Gwybodaeth beichiogrwydd


Pam bwydo ar y fron

Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am sut rydych chi'n mynd i fwydo'ch babi. Ond does dim rhaid i chi benderfynu nes i'ch babi gael ei eni.

Dyma rai o fanteision bwydo ar y fron:

  • mae llaeth o'r fron yn berffaith ar gyfer bwydo eich babi
  • mae llaeth y fron yn amddiffyn eich babi rhag heintiau a chlefydau
  • mae bwydo ar y fron yn cynnig manteision iechyd i chi
  • mae llaeth y fron ar gael i'ch babi pryd bynnag y bydd ei angen
  • mae bwydo ar y fron yn gallu meithrin cwlwm emosiynol cryf rhyngoch chi a'ch babi

Dydy llaeth fformiwla ddim yn darparu'r un amddiffyniad rhag salwch ac nid yw'n rhoi unrhyw fuddion iechyd i chi.

Manteision bwydo ar y fron o ran iechyd y babi

Mae bwydo ar y fron yn dod â manteision hirdymor i'ch babi, sy'n parhau hyd nes y bydd y plentyn yn tyfu’n oedolyn.

Mae unrhyw laeth o’r fron yn arwain at effeithiau cadarnhaol. Po hiraf y byddwch chi’n bwydo ar y fron, po hiraf y bydd yr amddiffyniad yn para a'r mwyaf ydy'r manteision.

Mae bwydo ar y fron yn gallu helpu eich babi i leihau sawl risg i’r plentyn:

  • amddiffyn rhag heintiau, gyda llai o ymweliadau â'r ysbyty o ganlyniad
  • amddiffyn rhag dolur rhydd a chwydu, gyda llai o ymweliadau â'r ysbyty o ganlyniad
  • syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS, neu farwolaeth yn y crud)
  • gordewdra
  • clefyd cardiofasgwlaidd pan fydd y plentyn yn oedolyn.

Mae rhoi llaeth o'r fron yn unig am o leiaf y 6 mis cyntaf (26 wythnos) yn cael ei argymell ar gyfer bywyd y babi.

Ar ôl hynny, bydd rhoi llaeth o'r fron i'ch babi ochr yn ochr â bwydydd solet cyhyd ag y byddwch chi a'ch babi eisiau yn ei helpu i dyfu a datblygu'n iach.

Mae llaeth y fron yn addasu wrth i'ch babi dyfu i ddiwallu anghenion eich babi dros gyfnod o amser.

Manteision bwydo ar y fron o ran iechyd chi

Mae bwydo ar y fron a chynhyrchu llaeth o'r fron hefyd o fudd i chi. Po fwyaf y byddwch yn bwydo ar y fron, y mwyaf ydy'r manteision.

Mae bwydo ar y fron yn lleihau eich risg o:

  • canser y fron
  • canser yr ofari
  • osteoporosis (esgyrn gwan)
  • clefyd cardiofasgwlaidd
  • gordewdra

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feichiogrwydd yn y 'Llyfr Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth’.


Last Updated: 25/07/2023 07:48:46
The information on this page has been adapted by NHS Wales from original content supplied by NHS UK NHS website nhs.uk