Clunwst yw'r enw a roddir ar unrhyw fath o boen sy'n cael ei achosi gan lid, neu gywasgu'r nerf clunol.
Y nerf clunol yw'r nerf hiraf yn eich corff. Mae'n rhedeg o gefn eich pelfis, drwy eich ffolennau, a'r holl ffordd i lawr y ddwy goes, gan ddod i derfyn wrth eich traed.
Mae unrhyw beth sy'n cywasgu'r nerf clunol, neu'n ei lidio, yn gallu achosi poen sy'n ymledu o waelod eich cefn, ac sy'n teithio i lawr eich coes i groth eich coes. Gall poen clunwst amrywio o fod yn ysgafn i fod yn boenus iawn.
Disg wedi llithro yw'r peth mwyaf cyffredin sy'n achosi clunwst, ond mewn rhai achosion nid oes achos amlwg (trowch at Clunwst – achosion i gael gwybod rhagor).
Mathau o glunwst
Mae dau fath o glunwst:
- clunwst acíwt - sef clunwst nad yw'n para mwy na chwe wythnos, a
- chlunwst gronig - sef clunwst sy'n para mwy na chwe wythnos.
Bydd y rhan fwyaf o achosion o glunwst acíwt yn diflannu heb fod angen triniaeth. Gall defnyddio cyfuniad o gyffuriau lladd poen dros y cownter, ymarfer corff, a phaciau poeth, neu oer, helpu i leddfu symptomau clunwst yn aml.
Yn achos clunwst gronig, efallai y bydd angen ymarfer corff strwythuredig arnoch o dan oruchwyliaeth ffisiotherapydd. Mewn achosion prin iawn, mae'n bosibl y bydd angen llawdriniaeth i reoli'r symptomau.
Rhagolwg
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylwi bod eu poen clunol yn diflannu'n naturiol ymhen ychydig ddyddiau neu wythnosau. Fodd bynnag, ewch at y meddyg:
- os byddwch chi'n cael unrhyw symptomau eraill ynghyd â'ch poen cefn a choes, fel colli pwysau neu golli rheolaeth ar y bledren neu'r perfedd
- os byddwch chi'n cael mwy a mwy o boen ac anesmwythder
- os yw eich poen yn rhy ddifrifol i'w reoli ar eich pen eich hun
Yn yr achosion hyn, dylai eich meddyg edrych i weld a oes problem fwy difrifol yn achosi eich poen.