Poen yn y frest

Cyflwyniad

Chest  pain
Chest  pain

Nid yw'r rhan fwyaf o boenau yn y frest yn arwydd o unrhyw beth difrifol, ond dylech geisio cyngor meddygol rhag ofn. Ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith os ydych yn credu eich bod yn cael trawiad ar y galon.

Ffoniwch 999 os ydych yn cael poen sydyn yn y frest:

  • sy'n lledu i'ch breichiau, eich cefn, eich gwddf neu'ch gên
  • sy'n gwneud i'ch brest deimlo'n dynn neu'n drwm
  • a oedd hefyd wedi dechrau trwy fod yn fyr o anadl, chwysu a theimlo'n gyfoglyd neu chwydu
  • sy'n para mwy na 15 munud

Gallech fod yn cael trawiad ar y galon. Ffoniwch 999 ar unwaith oherwydd bydd angen i chi gael triniaeth ar frys mewn ysbyty.

Ewch at Feddyg Teulu:

  • os ydych yn cael poen yn y frest sy'n mynd a dod
  • os ydych yn cael poen yn y frest sy'n mynd yn gyflym ond rydych yn pryderu o hyd

Mae'n bwysig cael cyngor meddygol i wneud yn siŵr nad yw'n rhywbeth difrifol.

Achosion cyffredin poen yn y frest

Mae llawer o wahanol bethau'n achosi poen yn y frest - dim ond y rhai mwyaf cyffredin a restrir isod. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw poen yn y frest yn cael ei achosi gan broblem â'r galon.

Efallai y bydd eich symptomau'n rhoi syniad i chi o beth sy'n eu hachosi. Peidiwch â rhoi diagnosis i'ch hun - ewch at eich Meddyg Teulu os ydych yn pryderu.

Symptomau poen yn y frest ac achosion posibl

  • Mae'n dechrau ar ôl bwyta, cael bwyd yn ei ôl neu hylifau sy'n blasu'n chwerw, teimlo'n llawn ac wedi chwyddo - gallai fod oherwydd llosg cylla/dŵr poeth neu gamdreuliad
  • Mae'n dechrau ar ôl anaf i'r frest neu ymarfer corff ar y frest, ac yn teimlo'n well wrth orffwys y cyhyr - gallai fod oherwydd ysigiad i'r frest
  • Mae'n cael ei sbarduno gan bryderon neu sefyllfa sy'n achosi straen, mae'r galon yn curo'n gyflymach, chwysu, pendro - gallai fod oherwydd gorbryder neu bwl o banig
  • Mae'n gwaethygu wrth i chi anadlu i mewn ac allan, pesychu mwcws melyn neu wyrdd, tymheredd uchel - gallai fod oherwydd haint ar y frest neu niwmonia
  • Teimlad coslyd ar y croen, mae brech yn ymddangos ar y croen sy'n troi'n bothelli - gallai fod oherwydd yr eryr

Poen yn y frest a phroblemau â'r galon

Mae'r problemau mwyaf cyffredin â'r galon sy'n achosi poen yn cynnwys:

  • pericarditis - sydd fel arfer yn achosi gwayw o boen sydyn sy'n gwaethygu wrth i chi anadlu'n ddwfn neu orwedd
  • angina neu drawiad ar y galon - sydd â symptomau tebyg, ond mae trawiad ar y galon yn bygwth bywyd

Rydych yn fwy tebygol o gael problemau â'r galon os ydych yn hŷn neu'n gwybod eich bod mewn perygl o glefyd coronaidd y galon.

Er enghraifft:

  • os ydych yn ysmygu
  • os ydych dros bwysau'n ddifrifol (yn ordew)
  • os oes gennych bwysedd gwaed uchel, diabetes neu golesterol uchel
  • os oes hanes o drawiadau ar y galon neu angina ymhlith aelodau'ch teulu sy'n iau na 60 oed


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 24/05/2022 13:29:58