Cyffuriau gwrthiselder

Cyflwyniad

Antidepressants
Antidepressants
Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Defnyddiau

Rhagofalon

Yn anffodus, nid yw’r pwnc yma ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd. Cliciwch yma i weld y pwnc yma yn Saesneg.

Dos

Pan fydd eich meddyg teulu yn rhoi gwrthiselyddion ar bresgripsiwn i chi, bydd fel arfer yn dewis y dos isaf posibl yr ystyrir bod ei angen i wella'ch symptomau. Bydd yn gwneud hyn i leihau eich risg o ddioddef sgîl-effeithiau. Os nad yw'r dos hwn yn effeithiol, gall y dos gael ei gynyddu'n raddol.

Fel arfer, bydd gwrthiselyddion yn cael eu cymryd ar ffurf tabledi. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi gymryd rhwng un a thair tabled y dydd, yn ôl y math o wrthiselydd sy'n cael ei roi ar bresgripsiwn ac yn ôl difrifoldeb eich iselder.

Os ydych yn anghofio cymryd eich tabledi ar ddiwrnod penodol, peidiwch â chymryd dos ychwanegol y diwrnod canlynol i wneud yn iawn am hynny. Yn hytrach, dylech gymryd eich tabledi yn ôl yr arfer.

Os ydych yn cymryd mwy o dabledi nag y dylech eu cymryd, cysylltwch â'ch meddyg teulu cyn gynted â phosibl am gyngor. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl ffoniwch 111.

Mae'n debygol y bydd rhwng pythefnos a phedair wythnos yn mynd heibio cyn i chi ddechrau sylwi ar effeithiau'r gwrthiselyddion.

Fel arfer, argymhellir bod cwrs o wrthiselyddion yn para o leiaf chwe mis. Fodd bynnag, os ydych wedi cael pyliau blaenorol o iselder, gall cwrs dwy flynedd o wrthiselyddion gael ei argymell.

Ni ddylech roi'r gorau'n sydyn i gymryd gwrthiselyddion a roddwyd i chi ar bresgripsiwn, hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n well. Gall rhoi'r gorau'n sydyn i gymryd gwrthiselyddion arwain at symptomau diddyfnu fel:

  • stumog ddrwg,
  • symptomau tebyg i'r ffliw,
  • gorbryder,
  • pendro,
  • breuddwydion byw iawn yn y nos, ac
  • ymdeimladau yn y corff sy'n teimlo fel siociau trydanol.

Os yw eich meddyg teulu'n penderfynu dod â'ch cwrs iselyddion i ben, bydd yn gostwng y dos yn raddol, gydag amser.

Sgîl-effeithiau

Gwrthiselyddion a'r risg o hunanladdiad

Mae rhai pobl wedi cael profiad o feddwl am gyflawni hunanladdiad ac awydd i niweidio'u hunain wrth ddechrau cymryd gwrthiselyddion am y tro cyntaf. Mae'n ymddangos bod risg benodol i bobl sydd o dan 25 oed.

Cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ewch i'r ysbyty ar unwaith os ydych chi'n meddwl am ladd eich hun neu niweidio'ch hun unrhyw bryd pan fyddwch chi'n cymryd gwrthiselyddion.

Efallai y byddai'n ddefnyddiol dweud wrth berthynas neu ffrind agos eich bod wedi dechrau cymryd gwrthiselyddion a gofyn iddynt ddarllen y daflen sy'n dod gyda'ch meddyginiaeth. Yna, gallech ofyn iddynt ddweud wrthoch chi os ydynt yn meddwl bod eich symptomau'n gwaethygu, neu os ydynt yn pryderu am newidiadau yn eich ymddygiad.

Meddyginiaethau MAOI

Mae sgîl-effeithiau cyffredin atalyddion ocsidas monoamin (MAOI) yn cynnwys:

  • golwg aneglur,
  • pendro,
  • teimlo'n gysglyd,
  • mwy o archwaeth bywd,
  • cyfog,
  • anesmwythder,
  • ysgwyd neu grynu, ac
  • anhawster yn cysgu.

Mewn achosion prin iawn mae gan feddyginiaethau MAOI y potensial i achosi amrywiaeth fawr o sgîl-effeithiau eraill. Dylech holi eich meddyg teulu os ydych yn pryderu am unrhyw symptomau anarferol sydd gennych.

