Niwmonia

Cyflwyniad

Niwmonia yw chwyddo (llid) y meinwe mewn un ysgyfaint neu'r ddau.  Fel arfer, caiff ei achosi gan haint bacteriol.

Ar ddiwedd y tiwbiau anadlu yn eich ysgyfaint mae clystyrau o sachau aer bach.

Os oes gennych niwmonia, mae'r sachau bach hyn yn mynd yn llidus ac yn llenwi â hylif.

Symptomau niwmonia

Gall symptomau niwmonia ddatblygu'n sydyn dros 24 i 48 awr, neu efallai y byddan nhw'n dod i'r amlwg yn arafach dros sawl diwrnod.

Mae symptomau cyffredin niwmonia yn cynnwys:

  • peswch – a all fod yn sych, neu'n cynhyrchu mwcws trwchus melyn, gwyrdd, brown neu waedlyd (fflem)
  • trafferth anadlu – gall eich anadlu fod yn gyflym ac yn fas, ac efallai y byddwch chi'n teimlo'n brin eich anadl, hyd yn oed wrth orffwys
  • curiad calon cyflym
  • tymheredd uchel
  • teimlo'n sâl yn gyffredinol
  • chwysu a chrynu
  • colli chwant bwyd
  • poen yn y frest – sy'n gwaethygu wrth anadlu neu besychu

Mae symptomau llai cyffredin yn cynnwys:

  • pesychu gwaed (haemoptysis)
  • cur pen
  • blinder
  • teimlo fel chwydu neu yn chwydu
  • gwichian
  • poen yn y cymalau a'r cyhyrau
  • teimlo'n ddryslyd ac yn ffwndrus, yn enwedig ymhlith pobl oedrannus

Pryd y dylech fynd i weld eich meddyg teulu

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych chi’n teimlo'n sâl ac mae gennych symptomau nodweddiadol o niwmonia.

Ceisiwch sylw meddygol brys os ydych yn dioddef symptomau difrifol, fel anadlu'n gyflym, poen yn y frest neu’n teimlo’n ddryslyd.

Pwy sy’n cael eu heffeithio?

Yn y DU, mae niwmonia yn effeithio ar tua 0.5 i 1% o oedolion bob blwyddyn. Mae'n fwy eang yn yr hydref a'r gaeaf.

Gall niwmonia effeithio ar bobl o unrhyw oed, ond mae'n fwy cyffredin, a gall fod yn fwy difrifol, mewn rhai grwpiau o bobl, fel plant ifanc iawn neu'r henoed.

Mae pobl yn y grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod angen triniaeth ysbyty os byddan nhw'n datblygu niwmonia.

Beth sy’n achosi niwmonia?

Mae niwmonia fel arfer yn ganlyniad haint niwmococol, a achosir gan facteria o'r enw Streptococcus pneumoniae.

Gall llawer o wahanol fathau o facteria, gan gynnwys ffliw Haemophilus a Staphylococcus aureus, hefyd achosi niwmonia, yn ogystal â firysau ac, yn fwy prin, ffyngau.

Yn ogystal â niwmonia bacteriol, mae mathau eraill yn cynnwys:

  • niwmonia firaol – achosir hyn gan amlaf gan y feirws syncytiol anadlol (RSV) ac weithiau math A neu B o’r ffliw; mae firysau’n achos cyffredin o niwmonia ymhlith plant ifanc
  • niwmonia allsugno – achosir hyn drwy anadlu cyfog i mewn, gwrthrych estron, fel cnau mwnci, neu sylwedd niweidiol, fel mwg neu gemegyn
  • niwmonia ffwngaidd – mae'n brin yn y DU ac yn fwy tebygol o effeithio ar bobl sydd â system imiwnedd gwan
  • niwmonia wedi'i gaffael mewn ysbyty – niwmonia sy'n datblygu yn yr ysbyty wrth gael eich trin am gyflwr arall neu wrth gael llawdriniaeth; mae pobl sydd mewn gofal dwys ar beiriannau anadlu mewn perygl penodol o ddatblygu niwmonia sy'n gysylltiedig â pheiriant anadlu

Grwpiau risg

Mae mwy o risg i'r grwpiau canlynol ddatblygu niwmonia:

  • babanod a phlant ifanc iawn
  • pobl oedrannus
  • pobl sy'n ysmygu
  • pobl sydd â chyflyrau iechyd eraill, fel asthma, ffibrosis systig, neu gyflwr y galon, aren neu afu
  • pobl sydd â system imiwnedd wan - er enghraifft, o ganlyniad i salwch diweddar, fel y ffliw, cael HIV neu AIDS, cael cemotherapi, neu gymryd meddyginiaeth yn dilyn trawsblaniad organ

Rhoi diagnosis o niwmonia

Efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu rhoi diagnosis o niwmonia trwy ofyn am eich symptomau ac archwilio eich brest.

Efallai y bydd angen mwy o brofion mewn rhai achosion.

Gall fod yn anodd rhoi diagnosis o niwmonia am ei fod yn rhannu llawer o symptomau â chyflyrau eraill, fel annwyd, broncitis ac asthma.

