Gwlychu’r gwely

Cyflwyniad

Bedwetting
Bedwetting

Mae gwlychu’r gwely (enwresis nos) yn gallu achosi pryder a rhwystredigaeth, ond mae'n gyffredin i blant wlychu'r gwely yn ddamweiniol yn ystod y nos. Mae'r broblem fel arfer yn gwella ymhen amser.

Mae gwlychu'r gwely yn gyffredin ymhlith plant ifanc, ond mae'n mynd yn llai cyffredin wrth i blentyn fynd yn hyn.

Yn y DU, amcangyfrifir bod tua:

  • 1 o bob 12 o blant yn gwlychu'r gwely'n rheolaidd yn bedair a hanner oed (diffinnir yn rheolaidd fel o leiaf ddwywaith yr wythnos)
  • 1 o bob 40 o blant yn gwlychu'r gwely'n rheolaidd yn saith a hanner oed
  • 1 o bob 65 o blant yn gwlychu'r gwely'n rheolaidd yn naw a hanner oed

Mae tua 1 o bob 100 o bobl yn parhau i wlychu'r gwely pan fyddant yn oedolion.

Mae gwlychu'r gwely ychydig yn fwy cyffredin ymhlith bechgyn na merched.

Pryd i fynd i weld eich meddyg teulu

Dim ond pan fydd yn dechrau achosi trafferth i'r plant neu'r rhieni y mae gwlychu'r gwely yn broblem mewn gwirionedd. Anaml yn unig y bydd hyn yn cael ei ystyried yn broblem ymhlith plant o dan 5 oed. Mae llawer o deuluoedd yn gofyn am driniaeth i ddechrau pan fydd y ffaith fod plentyn yn gwlychu'r gwely yn effeithio ar ei fywyd cymdeithasol (er enghraifft, atal y plentyn rhag mynd i aros dros nos yn nhai ffrindiau).

Nid yw triniaethau meddygol fel arfer yn cael eu hargymell ar gyfer plant o dan bump oed (ond gellir gwneud eithriadau os yw gwlychu'r gwely yn achosi pryder mawr i blentyn).

Os yw eich plentyn yn gwlychu'r gwely'n aml a bod hyn yn achosi pryder iddo, siaradwch â'ch meddyg teulu i gael cyngor. 

Darllenwch fwy am symptomau gwlychu'r gwely.

Pam mae fy mhlentyn yn gwlychu'r gwely?

Fel arfer, nid oes rheswm amlwg pam mae plant yn gwlychu'r gwely ac nid yw eich plentyn ar fai. Mewn llawer o achosion, mae'r broblem yn rhedeg mewn teuluoedd.

Gallai eich plentyn wlychu'r gwely:

  • os yw'n cynhyrchu mwy o wrin na'r hyn y mae ei bledren yn gallu ymdopi ag ef
  • os oes ganddo bledren orweithredol, sy'n golygu mai ychydig bach o wrin yn unig y mae'n gallu ei ddal
  • os yw'n cysgu'n drwm iawn felly nid yw'n ymateb i'r signalau sy'n dweud wrth ei ymennydd bod ei bledren yn llawn

Yn aml, mae rhwymedd yn gysylltiedig â gwlychu'r gwely, yn enwedig ymhlith plant nad ydynt yn gwlychu eu hunain bob nos. Yn yr achosion hyn, gallai plentyn wlychu'r gwely yn ystod y nos pan na fydd wedi gwneud pw yn ystod y dydd. Weithiau, y cyfan sydd angen ei wneud yw trin y rhwymedd fel na fydd yn gwlychu'r gwely. Mae achos o rwymedd heb ei drin yn ei gwneud yn llawer anos trin achos o wlychu'r gwely.

O bryd i'w gilydd, mae gwlychu'r gwely yn gallu cael ei sbarduno gan ofid emosiynol, er enghraifft os yw'r plentyn yn cael ei fwlio neu wedi symud i ysgol newydd. 

Mewn achosion prin, gall gwlychu'r gwely fod yn symptom o gyflwr iechyd gwaelodol, fel math 1 diabetes.

