Alergedd bwyd

Cyflwyniad

Food Allergy
Food Allergy

Alergedd bwyd yw pan fydd system imiwnedd y corff yn cael adwaith anghyffredin i fwydydd penodol. Er bod adweithiau alergaidd yn ysgafn yn aml, gallant fod yn ddifrifol iawn.

Gall symptomau alergedd bwyd effeithio ar wahanol rannau o'r corff ar yr un pryd. Mae rhai symptomau cyffredin yn cynnwys:

  • cosi yn y geg, y gwddf neu'r clustiau
  • brech goslyd wedi codi ar y croen (brech y danadl, neu losg danadl)
  • yr wyneb yn chwyddo o gwmpas y llygaid, y gwefusau, y tafod a thaflod y genau (angioedema)
  • chwydu

Darllenwch fwy am symptomau alergeddau bwyd.

Anaffylacsis

Yn yr achosion mwyaf difrifol, mae unigolyn yn cael adwaith alergaidd difrifol (anaffylacsis), sy'n gallu bygwth bywyd.

Ffoniwch 999 os byddwch chi'n amau bod gan rywun symptomau anaffylacsis, fel:

  • anawsterau anadlu
  • trafferth llyncu neu siarad
  • teimlo'r bendro neu deimlo'n benysgafn

Gofynnwch am ambiwlans a dywedwch wrth y sawl a atebodd y ffôn eich bod yn tybio bod yr unigolyn yn cael adwaith alergaidd difrifol. 

Beth sy'n achosi alergeddau bwyd?

Mae alergeddau bwyd yn digwydd pan fydd y system imiwnedd – sef amddiffyniad y corff rhag haint – yn trin proteinau mewn bwyd fel bygythiad, a hynny ar gam.

O ganlyniad, caiff nifer o gemegion eu rhyddhau. Y cemegion hyn sy'n achosi symptomau adwaith alergaidd.

Gall bron unrhyw fwyd achosi adwaith alergaidd, ond mae rhai bwydydd penodol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o alergeddau bwyd.

Dyma'r bwydydd sy'n achosi adwaith alergaidd yn fwyaf cyffredin:

  • llaeth
  • wyau
  • cnau daear
  • cnau coed
  • pysgod
  • pysgod cregyn
  • rhai ffrwythau a llysiau

Bydd y rhan fwyaf o blant sydd ag alergedd bwyd wedi cael ecsema yn ystod babandod. Y gwaeth yw ecsema'r plentyn a'r cynharach y dechreuodd, y mwy tebygol yw'r plentyn o fod ag alergedd bwyd.

Nid yw'n hysbys pam mae pobl yn datblygu alergeddau i fwyd ond, yn aml, bydd ganddynt gyflyrau alergaidd eraill hefyd, fel asthma, clefyd y gwair ac ecsema.

Darllenwch fwy o wybodaeth am achosion a ffactorau risg alergeddau bwyd

Mathau o alergeddau bwyd

Rhennir alergeddau bwyd yn dri math, yn dibynnu ar y symptomau a phryd maen nhw'n digwydd.

  • alergedd bwyd IgE-gyfryngol – y math mwyaf cyffredin, sy'n cael ei ysgogi wrth i'r system imiwnedd gynhyrchu gwrthgorff o'r enw imiwnoglobwlin E (IgE). Bydd symptomau'n digwydd ychydig eiliadau neu funudau ar ôl bwyta. Mae mwy o risg anaffylacsis yn achos y math hwn o alergedd.
  • alergedd bwyd nad yw'n IgE-gyfryngol – nid yw'r adweithiau alergaidd hyn yn cael eu hachosi gan imiwnoglobwlin E, ond gan gelloedd eraill yn y system imiwnedd. Yn aml, mae'n anodd gwneud diagnosis o'r math hwn o alergedd gan fod symptomau'n cymryd mwy o lawer o amser i ddatblygu (hyd at ychydig oriau).
  • alergeddau bwyd cymysg IgE-gyfryngol ac alergeddau nad ydynt yn IgE-gyfryngol – gallai rhai pobl gael symptomau oherwydd y ddau fath.

Darllenwch fwy o wybodaeth am symptomau alergedd bwyd.

Syndrom alergedd yn y geg (syndrom bwyd-paill)

Gall rhai pobl deimlo cosi yn eu ceg a'u gwddf, weithiau gyda mymryn o chwyddo, yn syth ar ôl bwyta ffrwythau neu lysiau ffres. Yr enw ar hyn yw syndrom alergedd yn y geg.

Mae syndrom alergedd yn y geg yn cael ei achosi pan fydd gwrthgyrff alergeddau yn camgymryd proteinau penodol mewn ffrwythau, cnau neu lysiau ffres am baill.

Yn gyffredinol, nid yw syndrom alergedd yn y geg yn achosi symptomau difrifol ac mae'n bosibl dadactifadu'r alergenau trwy goginio unrhyw ffrwythau a llysiau yn drylwyr.

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Allergy UK.

Triniaeth

Y ffordd orau o atal adwaith alergaidd yw nodi'r bwyd sy'n achosi'r alergedd a'i osgoi.

Ar hyn o bryd, mae ymchwil yn archwilio ffyrdd o ddadsensiteiddio rhai alergenau bwyd, fel cnau daear a llaeth, ond nid yw hyn yn driniaeth sefydledig yn y GIG.

Darllenwch fwy am nodi bwydydd sy'n achosi alergeddau (alergenau).

Osgowch wneud unrhyw newidiadau pellgyrhaeddol, fel torri cynnyrch llaeth allan o'ch diet chi neu ddiet eich plentyn, heb siarad â'ch meddyg teulu yn y lle cyntaf. Yn achos rhai bwydydd, fel llaeth, gall fod angen i chi siarad â dietegydd cyn gwneud unrhyw newidiadau.

Gall cyffuriau gwrth-histamin helpu i leddfu symptomau adwaith alergaidd ysgafn neu gymedrol. Yn aml, bydd angen dos uwch o gyffur gwrth-histamin i reoli symptomau alergaidd acíwt.

Mae adrenalin yn driniaeth effeithiol ar gyfer symptomau alergaidd mwy difrifol, fel anaffylacsis.

Yn aml, bydd dyfais o'r enw pin awto-chwistrellu yn cael ei rhoi i bobl ag alergedd bwyd. Mae'r ddyfais hon yn cynnwys dosys o adrenalin i'w defnyddio mewn argyfwng.

Darllenwch fwy am driniaeth alergeddau bwyd

Pryd i geisio cyngor meddygol

Os ydych chi'n amau bod gennych chi neu fod gan eich plentyn alergedd bwyd, mae'n bwysig gofyn am ddiagnosis proffesiynol gan eich meddyg teulu. Yna, gall y meddyg teulu eich atgyfeirio i glinig alergeddau, os bydd hynny'n briodol.

Mae llawer o rieni yn tybio ar gam fod gan eu plentyn alergedd bwyd pan fydd cyflwr cwbl wahanol yn achosi ei symptomau mewn gwirionedd.

Mae pecynnau masnachol ar gael ar gyfer profi alergeddau, ond nid yw eu defnyddio'n cael ei argymell. Mae llawer o becynnau wedi'u seilio ar egwyddorion gwyddonol anniogel. Hyd yn oed os ydyn nhw'n ddibynadwy, dylai gweithiwr iechyd proffesiynol edrych ar y canlyniadau.

Darllenwch fwy am wneud diagnosis o alergeddau bwyd.

Pwy sy'n cael eu heffeithio?

Mae'r rhan fwyaf o alergeddau bwyd yn effeithio ar blant iau, o dan dair oed.

Bydd y mwyafrif o blant ifanc iawn sydd ag alergeddau i laeth, wyau, soia a gwenith yn 'tyfu allan' ohonynt erbyn iddynt ddechrau yn yr ysgol.

Fel arfer, mae alergeddau i gnau daear a chnau coed yn fwy parhaus. 

Mae alergeddau bwyd sy'n datblygu mewn oedolion, neu sy'n parhau mewn oedolion, yn debygol o fod yn alergeddau gydol oes.

Am resymau aneglur, mae cyfraddau alergeddau bwyd wedi codi'n sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Fodd bynnag, mae marwolaethau sy'n deillio o adweithiau i fwyd yn gysylltiedig ag anaffylacsis yn brin iawn erbyn hyn.

Beth yw anoddefiad bwyd?

Nid yw anoddefiad bwyd yr un peth ag alergedd bwyd.

Gallai pobl ag anoddefiad bwyd gael symptomau fel dolur rhydd, bol chwyddedig a chrampiau'r stumog. Gall anawsterau wrth dreulio sylweddau penodol, fel lactos, achosi hyn. Fodd bynnag, nid oes adwaith alergaidd yn digwydd.

Mae gwahaniaethau pwysig rhwng alergedd bwyd ac anoddefiad bwyd yn cynnwys:

  • fel arfer, bydd symptomau anoddefiad bwyd yn digwydd nifer o oriau ar ôl bwyta'r bwyd
  • bydd angen i chi fwyta mwy o'r bwyd i ysgogi anoddefiad, nag alergedd
  • nid yw anoddefiad bwyd byth yn bygwth bywyd, yn wahanol i alergedd


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/02/2024 10:33:53