Haint ar y glust

Cyflwyniad

Ear infection
Ear infection

Mae heintiau yn y glust yn gyffredin iawn, yn enwedig ymhlith plant. Nid oes angen i chi weld meddyg teulu bob amser ar gyfer haint yn y glust gan eu bod yn aml yn gwella ar eu pen eu hunain o fewn 3 diwrnod.

Gwiriwch a yw'n haint yn y glust

Mae symptomau haint yn y glust fel arfer yn dechrau'n gyflym ac yn cynnwys:

  • poen y tu mewn i'r glust
  • tymheredd uchel o 38°C neu uwch
  • chwydu
  • diffyg egni
  • anhawster clywed
  • rhedlif yn rhedeg allan o'r glust
  • teimlad o bwysedd neu lawnder y tu mewn i'r glust
  • cosi a llid yn y glust ac o'i chwmpas
  • croen cennog yn y glust ac o'i chwmpas

Gall plant ifanc a babanod sydd â haint yn y glust hefyd:

  • rhwbio neu dynnu eu clust
  • peidio ag ymateb i rai synau
  • bod yn flin neu'n anniddig
  • bod heb chwant bwyd
  • colli eu cydbwysedd yn gyson

Mae'r rhan fwyaf o heintiau yn y glust yn gwella o fewn 3 diwrnod, ond weithiau gall symptomau bara hyd at wythnos..

Gwahaniaethau rhwng haint yn y glust fewnol a haint yn y glust allanol

Haint yn y glust fewnol (llid y glust ganol):

  • mae'n effeithio ar blant fel arfer
  • caiff ei achosi gan firysau fel annwyd a'r ffliw
  • yn effeithio ar y glust fewnol (y tiwb sy'n rhedeg y tu ôl i ddrwm y glust i gefn y trwyn - tiwb Eustachian)

Haint yn y glust allanol (llid y glust allanol):

  • mae fel arfer yn effeithio ar oedolion rhwng 45 a 75 oed
  • fe'i achosir gan rywbeth yn llidio camlas y glust, fel ecsema, dŵr neu wisgo plygiau clust
  • mae’n effeithio ar gamlas y glust (y tiwb rhwng y glust allanol a drwm y glust)

Sut i drin haint yn y glust eich hun

I helpu i leddfu unrhyw boen ac anghysur oherwydd haint yn y glust:

Gwnewch:

  • defnyddio poenladdwyr fel paracetamol neu ibuprofen (ni ddylai plant o dan 16 oed gymryd aspirin)
  • rhoi clwt cynnes neu oer ar y glust
  • tynnu unrhyw redlif trwy sychu'r glust gyda gwlân cotwm

Peidiwch â:

  • rhoi unrhyw beth y tu mewn i'ch clust i gael gwared â chwyr chlustiau, fel ffyn cotwm neu eich bys
  • gadael i ddŵr neu siampŵ fynd i mewn i'ch clust
  • defnyddio moddion llacio neu gwrth-histaminau - nid oes tystiolaeth eu bod yn helpu gyda heintiau yn y glust

Gall fferyllydd helpu gyda haint yn y glust

Siaradwch â fferyllydd os ydych chi'n meddwl bod gennych haint yn y glust allanol.

Gallant argymell diferion clust asidig i helpu atal bacteria neu ffwng rhag lledaenu.

Dod o hyd i fferyllfa

Ewch i weld meddyg teulu os oes gennych chi neu eich plentyn:

  • tymheredd uchel iawn neu'n teimlo'n boeth a chrynedig
  • poen yn y glust nad yw'n dechrau gwella ar ôl 3 diwrnod
  • chwydd o gwmpas y glust
  • hylif yn dod o'r glust
  • colli clyw neu newid clyw
  • symptomau eraill, fel chwydu, dolur gwddf difrifol neu bendro
  • heintiau yn y glust yn rheolaidd
  • cyflwr meddygol hirdymor - fel diabetes, neu glefyd y galon, ysgyfaint, arennau neu glefyd niwrolegol
  • system imiwnedd wan - oherwydd cemotherapi, er enghraifft

 

Beth sy'n digwydd yn eich apwyntiad

Bydd eich meddyg teulu yn aml yn defnyddio golau bach (otosgop) i edrych yn y glust.

Mae rhai otosgopau’n chwythu pwff bach o aer i'r glust. Mae hyn yn gwirio am rwystrau, a allai fod yn arwydd o haint.

Triniaeth gan feddyg teulu

Efallai y bydd eich meddyg teulu yn rhagnodi meddyginiaeth ar gyfer eich haint yn y glust, gan ddibynnu ar beth a’i achosodd.

Heintiau yn y glust fewnol

Nid yw gwrthfiotigau'n cael eu cynnig fel arfer oherwydd bod heintiau yn y glust yn aml yn gwella ar eu pennau eu hunain, ac nid yw gwrthfiotigau'n gwneud fawr o wahaniaeth i symptomau, gan gynnwys poen.

Efallai y bydd gwrthfiotigau'n cael eu rhagnodi os:

  • nad yw’r haint yn y glust yn dechrau gwella ar ôl 3 diwrnod
  • os oes hylif yn dod allan o'ch clust chi neu glust eich plentyn
  • os oes gennych chi neu eich plentyn salwch sy'n golygu bod risg o gymhlethdodau, fel ffibrosis systig

Efallai y byddant hefyd yn cael eu rhagnodi os yw eich plentyn yn iau na 2 flwydd oed a bod ganddo haint yn y ddwy glust.

Heintiau yn y glust allanol

Efallai y bydd eich meddyg teulu yn rhagnodi:

  • diferion clustiau gwrthfiotig - i drin haint bacteriol
  • diferion clustiau steroid - i leihau chwydd
  • diferion clustiau gwrthffwngaidd - i drin haint ffwngaidd
  • tabledi gwrthfiotig - os yw eich haint bacteriol yn ddifrifol

Os oes gennych smotyn neu gornwyd yn eich clust, efallai y bydd eich meddyg teulu yn ei dyllu â nodwydd i ddraenio'r crawn.

Efallai na fydd diferion clustiau yn gweithio os nad ydynt yn cael eu defnyddio'n gywir.

Sut i ddefnyddio diferion clustiau

  1. Tynnwch unrhyw redlif gweladwy neu gŵyr clust gan ddefnyddio gwlân cotwm.
  2. Daliwch y botel yn eich llaw i'w chynhesu - gall diferion clustiau oer wneud i chi deimlo'n benysgafn.
  3. Gorweddwch ar eich ochr gyda'r glust yr effeithir arno yn wynebu i roi'r diferion i mewn.
  4. Tynnwch a gwthiwch eich clust yn ysgafn i weithio'r diferion i mewn.
  5. Arhoswch yn gorwedd i lawr am 5 munud fel nad yw'r diferion yn dod allan.

Atal heintiau yn y glust

Ni allwch atal heintiau yn y glust bob amser, yn enwedig heintiau yn y glust fewnol a achosir gan annwyd a'r ffliw.

I helpu i osgoi heintiau yn y glust fewnol:

  • sicrhewch fod eich plentyn yn gyfredol o ran brechiadau
  • cadwch eich plentyn i ffwrdd o amgylcheddau myglyd
  • ceisiwch beidio â rhoi dymi i'ch plentyn ar ôl 6 mis oed

I helpu i osgoi heintiau yn y glust allanol:

  • peidiwch â rhoi ffyn cotwm na'ch bysedd yn eich clustiau
  • defnyddiwch blygiau clust neu het nofio dros eich clustiau pan fyddwch chi'n nofio
  • ceisiwch osgoi dŵr neu siampŵ yn mynd i mewn i'ch clustiau pan fyddwch yn cael cawod neu bath
  • dylech drin cyflyrau sy'n effeithio ar eich clustiau, fel ecsema neu alergedd i gymhorthion clyw

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 27/09/2023 16:01:01