Bu achosion pan wnaeth meddyginiaethau MAOI achosi i bwysedd gwaed godi'n beryglus. Gall hyn achosi symptomau fel:

  • gwddf anystwyth,
  • cur pen / pen tost difrifol,
  • poen yn y frest,
  • chwydu neu gyfog, a
  • chyfradd curiad calon annormal o gyflym (tachycardia).

Os ydych yn dioddef cyfuniad o'r symptomau sydd wedi'u rhestru uchod, mynnwch help meddygol ar frys ar unwaith trwy ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.

Gwrthiselyddion Trichylch (TCA)

Mae sgîl-effeithiau cyffredin gwrthiselyddion trichylch yn cynnwys:

  • ceg sych,
  • rhwymedd,
  • chwysu,
  • problemau'n troethi,
  • golwg ychydig yn aneglur, a
  • theimlo'n gysglyd.

Dylai'r sgîl-effeithiau leddfu ymhen 7 i 10 diwrnod wrth i'ch corff ddechrau dod i arfer â'r feddyginiaeth.

Fodd bynnag, os yw'r sgîl-effeithiau'n parhau neu os ydynt yn mynd yn drafferthus, dylech roi gwybod i'ch meddyg teulu oherwydd efallai y bydd modd newid i wrthiselydd gwahanol sy'n fwy addas i chi.

Meddyginiaethau SSRI

Mae sgîl-effeithiau cyffredin atalyddion dethol aildderbyn serotonin (SSRI) yn cynnwys:

  • cyfog (teimlo fel chwydu),
  • diffyg ysfa rywiol, diffyg orgasm ac, ymhlith dynion, codiad neu alldaflu annormal,
  • golwg aneglur,
  • dolur rhydd neu rwymedd,
  • pendro,
  • ceg sych,
  • teimlo'ch bod wedi cynhyrfu neu deimlo'n sigledig,
  • anhunedd (methu cysgu'n dda iawn) neu deimlo'n gysglyd iawn,
  • diffyg archwaeth (ddim llawer o awydd bwyd),
  • chwysu, a
  • dylyfu gên.

Dylai'r sgîl-effeithiau hyn wella gydag amser. Fodd bynnag, os ydynt yn mynd yn drafferthus, dylech siarad â'ch meddyg teulu oherwydd efallai y bydd angen i chi newid i fath gwahanol o wrthiselydd.

Meddyginiaethu SNRI

Mae sgîl-effeithiau cyffredin atalyddion aildderbyn serotonin-norepinephrine (SNRI) yn cyfateb i'r rhai sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau SSRI (gweler uchod).

Meddyginiaethau SSRI, SNRI a syndrom serotonin

Mae syndrom serotonin yn gyfres o sgîl-effeithiau anghyffredin, ond difrifol posibl, sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau SSRI ac SNRI.

Bydd syndrom serotonin yn digwydd pan fydd y lefelau serotonin yn eich ymennydd yn mynd yn rhy uchel. Bydd hyn yn cael ei ysgogi pan fyddwch yn cymryd SSRI neu SNRI ar y cyd â meddyginiaeth (neu sylwedd) arall sydd hefyd yn codi lefelau serotonin, fel gwrthiselydd arall neu Eurinllys (St John's Wort).

Mae symptomau syndrom serotonin ysgafn i gymedrol yn cynnwys:

  • dryswch,
  • cyffro,
  • cyhyrau'n plycio,
  • chwysu,
  • cryndod, a
  • dolur rhydd.

Os ydych yn dioddef y symptomau sydd wedi'u rhestru uchod, dylech roi'r gorau i gymryd y feddyginiaeth a cheisio cyngor gan eich meddyg teulu ar unwaith. Os nad yw hyn yn bosibl, ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Mae symptomau syndrom serotonin difrifol yn cynnwys:

  • tymheredd uchel iawn (twymyn) sy'n 39.4°C (103°F) neu'n uwch,
  • ffitiau,
  • curiad calon afreolaidd (arhythmia), a
  • mynd yn anymwybodol.

Os ydych yn dioddef y symptomau difrifol hyn, ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans.

Dewisiadau Arall



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 18/05/2022 12:37:21