Diffyg traul

Cyflwyniad

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael diffyg traul rywbryd. Fel arfer, nid yw'n arwydd o ddim byd mwy difrifol a gallwch ei drin eich hun.

Sut i wybod os oes gennych ddiffyg traul (dyspepsia)

Gallwch gael y symptomau canlynol ar ôl bwyta neu yfed:

  • dŵr poeth/llosg cylla - teimlad llosgi, poenus yn y frest, yn aml ar ôl bwyta
  • teimlo'n llawn ac yn chwyddedig
  • teimlo'n sâl
  • bytheirio a thorri gwynt
  • dod â bwyd neu hylifau blas chwerw yn ôl i fyny

Pryd nad yw'n ddiffyg traul

Fel rheol, nid yw stumog ddrwg neu boen cefn yn symptomau diffyg traul. Os oes gennych y symptomau hynny, efallai'ch bod chi'n rhwym.

Diffyg traul, dŵr poeth ac adlif asid – beth yw'r gwahaniaeth?

Yr un peth yw diffyg traul ac adlif asid - sef pan ddaw asid o'ch stumog i fyny i'ch gwddf.  Byddwch yn teimlo llosgi pan fydd hyn yn digwydd.  Gall fod yn symptom diffyg traul.

Sut gallwch drin diffyg traul eich hun

Fel arfer, nid oes angen gweld meddyg teulu ar gyfer diffyg traul.  Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud gartref:

  • yfwch lai o de, coffi, cola neu alcohol
  • codwch eich pen a'ch ysgwyddau ychydig pan fyddwch yn y gwely – gall hyn atal asid y stumog rhag dod i fyny tra byddwch chi'n cysgu 
  • collwch bwysau os ydych chi dros eich pwysau

Peidiwch â:

  • bwyta 3 i 4 awr cyn mynd i'r gwely
  • bwyta bwydydd cyfoethog, sbeislyd na brasterog
  • cymryd ibuprofen nac aspirin – gall hyn wneud diffyg traul yn waeth 
  • ysmygu

Gall fferyllydd helpu gyda diffyg traul

Mae diffyg traul yn un o'r cyflyrau a gwmpesir gan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion gael mynediad ato i gael cyngor am ddim a thriniaeth am ddim ac sydd ar gael mewn 99% o fferyllfeydd yng Nghymru.
Dewch o hyd i'ch fferyllfa agosaf yma.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y gwasanaeth yma.

Gall fferyllydd argymell meddyginiaethau a fydd yn llacio'r teimlad llosg neu'r poen a all ddod gyda diffyg traul.

Mae meddyginiaethau sy'n helpu lleihau'r asid yn eich stumog yn cynnwys

  • gwrthasidau
  • atalyddion pwmp proton.

Cymryd meddyginiaethau diffyg traul ar ôl bwyta sydd orau yn achos rhai meddyginiaethau, gan fod eu heffeithiau'n para'n hwy. Gwiriwch y daflen wybodaeth sy'n dod gyda'r meddyginiaethau i gael rhagor o wybodaeth.

Dod o hyd i fferyllfa.

Menywod beichiog: trin diffyg traul

Mae menywod beichiog yn aml yn cael diffyg traul. Mae'n gyffredin iawn o wythnos 27 ymlaen. 

Gall gael ei achosi gan newidiadau hormonaidd a'r baban sy'n tyfu yn gwasgu yn erbyn y stumog.

Gall fferyllydd helpu gyda theimladau anghyfforddus neu boen. Gall argymell y meddyginiaethau gorau i'w defnyddio pan fyddwch chi'n feichiog.

Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi:

  • yn cadw cael diffyg traul
  • mewn poen mawr
  • yn 55 oed neu'n hŷn
  • wedi colli llawer o bwysau heb fwriadu gwneud
  • yn cael trafferth llyncu (dysffagia)
  • yn cadw chwydu
  • os oes gennych anemia diffyg haearn
  • yn teimlo fel pe bai lwmp yn eich stumog
  • os oes gennych chwyd neu garthion gwaedlyd

Gall y symptomau hyn fod yn arwydd o rywbeth mwy difrifol.

Beth sy'n achosi diffyg traul

Gall yr asid yn eich stumog lidio leinin y stumog neu'ch gwddf. Mae hyn yn achosi diffyg traul ac mae'n rhoi poen a theimlad o losgi i chi.

Gall pethau eraill sy'n achosi diffyg traul gynnwys:

  • meddyginiaethau
  • ysmygu
  • alcohol

Gall straen wneud diffyg traul yn waeth.

Afiechydon sy'n gallu achosi diffyg traul



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30/11/2022 10:19:36