Cyflwyniad

Flu, seasonal
Flu, seasonal

Mae'r ffliw yn salwch firol heintus a chyffredin sy'n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Mae'n gallu bod yn annymunol iawn, ond bydd y rhan fwyaf o bobl yn dechrau teimlo'n well o fewn tua wythnos.

Gallwch gael y ffliw - sy'n fyrfodd am inffliwensa - unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond mae'n arbennig o gyffredin yn ystod tymor y gaeaf. Dyna pam mae'n cael ei alw'n "ffliw tymhorol" weithiau.

Nid yw'r un fath ag annwyd cyffredin. Achosir y ffliw gan grŵp gwahanol o firysau ac mae'r symptomau'n tueddu i ddechrau'n fwy sydyn, bod yn fwy difrifol a phara'n hirach. Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn i rai pobl.

Mae rhai o brif symptomau'r ffliw yn cynnwys:

  • tymheredd uchel (twymyn) o 38C (100.4F) neu uwch
  • blinder a gwendid
  • cur pen/pen tost
  • dolur a phoen cyffredinol
  • peswch sych ar y frest

Gall y ffliw achosi symptomau tebyg i annwyd hefyd - fel trwyn llawn neu drwyn sy'n rhedeg, tisian, a dolur gwddw - ond maen nhw'n tueddu i fod yn llai difrifol na'ch symptomau eraill.

Gall symptomau'r ffliw wneud i chi deimlo mor flinedig a sâl fel byddwch yn gorfod aros yn eich gwely a gorffwys nes byddwch yn teimlo'n well. Mae rhai pobl mewn mwy o berygl nag eraill o ddatblygu cymhlethdodau os byddant yn cael y ffliw. Mae'r bobl hyn yn cynnwys plant ifanc iawn, yr henoed, menywod beichiog a phobl â chyflyrau iechyd tymor hir.

Mae Galw Iechyd Cymru yn cynnig cyfleuster gwirio symptomau annwyd a'r ffliw y gallwch ei ddefnyddio.

Darllenwch fwy am symptomau'r ffliw.

Beth i'w wneud

Os ydych yn heini ac yn iach fel arall, ni fydd angen i chi fynd i weld meddyg fel arfer os oes symptomau tebyg i'r ffliw arnoch.

Y peth gorau i'w wneud yw aros gartref i orffwys, cadw'n gynnes ac yfed digon o ddŵr i osgoi dadhydradu. Gallwch gymryd parasetamol neu ibuprofen i ostwng tymheredd uchel a lleddfu poen os bydd angen.

Mae'r ffliw yn lledaenu'n rhwydd, felly cadwch draw o'r gwaith neu'r ysgol hyd nes y byddwch yn teimlo'n well. I'r rhan fwyaf o bobl, bydd hyn yn cymryd tua wythnos.

Darllenwch fwy ynghylch trin y ffliw gartref.

Pryd i fynd at eich meddyg teulu

Ystyriwch fynd at eich meddyg teulu:

  • os ydych yn 65 oed neu'n hŷn
  • os ydych yn feichiog
  • os oes gennych gyflwr meddygol hirdymor fel diabetes, clefyd y galon, clefyd yr ysgyfaint, clefyd yr arennau, clefyd yr afu/iau neu glefyd niwrolegol, neu os ydych wedi cael strôc fach
  • os oes gennych system imiwnedd wan - er enghraifft, oherwydd eich bod yn cael cemotherapi neu os oes gennych HIV

Yn y sefyllfaoedd hyn, mae'n bosibl y bydd angen i chi gael meddyginiaeth i drin neu atal cymhlethdodau'r ffliw. Gallai eich meddyg argymell eich bod yn cymryd meddyginiaeth wrthfirol i leddfu eich symptomau a'ch helpu i wella'n gynt.

Darllenwch fwy ynghylch meddyginiaeth wrthfirol ar gyfer y ffliw.

Mae hefyd yn bwysig mynd at eich meddyg teulu:

Pa mor hir mae'r ffliw'n para ac a yw'n ddifrifol?

Os bydd y ffliw arnoch, byddwch fel arfer yn dechrau teimlo'n sâl o fewn ychydig ddiwrnodau o gael yr haint.

Yn ôl pob tebyg, byddwch yn dechrau teimlo'n llawer gwell o fewn tua wythnos, er y gallech deimlo'n flinedig am lawer hwy.

Byddwch fel arfer yn fwyaf heintus o'r diwrnod y bydd eich symptomau'n dechrau ac am dri i saith diwrnod wedi hynny. Gall plant a phobl â systemau imiwnedd gwannach barhau'n heintus am gyfnod hwy. Bydd rhai pobl yn heintus er na fydd ganddynt unrhyw symptomau.

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr ac ni fyddant yn profi unrhyw broblemau pellach, ond mae pobl hŷn, plant ifanc iawn, menywod beichiog  a phobl sydd â rhai cyflyrau meddygol hirdymor yn fwy tebygol o gael achos gwael o'r ffliw neu ddatblygu cymhlethdodau difrifol, fel haint ar y frest.

Darllenwch fwy ynghylch cymhlethdodau'r ffliw.

Sut mae pobl yn dal y ffliw

Mae'r firws ffliw yn bodoli yn y miliynau o ddiferion bach sy'n dod allan o'r trwyn a'r geg pan fydd rhywun sydd wedi'i heintio'n pesychu neu'n tisian.

Yn nodweddiadol, mae'r diferion hyn yn teithio tua metr. Maen nhw'n aros yn yr aer am gyfnod cyn glanio ar arwynebau, lle y gall y firws oroesi am hyd at 24 awr.

Gall unrhyw un sy'n anadlu'r diferion ddal y ffliw. Gallwch hefyd ddal y firws trwy gyffwrdd â'r arwynebau y mae'r diferion hyn wedi glanio arnynt os byddwch yn codi'r firws ar eich dwylo ac yna'n cyffwrdd â'ch trwyn neu'ch ceg.

Gall eitemau cyffredin gartref ac mewn mannau cyhoeddus gael eu halogi â'r firws ffliw yn rhwydd, gan gynnwys bwyd, dolenni drysau, teclynnau rheoli o bell, rheiliau llaw, setiau llaw ffôn a bysellfyrddau cyfrifiadur. Felly, mae'n bwysig golchi eich dwylo'n aml.

Gallwch ddal y ffliw sawl gwaith oherwydd bod firysau ffliw yn newid yn rheolaidd.

Atal y ffliw rhag lledaenu

Y ffordd orau o atal y ffliw rhag lledaenu yw trwy gael brechiad ffliw, ond gallwch hefyd helpu i leihau'r tebygolrwydd o ddal y ffliw yn y lle cyntaf neu ei drosglwyddo i eraill drwy ddilyn arferion hylendid da.

Golchwch eich dwylo â sebon a dŵr poeth yn rheolaidd a:

  • glanhewch arwynebau fel eich bysellfwrdd cyfrifiadur, eich ffôn a dolenni drysau'n aml i gael gwared ar germau
  • defnyddiwch hancesi i orchuddio eich ceg a'ch trwyn wrth besychu neu disian
  • rhowch yr hancesi rydych wedi'u defnyddio yn y bin cyn gynted ag y bo modd

Gallwch hefyd atal y ffliw rhag lledaenu drwy osgoi unrhyw gysylltiad diangen â phobl eraill tra'ch bod yn heintus. Dylech gadw draw o'r gwaith neu'r ysgol hyd nes y byddwch yn teimlo'n well.

Dylai pobl sydd mewn perygl uwch o gael salwch difrifol os byddant yn dal y ffliw gael brechiad ffliw blynyddol (gweler isod), ac os byddant yn dod i gysylltiad â'r ffliw mae'n bosibl y bydd meddyginiaeth wrthfirol yn cael ei hargymell i helpu i leihau'r risg o gael eu heintio.

Darllenwch fwy am sut i atal y ffliw rhag lledaenu.

Pigiad y ffliw

Mae'r grwpiau canlynol yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw am ddim gan y GIG:

  • unigolion 65 oed a hŷn
  • plant chwe mis oed i bobl iau na 65 oed mewn grwpiau risg clinigol (gweler isod)
  • menywod beichiog
  • oedolion sy'n afiachus o ordew (sydd â​ BMI o 40 neu fwy)
  • unigolion sy'n byw mewn cartrefi gofal preswyl hirdymor
  • gofalwyr
  • pob plentyn dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2016)
  • pob plentyn dosbarth derbyn a blynyddoedd 1, 2 a 3 mewn ysgolion cynradd.

Erbyn hyn, cynigir brechlyn ffliw blynyddol ar ffurf chwistrelliad trwynol i blant dwyflwydd i saith oed. Bydd plant dwy a thair oed yn cael eu brechlyn yn y feddygfa, a bydd plant pedair i saith oed yn cael eu brechlyn yn yr ysgol.

Ystyrir bod gennych risg glinigol o'r ffliw os oes gennych:

  • ​glefyd cronig ar y frest (gan gynnwys asthma cymedrol i ddifrifol)
  • clefyd cronig y galon
  • clefyd cronig yr arennau
  • clefyd cronig yr afu/iau
  • clefyd niwrolegol cronig (gan gynnwys strôc neu strôc fach)
  • diabetes (gan gynnwys hwnnw a reolir gan ddeiet)
  • system imiwnedd wael (o ganlyniad i gyflwr iechyd neu driniaeth)
  • dueg (spleen) sy'n gweithredu'n wael (neu os yw'ch dueg wedi cael ei thynnu)

Yr adeg orau i gael y brechlyn yw yn yr hydref, cyn i'r ffliw ddechrau lledaenu.

Dylech gael y brechlyn ffliw bob blwyddyn er mwyn cynnal eich ymwrthedd iddo, oherwydd bod y firysau sy'n achosi'r ffliw yn newid bob blwyddyn.

I gael rhagor o wybodaeth am bwy ddylai gael y brechlyn ffliw a sut i'w gael:-

^^ Yn ôl i’r brig


Mae’r wybodaeth ar y dudalen yma wedi addasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol gan NHS Choices.
Dyddiad diweddaru diwethaf: 02/02/2018 08:26:43