Darllenwch fwy am achosion gwlychu'r gwely a gwneud diagnosis o wlychu'r gwely.

Trin achosion o wlychu'r gwely

Fel arfer, argymhellir y dylech roi cynnig ar rai camau eich hun yn gyntaf, er enghraifft cyfyngu ar faint o hylif y mae eich plentyn yn ei yfed gyda'r nos, a gwneud yn siwr ei fod yn mynd i'r toiled cyn mynd i gysgu.

Mae hefyd yn bwysig i chi dawelu meddwl eich plentyn bod popeth yn iawn. Peidiwch â rhoi pryd o dafod i'ch plentyn na'i gosbi am wlychu'r gwely gan na fydd hyn yn helpu a gallai waethygu'r broblem. Mae'n bwysig i'ch plentyn wybod nad yw ar ei ben ei hun, ac y bydd pethau'n gwella.

Os na fydd y camau hyn ar eu pen eu hunain yn helpu, argymhellir larwm gwlychu'r gwely yn aml, sef padiau sy'n sensitif i anwedd y mae plentyn yn eu gwisgo ar ei ddillad nos. Bydd larwm yn gwneud swn os yw'r plentyn yn dechrau pi-pi. Dros gyfnod, dylai'r larwm helpu i hyfforddi plentyn i ddeffro pan fydd ei bledren yn llawn.

Os na fydd larwm yn gweithio neu os bydd yn anaddas, gellir defnyddio meddyginiaeth o'r enw desmopressin neu oxybutinin.

Mae'r rhan fwyaf o blant yn ymateb yn dda i driniaeth, er y byddant weithiau'n ailddechrau gwlychu'r gwely dros dro.

Darllenwch fwy ynghylch trin achosion o wlychu'r gwely.

ERIC

ERIC, The Children's Bowel & Bladder Charity sef elusen yn y DU i bobl sy'n cael eu heffeithio gan wlychu'r gwely. Mae gwefan yr elusen yn darparu gwybodaeth a chyngor defnyddiol ar gyfer plant a phobl ifanc fel ei gilydd.

Mae gan ERIC linell gymorth hefyd - 0845 370 8008, sydd ar agor ar ddyddiau'r wythnos rhwng 10am a 4pm.

Oedolion sy'n gwlychu'r gwely

Mae tua 1 o bob 100 o bobl yn parhau i wlychu'r gwely pan fyddant yn oedolion, a bydd rhai pobl dim ond yn dechrau gwlychu'r gwely pan fyddant yn oedolion.

Mae hyn fel arfer yn golygu bod angen eu cyfeirio at arbenigwr fel wrolegwr (arbenigwr mewn trin cyflyrau sy'n effeithio ar y system wrinol) neu ymgynghorydd ar anymataliad.

Darllenwch fwy am anymataliad wrinol, oedolion sy'n gwlychu'r gwely a pobl ifanc yn eu harddegau sy'n gwlychu'r gwely.

 

 

Achosion

Nid oes bai ar eich plentyn am wlychu'r gwely, ac yn aml, nid oes rheswm amlwg pam mae'n digwydd. Mewn llawer o achosion, mae’r broblem yn rhedeg mewn teuluoedd.

Mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn credu y gallai fod yna fwy nag un achos gwaelodol.

Problemau â'r bledren

Organ sy'n debyg i falwn yn y pelfis sy'n storio wrin yw'r bledren. Pan fydd yn llawn, mae wrin yn llifo allan ohoni trwy diwb o'r enw'r wrethra, sydd yng nghanol y pidyn mewn bechgyn ac ychydig uwchben prif agoriad y wain mewn merched.

Mae gan rai plant sy'n gwlychu'r gwely 'syndrom pledren orweithredol', pan fydd y cyhyrau sy'n rheoli'r bledren yn gwingo, gan achosi i wrin ollwng yn anwirfoddol.

Cynhyrchu llawer o wrin

Gallai yfed llawer o hylifau gyda'r nos achosi i'ch plentyn wlychu'r gwely yn ystod y nos, yn enwedig os yw capasiti ei bledren yn fach. Mae yfed diodydd sy'n cynnwys caffein, fel cola, te a choffi, hefyd yn gallu symbylu cynnydd yn faint o wrin sy'n cael ei gynhyrchu.

Mewn rhai achosion o wlychu'r gwely, nid yw corff y plentyn yn cynhyrchu digon o hormon o'r enw fasopresin, sy'n rheoleiddio cynhyrchu wrin. Mae hyn yn golygu bod eu harennau yn cynhyrchu gormod o wrin i'w pledren allu ymdopi ag ef.

Peidio â defnyddio'r toiled yn ystod y nos

Pan fydd faint o wrin sydd yn y bledren yn cyrraedd pwynt penodol, mae'r rhan fwyaf o bobl yn deffro wrth iddyn nhw deimlo'r angen i fynd i'r toiled. Fodd bynnag, mae rhai plant iau yn cysgu'n drwm iawn, ac nid yw eu hymennydd yn ymateb i signalau i'r ymennydd o'u pledren, felly dydyn nhw ddim yn deffro.

Fel arall, mewn rhai plant, efallai nad yw'r nerfau sydd wedi'u cysylltu â'r bledren wedi eu datblygu'n llawn eto, felly dydyn nhw ddim yn cynhyrchu signal digon cryf i'w anfon i'r ymennydd.

Weithiau, gallai plentyn ddeffro yn ystod y nos â phledren lawn ond ni fydd yn mynd i'r toiled. Gallai hyn fod oherwydd ofnau plentyndod, fel ofni'r tywyllwch.

Cyflwr iechyd gwaelodol

Gall gwlychu'r gwely gael ei achosi hefyd gan gyflwr iechyd gwaelodol, fel:

  • rhwymedd - os bydd coluddion plant yn cael eu rhwystro â charthion caled, gall roi pwysau ar y bledren ac achosi iddo wlychu'r gwely
  • math 1 diabetes - cyflwr gydol oes sy'n achosi i lefel y siwgr yn y gwaed fynd yn rhy uchel a gall arwain at gynhyrchu llawer o wrin
  • haint y llwybr wrinol (UTI)
  • abnormaleddau â'r llwybr wrinol, fel cerrig ar y bledren
  • niwed i'r nerfau sy'n rheoli'r bledren - gallai hyn gael ei achosi gan ddamwain neu gyflwr fel spina bifida

Problemau emosiynol

Mewn rhai achosion, gall gwlychu'r gwely fod yn arwydd fod eich plentyn yn ddigalon neu'n pryderu. Mae dechrau ysgol newydd, cael ei fwlio, neu fabi newydd yn y teulu yn gallu achosi llawer o straen i blentyn ifanc.

Os yw eich plentyn wedi dechrau gwlychu'r gwely ar ôl bod yn sych o'r blaen am gyfnod o chwe mis neu fwy (o'r enw enwresis nos eilaidd), gall problemau emosiynol fel straen a gorbryder fod yn gyfrifol. 

Triniaeth

Mae'r rhan fwyaf o blant yn rhoi'r gorau i wlychu'r gwely wrth iddyn nhw fynd yn hyn, ond yn y cyfamser, mae nifer o driniaethau y gallwch chi roi cynnig arnynt.

Gallai'r triniaethau hyn helpu'ch plentyn i fod yn sych nes bydd yn rhoi'r gorau i wlychu'r gwely. 

Cynllun triniaeth eich plentyn

Mae'r driniaeth ar gyfer eich plentyn yn dibynnu ar nifer o bethau, fel:

  • pa mor aml y mae'n gwlychu'r gwely
  • yr effaith y mae gwlychu'r gwely yn ei gael, ar eich plentyn ac arnoch chi, eich partner ac aelodau eraill o'ch teulu
  • trefniadau cysgu eich plentyn, er enghraifft a yw'n cysgu ar ei ben ei hun neu'n rhannu ystafell â phlant eraill
  • a oes angen rheoli arfer eich plentyn o wlychu'r gwely yn y tymor byr - er enghraifft, os yw'n mynd ar wibdaith ysgol
  • sut mae eich plentyn yn teimlo ynghylch triniaethau penodol

Yn dibynnu ar symptomau eich plentyn a pha mor dda mae'n ymateb i driniaeth, yr unigolyn sy'n gyfrifol am ei ofal fydd ei feddyg teulu neu bediatregydd (meddyg sy'n arbenigo mewn trin plant).

Fel arall, mae llawer o grwpiau comisiynu clinigol (CCG) yn cynnal clinigau gwlychu'r gwely, sydd hefyd yn cael eu hadnabod fel clinigau enwresis, y gall eich meddyg teulu eich cyfeirio atyn nhw.

Nid oes un ffordd benodol o drin achosion o wlychu'r gwely sy'n gweithio i bawb, ond yn y rhan fwyaf o achosion, argymhellir y dylech chi roi cynnig ar gyfuniad o gamau eich hun yn gyntaf.

Os nad yw'r rhain yn gweithio, defnyddir larwm gwlychu'r gwely yn aml. Os yw'r larwm yn aflwyddiannus neu'n anaddas, gellir argymell meddyginiaeth.

Amlinellir y triniaethau amrywiol ar gyfer gwlychu'r gwely isod.

Camau y gallwch roi cynnig arnyn nhw eich hun

Gallai'r camau isod atal, neu o leiaf leihau, pyliau o wlychu'r gwely.

Rheoli faint o hylif y mae eich plentyn yn ei yfed

Mae yfed gormod neu ddim digon yn gallu cyfrannu at wlychu'r gwely. Argymhellir yn aml y dylech chi sicrhau bod eich plentyn yn cael y maint cywir o hylif bob dydd.

Er bod faint o hylif sydd ei angen ar eich plentyn yn gallu amrywio yn dibynnu ar bethau fel pa mor egnïol ydyw yn gorfforol a'i ddeiet, mae yna rai argymhellion cyffredinol am faint o hylif y dylai ei yfed bob dydd, sef:

  • bechgyn a merched rhwng 4 ac 8 oed - 1,000 i 1,400ml (1.7 i 2.4 peint)
  • merched rhwng 9 ac 13 oed - 1,200 i 2,100ml (2.1 i 3.7 peint)
  • bechgyn rhwng 9 ac 13 oed - 1,400 i 2,300ml (2.4 i 4 peint)
  • merched rhwng 14 ac 18 oed - 1,400 i 2,500ml (2.4 i 4.4 peint)
  • bechgyn rhwng 14 ac 18 oed - 2,100 i 3,200ml (3.7 i 5.6 peint)

Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio mai canllawiau yn unig yw'r rhain ac nid yw llawer o blant yn yfed cymaint â hyn.

Yn ogystal â faint y mae eich plentyn yn ei yfed, mae amseru'n bwysig hefyd. Dylai'r rhan fwyaf o'r hylif a argymhellir gael ei yfed yn ystod y dydd, gydag un rhan o bump ohono yn unig gyda'r nos.

Hefyd, ceisiwch annog eich plentyn i osgoi yfed diodydd sy'n cynnwys caffein, fel cola, te, coffi neu siocled poeth, gan fod y rhain yn cynyddu'r angen i basio dwr yn ystod y nos.

Mynd i'r toiled yn rheolaidd

Ceisiwch annog eich plentyn i fynd i'r toiled yn rheolaidd yn ystod y dydd. Mae'r rhan fwyaf o blant iach yn pasio dwr rhwng pedair a saith gwaith bob dydd. Dylech chi hefyd wneud yn siwr bod eich plentyn yn pasio dwr cyn mynd i'r gwely a'i fod yn gallu cyrraedd toiled yn hawdd.

Cynlluniau gwobrwyo

Mae llawer o rieni yn gweld cynlluniau gwobrwyo yn ddefnyddiol pan fydd eu plentyn yn gwlychu'r gwely gan fod cymell eich plentyn yn gallu helpu i driniaethau ar gyfer gwlychu'r gwely fod yn fwy effeithiol.

Fodd bynnag, mae'n bwysig pwysleisio bod y rhain dim ond yn effeithiol pan fyddant yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn hytrach na chosbi ymddygiad negyddol.

Mae gwlychu'r gwely yn rhywbeth na all eich plentyn ei reoli, felly ni ddylid seilio gwobrau ar b'un a yw'n gwlychu'r gwely ai peidio. Yn hytrach, efallai yr hoffech roi gwobrau am y canlynol:

  • yfed faint o hylif sy'n cael ei argymell ar ei gyfer
  • cofio mynd i'r toiled cyn mynd i'r gwely

Mae'n bwysig peidio â chosbi eich plentyn neu atal tritiau sydd wedi cael eu cytuno'n flaenorol os bydd yn gwlychu'r gwely. Mae cosbi plentyn yn aml yn wrthgynhyrchiol gan fod hyn yn achosi mwy o straen a gorbryder iddo, a allai gyfrannu at wlychu'r gwely.

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar gynllun gwobrwyo fel nad yw eich plentyn yn gwlychu'r gwely ac nad yw hyn wedi bod yn effeithiol, nid oes llawer o werth parhau ag ef gan ei fod yn annhebygol o helpu.

Larymau gwlychu'r gwely

Os nad yw'r camau uchod yn helpu, larwm gwlychu'r gwely yw'r cam nesaf, fel arfer.

Mae larwm gwlychu'r gwely yn cynnwys synhwyrydd bach a larwm. Caiff y larwm ei roi yn sownd yn nillad isaf eich plentyn ac fe gaiff y larwm ei wisgo ar y pyjamas. Os bydd y synhwyrydd yn dechrau gwlychu, mae'n achosi i'r larwm wneud swn. Mae larymau sy'n dirgrynu ar gael i blant sydd â nam ar eu clyw hefyd.

Ni chaiff larymau gwlychu'r gwely eu rhoi ar bresgripsiwn ar y GIG, ond efallai y gallwch gael benthyg un gan eich Bwrdd Iechyd lleol. Fel arall, maen nhw ar gael i'w prynu. Er enghraifft, mae sefydliad o'r enw ERIC, The Children's Bowel & Bladder Charity yn gwerthu larymau am ryw £40 i £140, yn dibynnu ar y math o larwm.

Dros gyfnod, dylai'r larwm helpu eich plentyn i wybod pan fydd angen iddo wneud pi-pi a deffro i fynd i'r toiled.

Gallai systemau gwobrwyo i hyrwyddo ymddygiad da helpu, er enghraifft codi pan fydd y larwm yn gwneud swn a chofio ailosod y larwm. Mae hefyd yn helpu i'w gwneud mor hawdd ag y bo modd i'ch plentyn fynd i'r toiled yn ystod y nos, er enghraifft defnyddio goleuadau nos.

Bydd y larwm fel arfer yn cael ei ddefnyddio am o leiaf bedair wythnos. Os bydd arwyddion o welliant erbyn yr adeg hon, bydd y driniaeth yn parhau. Os na fydd unrhyw arwydd o welliant, rhoddir y gorau i'r driniaeth gan amlaf am nad yw'n debygol y bydd yn gweithio i'ch plentyn.

Nod y larwm yw mynd am o leiaf bythefnos o nosau sych di-dor. Os bydd gwelliant ar ôl tri mis, ond dim arwydd o allu cyflawni'r nod hwn, caiff triniaethau eraill eu hargymell fel arfer (gweler isod).

Pan fydd larymau gwlychu'r gwely yn anaddas

Mae angen ymroddiad gan blant a rhieni fel ei gilydd ar gyfer larymau gwlychu'r gwely. Gallai fod sefyllfaoedd pan nad ydynt yn addas. Er enghraifft:

  • os bydd angen triniaeth fwy uniongyrchol, er enghraifft gan eich bod yn ei chael yn anodd yn emosiynol ymdopi â'r ffaith fod eich plentyn yn gwlychu'r gwely
  • os oes ystyriaethau ymarferol sy'n gwneud defnyddio larwm yn broblemus, er enghraifft os yw eich plentyn yn rhannu ystafell neu fod y larwm yn amharu ar ei gwsg

Efallai na fydd rhai plant a'u rhieni yn hoffi'r syniad o ddefnyddio larwm i roi arwydd pan fydd y plentyn wedi gwlychu'r gwely.

Meddyginiaeth

Os na fydd larwm gwlychu'r gwely yn helpu neu nid yw'n addas, argymhellir triniaeth â meddyginiaeth fel arfer. Caiff y tair prif feddyginiaeth eu disgrifio isod.

Desmopressin

Fersiwn synthetig (artiffisial) o'r hormon sy'n rheoleiddio cynhyrchu wrin, o'r enw fasporesin, yw desmopressin. Mae'n helpu i leihau faint o wrin mae'r arennau yn ei gynhyrchu.

Gellir defnyddio desmopressin:

  • i leddfu achosion o wlychu'r gwely yn y tymor byr mewn rhai sefyllfaoedd - er enghraifft, os ydych chi'n mynd ar wyliau neu os yw eich plentyn yn mynd ar daith gyda ffrindiau
  • fel triniaeth arall tymor hir mewn sefyllfaoedd lle mae larwm gwlychu'r gwely yn aneffeithiol, yn anaddas neu fod rhywun ddim eisiau ei ddefnyddio

Dylai eich plentyn gymryd desmopressin pan fydd ar fin mynd i'r gwely.

Mae'r feddyginiaeth yn lleihau faint o wrin mae eich plentyn yn ei gynhyrchu ac yn ei gwneud yn anos i'w gorff ddelio â hylif gormodol. Felly, mae'n bwysig nad yw eich plentyn yn yfed o fewn awr cyn cymryd desmopressin, nes wyth awr ar ôl ei gymryd. Os bydd eich plentyn yn yfed gormod o hylif yn ystod y cyfnod hwn, gallai achosi gormod o hylif, gan arwain at symptomau amhleserus fel pen tost/cur pen a bod yn sâl.

Os na fydd eich plentyn yn gwbl sych ar ôl wythnos i bythefnos o gymryd desmopressin, dywedwch wrth eich meddyg teulu oherwydd efallai bod angen cynyddu'r ddos.

Dylid adolygu triniaeth eich plentyn ar ôl pedair wythnos. Os bydd y symptomau gwlychu'r gwely wedi gwella, argymhellir gan amlaf y dylai barhau â'r driniaeth am dri mis arall, er y gallai eich meddyg gynghori y dylai eich plentyn gymryd desmopressin yn gynharach bob nos (1-2 awr cyn amser gwely). Os bydd gwelliant parhaus yn ystod y cyfnod hwn, gallai'r cwrs barhau.

Os bydd eich plentyn yn rhoi'r gorau i wlychu'r gwely tra bydd yn cymryd desmopressin, caiff y feddyginiaeth ei lleihau yn raddol i weld a yw eich plentyn yn gallu aros yn sych heb ei chymryd.

Os na fydd desmopressin neu larwm gwlychu'r gwely yn gweithio, byddwch yn cael eich cyfeirio at arbenigwr.

Meddyginiaeth wrthgolinergig

Dewis arall yw defnyddio cyfuniad o desmopressin a meddyginiaeth ychwanegol o'r enw meddyginiaeth wrthgolinergig. Gellir defnyddio meddyginiaeth wrthgolinergig o'r enw oxybutynin i drin achosion o wlychu'r gwely.

Mae oxybutynin yn gweithio trwy wneud i gyhyrau'r bledren ymlacio, sy'n gallu helpu i wella'i chapasiti a lleihau'r awydd i basio dwr yn ystod y nos.

Mae sgil-effeithiau oxybutynin yn cynnwys teimlo'n sâl, ceg sych, pen tost/cur pen, rhwymedd neu ddolur rhydd. Dylai'r rhain wella ar ôl ychydig ddyddiau ar ôl i gorff eich plentyn ddod i arfer â'r feddyginiaeth. Os bydd y rhain yn parhau neu'n gwaethygu, cysylltwch â'r meddyg sy'n gyfrifol am ofal eich plentyn i gael cyngor.

Imipramine 

Os na fydd y triniaethau uchod yn gweithio, gellir argymell meddyginiaeth ar bresgripsiwn o'r enw imipramine.

Mae imipramine yn gwneud i gyhyrau'r bledren ymlacio hefyd, gan gynyddu ei chapasiti a lleihau'r awydd i basio dwr.

Mae sgil-effeithiau imipramine yn cynnwys penysgafnder, ceg sych, pen tost/cur pen a mwy o archwaeth bwyd. Dylai'r rhain wella pan fydd corff eich plentyn yn dod i arfer â'r feddyginiaeth. Mae'n bwysig nad yw eich plentyn yn rhoi'r gorau i gymryd imipramine yn sydyn oherwydd gall arwain at symptomau diddyfnu fel teimlo'n sâl a bod yn sâl, gorbryder ac anawsterau cysgu (anhunedd).

Dylid adolygu'r driniaeth ar ôl tri mis. Pan gredir nad oes angen i'ch plentyn gymryd imipramine mwyach, gellir lleihau'r ddos yn raddol cyn iddo roi'r gorau i gymryd y feddyginiaeth yn gyfan gwbl.

Cyngor i rieni

Gall fod yn hawdd i arbenigwyr gynghori rhieni i aros yn bwyllog a chefnogol os yw eu plentyn yn gwlychu'r gwely, ond gall fod yn gyflwr anodd i fyw ag ef mewn gwirionedd.

Er ei bod yn bwysig i chi byth roi bai ar eich plentyn na'i gosbi, mae hefyd yn berffaith normal i chi deimlo'n rhwystredig.

Dylech chi ddweud wrth eich meddyg teulu os ydych yn teimlo bod angen cymorth arnoch chi, yn enwedig os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi.

Gallai fod yn ddefnyddiol i chi siarad â rhieni eraill sydd wedi cael eu heffeithio gan wlychu'r gwely. Mae bwrdd negeseuon ar gyfer rhieni gan ERIC, The Children's Bowel & Bladder Charity.

Gallai'r cyngor isod helpu chi a'ch plentyn i ymdopi'n well â gwlychu'r gwely:

  • Gwnewch yn siwr fod eich plentyn yn gallu mynd i'r toiled yn hawdd yn y nos. Er enghraifft, os oes ganddo wely bync, dylai gysgu ar y gwaelod. Gallech chi adael golau ynghynn yn yr ystafell ymolchi a rhoi sedd plentyn ar y toiled.
  • Defnyddiwch orchuddion sy'n dal dwr ar fatres a chwrlid eich plentyn. Ar ôl i'ch plentyn wlychu'r gwely, defnyddiwch ddwr oer a channydd ysgafn i rinsio dillad gwely a dillad nos eich plentyn cyn eu golchi yn ôl yr arfer.
  • Dylech osgoi deffro eich plentyn yn y nos neu'i gario i'r toiled, gan fod y rhain yn annebygol o'i helpu yn y tymor hir.
  • Ar ôl i blant hyn wlychu'r gwely, efallai y byddant eisiau newid eu dillad gwely yn y nos i leihau aflonyddwch ac embaras, felly gall helpu os oes dillad gwely a dillad nos ar gael iddynt.
  • Gallwch geisio tynnu pans tynnu i fyny (pull-ups) oddi ar eich plentyn yn y nos, ond dylid ystyried hyn fel arbrawf yn hytrach na thriniaeth. Os yw'r plentyn yn parhau i wlychu'r gwely, mae gwisgo pans tynnu i fyny yn aml yn brafiach iddo ac yn haws i'r teulu ei reoli. 

Triniaethau cyflenwol ac amgen

Mae rhai rhieni yn ystyried defnyddio triniaethau cyflenwol ac amgen - fel hypnosis, seicotherapi, aciwbigo a triniaeth ceiropracteg - i helpu eich plentyn i roi'r gorau i wlychu'r gwely.

Fodd bynnag, nid yw'r triniaethau hyn fel arfer yn cael eu hargymell gan mai tystiolaeth wan yn unig, os o gwbl, sydd i gefnogi eu defnyddio. Mae angen ymchwilio ymhellach i benderfynu pa mor effeithiol a diogel ydynt i'w defnyddio ar gyfer gwlychu'r gwely.

Darllenwch fwy ynghylch meddyginiaeth gyflenwol ac amgen.

 



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 05/03/2024 13:54:26