Gall unrhyw un gwympo, ond mae pobl hyn yn fwy tebygol o wneud hynny, yn enwedig os oes ganddyn nhw gyflwr iechyd tymor hir.
Mae cwympo'n achos cyffredin anafiadau, ond mae'n cael ei anwybyddu'n aml. Bydd tua 1 o bob 3 oedolyn dros 65 oed sy'n byw gartref yn cwympo o leiaf unwaith y flwyddyn, a bydd tua hanner y rhain yn cwympo'n amlach.
Nid yw'r rhan fwyaf o gwympiadau'n arwain at anaf difrifol. Ond mae perygl bob amser y gallai cwympo arwain at dorri esgyrn, a gallai achosi i'r unigolyn golli hyder, mynd i'w gragen, a theimlo fel petai wedi colli ei annibyniaeth.
Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn cwympo?
Os byddwch yn cwympo, mae'n bwysig peidio â chynhyrfu. Os nad ydych wedi cael niwed ac rydych yn teimlo'n ddigon cryf i godi, gwnewch hynny'n araf.
Rholiwch ar eich dwylo a'ch penliniau a chwiliwch am ddarn sefydlog o ddodrefn, fel cadair neu wely.
Daliwch afael yn y dodrefnyn â'ch dwy law i'ch cynnal eich hun a, phan fyddwch yn barod, codwch yn araf. Eisteddwch a gorffwyswch am ychydig cyn parhau â'ch gweithgareddau beunyddiol.
Os ydych chi wedi cael niwed neu os na allwch godi, ceisiwch ddal sylw rhywun trwy alw am gymorth, curo'r wal neu'r llawr, neu ddefnyddio'ch botwm galw am gymorth (os oes gennych un). Os yw'n bosibl, ceisiwch gropian tuag at ffôn a deialwch 999 i ofyn am ambiwlans.
Ceisiwch gyrraedd rhywbeth cynnes, fel blanced neu wn llofft, i'w roi drosoch, yn enwedig eich coesau a'ch traed.
Arhoswch mor gyfforddus â phosibl a cheisiwch symud ychydig o leiaf unwaith bob rhyw hanner awr.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cynhyrchu fideo sy'n rhoi cyngor ar sut i aros yn ddiogel ar ôl cwympo, a sut i godi eto os nad ydych wedi cael niwed. Mae hefyd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth am beth i'w ddisgwyl pan fyddwch yn ffonio 999 ar ôl cwympo. I wylio'r fideo - cliciwch yma.
Os ydych chi'n byw gyda rhywun oedrannus, neu'n gofalu am rywun oedrannus, gweler damweiniau a chymorth cyntaf i gael gwybodaeth a chyngor ynghylch beth i'w wneud ar ôl damwain.
Beth sy'n achosi i rywun gwympo?
Mae'r broses heneiddio naturiol yn golygu bod pobl hyn mewn perygl uwch o gwympo.
Yn y Deyrnas Unedig, cwympiadau yw'r achos mwyaf cyffredin o farwolaethau cysylltiedig ag anaf ymhlith pobl dros 75 oed.
Mae pobl hyn yn fwy tebygol o gwympo oherwydd gallent fod â:
Mae cwympiadau'n fwy tebygol o ddigwydd hefyd:
- os yw'r llawr yn wlyb, fel yn yr ystafell ymolchi, neu os yw wedi cael ei sgleinio'n ddiweddar
- os yw'r golau yn yr ystafell yn wan
- os nad yw rygiau neu garpedi wedi'u gosod yn sownd
- os yw'r unigolyn yn estyn allan i gyrraedd mannau storio, fel cwpwrdd, neu'n mynd i lawr y grisiau
- os yw'r unigolyn yn rhuthro i gyrraedd y ty bach yn ystod y dydd neu yn y nos
Rhywbeth arall sy'n aml yn achosi cwympiadau, yn enwedig ymhlith dynion hyn, yw syrthio oddi ar ysgol wrth wneud gwaith cynnal a chadw ar y cartref.
Mae cwympiadau'n gallu bod yn arbennig o broblemus ymhlith pobl hyn oherwydd bod osteoporosis yn gyflwr eithaf cyffredin.
Mae'n gallu datblygu mewn dynion a menywod, ac yn enwedig mewn pobl sy'n ysmygu, sy'n yfed gormod o alcohol, sy'n cymryd meddyginiaeth steroid, neu sydd â hanes o dorri'r glun yn y teulu.
Ond menywod hyn sydd yn y perygl mwyaf oherwydd bod osteoporosis yn aml yn gysylltiedig â newidiadau hormonaidd sy'n digwydd yn ystod terfyn y mislif (menopos).
Atal cwympo
Mae sawl peth syml sy'n gallu helpu i atal cwympiadau gartref.
Er enghraifft:
- defnyddio matiau gwrthlithro yn yr ystafell ymolchi
- sychu gollyngiadau er mwyn osgoi lloriau gwlyb, llithrig
- sicrhau bod yr holl ystafelloedd, coridorau a grisiau wedi'u goleuo'n dda
- clirio annibendod
- cael cymorth i godi neu symud eitemau sy'n drwm neu'n anodd eu codi
Mae gan yr elusen Age UK fwy o gyngor ar sut i wneud tasgau'n haws o gwmpas y cartref.
Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn ystyried cwympiadau ymhlith pobl hyn o ddifrif oherwydd eu heffaith enfawr ar iechyd a lles y grwp hwn.
O ganlyniad, mae llawer iawn o gymorth ar gael i bobl hyn, ac mae'n werth gofyn i'ch Meddyg Teulu am yr opsiynau amrywiol.
Efallai y bydd eich Meddyg Teulu'n cynnal rhai profion syml i weld pa mor dda yw'ch cydbwysedd. Gall hefyd adolygu unrhyw feddyginiaethau rydych chi'n eu cymryd rhag ofn y gallai eu sgil-effeithiau gynyddu eich perygl o gwympo.
Gallai eich Meddyg Teulu hefyd argymell:
- cael prawf llygad os ydych chi'n cael problemau â'ch golwg, hyd yn oed os ydych chi eisoes yn gwisgo sbectol
- cael ECG a gwirio'ch pwysedd gwaed tra byddwch yn gorwedd ac yn sefyll
- gofyn am asesiad peryglon yn y cartref, lle y bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn ymweld â'ch cartref i amlygu peryglon posibl a rhoi cyngor
- gwneud ymarferion i wella'ch cryfder a'ch cydbwysedd