Vaccination menu links


Cynhwysion brechiadau

Prif gynhwysyn unrhyw frechlyn yw’r feirws, y bacteria neu’r tocsin sy’n achosi’r clefyd, ond  mae angen nifer o gydrannau eraill i wneud y brechlyn terfynol mor ddiogel ac effeithiol â phosibl.

Mae brechlynnau’n cynnwys fersiynau ‘lladdedig’ (anweithredol) neu ‘fyw’ o’r feirws, y bacteria neu’r tocsin sy’n achosi’r clefyd. Adwaenir y rhain fel antigen y brechlyn.

Mae brechlynnau lladdedig a brechlynnau byw yn gweithio trwy ysgogi’r system imiwnedd fel ei bod yn credu bod y germ gweithredol yn ymosod arni. Mae eich corff yn ymateb trwy gynhyrchu gwrthgyrff sy’n aros yn eich system i’ch diogelu yn y dyfodol.

Brechlynnau lladdedig

Mae brechlynnau lladdedig (a adwaenir hefyd fel brechlynnau ‘anweithredol’ neu ‘farw’) yn cynnwys firysau a ddinistriwyd gyda chemegau neu wres. Mae’r broses hon yn dinistrio gallu’r firysau i luosi yn y corff ac achosi salwch, ond mae’n eu cadw’n ddigon cyflawn fel bod system imiwnedd unigolyn yn gallu eu hadnabod, mewn brechlyn, a gwneud ymateb gwrthgorff amddiffynnol.

Mae brechlynnau lladdedig yn ysgogi ymateb imiwnedd gwannach yn gyffredinol, felly mae’n aml yn cymryd sawl dos neu ‘bigiad atgyfnerthu’ i gynnal eich imiwnedd.

Enghreifftiau o frechlynnau lladdedig yw’r pigiad ffliw, brechlyn y pâs, a’r brechlyn polio.

Brechlynnau byw

Mae brechlynnau byw (a elwir hefyd yn ‘frechlynnau a wanhawyd’) yn cynnwys firysau sydd wedi’u gwanhau, er nad eu dinistrio, mewn labordy.

Ni all y firysau mewn brechlynnau byw achosi clefyd mewn pobl iach, ond gallant luosi o hyd i gynhyrchu ymateb imiwnedd cryf. Fodd bynnag, ni ellir eu rhoi i bobl sydd ag imiwnolethiad oherwydd bod perygl na fyddai eu system imiwnedd yn gallu gwneud gwrthgyrff yn ddigon cyflym a gallent ddatblygu’r clefyd y mae’r brechlyn wedi’i gynllunio i’w atal.

Oherwydd brechlyn byw yw’r peth agosaf i haint naturiol, yn nodweddiadol, mae’n cynhyrchu ymateb imiwnedd cryf ac yn aml yn rhoi amddiffyniad gydol oes.

Enghreifftiau o frechlynnau ‘byw’ yw’r brechlyn BCGbrechlyn yr eryr, y brechlyn MMR a’r brechlyn ffliw i blant ar ffurf chwistrell drwynol.

Sut i ganfod beth sydd mewn brechlyn

Rhoddir rhestr lawn o gynhwysion pob brechlyn yn y Daflen Gwybodaeth i Gleifion.

Mae’r rhestrau cynhwysion hyn yn cynnwys unrhyw gynhyrchion a ddefnyddiwyd wrth wneud brechlyn, er bod angen y rhan fwyaf yn ystod y broses gynhyrchu yn unig a’u bod yn cael eu dileu, neu’n bodoli mewn symiau bychain yn unig, yn y brechlyn terfynol.

Ewch i’r wefan Compendiwm Meddyginiaethau electronig (eMC) i chwilio am Daflen Gwybodaeth i Gleifion brechlyn penodol gan ddefnyddio ei enw brand.

Thiomersal (mercwri) mewn brechlynnau

Cadwolyn yw thiomersal sy’n cynnwys symiau bach iawn o fercwri. Fe’i defnyddir i atal bacteria neu ffyngau rhag tyfu yn y brechlyn.

Gall dosau uchel o fercwri fod yn wenwynig i’r ymennydd ac organau eraill. Fodd bynnag, nid oes unrhyw effeithiau niweidiol wedi’u cysylltu â lefel y thiomersal a ddefnyddir mewn symiau mor fach mewn brechlynnau.

Er y bu pryderon yn y gorffennol bod brechlynnau sy’n cynnwys thiomersal yn gallu achosi awtistiaeth, nid oes tystiolaeth wyddonol i ategu hyn.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi datgan nad yw thiomersal mewn brechlynnau yn cynrychioli risg. Darllenwch ddatganiad llawn yr WHO.

Ni ddefnyddir thiomersal mwyach yn unrhyw rai o’r brechlynnau a roddir i fabanod a phlant ifanc fel mater o drefn yn rhan o raglen imiwneiddio plant y GIG.

Adjiwfantau mewn brechlynnau

Mae adjiwfantau’n gweithio i hybu ein hymateb imiwnedd i frechlyn a’i wneud yn fwy effeithiol a hirhoedlog. Trwy ddefnyddio adjiwfant, mae’n bosibl lleihau faint o antigen a ddefnyddir mewn brechlyn ac weithiau nifer y dosau y mae angen eu rhoi.

Mae swm yr adjiwfant a ddefnyddir mewn brechlyn yn fach iawn a dangoswyd ei fod yn ddiogel, er bod adjiwfantau mewn brechlynnau’n gallu bod yn gysylltiedig ag adweithiau ysgafn fel lwmp bach neu gochni yn y man lle y rhoddwyd y pigiad.

Mae’r rhan fwyaf o frechlynnau lladdedig yn cynnwys swm bach iawn o adjiwfant a sail alwminiwm iddo. Er bod alwminiwm yn gallu bod yn wenwynig mewn symiau mawr, ni welir unrhyw effeithiau niweidiol yn sgil lefel yr alwminiwm a ddefnyddir mewn symiau mor fach mewn brechlynnau.

Gelatin mewn brechlynnau

Mae gelatin sy’n deillio o foch yn cael ei ddefnyddio fel cyfrwng sefydlogi mewn rhai brechlynnau. Ychwanegir sefydlogwyr at frechlynnau er mwyn helpu i’w diogelu rhag effeithiau gwres neu sychrewi, yn ogystal â helpu i gynnal cyfnod silff y brechlyn.

Yr unig frechlynnau sy’n cynnwys gelatin a geir yn rhaglen arferol y Deyrnas Unedig yw’r brechlyn MMR a’r brechlyn ffliw trwynol i blant.

Bu nifer fach o adweithiau alergaidd i frechlynnau sy’n cynnwys gelatin, felly cynghorir pobl sy’n gwybod bod ganddynt alergedd i gelatin i drafod gyda’u meddyg cyn derbyn brechlyn sy’n cynnwys gelatin.

Mae’n bosibl y bydd grwpiau crefyddol fel Mwslimiaid ac Iddewon yn pryderu am ddefnyddio brechlynnau sy’n cynnwys gelatin o foch, ond mae llawer o arweinwyr grwpiau ffydd wedi dweud bod defnyddio gelatin mewn brechlynnau’n dderbyniol ac nad yw’n torri unrhyw reolau crefyddol.

Serwm albwmin dynol mewn brechlynnau

Sylwedd o waed dynol yw serwm albwmin dynol. Protein ydyw a ddefnyddir i sefydlogi brechlyn a chynnal ei ansawdd tra’i fod yn cael ei storio.

Mae’r serwm a ddefnyddir mewn brechlynnau’n dod o roddwyr gwaed sydd wedi cael eu sgrinio, ac mae’r broses weithgynhyrchu’n sicrhau bod unrhyw risg o drosglwyddo clefyd yn cael ei dileu.

Defnyddir serwm albwmin dynol fel sefydlogwr mewn brechlyn brech yr ieir (Varilrix).

Gellir cynhyrchu brechlynnau hefyd gydag albwmin wedi’i ailgyfuno, nad yw’n cynnwys unrhyw gynnyrch dynol nac anifail. Mae’r albwmin yn cael ei gynhyrchu gan gelloedd, fel celloedd burum, y mae’r genyn ar gyfer albwmin dynol wedi’i osod ynddynt. Yna, mae’r celloedd yn gallu cynhyrchu symiau mawr o serwm albwmin dynol heb fod angen ei dynnu o waed dynol.

Mae serwm albwmin dynol wedi’i ailgyfuno yn cael ei ddefnyddio hefyd fel sefydlogwr mewn brechlyn MMR a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig o’r enw MMRVaxPro.

Wyau mewn brechlynnau

Mae dau frechlyn yn rhaglen arferol y Deyrnas Unedig yn cynnwys symiau bach o brotein ŵy – y brechlyn MMR a’r brechlyn ffliw.

Mae’r brechlyn ffliw yn cael ei dyfu ar wyau ieir ac yn gallu sbarduno adwaith alergaidd. Felly, cynghorir plant ac oedolion sydd ag alergedd wyau i gael dewis arall fel brechlyn ffliw anweithredol nad yw’n cynnwys wyau.

Mae’r brechlyn MMR yn cael ei dyfu ar gelloedd o embryonau cywion, nad ydynt yr un fath ag wyau ieir ac felly nid ydynt sbarduno adwaith alergaidd. Gall plant ac oedolion sydd ag alergedd difrifol i wyau gael y brechlyn MMR yn ddiogel.

Fformaldehyd mewn brechlynnau

Cemegyn yw fformaldehyd, a adwaenir yn gyffredin fel hylif pêr-eneinio, sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu brechlynnau lladdedig. Fe’i defnyddir yn gynnar iawn yn y broses weithgynhyrchu i ladd y bacteria, y feirws neu’r tocsin, neu beri iddo fod yn ‘anweithredol’.

Pan fydd yr antigenau wedi’u hanweithredu, caiff y fformaldehyd ei wanhau allan, ond mae’n bosibl y gallai mymryn bach barhau i fodoli yn y brechlyn terfynol.

Gall fformaldehyd fod yn niweidiol mewn crynodiadau uchel, ond nid oes unrhyw bryderon iechyd ynglŷn â’r symiau bach a geir mewn brechlynnau. Mae fformaldehyd yn bodoli’n naturiol yn ein llif gwaed. Mae’n helpu gyda metabolaeth ac yn bresennol mewn lefelau uwch o lawer nag a geir mewn brechlynnau.

Gwrthfiotigau mewn brechlynnau

Ychwanegir gwrthfiotigau at rai brechlynnau i atal bacteria rhag tyfu yn ystod y broses o gynhyrchu a storio’r brechlyn. Fe’u ceir mewn symiau bychain yn unig yn y brechlyn terfynol.

Nid yw gwrthfiotigau sy’n gysylltiedig ag adweithiau alergaidd, fel penisilin, yn cael eu defnyddio mewn brechlynnau fel arfer. Fodd bynnag, mae’r brechlyn MMR yn cynnwys symiau bychain o wrthfiotig o’r enw neomysin sy’n gallu sbarduno adwaith alergaidd. Dylai unrhyw un sy’n gwybod bod ganddo alergedd i neomysin drafod gyda’i feddyg cyn cael y brechlyn MMR.


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk