Anadl ddrwg

Cyflwyniad

Mae anadl ddrwg (sy'n cael ei alw'n halitosis weithiau) yn gyffredin iawn. Gallwch ei drin eich hun fel arfer. 

Sut i drin anadl ddrwg eich hun

Y ffordd orau o wneud yn siwr nad oes gennych anadl ddrwg yw trwy gadw eich dannedd, eich tafod a'ch ceg yn lân.

  • brwsiwch eich dannedd a'ch deintgig yn ysgafn o leiaf ddwywaith y dydd, am 2 funud
  • defnyddiwch bast dannedd sy'n cynnwys fflworid
  • glanhewch eich tafod unwaith y dydd gan ddefnyddio ysgrafell neu lanhäwr y tafod
  • glanhewch rhwng eich dannedd gan ddefnyddio brwshys rhyngddeintiol neu fflos o leiaf unwaith y dydd
  • ewch am wiriadau deintyddol rheolaidd 
  • cadwch ddannedd gosod yn lân a'u tynnu dros nos 
  • defnyddiwch losin mint neu gwm cnoi heb siwgr ar ôl cael bwyd a diod sydd ag arogl cryf
  • rhowch gynnig ar ddefnyddio cegolch neu bast dannedd gwrthfacterol

Peidiwch ag

  • ysmygu
  • golchi eich ceg gyda dŵr yn syth ar ôl brwsio eich dannedd
  • bwyta llawer o fwydydd neu yfed llawer o ddiodydd siwgraidd
  • brwsio mor galed fel bod eich deintgig neu eich tafod yn gwaedu 

Achosion anadl ddrwg

  • bwyta neu yfed bwydydd a diodydd sydd ag arogl cryf neu sy'n sbeislyd
  • problemau gyda'ch dannedd neu'ch deintgig, clefyd y deintgig, pydredd dannedd neu haint 
  • mynd ar ddiet lle'r ydych chi'n colli pwysau yn sydyn iawn
  • rhai cyflyrau meddygol, fel ceg sychtonsilitis ac adlif asid 
  • ysmygu

Ewch i weld meddyg os oes gennych:

  • anadl ddrwg sydd ddim yn diflannu ar ôl i chi ei drin eich hun am ychydig wythnosau 
  • deintgig sy'n boenus, yn gwaedu neu sydd wedi chwyddo
  • y ddannoedd neu mae eich dannedd oedolion yn rhydd
  • problemau gyda'ch dannedd gosod 


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 19/03/2024 11:26:00