I helpu i wneud diagnosis, efallai bydd meddyg teulu yn gofyn i chi:

  • p'un a ydych chi'n teimlo'n brin eich anadl neu os ydych chi'n anadlu'n gynt na'r arfer
  • pa mor hir rydych chi wedi cael eich peswch, ac a ydych chi'n pesychu mwcws a pha liw ydyw
  • os yw'r boen yn eich brest yn waeth wrth anadlu i mewn neu allan

Gall meddyg teulu hefyd gymryd eich tymheredd a gwrando ar eich brest a'ch cefn gyda stethosgop i wirio am unrhyw synau cracio neu ratlo.

Efallai y bydd hefyd yn gwrando ar eich brest drwy ei thapio. Mae ysgyfaint sy'n llawn hylif yn cynhyrchu sŵn gwahanol i ysgyfaint iach arferol.

Os oes gennych niwmonia ysgafn, mae’n debyg na fydd angen i chi gael pelydr-X ar y frest nac unrhyw brofion eraill.

Efallai y bydd angen pelydr-X ar y frest neu brofion eraill, fel prawf poer (mwcws) neu brofion gwaed, os nad yw eich symptomau wedi gwella o fewn 48 awr ar ôl dechrau'r driniaeth.

Trin niwmonia

Fel arfer, gellir trin niwmonia ysgafn gartref trwy:

Os nad oes gennych unrhyw broblemau iechyd eraill, dylech ymateb yn dda i driniaeth a gwella'n gyflym, er y gall eich peswch bara am beth amser.

Fel arfer, mae'n ddiogel i rywun sydd â niwmonia fod o gwmpas pobl eraill, gan gynnwys aelodau o'r teulu.

Ond mae pobl sydd â system imiwnedd wan yn llai abl i frwydro yn erbyn heintiau, felly mae'n well iddyn nhw osgoi cyswllt agos â pherson sydd â niwmonia.

Ar gyfer grwpiau sydd mewn perygl, gall niwmonia fod yn ddifrifol ac efallai y bydd angen ei drin yn yr ysbyty.

Y rheswm am hyn yw y gall arwain at gymhlethdodau difrifol, a allu fod yn angheuol mewn rhai achosion, gan ddibynnu ar iechyd ac oedran person.

Cynhlethdodau niwmonia

Mae cymhlethdodau niwmonia yn fwy cyffredin ymhlith plant ifanc, yr henoed a'r rheiny sydd eisoes â chyflyrau iechyd, fel diabetes.

Mae cymhlethdodau posibl niwmonia yn cynnwys:

  • pliwrisi – lle mae'r leinin tenau rhwng eich ysgyfaint a'ch asennau (pliwra) yn mynd yn llidus, sy'n gallu arwain at fethiant anadlol
  • casgliad yn yr ysgyfaint – cymhlethdod prin sydd i'w weld yn bennaf mewn pobl sydd eisoes â salwch difrifol neu hanes o gamddefnyddio alcohol difrifol.
  • gwenwyn yn y gwaed (septisemia) – cymhlethdod prin ond difrifol

Byddwch yn cael eich derbyn i'r ysbyty am driniaeth os byddwch yn datblygu un o'r cymhlethdodau hyn.

Atal niwmonia

Er bod y rhan fwyaf o achosion o niwmonia yn facteria ac nid ydynt yn cael eu trosglwyddo o un person i'r llall, bydd sicrhau safonau da o hylendid yn helpu atal germau rhag lledaenu.

Er enghraifft, dylech:

  • orchuddio’ch ceg a'ch trwyn gyda hances boced neu hances bapur pan fyddwch chi'n peswch neu'n tisian
  • taflu hancesi wedi’u defnyddio yn syth - gall germau fyw am sawl awr ar ôl iddynt adael eich trwyn neu eich ceg
  • golchi eich dwylo'n rheolaidd er mwyn osgoi trosglwyddo germau i bobl neu wrthrychau eraill

Gall ffordd iach o fyw hefyd helpu atal niwmonia. Er enghraifft, dylech osgoi smygu gan ei fod yn niweidio’ch ysgyfaint a chynyddu'r siawns o haint.

Darganfyddwch sut i stopio smygu.

Mae camddefnyddio alcohol yn ormodol a dros gyfnod estynedig hefyd yn gwanhau amddiffynfeydd naturiol eich ysgyfaint yn erbyn heintiau, gan eich gwneud chi'n fwy agored i niwmonia.

Dylai pobl sydd â risg uchel o niwmonia gael cynnig y brechlyn niwmococol a brechlyn y ffliw.

Triniaeth

Triniaeth

Fel arfer, gellir trin niwmonia ysgafn gartref gyda gorffwys, gwrthfiotigau a thrwy yfed digon o hylifau. Efallai y bydd angen triniaeth ysbyty ar achosion mwy difrifol.

Oni bai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn dweud wrthych fel arall, dylech bob amser orffen cymryd cwrs rhagnodedig o wrthfiotigau, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n well.

Os byddwch chi'n rhoi'r gorau i gymryd gwrthfiotig yn ystod y cwrs, gall y bacteria ddatblygu ymwrthedd i'r gwrthfiotig.

