Vaccination menu links


Brechiad feirws Papiloma Dynol (HPV) ar gyfer dynion hoyw, deurywiol a dynion sy'n cael rhyw gyda dy

Mae GBMSM yn grŵp sydd â risg uchel o haint HPV a chlefydau cysylltiedig.

Mae dros 100 o fathau o HPV sy'n heintio'r croen a'r pilenni mwcaidd (pilenni mwcaidd yw leinin amddiffynnol llaith ceudodau'r corff a chamlesi, er enghraifft ceg, gwddf, organau cenhedlu a'r anws). Nid yw’r rhan fwyaf o heintiau HPV yn achosi unrhyw symptomau, ac mae heintiau fel arfer yn clirio ar eu pen eu hunain. Mae rhai heintiau HPV nad ydynt yn clirio yn cynyddu'r risg o ddatblygu rhai canserau.

Mathau HPV 16 a 18 sy’n achosi’r mwyafrif o ganserau sy’n gysylltiedig â HPV:

  •  Rhai canserau ceg a gwddf (pen a gwddf); a
  •  Rhai mathau o ganser yr anws a’r ardaloedd gwenerol (gan gynnwys canserau pidynnol mewn dynion a chanser ceg y groth mewn menywod a phobl â serfics.

Mae mathau eraill o HPV fel 6 ac 11 yn achosi dafadennau gwenerol.

Yn y DU, dechreuodd rhaglen brechlyn HPV ar gyfer merched 12 i 13 oed yn 2008 a chafodd ei hymestyn i fechgyn rhwng 12 a 13 oed ym mis Medi 2019. Dechreuodd rhaglen brechlyn HPV ar gyfer GBMSM yn 2017.

Mae'r risg o ganser rhefrol mewn GBMSM yn uwch nag mewn dynion heterorywiol. Os oes gennych chi HIV hefyd, mae'r risg yn uwch eto. Mae GBMSM hefyd yn fwy tebygol o gael dafadennau gwenerol.

Mae'r rhaglen frechu HPV ar gyfer GBMSM yn cynnig brechiad HPV i GBMSM hyd at ac yn cynnwys 45 oed wrth fynychu clinigau iechyd rhywiol ar gyfer gwasanaethau iechyd rhywiol.

Gellir cynnig brechiad i unigolion eraill sydd â risg tebyg o haint HPV pan fyddant yn mynychu clinig, yn seiliedig ar asesiad clinigol. Mae'r rhain yn cynnwys rhai GBMSM dros 45 mlynedd, dynion a menywod trawsryweddol, dynion HIV positif nad ydynt yn GBMSM, menywod HIV positif a gweithwyr rhyw.

Gweler isod faint o ddosau sydd eu hangen arnoch a phryd:

  •  Hyd at 24 oed - Dos cyntaf yn unig
  •  Rhwng 25-45 oed - Dos cyntaf: Dos cychwynnol, Ail ddos: O leiaf 6 mis ar ôl y dos cychwynnol
  •  Rhwng 15 a 45 oed os yw HIV-positif neu os oes gennych system imiwnedd wan - Dos cyntaf: Dos cychwynnol, Ail ddos: 1 mis ar ôl y dos cyntaf, Trydydd dos: 4 i 6 mis yn dilyn yr ail ddos

Mae’r daflen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth:

Brechiad HPV ar gyfer dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion (GBMSM)

Mae rhagor o wybodaeth am haint HPV ar gael yma.


Dolenni GIG 111 Cymru

Dafadennau Gwenerol  (Saesneg yr unig)

Clinigau Iechyd Rhywiol

 

Dolenni Allanol

Macmillan - HPV     (Saesneg yn unig)

Taflen Wybodaeth i Gleifion - Gardasil  (Saesneg yn unig)

Cynllun Cerdyn Melyn (Saesneg yn unig)

 

 

 

 

 


Last Updated: 01/04/2017 09:00:00
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk