Dolur annwyd

Cyflwyniad

Cold sore

Mae doluriau annwyd yn gyffredin ac yn gwella ar eu pen eu hunain o fewn 10 diwrnod fel arfer, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu lliniaru’r boen.

Gwirio ai dolur annwyd ydyw

Fel arfer, mae dolur annwyd yn dechrau gyda theimlad o oglais, cosi neu losgi.

Dros y 48 awr nesaf:

  • Bydd pothelli bach llawn hylif yn ymddangos.   
  • Gall y pothelli ymddangos rywle ar yr wyneb.    
  • Mae’r pothelli’n torri ac mae crachen yn ffurfio drostynt.    

Dylai doluriau annwyd ddechrau gwella o fewn 10 niwrnod, ond maent yn heintus a gallant fod yn llidus neu’n boenus wrth wella.

Mae rhai pobl yn sylwi bod pethau penodol yn ysgogi dolur annwyd, fel salwch arall, heulwen neu’r mislif.

Am ba hyd mae doluriau annwyd yn heintus

Mae doluriau annwyd yn heintus o’r eiliad y byddwch chi’n dechrau teimlo goglais neu arwyddion eraill fod dolur annwyd yn dechrau, hyd nes bydd y dolur annwyd wedi gwella’n llwyr.

Gall fferyllydd helpu gyda doluriau annwyd

Mae doluriau annwyd yn un o’r cyflyrau sy’n dod o dan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion droi ato am gyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim ac mae ar gael o 99% o’r fferyllfeydd yng Nghymru. 

Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaeth yma.

Chwiliwch am fferyllfa gyfagos sy’n cynnig y gwasanaeth. 

Gall fferyllydd argymell:

  • hufenau i leddfu poen a llid
  • hufenau gwrthfeirol i gyflymu’r amser gwella
  • patsys doluriau annwyd i amddiffyn y croen wrth iddo wella

Gallwch brynu dyfeisiau electronig o fferyllfeydd sy’n trin doluriau annwyd gyda golau neu laserau.

Mae rhai pobl o’r farn bod y rhain yn ddefnyddiol ond ni wnaed llawer o astudiaethau i ddarganfod a ydynt yn gweithio.

Gwybodaeth:

Os byddwch yn cael doluriau annwyd yn rheolaidd, defnyddiwch hufenau gwrthfeirol cyn gynted ag y byddwch yn adnabod y teimlad goglais cynnar. Nid ydynt yn gweithio bob amser ar ôl i’r pothelli ymddangos.

Chwilio am fferyllfa

Pethau y gallwch eu gwneud eich hun

Mae doluriau annwyd yn cymryd amser i iachau ac maen nhw’n heintus iawn, yn enwedig pan fydd y pothelli’n torri.

Pwysig

Peidiwch â chusanu babanod os oes gennych ddolur annwyd. Gall arwain at herpes newydd-anedig, sy’n beryglus iawn i fabanod newydd-anedig.

Gwnewch y canlynol:

  • bwytewch fwydydd meddal, llugoer
  • golchwch eich dwylo gyda dŵr a sebon cyn ac ar ôl rhoi’r hufen ar y croen
  • osgowch unrhyw beth sy’n ysgogi’ch doluriau annwyd
  • defnyddiwch falm i’r gwefusau sy’n amddiffyn rhag yr haul (SPF 15 neu uwch) os heulwen yw’r ysgogiad
  • llyncwch barasetamol neu ibuprofen i leddfu poen a chwyddo (mae parasetamol hylifol ar gael i blant) – peidiwch â rhoi aspirin i blant o dan 16 oed
  • yfwch ddigon o hylifau i osgoi dadhydradu

Peidiwch â:

  • chusanu unrhyw un tra bydd gennych ddolur annwyd
  • rhannu unrhyw beth sy’n dod i gysylltiad â dolur annwyd (fel hufenau dolur annwyd, llestri na minlliw)
  • cael rhyw drwy’r geg hyd nes bydd eich dolur annwyd yn gwella’n llwyr – mae feirws doluriau annwyd yn achosi herpes gwenerol hefyd
  • cyffwrdd eich dolur annwyd (heblaw wrth roi’r hufen arno)
  • rhwbio’r hufen i’r dolur annwyd – dabiwch yr hufen arno yn lle hynny
  • bwyta bwyd asidig na halwynog

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad yw’r dolur annwyd wedi dechrau gwella o fewn 10 diwrnod
  • os ydych chi’n poeni am ddolur annwyd neu’n meddwl mai rhywbeth arall ydyw
  • os yw’r dolur annwyd yn fawr iawn neu’n boenus
  • os oes gennych chi neu eich plentyn ddeintgig a doluriau poenus, chwyddedig yn y geg hefyd (llid geneuorchfannol)
  • os ydych chi’n feichiog – mae mwy o risg herpes newydd-anedig
  • os oes gennych system imiwnedd wannach – er enghraifft oherwydd cemotherapi neu ddiabetes

Triniaeth gan feddyg teulu

Gall meddyg teulu ragnodi tabledi gwrthfeirol os bydd eich doluriau annwyd yn fawr iawn, yn boenus neu’n dod 'nôl drwy’r amser.

Gall babanod newydd-anedig, menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wannach gael eu hatgyfeirio i’r ysbyty am gyngor neu driniaeth.

Pam mae doluriau annwyd yn cadw dod yn ôl

Mae doluriau annwyd yn cael eu hachosi gan feirws o’r enw herpes simplex.

Pan fyddwch wedi dal y feirws, mae’n aros yn eich croen am weddill eich bywyd. Weithiau, mae’n achosi dolur annwyd.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu hamlygu i’r feirws pan fyddant yn ifanc, ar ôl dod i gysylltiad agos â rhywun sydd â dolur annwyd.

Fel arfer, nid yw’n achosi unrhyw symptomau hyd nes y byddwch chi’n hŷn. Ni fyddwch yn gwybod p’un a yw yn eich croen hyd nes y cewch chi ddolur annwyd.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/03/2023 14:33:00