Cataractau, plentyndod

Cyflwyniad

Cataracts, childhood
Cataracts, childhood

Mae cataractau’n digwydd pan fydd newidiadau yn lens y llygaid yn gwneud iddi fynd yn llai tryloyw (clir). Mae hyn yn arwain at olwg gymylog neu niwlog.

Y lens yw’r strwythur tryloyw ychydig y tu ôl i gannwyll y llygad (y cylch du yng nghanol y llygad).

Mae’n caniatáu i olau basio trwy’r haen o feinwe sensitif i olau yng nghefn y llygad (retina).

Mae cataractau’n effeithio ar oedolion hŷn yn bennaf (cataractau sy’n gysylltiedig ag oedran), ond mae rhai babanod yn cael eu geni gyda chataractau. 

Gall plant eu datblygu’n ifanc iawn hefyd. Yr enw ar y rhain yw cataractau plentyndod.

Yn aml, mae cataractau plentyndod yn cael eu galw’n:

  • gataractau cynhenid – cataractau sy’n bresennol pan gaiff baban ei eni neu’n fuan wedi hynny
  • cataractau datblygiadol, cataractau plant neu gataractau ifanc – cataractau sy’n cael eu diagnosio mewn babanod hŷn neu blant

Mae cataractau mewn babanod a phlant yn brin. Amcangyfrifir eu bod yn effeithio ar rhwng 3 a 4 o bob 10,000 o blant yn y DU.

Beth sy’n achosi cataractau mewn plant?

Mae nifer o resymau pam y gall plentyn gael ei eni gyda chataractau neu eu datblygu pan fydd yn ifanc.

Ond mewn sawl achos, nid yw’n bosibl pennu’r union achos.

Mae achosion posibl yn cynnwys:

  • nam genynnol a etifeddwyd oddi wrth rieni’r plentyn, a wnaeth i’r lens ddatblygu’n annormal
  • rhai cyflyrau genetig, gan gynnwys syndrom Down
  • heintiau penodol mae’r fam yn eu dal yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys rwbela a brech yr ieir
  • anaf i’r llygad ar ôl genedigaeth

Symptomau

Symptomau cataractau mewn plant

Mewn plant, gall cataractau effeithio ar un llygad neu ar y ddau.

Weithiau, gall patsys cymylog yn y lens dyfu a gall mwy ohonynt ddatblygu, gan arwain at fwy a mwy o effaith ar olwg y plentyn.

Gall arwyddion bod eich plentyn wedi datblygu cataractau gynnwys:

  • golwg wael – efallai y sylwch chi fod eich plentyn yn cael trafferth adnabod a dilyn gwrthrychau neu bobl gyda’i lygaid
  • symudiadau cyflym afreolus y llygaid neu lygaid "sigledig" - yr enw ar hyn yw nystagmws
  • mae’r llygaid yn pwyntio i gyfeiriadau gwahanol – yr enw ar hyn yw llygad croes/strabismws
  • cannwyll llygad wen neu lwyd – gall hyn hefyd fod yn arwydd o gyflwr difrifol arall, fel retinoblastoma, a dylai meddyg archwilio hyn ar frys

Gall eich plentyn hefyd ei chael hi’n anodd gweld yn glir mewn golau llachar neu os oes unrhyw lewyrch.

Pan fydd eich plentyn yn ifanc iawn, gall fod yn anodd sylwi ar arwyddion o gataractau.

Ond bydd llygaid eich baban yn cael archwiliad fel mater o drefn o fewn 72 awr i’w enedigaeth ac eto pan fydd tua 6 i 8 wythnos oes.

Weithiau, gall cataractau ddatblygu mewn plant ar ôl y profion sgrinio hyn.

Mae’n arbennig o bwysig sylwi ar gataractau mewn plant yn gyflym oherwydd gall triniaeth gynnar leihau risg problemau hirdymor y golwg.

Dylech ymweld â’ch meddyg teulu neu ddweud wrth eich ymwelydd iechyd os oes gennych unrhyw bryderon am olwg eich plentyn.

Darllenwch fwy am achosion cataractau plentyndod.

Pryd i geisio cyngor meddygol

Ewch at eich meddyg teulu neu dywedwch wrth eich ymwelydd iechyd os oes gennych unrhyw bryderon am olwg eich plentyn unrhyw bryd.

