Alergeddau

Cyflwyniad

Alergedd yw adwaith gan y corff i fwyd neu sylwedd penodol.

Mae alergeddau yn gyffredin iawn. Credir eu bod yn effeithio ar un o bob pedwar o bobl yn y DU ar ryw adeg yn eu bywydau.

Maent yn arbennig o gyffredin ymhlith plant. Bydd rhai alergeddau yn diflannu wrth i blentyn fynd yn hyn, er bod llawer ohonynt yn alergeddau sy'n para am oes. Gall oedolion ddatblygu alergeddau i bethau nad oedd ganddynt alergedd iddynt o'r blaen.

Gall bod ag alergedd fod yn niwsans ac effeithio ar eich gweithgareddau bob dydd, ond mae'r rhan fwyaf o adweithiau alergaidd yn ysgafn a gellir eu cadw dan reolaeth i raddau helaeth. Gall adweithiau difrifol ddigwydd o bryd i'w gilydd, ond mae'r rhain yn anghyffredin.

Alergeddau cyffredin

Mae sylweddau sy'n achosi adweithiau alergaidd yn cael eu galw'n alergenau. Mae rhai o'r alergenau mwyaf cyffredin yn cynnwys:

  • paill glaswellt a choed – gelwir alergedd i'r rhain yn clefyd y gwair (rhinitis alergaidd)
  • gwiddon llwch
  • deunydd oddi ar gorff anifeiliaid (darnau bach iawn o groen neu wallt)
  • bwyd – yn enwedig cnau, ffrwythau, pysgod cregyn, wyau a llaeth buwch
  • brathiadau a phigiadau gan bryfed
  • meddyginiaeth – gan gynnwys ibuprofen, aspirin, a rhai gwrthfiotigau
  • latecs – a ddefnyddir i wneud rhai menig a condomau
  • llwydni – gall y rhain ryddhau gronynnau bach i'r aer y gallwch eu hanadlu i mewn
  • cemegolion y cartref – gan gynnwys y rheiny a geir mewn glanedyddion a llifynnau gwallt

Yn gyffredinol, nid yw'r rhan fwyaf o'r alergenau hyn yn niweidiol i bobl nad oes ganddynt alergedd iddynt.

Symptomau adwaith alergaidd

Bydd adweithiau alergaidd fel arfer yn digwydd yn gyflym o fewn ychydig funudau o ddod i gysylltiad ag alergen.

Gallant achosi:

  • tisian
  • trwyn yn rhedeg neu drwyn llawn
  • llygaid coch, coslyd a dyfrllyd
  • gwichian a pheswch
  • brech goslyd, goch
  • symptomau asthma neu ecsema yn gwaethygu

Mae'r rhan fwyaf o adweithiau alergaidd yn ysgafn, ond weithiau gall adwaith difrifol a elwir yn anaffylacsis neu sioc anaffylactig ddigwydd. Mae hwn yn argyfwng meddygol ac mae angen triniaeth frys.

Darllenwch fwy ynghylch symptomau alergeddau.

Cael help ar gyfer alergeddau

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych yn credu y gallech chi neu eich plentyn fod wedi cael adwaith alergaidd i rywbeth.

Gall symptomau adwaith alergaidd gael eu hachosi gan gyflyrau eraill hefyd. Bydd eich meddyg teulu'n gallu helpu i benderfynu p'un a yw'n debygol fod alergedd gennych.

Os yw eich meddyg teulu yn meddwl y gallech fod ag alergedd ysgafn, gall gynnig cyngor a thriniaeth i helpu rheoli'r cyflwr.

Os yw eich alergedd yn ddifrifol iawn neu os nad yw'n glir beth mae gennych alergedd iddo, efallai y bydd eich meddyg teulu'n eich cyfeirio at arbenigwr alergeddau i gael profion a chyngor ynghylch triniaeth.

Darllenwch fwy ynghylch profion alergedd.

Sut i reoli alergedd

Mewn llawer o achosion, y ffordd fwyaf effeithiol o reoli alergedd yw osgoi'r alergen sy'n achosi'r adwaith pryd bynnag y bo modd.

Er enghraifft, os oes gennych alergedd bwyd, dylech wirio rhestr gynhwysion y bwyd am alergenau cyn ei fwyta. Mae gwybodaeth am labelu alergenau bwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae nifer o feddyginiaethau ar gael hefyd i helpu rheoli symptomau adweithiau alergaidd, gan gynnwys:

  • cyffuriau gwrth-histamin – gellir cymryd y rhain pan sylwch ar symptomau adwaith, neu cyn dod i gysylltiad ag alergen er mwyn atal adwaith rhag digwydd
  • cyffuriau llacio – tabledi, capsiwlau, chwistrellau trwynol neu hylifau y gellir eu defnyddio fel triniaeth tymor byr ar gyfer trwyn llawn
  • golchdrwythau ac elïau, fel hufennau lleithio (esmwythyddion) – gall y rhain leihau cochni'r croen a lleihau cosi
  • meddyginiaeth steroid – chwistrellau, diferion, hufennau, anadlwyr a thabledi sy'n gallu helpu lleihau cochni a chwyddo a achosir gan adwaith alergaidd

I rai pobl ag alergeddau difrifol iawn, efallai y caiff triniaeth a elwir yn imiwnotherapi ei hargymell.

Mae hyn yn golygu dod i gysylltiad â'r alergen mewn modd a reolir dros nifer o flynyddoedd, fel bod eich corff yn dod yn gyfarwydd ag ef ac nad yw'n adweithio iddo mor ddifrifol.

Darllenwch fwy ynghylch trin alergedd ac osgoi adweithiau alergaidd.

Beth sy'n achosi alergeddau?

Bydd alergeddau'n digwydd pan fydd system imiwnedd y corff yn adweithio i sylwedd arbennig fel pe bai'n niweidiol.

Nid yw'n glir pam fydd hyn yn digwydd, ond mae hanes o alergeddau yn y teulu gan y rhan fwyaf o bobl yr effeithir arnynt, neu mae ganddynt gyflyrau sydd â chysylltiad agos, fel asthma neu ecsema.

Mae nifer y bobl ag alergeddau yn cynyddu bob blwyddyn. Nid ydym yn deall y rhesymau dros hyn, ond un o'r prif ddamcaniaethau yw ei fod yn ganlyniad byw mewn amgylchedd glannach, rhydd o germau, sy'n lleihau nifer y germau y mae'n rhaid i'n system imiwnedd ddelio â nhw.

Credir y gall hyn achosi i'r system imiwnedd or-ymateb pan ddaw i gysylltiad â sylweddau nad ydynt yn niweidiol.

Ai alergedd, sensitifrwydd neu anoddefgarwch ydyw?

alergedd – adwaith a gynhyrchir gan system imiwnedd y corff wrth iddo ddod ar draws sylwedd sydd fel arfer yn ddiniwed.

sensitifrwydd – dyma brofi sgîl-effaith arferol yn waeth nag arfer wrth ddod i gysylltiad â sylwedd; er enghraifft, gall y caffein mewn cwpanaid o goffi achosi symptomau eithafol, megis crychguriadau'r galon a chrynu

anoddefgarwch – dyma pan fydd sylwedd yn achosi symptomau annymunol, fel dolur rhydd, ond nid yw'n tarfu ar y system imiwnedd; gall pobl sydd ag anoddefgarwch at fwydydd penodol fwyta ychydig ohonynt heb gael unrhyw broblemau fel arfer

Os credwch eich bod yn cael adwaith alergol gallwch ddefnyddio'r Gwiriwr Symptomau Alergedd i wybod beth i'w wneud.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 15/11/2023 14:44:51