Tarwden y traed (athlete's foot)

Cyflwyniad

Athlete's foot

Haint ffyngaidd gyffredin sy'n effeithio'r traed yw tarwden y traed. Fel arfer gallwch ei thrin â hufennau, chwistrellau neu bowdrau a brynir mewn fferyllfa, ond gall ddod yn ôl dro ar ôl tro.

Gwiriwch a oes tarwden y traed gennych

Mae symptomau tarwden y traed yn cynnwys:

  • Mannau gwyn coslyd rhwng bysedd eich traed
  • Mannau coch, dolurus a chennog ar eich traed
  • Croen a allai gracio a gwaedu

Gall hefyd effeithio ar wadnau neu ochrau eich traed. Os nad yw'n cael cael ei trhin, gall ledaenu i'ch ewinedd troed ac achosi haint ewinedd ffyngaidd.

Wetihiau mae tarwden y traed yn achosi pothelli llawn hylif.

Gall fferyllydd helpu gyda tharwden y traed

Mae Athlete's Foot yn annhebygol o wella ar ei ben ei hun, ond mae Athletes Foot yn un o'r cyflyrau a gwmpesir gan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion gael mynediad ato i gael cyngor am ddim a thriniaeth am ddim ac sydd ar gael mewn 99% o fferyllfeydd yng Nghymru.
Dewch o hyd i'ch fferyllfa agosaf.
Darganfod mwy o wybodaeth am y gwasanaeth.

Mae triniaethau ar gyfer tarwden y traed ar gael fel:

  • hufennau
  • chwistrellau
  • powdrau

Nid yw pob un ohonynt yn addas i bawb - er enghraifft, mae rhai ohonynt ar gyfer oedolion yn unig. Gwiriwch y pecyn bob tro, neu gofynnwch i fferyllydd.

Gall fod angen i chi roi cynnig ar nifer o driniaethau i ganfod un sy'n gweithio orau i chi.

Chwiliwch fferyllfa yma.

Sut allwch chi helpu trin ac atal tarwden y traed eich hun

Gallwch barhau i ddefnyddio rhai triniaethau o'r fferyllydd i atal tarwden y traed rhag dod yn ôl.

Mae'n bwysig hefyd eich bod yn cadw'ch traed yn lân ac yn sych. Nid oes angen i chi aros gartref o'r gwaith neu'r ysgol cyhyd â'ch bod yn dilyn y cyngor hwn.

Gwnewch yn siwr eich bod yn

  • sychu eich traed ar ôl eu golchi, yn enwedig rhwng bysedd eich traed - dabiwch nhw'n sych yn hytrach na'u rhwbio
  • defnyddiwch dywel ar wahân ar gyfer eich traed a golchwch ef yn rheolaidd
  • tynnwch eich esgidiau pan fyddwch chi gartref
  • gwisgwch sanau glân bob dydd - sanau cotwm sydd orau

Peidiwch â

  • chrafu'r croen yr effeithiwyd arno - gall hyn ei lledaenu i rannau eraill o'ch corff
  • cerdded o gwmpas yn droednoeth - gwisgwch fflip-fflops mewn mannau fel ystafelloedd newid a chawodydd
  • rhannu tywelion, sanau nac esgidiau gyda phobl eraill
  • gwisgo'r un pâr o esgidiau am fwy na 2 ddiwrnod ar ôl ei gilydd
  • gwisgo esgidiau sy'n gwneud i chi deimlo'n boeth a chwyslyd

Pwysig

Cadwch i ddilyn y cyngor hwn ar ôl gorffen y driniaeth er mwyn helpu atal tarwden y traed rhag dod yn ôl.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad yw triniaethau o fferyllfa yn gweithio 
  • os ydych yn teimlo'n anesmwyth iawn
  • os yw eich troed yn goch, yn boeth ac yn boenus - gallai hwn fod yn haint fwy difrifol
  • os oes diabetes gennych - gall problemau'r traed fod yn fwy difrifol os oes diabetes gennych
  • os oes gennych system imiwnedd wan - er enghraifft, rydych wedi cael trawsblaniad organ neu yn cael cemotherapi

Triniaeth gan feddyg teulu

Gall eich meddyg teulu

  • anfon darn bach o groen o'ch traed i labordy i wirio a oes tarwden y traed gennych
  • rhoi presgripsiwn am hufen steroid i'w ddefnyddio ochr yn ochr â hufen gwrthffyngaidd
  • rhoi presgripsiwn am dabledi gwrthffyngaidd - gall fod angen i chi gymryd y rhain am rai wythnosau
  • eich cyfeirio at arbenigwr o'r enw dermatolegydd i gael mwy o brofion a thriniaeth os oes angen

Sut ydych chi'n cael tarwden y traed

Gallwch ddal tarwden y traed oddi wrth bobl eraill sydd â'r haint.

Gallwch ei gael drwy:

  • gerdded yn droednoeth mewn mannau lle y mae tarwden y traed gan rywun arall - yn enwedig ystafelloedd newid a chawodydd 
  • cyffwrdd â chroen heintiedig rhywun sydd â tharwden y traed

Rydych chi'n fwy tebygol o'i gael os oes gennych draed gwlyb neu chwyslyd, neu os yw'r croen ar eich traed wedi'i niweidio.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 30/11/2022 10:11:19