Bydd eich meddyg teulu’n archwilio llygaid eich plentyn neu’n argymell eich bod yn gweld Optometrydd (Optegydd) lleol, ac yn gallu cyfeirio’ch plentyn at arbenigwr y llygaid am brofion pellach a thriniaeth, os bydd angen.

Mae rhai o brif achosion cataractau plentyndod yn cael eu disgrifio isod.

Genynnau a chyflyrau genetig

Mae cataractau sy’n bresennol o enedigaeth (cataractau cynhenid) weithiau’n cael eu hachosi gan enyn diffygiol sy’n cael ei drosglwyddo o rieni i’w plentyn.

Mae’r nam hwn yn golygu nad yw’r lens yn datblygu’r gywir.

Amcangyfrif bod hanes teuluol o gataractau cynhenid mewn tuag un o bob pum achos o’r cyflwr.

Mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu bod achosion genetig yn gyfrifol am fwyafrif y cataractau cynhenid dwyochrog yn y DU.

Gall cataractau fod yn gysylltiedig hefyd â chyflyrau sy’n cael eu hachosi gan annormaleddau cromosomau, fel syndrom Down.

Cromosomau yw’r rhannau o gelloedd y corff sy’n cario’r genynnau.

Heintiau yn ystod beichiogrwydd

Gall cataractau cynhenid gael eu hachosi hefyd gan heintiau mae’r fam yn eu dal yn ystod beichiogrwydd.

Mae’r prif heintiau sy’n gysylltiedig â mwy o risg cataractau cynhenid yn cynnwys:

  • rwbela (y frech Almaenig) – haint firaol sy’n gallu achosi brech smotiog goch-binc ar y croen
  • tocsoplasmosis – haint parasitig sy’n cael ei ddal trwy lyncu bwyd, dŵr neu bridd sydd wedi’u heintio â charthion cath heintiedig
  • cytomegalofirws (CMV) – feirws cyffredin sy’n gallu achosi symptomau tebyg i’r ffliw
  • brech yr ieir – cyflwr ysgafn ond hynod heintus sy’n cael ei achosi gan y feirws varicella-zoster
  • feirws herpes simplex – feirws sy’n aml yn achosi doluriau annwyd

Achosion cataractau caffaeledig

Mae cataractau sy’n datblygu mewn plant ar ôl iddynt gael eu geni yn cael eu galw’n gataractau caffaeledig, cataractau babanod neu gataractau ifanc.

Gall achosion y math hwn o gataractau gynnwys:

  • galactosaemia – pan na fydd y siwgr, galactos (sy’n dod yn bennaf o lactos, y siwgr mewn llaeth), yn gallu cael ei dorri i lawr yn y corff
  • diabetes – cyflwr gydol oes sy’n gwneud i lefel siwgr gwaed person fynd yn rhy uchel
  • trawma i’r llygad – o ganlyniad i anaf i’r llygad neu lawdriniaeth ar y llygad
  • tocsocariasis – haint parasitig prin sy’n gallu heintio’r llygaid weithiau, y mae anifeiliaid yn ei ledaenu i bobl trwy eu carthion heintiedig

Ond mae’r rhan fwyaf o’r problemau hyn naill ai’n brin neu nid ydynt fel arfer yn gwneud i gataractau ddatblygu mewn plant.

Diagnosis

Diagnosis

Mae’n bwysig bod cataractau plentyndod yn cael eu diagnosio mor gynnar â phosibl. Gall triniaeth gynnar leihau risg problemau hirdymor â’r golwg yn sylweddol.

Sgrinio babanod newydd-anedig

Caiff pob rhiant gynnig archwiliad corfforol i’w baban o fewn 72 awr o’i enedigaeth ac, eto, pan fydd eu baban yn chwech i wyth wythnos oed.

Mae cataractau plentyndod ymhlith y cyflyrau y mae archwiliad corfforol baban newydd-anedig yn sgrinio amdanynt.

Mae llygaid eich baban yn cael eu harchwilio trwy edrych ar eu golwg gyffredinol a sut maent yn symud.

Os bydd golwg gymylog ar lygad eich baban, gall hyn fod yn arwydd o gataractau.

Rhan bwysig o’r archwiliad yw chwilio am yr “atgyrch coch” gan ddefnyddio golau llachar.

Mae’r atgyrch coch yn adlewyrchiad o gefn y llygad sy’n debyg i effaith y llygad coch sydd i’w gweld ambell waith pan fydd ffotograff wedi’i thynnu â fflach.

Os nad oes atgyrch coch i’w weld, neu gwelir ychydig o atgyrch coch, gall olygu bod cymylogrwydd yn y lens. Gall hefyd olygu cyflyrau eraill, a all fod yn fwy difrifol, felly os sylwch chi ar hyn yn eich plentyn, ceisiwch sylw ar frys gan weithiwr meddygol proffesiynol.

Profion golwg i fabanod hŷn a phlant

Er y gall cataractau fod yn bresennol o enedigaeth (cynhenid), ni fyddant yn datblygu weithiau hyd nes bod plentyn yn hŷn. 

Ewch i weld eich meddyg teulu neu dywedwch wrth eich ymwelydd iechyd os oes gennych bryderon am olwg eich plentyn unrhyw bryd.

Dylech hefyd wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael profion llygaid rheolaidd i archwilio am unrhyw broblemau gyda’i olwg.

Mae hawl gan bob plentyn o dan 19 oed sydd mewn addysg amser llawn gael profion llygaid am ddim gan y GIG a dylent gael y rhain yn rheolaidd.

Darllenwch fwy am brofion llygaid i blant a gwasanaethau gofal llygaid GIG Cymru.

Atgyfeirio i arbenigwr

Os oes amheuaeth y gall fod cataractau gan eich baban neu blentyn, caiff ei atgyfeirio fel arfer i ysbyty i weld offthalmolegydd, cyn gynted â phosibl. 

Mae offthalmolegydd yn feddyg sy’n arbenigo ar gyflyrau’r llygaid a’u trin.

Cyn i’r offthalmolegydd archwilio eich baban, bydd yn ychwanegu diferion i’w lygaid i ymledu (lledu) canhwyllau ei lygaid.

Er y bydd y diferion yn pigo, ni fyddant yn niweidio llygaid eich baban a bydd yr effaith yn pylu ymhen ychydig oriau.

Bydd yr offthalmolegydd yn archwilio llygaid eich baban gan ddefnyddio offerynnau meddygol sydd â golau wrth un pen ac yn cynhyrchu delwedd wedi’i fwyhau o’r llygad.

Bydd golau llachar yn cael ei ddisgleirio i lygaid eich plentyn, gan alluogi’r offthalmolegydd i edrych ynddynt.

Bydd yn gwneud diagnosis o gataractau os gall eu gweld yn y lens.

Os bydd eich plentyn yn cael diagnosis o gataractau, bydd yr offthalmolegydd yn trafod opsiynau triniaeth gyda chi.

Triniaeth

Sut mae cataractau plentyndod yn cael eu trin

P’un a oes angen llawdriniaeth cataractau ar eich plentyn ai peidio, bydd hynny’n dibynnu ar b’un a oes effaith ar ei olwg.

Os nad yw cataractau yn achosi problemau, efallai na fydd angen triniaeth ar unwaith.

Yn hytrach, efallai mai dim ond archwiliadau rheolaidd y bydd angen ar eich plentyn i fonitro’i olwg.

Os bydd cataractau’n effeithio ar olwg eich plentyn, bydd angen llawdriniaeth arno fel arfer i dynnu’r lens (neu’r lensys) cymylog, yna defnyddio sbectol neu lensys cyffwrdd yn y tymor hir.

Oherwydd bod cataractau plentyndod yn brin, mae’n anodd rhagweld faint y bydd triniaeth yn gwella golwg plentyn.

Mae’n debygol y bydd llai o olwg gan lawer o blant yn y llygad (neu’r llygaid) yr effeithiwyd arni/arnynt, hyd yn oed gyda thriniaeth, er y bydd y mwyafrif ohonynt yn gallu mynd i ysgolion prif ffrwd a byw bywyd llawn.

Llawdriniaeth cataractau

Bydd llawdriniaeth cataractau ar gyfer babanod a phlant yn digwydd mewn ysbyty o dan anesthetig cyffredinol, felly bydd eich plentyn yn anymwybodol yn ystod y llawdriniaeth.

Bydd y llawdriniaeth, sy’n cymryd rhwng awr a dwy awr fel arfer, yn cael ei gwneud gan offthalmolegydd, sef meddyg sy’n arbenigo ar drin cyflyrau’r llygaid.

Os yw’r cataractau’n bresennol o enedigaeth, bydd y llawdriniaeth yn cael ei gwneud cyn gynted â phosibl, fis neu ddwy ar ôl i’ch baban gael ei eni fel arfer.

Cyn y llawdriniaeth, bydd yr offthalmolegydd yn rhoi diferion yn y llygad i ymledu (lledu) cannwyll y llygad.

Gwneir toriad bach iawn yn yr arwyneb (y gornbilen) ym mlaen y llygaid a thynnir y lens gymylog.

Mewn ambell achos, bydd lens blastig glir, o’r enw lens fewnllygadol (IOL) neu fewnblaniad mewnllygadol, yn cael ei gosod yn ystod y llawdriniaeth yn lle’r lens sy’n cael ei thynnu. Gwneir hyn gan nad yw’r llygad yn gallu ffocysu heb lens.

Ond mae’n fwy cyffredin mewn babanod a phlant ifanc i lensys cyffwrdd allanol neu sbectol (os oes effaith ar ddwy lygad) gael eu defnyddio i wneud yn iawn am dynnu’r lens.

Bydd y rhain yn cael eu gosod wythnos neu ddwy ar ôl y llawdriniaeth.

Mae’r rhan fwyaf o offthalmolegwyr yn argymell defnyddio lensys cyffwrdd neu sbectol mewn plant o dan 12 mis oed adeg y llawdriniaeth.

Mae hyn oherwydd bod mwy o risg cymhlethdodau ac angen llawdriniaeth bellach mewn babanod sy’n cael IOL.

Pan fydd y llawdriniaeth wedi’i chwblhau, bydd y toriad yn llygad eich plentyn yn cael ei gau fel arfer gan ddefnyddio pwythau sy’n toddi’n raddol.

Ar ôl y llawdriniaeth

Ar ôl y llawdriniaeth, bydd pad neu orchudd tryloyw yn cael ei osod dros lygad eich plentyn i’w warchod.

Bydd angen i’r rhan fwyaf o blant aros yn yr ysbyty dros nos er mwyn gallu monitro eu gwellhad.

Os bydd gan eich plentyn gataractau yn y ddau lygad (cataractau dwyochrog), bydd yr offthalmolegydd fel arfer yn cynnal llawdriniaeth ar wahân ar y naill a’r llall er mwyn lleihau risg cymhlethdodau sy’n effeithio ar y ddau lygad.

Byddwch chi a’ch plentyn yn gallu mynd adref rhwng llawdriniaethau. Fel arfer, bydd yr ail lawdriniaeth yn digwydd o fewn wythnos i’r cyntaf. Cewch ddiferion i’w rhoi yn llygad eich plentyn gartref. Mae’r rhain yn helpu i leihau llid (chwyddo a chochni) yn y llygad.

Bydd angen i chi eu rhoi yn llygad eich plentyn bob dwy i bedair awr. Dangosir i chi sut i wneud hyn cyn i chi adael yr ysbyty.

Gweler cymhlethdodau llawdriniaeth cataractau plentyndod am fwy o wybodaeth am y problemau a allai ddatblygu ar ôl llawdriniaeth eich plentyn.

Triniaeth bellach

Bydd angen i’r rhan fwyaf o blant wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd ar ôl cael llawdriniaeth cataractau.

Bydd angen hyn oherwydd bydd y golwg yn y llygad neu’r llygaid sydd wedi cael eu trin wedi pylu, gan nad ydynt yn gallu ffocysu’n iawn ar eu pen eu hunain mwyach.

Mae amnewid pŵer ffocysu lens y cataract yr un mor bwysig â’r llawdriniaeth i’w dynnu.

Bydd angen sbectol neu lensys cyffwrdd hefyd fel arfer os bydd lens artiffisial wedi’i gosod, er mwyn caniatáu i’ch plentyn ffocysu ar wrthrychau agosach.

Bydd angen hyn oherwydd bod lensys artiffisial ond yn gallu ffocysu ar wrthrychau pell fel arfer.

Bydd y sbectol neu’r lensys cyffwrdd yn aml yn cael eu ffitio ychydig wythnosau ar ôl y llawdriniaeth, gan arbenigwr ar y llygaid o’r enw optometrydd, fel arfer.

Bydd yn rhoi cyngor i chi am ba mor aml y mae angen newid lensys cyffwrdd (bob dydd fel arfer) ac yn dangos i chi sut i wneud hyn.

Bydd eich plentyn yn parhau i gael archwiliadau rheolaidd ar ôl y llawdriniaeth i fonitro ei olwg.

Wrth i olwg eich plentyn ddatblygu wrth iddo/iddi fynd yn hŷn, gall cryfder ei lensys cyffwrdd neu ei sbectol gael ei addasu.

Gwisgo pats

Ar gyfer bron pob achos o gataract unochrog (un llygad sydd wedi’i effeithio), ac os bydd golwg plentyn â chataractau dwyochrog yn wannach mewn un llygad, gall yr optometrydd argymell bod y plentyn yn gwisgo pats dros dro dros ei lygad cryfach. Yr enw ar hyn yw therapi achludiad.

Nod therapi achludiad yw gwella’r golwg yn y llygad gwannach trwy orfodi’r ymennydd i adnabod yr arwyddion gweledol o’r llygad hwnnw. Gallai’r ymennydd fod wedi anwybyddu’r rhain cyn hyn. 

Heb driniaeth, ni fydd y rhan fwyaf o blant â chataract unochrog yn gallu datblygu golwg dda yn y llygad a gafodd y llawdriniaeth.

Mae orthoptyddion yn arbenigwyr mewn ysbyty sy’n aml yn cael eu disgrifio fel ffisiotherapyddion ar gyfer y llygad. Maen nhw’n asesu gweithrediad y golwg.

Bydd eich orthoptydd yn dweud wrthych pryd dylai eich plentyn wisgo’r pats ac am ba hyd y gallai’ch plentyn fod angen y pats.

Bydd hyn yn dibynnu ar fath o gataract eich plentyn a pha mor wan yw ei olwg.

Gall gwisgo pats fod yn brofiad anodd i’ch plentyn a bydd angen llawer o anogaeth arno i’w wisgo.

Cymhlethdodau

Cymhlethdodau

Fel arfer, mae llawdriniaeth cataract yn llwyddiannus iawn, ond gall rhai plant gael cymhlethdodau a gall fod angen triniaeth bellach arnynt.

Hyd yn oed os bydd cataractau plentyn yn cael eu tynnu’n llwyddiannus yn ystod llawdriniaeth, gall cyflyrau eraill y llygaid barhau i effeithio ar ei olwg.

Er enghraifft, gall llygad diog ddigwydd os yw’r golwg yn wannach mewn un llygad.

Mae’r ymennydd yn anwybyddu’r arwyddion gweledol sy’n dod o’r llygad gwannach ac, o ganlyniad, nid yw’r golwg yn y llygad hwnnw yn datblygu’n gywir.

Bydd angen triniaeth bellach ar lygad diog, trwy wisgo pats dros y llygad cryfach fel arfer, ond nid yw’n bosibl cywiro’r broblem yn llwyr bob amser.

Golwg gymylog

Os caiff eich plentyn lens artiffisial wedi’i gosod yn ystod llawdriniaeth cataractau, y brif risg yw cyflwr o’r enw didreiddiad capsiwl ôl (PCO).

Dyma pan fydd rhan o gapsiwl y lens (y "poced" y mae’r lens yn eistedd ynddo) yn tewhau ac yn achosi golwg gymylog.

Nid y cataract sy’n dychwelyd sy’n ei achosi, ond celloedd sy’n tyfu dros y lens artiffisial.

Mae PCO yn gyffredin ar ôl llawdriniaeth cataract pan fydd lens artiffisial yn cael ei mewnblannu ac mae’n datblygu fel arfer o fewn 4 i 12 mis o gael y llawdriniaeth.

Os bydd eich plentyn yn datblygu PCO, gall fod angen llawdriniaeth arall arno i’w gywiro.

Gellir defnyddio llawdriniaeth laser y llygaid, pan fydd pelydr ynni yn torri trwy ran o’r llygad.

