Clust ludiog (glue ear)

Cyflwyniad

Yn achos clust ludiog, bydd rhan ganol, wag, tiwb y glust yn llenwi gyda hylif. Gellir colli clyw am gyfnod o ganlyniad i hyn. Fel arfer, mae'n gwella ymhen 3 mis, ond ewch i weld meddyg teulu os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r clyw.

Gwirio ai clust ludiog yw'r broblem

Symptom mwyaf cyffredin clust ludiog yw colli'r clyw am gyfnod dros dro. Gall effeithio ar y ddwy glust ar yr un pryd.

Gall symptomau eraill gynnwys:

  • pigyn clust neu boen clust
  • clywed seiniau fel canu neu suo (tinitws)

Mae clust ludiog yn fwy cyffredin o lawer ymhlith plant, ond mae oedolion â chlust ludiog yn cael yr un symptomau.

Cyflyrau eraill sy'n achosi poen clust

  • Symptom poen clust gyda newid yn y clyw - cyflwr posibl yw croniad o gŵyr clustiau, gwrthrych wedi'i ddal yn gaeth yn y glust (peidiwch â cheisio'i dynnu eich hun - ewch at eich meddyg teulu), tympan tyllog y glust (yn enwedig ar ôl sŵn mawr neu ddamwain)
  • Symptom poen clust gyda'r ddannoedd - gallai torri dannedd ymhlith plant neu grawniad deintiol fod yn gyflyrau posibl
  • Symptom poen clust gyda phoen wrth lyncu - gallai dolur gwddf neu donsilitis fod yn gyflyrau posibl 
  • Gallai'r symptom fod yn boen clust gyda thwymyn - gallai haint y glust, y ffliw neu annwyd fod yn gyflyrau posibl

Ewch i weld meddyg teulu os ydych chi neu eich plentyn yn cael problemau gyda'r clyw

Gallai eich plentyn fod yn cael trafferth clywed os yw'n aml:

  • yn siarad yn uwch neu'n dawelach na'r arfer
  • yn anodd ei ddeall
  • yn gofyn i bobl ailadrodd pethau
  • yn gofyn am droi'r teledu neu gerddoriaeth i fyny'n uchel
  • yn cael trafferth clywed pobl sy'n bell i fwrdd
  • yn colli diddordeb yn hawdd pan fydd pobl yn siarad
  • yn ymddangos yn flinedig ac yn bigog oherwydd ei bod hi'n fwy anodd gwrando 

Beth fydd yn digwydd yn eich apwyntiad

Fel arfer, gall eich meddyg teulu wneud diagnosis o glust ludiog trwy chwilio am hylif y tu mewn i'r glust.

Bydd yn defnyddio microsgop bach â chwyddwydr a golau. Ni ddylai hyn fod yn boenus.

Os yw eich plentyn wedi cael clust ludiog am fwy na 3 mis, gallai gael ei gyfeirio at arbenigwr i gael profion clyw.

Gall profion clyw helpu i ddarganfod pa mor ddifrifol yw unrhyw golled clyw a beth sy'n ei achosi.

Triniaeth gan feddyg teulu

Nid yw clust ludiog bob amser yn cael ei thrin. Fel arfer, bydd eich meddyg teulu'n aros i weld p'un a fydd y symptomau'n gwella ar eu pen eu hunain.

Mae hyn oherwydd nad oes meddyginiaeth effeithiol ar gyfer clust ludiog ac mae'n aml yn gwella ar ei ben ei hun ymhen 3 mis.

Gallai'r meddyg teulu barhau i fonitro'ch plentyn am hyd at flwyddyn, rhag ofn y bydd y symptomau'n newid neu'n gwaethygu.

Gallai eich meddyg teulu awgrymu rhoi cynnig ar driniaeth o'r enw awto-enchwythu (autoinflation) tra'n aros i'r symptomau wella. Gall awto-enchwythu helpu'r hylif yn y glust i ddraenio.

Fe'i gwneir naill ai:

  • trwy chwyddo balŵn arbennig gan ddefnyddio un ffroen ar y tro, neu
  • lyncu tra'n dal y ffroenau ynghau

Oherwydd bod yn rhaid awto-enchwythu sawl gwaith y dydd, ni chaiff ei argymell i blant o dan 3 oed fel arfer.

Os bydd clust ludiog yn achosi haint y glust, gallai eich meddyg teulu roi gwrthfiotigau ar bresgripsiwn.

Triniaeth ysbyty ar gyfer clust ludiog

Gallai eich plentyn gael ei gyfeirio at arbenigwr mewn ysbyty:

  • os yw symptomu clust ludiog yn effeithio ar ei ddysgu a'i ddatblygiad
  • os oedd wedi colli'r clyw yn ddifrifol cyn datblygu clust ludiog
  • os yw wedi cael diagnosis o syndrom Down neu daflod a gwefus hollt, oherwydd bod clust ludiog yn annhebygol o wella ar ei ben ei hun

Y ddwy brif driniaeth yw cael cymhorthion clyw dros dro neu romedau.

Mewn achosion prin, gellir argymell llawdriniaeth i dynnu rhai chwarennau yng nghefn y trwyn (yr adenoidau). Yr enw ar y driniaeth hon yw adenoidectomi.

Bydd yr arbenigwr yn yr ysbyty yn eich helpu i benderfynu ar y dewis gorau o ran triniaeth.

Gromedau i drin clust ludiog

Mae gromedau yn diwbiau dros dro bach sy'n cael eu gosod yng nghlust eich plentyn yn ystod llawdriniaeth. Maent yn helpu i ddraenio hylif o'r glust a chadw thympan y glust ar agor.

Dylai'r gromed ddod allan yn naturiol o fewn 6 i 12 mis wrth i glust eich plentyn wella.

Os bydd angen gromedau ar eich plentyn, gallai'r dolenni canlynol fod yn ddefnyddiol i chi:



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 14/08/2023 10:05:56