Ar ôl dechrau triniaeth, dylai eich symptomau wella'n raddol.

Fodd bynnag, bydd pa mor gyflym maen nhw'n gwella yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw eich niwmonia.

Fel canllaw cyffredinol, ar ôl:

  • wythnos – dylai tymheredd uchel fod wedi mynd
  • pedair wythnos – dylai poen yn y frest a chynhyrchu mwcws fod wedi lleihau'n sylweddol
  • chwe wythnos – dylai peswch a diffyg anadl fod wedi lleihau'n sylweddol
  • tri mis - dylai'r rhan fwyaf o symptomau fod wedi gwella, ond mae'n bosibl y byddwch chi'n dal i deimlo'n flinedig iawn (blinder)
  • chwe mis – bydd y rhan fwyaf o bobl yn teimlo fel eu bod nhw’n teimlo’n  normal eto

Triniaeth gartref

Ewch i weld eich Meddyg Teulu os nad yw eich symptomau'n gwella o fewn tri diwrnod ar ôl dechrau gwrthfiotig.

Efallai na fydd y symptomau’n gwella os:

  • oes gan bacteria sy'n achosi'r haint ymwrthedd i wrthfiotigau – gall eich meddyg teulu ragnodi gwrthfiotig gwahanol, neu gall ragnodi ail wrthfiotig i chi ei gymryd gyda'r un cyntaf
  • mai feirws sy’n achosi'r haint, yn hytrach na bacteria – nid yw gwrthfiotigau yn cael unrhyw effaith ar firysau, a bydd system imiwnedd eich corff yn gorfod brwydro yn erbyn yr haint feirol drwy greu gwrthgyrff

Gall poenladdwyr fel paracetamol neu ibuprofen, helpu i leddfu poen a lleihau twymyn.

Fodd bynnag, ni ddylech gymryd ibuprofen os oes gennych:

Ni argymhellir meddyginiaethau peswch gan nad oes llawer o dystiolaeth eu bod yn effeithiol. Gall diod mêl a lemwn cynnes helpu i leddfu anesmwythder a achosir gan beswch.

Gall eich peswch barhau am bythefnos i dair wythnos ar ôl i chi orffen eich cwrs o wrthfiotigau, ac efallai y byddwch yn teimlo'n flinedig am gyfnod hirach hyd yn oed wrth i'ch corff barhau i wella.

Dylech yfed digon o hylifau er mwyn osgoi dadhydradu, a chael digon o orffwys i helpu eich corff i wella.

Os ydych chi'n smygu, mae'n bwysicach nag erioed i stopio, gan fod smygu’n niweidio eich ysgyfaint.

Darllenwch fwy am driniaethau rhoi’r gorau i smygu a sut i roi’r gorau i smygu.

Ewch i weld eich meddyg teulu os, yw’ch cyflwr, ar ôl dilyn y mesurau hunangymorth uchod, yn dirywio neu ddim yn gwella yn ôl y disgwyl.

Apwyntiad dilynol

Mae'n debyg y bydd eich meddyg teulu yn trefnu apwyntiad dilynol i chi tua chwe wythnos ar ôl i chi ddechrau eich cwrs o wrthfiotigau.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn trefnu profion dilynol, fel pelydr-X o’r frest, os:

  • nad yw’ch symptomau wedi gwella
  • yw eich symptomau wedi dychwelyd
  • ydych chi'n smygu
  • ydych chi dros 50 oed

Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu cynghori i gael brechiad y ffliw neu frechiad niwmococol ar ôl gwella o niwmonia.

Triniaeth yn yr ysbyty

Efallai y byddwch angen triniaeth arnoch yn yr ysbyty os yw'ch symptomau'n ddifrifol. Byddwch yn cael gwrthfiotigau a hylifau'n fewnwythiennol trwy ddiferwr, ac efallai y bydd angen ocsigen arnoch i'ch helpu i anadlu.

Mae'n debyg na fyddwch yn cael gwrthfiotigau os yw'r achos yn debygol o fod yn feirws, fel coronafeirws. Y rheswm am hyn yw oherwydd nad yw gwrthfiotigau'n gweithio ar gyfer heintiau firaol.

Efallai y byddwch yn cael hylifau'n fewnwythiennol hefyd trwy ddiferwr, ac efallai y bydd angen ocsigen arnoch i'ch helpu i anadlu.

Mewn achosion difrifol iawn o niwmonia, efallai y bydd angen cymorth anadlu trwy beiriant anadlu mewn uned gofal dwys (ICU).

Niwmonia allsugno

Os ydych chi wedi anadlu gwrthrych i mewn sy'n achosi niwmonia, efallai y bydd angen ei dynnu oddi yno.

I wneud hyn, efallai y bydd offeryn o'r enw broncosgop yn cael ei ddefnyddio i edrych i mewn i'ch llwybrau anadlu a'ch ysgyfaint fel y gellir lleoli a symud y gwrthrych. Gelwir y weithdrefn hon yn broncosgopi.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 21/12/2022 15:01:37