Yn ystod y llawdriniaeth, bydd y rhan gymylog o gapsiwl y lens yn cael ei thynnu, gan adael digon ar ôl i barhau i ddal y lens artiffisial yn ei lle.

Dylai’r llawdriniaeth ond cymryd tua 15 munud a dylai’r golwg wella ar unwaith neu o fewn ychydig ddiwrnodau.

Gan nad oes angen unrhyw doriadau llawfeddygol na phwythau, gall eich plentyn ailgydio yn ei weithgareddau arferol yn syth, fel arfer.

Mae gan wefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) fwy o wybodaeth am driniaeth laser ar gyfer didreiddiad capsiwl ôl (PCO).

Cymhlethdodau eraill

Mae cymhlethdodau eraill a all ddigwydd ar ôl llawdriniaeth i dynnu cataractau plentyndod yn cynnwys:

Glawcoma

glawcoma – bydd pwysedd cynyddol y tu mewn i’r llygad yn effeithio ar y golwg. 

Heb driniaeth lwyddiannus, gall glawcoma achosi difrod parhaol i strwythurau allweddol yn y llygad a dallineb.

Mae’n risg gydol oes i blant sy’n cael llawdriniaeth cataract, felly bydd angen i optegydd fesur pwysedd llygaid y plant hyn o leiaf unwaith y flwyddyn am weddill eu bywyd.

Llygad croes

Llygad croes/strabismws – bydd y llygaid yn edrych i gyfeiriadau gwahanol

Annormaleddau canhwyllau’r llygaid

Gall siâp cannwyll y llygad fynd yn fwy hirgrwn. Mae hyn yn gyffredin ac nid yw’n effeithio ar y golwg, fel arfer.

Retina rhydd

retina rhydd – pan fydd gwahanu’r retina (yr haen o gelloedd sensitif i olau sy’n leinio cefn y llygad) rhag wal fewnol y llygad yn effeithio ar y golwg

Oedema macwlaidd systoid

Dyma pan fydd hylif yn cronni rhwng haenau’r retina, gan weithiau effeithio ar y golwg

Haint

Gall hyn gynnwys endoffthalmitis, haint bacterol prin.

Mewn sawl achos, bydd angen meddyginiaeth neu lawdriniaeth bellach i drin y problemau hyn os byddant yn datblygu.

Pryd i geisio cyngor meddygol

Dylech gysylltu â’r ysbyty a wnaeth y llawdriniaeth os oes gan eich plentyn:

  • unrhyw arwyddion o boen
  • gwaedu
  • llawer o ludiogrwydd yn y llygad neu o’i gwmpas

A ellir atal cataractau mewn plant?

Nid yw’n bosibl atal cataractau fel arfer, yn enwedig y rhai sy’n cael eu hetifeddu (sy’n rhedeg yn y teulu).

Ond gall dilyn cyngor eich bydwraig neu feddyg teulu i osgoi heintiau yn ystod beichiogrwydd (gan gynnwys gwneud yn siŵr bod eich holl frechiadau yn gyfredol cyn beichiogi) leihau’r siawns y bydd eich plentyn yn cael ei eni gyda chataractau.

Os cawsoch chi fabi yn flaenorol â chataractau plentyndod ac rydych chi’n bwriadu beichiogi eto, efallai y byddwch chi am siarad â’ch meddyg teulu i gael gwybod a fyddai cwnsela genetig yn briodol.

Gall cwnsela genetig helpu cyplau y gall fod risg iddynt drosglwyddo cyflwr wedi’i etifeddu i’w plentyn.

Darllenwch fwy am heintiau yn ystod beichiogrwydd a phrofion a chwnsela genetig.

Gwybodaeth am eich plentyn

Os yw eich plentyn wedi cael cataractau, bydd eich tîm clinigol yn trosglwyddo gwybodaeth amdano/amdani i’r Gwasanaeth Cofrestru Anomaleddau Cynhenid a Chlefydau Prin Cenedlaethol (NCARDRS).

Mae hyn yn helpu gwyddonwyr i chwilio am ffyrdd gwell o atal a thrin y cyflwr hwn. Gallwch optio allan o’r gofrestr unrhyw bryd.

Dysgwch ragor am y gofrestr.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/03/2023 14:32:04