Temporomandibular (jaw) joint disorder

Cyflwyniad

Mae anhwylder arleisiol-fandiblaidd (Temporomandibular disorder ((TMD)) yn gyflwr sy'n effeithio ar gymal a chyhyrau'r safn. Nid yw'n ddifrifol fel arfer ac mae'n aml yn gwella ar ei ben ei hun ymhen ychydig wythnosau.

Symptomau anhwylder temporomandibular (TMD)

Mae symptomau anhwylder arleisiol-fandiblaidd yn cynnwys:

  • poen o gwmpas eich safn, eich clust a'ch arlais
  • synau clicio, popian neu grensian pan fyddwch yn symud eich safn 
  • pen tost/cur pen o gwmpas eich arleisiau
  • trafferth agor eich ceg yn llawn 
  • eich safn yn cloi wrth i chi agor eich ceg 

Gall y poen fod yn waeth wrth gnoi a phan fyddwch chi'n teimlo o dan straen.

Gall anhwylder arleisiol-fandiblaidd eich atal rhag cael noson dda o gwsg hefyd.

Hunanofal

Mae rhai pethau syml y gallwch eu gwneud i geisio lleihau'r poen yn eich safn.

  • bwytewch fwyd meddal, fel pasta, omledau a chawl
  • llyncwch barasetamol neu ibuprofen
  • daliwch becynnau iâ neu becynnau gwres wrth y safn, p'un bynnag sy'n teimlo'n well 
  • tylinwch gyhyrau'r safn 
  • ceisiwch ddod o hyd i ffyrdd o ymlacio 

Peidiwch:

  • cnoi gwm na thop beiro
  • cnoi bwyd gyda'ch dannedd blaen 
  • dylyfu gên yn rhy llydan
  • cnoi eich ewinedd 
  • clensio eich dannedd 
  • gorffwys eich gên ar eich llaw 

Pryd i geisio cyngor meddygol

Gallwch geisio triniaeth ar gyfer anhwylder arlais-fandiblol gan ddeintydd neu feddyg teulu.

Cysylltwch â'ch meddyg teulu:

  • os na allwch yfed na bwyta 
  • os yw'r poen yn effeithio ar eich bywyd 
  • os yw'r poen yn effeithio ar eich cwsg 
  • os yw'r poen a'r anghysur yn dod yn ôl yn barhaus

Gallai eich meddyg teulu awgrymu:

  • poenleddfwyr cryfach 
  • technegau ymlacio i leihau straen 
  • ffyrdd o wella'ch cwsg 

Hefyd, gellir argymell eich bod yn gweld:

  • deintydd os gall crensian dannedd fod yn broblem 
  • seicolegydd os yw straen a gorbryder yn gwaethygu eich poen 
  • ffisiotherapydd am gyngor ar ymarferion a thylino'r safn 

Os na fydd y triniaethau hyn yn helpu, gallech gael eich cyfeirio at arbenigwr ar broblemau'r cymalau i drafod opsiynau eraill, fel pigiadau lleddfu poen neu lawdriniaeth. 

Achosion anhwylder arlais-fandiblol (TMD)

Mae anhwylder arleisiol-fandiblaidd yn gysylltiedig â:

  • chrensian dannedd
  • traul a gwisgo'r cymal
  • ergyd i'r pen neu i'r wyneb 
  • straen
  • brathiad anghyson


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 06/03/2024 11:36:04