ymarfer corff yn gallu rhoi cymorth a chyngor i chi ynghylch faint o ymarfer corff sy'n briodol a'r lefel gywir o ran dwyster.

Cynlluniau cyfeirio ymarfer corff

Mae cynlluniau cyfeirio ymarfer corff wedi'u cynllunio i helpu pobl a fyddai'n elwa ar wneud ymarfer corff yn rheolaidd. Maent wedi'u hanelu at bobl â chyflyrau meddygol sy'n peryglu eu hiechyd a phobl sydd mewn perygl oherwydd nad yw eu ffordd o fyw yn weithgar.

Mae'r Adran Iechyd yn argymell y dylai cynlluniau cyfeirio ymarfer corff fod ar gael ar gyfer pobl sy'n bodloni meini prawf penodol. Caiff y rhain eu rhedeg fel arfer gan gynghorau lleol mewn partneriaeth â byrddau iechyd lleol.

I fod yn gymwys i gymryd rhan mewn cynllun cyfeirio ymarfer corff, rhaid bod gennych gyflwr meddygol fel:

  • pwysedd gwaed uchel (gorbwysedd)
  • diabetes math 2
  • gordewdra
  • asthma
  • iselder, gorbryder neu straen
  • osteoarthritis
  • clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD)

Mae'r rhestr o gyflyrau iechyd yn agored i newid, felly gofynnwch i'ch meddyg teulu am restr lawn a chyfoes.

Yn ystod cynllun cyfeirio ymarfer corff, byddwch yn cyfarfod ag arbenigwr ymarfer corff, fel hyfforddwr personol, ar gyfer sawl sesiwn yr wythnos. Bydd eich hyfforddwr yn cynllunio rhaglen ymarfer corff sydd wedi'i theilwra'n arbennig yn unol â'ch anghenion a'ch gofynion. Gallant hefyd gynnig cymorth ac arweiniad i chi trwy gydol y cwrs.

Mae cynlluniau cyfeirio ymarfer corff fel arfer yn para am ryw 10 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn dysgu sut gall ymarfer corff gael effaith gadarnhaol ar eich iechyd a'ch lles.

Bydd eich datblygiad yn cael ei fonitro'n agos trwy gydol y cwrs. Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn cyfarfod eich hyfforddwr i adolygu eich cynnydd. Bydd yn gallu rhoi mwy o gymorth a chyngor i chi ynghylch sut i gynnal y newidiadau i'ch ffordd o fyw yn y tymor hir.