Llid yr isgroen

Cyflwyniad

Cellulitis
Cellulitis

Mae llid yr isgroen yn haint y croen sy'n cael ei drin gyda gwrthfiotigau. Gall fod yn ddifrifol os na chaiff ei drin yn gyflym.

Ewch i weld eich meddyg teulu os bydd eich croen:

  • yn goch, yn boeth/yn dwym ac yn boenus (gall chwyddo a phothellu hefyd)
  • gallai eich chwarennau chwyddo a theimlo'n boenus hefyd

Gallwch gael llid yr isgroen ar unrhyw ran o'ch corff ond, fel arfer, mae'n effeithio ar:

  • y dwylo - gan achosi bysedd chwyddedig
  • y traed - weithiau gerllaw bysedd y traed, os oes tarwden y traed arnoch
  • y coesau - rhannau isaf y coesau, fel arfer

Os nad ydych chi'n siwr ai llid yr isgroen sydd arnoch

Gall cyflyrau eraill wneud eich croen yn goch, yn gaenog ac yn bothellog.

Nid yw'n debygol o fod yn llid yr isgroen oni bai bod rhan o'ch croen yn boeth/dwym, yn goch ac yn chwyddedig.

Gofynnwch am apwyntiad brys gyda'ch meddyg teulu:

  • os yw eich wyneb neu'r ardal o gwmpas eich llygad wedi'i (h)effeithio
  • os yw eich symptomau'n gwaethygu'n gyflym (gallai hyn fod yn arwydd o rywbeth mwy difrifol, fel y cyflwr prin, llid madreddol y ffasgell)
  • os oes gennych system imiwnedd wan - er enghraifft, oherwydd cemotherapi neu ddiabetes
  • os oes gan blentyn ifanc neu berson oedrannus lid yr isgroen o bosibl

Gall triniaeth gynnar â thabledi gwrthfiotig atal yr haint rhag mynd yn fwy difrifol.

Triniaeth gan feddyg teulu

Os bydd llid ysgafn yr isgroen yn effeithio ar ardal fechan o groen, bydd eich meddyg teulu'n rhoi tabledi gwrthfiotig ar bresgripsiwn - am wythnos fel arfer.

Gallai eich symptomau waethygu yn ystod 48 awr gyntaf y driniaeth, yna dylent ddechrau gwella.

Mae'n bwysig cwblhau'r cwrs cyfan o wrthfiotigau, hyd yn oed os byddwch chi'n teimlo'n well.

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr ymhen 7 i 10 niwrnod.

Os bydd llid yr isgroen yn ddifrifol, gallai eich meddyg teulu'ch cyfeirio at yr ysbyty am driniaeth.

Atal llid yr isgroen rhag digwydd eto

Os byddwch yn cael llid yr isgroen yn aml, gallech gael dos isel o wrthfiotigau am gyfnod tymor hir i atal yr heintiau rhag digwydd eto.

Pethau gallwch chi eu gwneud eich hunan

Yn ogystal â chymryd gwrthfiotigau, gallwch gyflymu'ch gwellhad trwy:

  • gymryd parasetamol neu ibuprofen ar gyfer y poen
  • codi'r rhan o'r corff lle mae'r llid a'i roi ar glustog neu gadair pan fyddwch yn eistedd neu'n gorwedd, i ostwng y chwyddo
  • symud y cymal ger y rhan o'r corff sydd wedi'i heffeithio, fel eich arddwrn neu'ch pigwrn/ffer, i'w atal rhag anystwytho
  • yfed digon o hylif i osgoi dadhydradu
  • peidio â gwisgo hosanau cywasgu hyd nes byddwch chi'n well

Gallwch leihau'r posibilrwydd o gael llid yr isgroen eto drwy:

  • gadw'r croen yn lân a rhoi lleithydd arno'n fynych
  • glanhau unrhyw doriadau neu glwyfau, neu ddefnyddio hufen antiseptig
  • atal torri neu grafu'r croen trwy wisgo dillad ac esgidiau priodol
  • gwisgo menig os byddwch yn gweithio'r tu allan

Cymhlethdodau llid yr isgroen

Os na chaiff yr haint ei thrin yn gyflym, gall ledaenu i rannau eraill o'r corff, fel y gwaed, y cyhyrau a'r esgyrn.

Ffoniwch 999 neu ewch i adran damweiniau ac achosion brys ar unwaith os oes gennych lid yr isgroen gyda:  

  • thymheredd uchel iawn, neu os ydych chi'n teimlo'n boeth ac yn grynedig/rhynllyd
  • curiad cyflym y galon neu anadlu cyflym
  • ardaloedd porffor ar y croen
  • teimlo'r bendro neu'n benysgafn
  • dryswch neu golli cyswllt â'r amgylchedd
  • croen oer, llaith a gwelw
  • anymatebolrwydd neu golli ymwybyddiaeth

Dyma symptomau sepsis, sy'n gallu bod yn ddifrifol iawn ac, o bosibl, rhoi bywyd yn y fantol.

Beth sy'n achosi llid yr isgroen

Fel arfer, caiff llid yr isgroen ei achosi gan haint facterol. Gall y bacteria heintio haenau dwfn eich croen os bydd toriad yn y croen - er enghraifft oherwydd brathiad/cnoad pryfyn neu doriad, neu os yw'r croen yn sych ac wedi cracio.

Weithiau, bydd y toriad yn y croen yn rhy fach i chi sylwi arno.

Ni allwch ddal llid yr isgroen oddi wrth rywun arall, gan ei fod yn effeithio ar haenau dyfnach y croen.

Mae gennych fwy o risg llid yr isgroen:

  • os yw cylchrediad y gwaed yn eich breichiau, coesau, dwylo neu draed yn wael – er enghraifft, oherwydd eich bod chi dros bwysau
  • os ydych yn cael trafferth symud o gwmpas
  • os yw'ch system imiwnedd wedi gwanhau oherwydd triniaeth cemotherapi neu ddiabetes
  • os oes gennych friwiau gorwedd (briwiau pwysedd)
  • os oes gennych lymffodema, sy'n achosi hylif i gronni o dan y croen
  • os ydych chi'n chwistrellu cyffuriau
  • os oes gennych glwyf o lawdriniaeth
  • os ydych chi wedi cael llid yr isgroen o'r blaen

Os yw rhywun â mwy o risg llid yr isgroen, dylent drin unrhyw achos o darwden y traed ar unwaith.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/03/2024 13:39:15