Torri dannedd

Cyflwyniad

Teething
Teething

Symptomau torri dannedd babi

O ran torri dannedd, mae pob babi'n wahanol. Ond mae'n debyg y bydd eich babi'n cael ei ddant cyntaf rhywbryd yn ystod ei flwyddyn gyntaf.

Pryd mae babanod yn dechrau torri dannedd?

Mae rhai babanod yn cael eu geni gyda'u dannedd cyntaf. Mae eraill yn dechrau torri dannedd cyn eu bod yn bedwar mis oed, a rhai eraill ar ôl 12 mis. Ni ddylai torri dannedd yn gynnar achosi unrhyw broblemau i blentyn, oni bai ei fod yn effeithio ar ei fwydo.

Symptomau torri dannedd

Mae dannedd babi weithiau'n dod allan heb boen neu anghysur o gwbl. Ar adegau eraill, efallai y byddwch yn sylwi:

  • bod deintgig eich babi'n boenus a choch lle mae'r dant yn torri trwodd
  • bod cochni ar un boch
  • bod eich babi'n driblo fwy nag arfer
  • ei fod yn brathu a chnoi pethau yn aml
  • ei fod yn fwy trallodus nag arfer

Mae rhai pobl yn meddwl bod torri dannedd yn achosi symptomau eraill, fel dolur rhydd a thwymyn, ond nid oes tystiolaeth i gefnogi hyn.

Chi sy'n adnabod eich babi orau. Os oes gan eich babi unrhyw symptomau sy'n achosi pryder i chi, yna gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu neu 111.

Ym mha drefn mae dannedd babi yn ymddangos?

Dyma ganllaw bras i sut mae dannedd babanod yn ymddangos fel arfer:

  • blaenddannedd gwaelod (incisors) – y cyntaf i dorri trwodd fel arfer, tua 5 i 7 mis
  • blaenddannedd uchaf (incisors) – 6 i 8 mis
  • blaenddannedd ochrol uchaf (naill ochr i'r blaenddannedd uchaf) – 9 i 11 mis
  • blaenddannedd ochrol gwaelod (naill ochr i'r blaenddannedd gwaelod) – 10-12 mis
  • cilddannedd cyntaf (dannedd cefn) – 12-16 mis
  • ysgithrddannedd (trydydd dant yn ôl) – 16-20 mis
  • ail gilddannedd – yr olaf i dorri trwodd, tua 20 i 30 mis

Bydd gan y rhan fwyaf o blant eu dannedd cyntaf i gyd erbyn iddyn nhw fod yn ddwy a hanner oed.

Awgrymiadau i helpu babi sy’n torri dannedd

  • Cadwch y dannedd yn lân gan ddefnyddio brwsh dannedd gydag ychydig bach o bast dannedd fflworid. Ar gyfer plant dan 3 oed, defnyddiwch bast dannedd gyda lefel Fflworid o 1000ppm (rhannau fesul miliwn)
  • Os yw eich babi dros 6 mis oed ac yn cnoi ar deganau neu ei fysedd, ceisiwch roi ffrwythau neu lysiau amrwd iddo, fel darn o afal neu foron i'w gnoi. Cadwch yn agos bob amser pan fydd eich babi'n bwyta rhag ofn iddo dagu
  • Mae modrwyau dannedd yn ddiogel i fabanod eu cnoi ac yn gallu rhoi rhywfaint o ryddhad. Gellir oeri rhai yn yr oergell (peidiwch â defnyddio'r rhewgell)
  • Nid oes llawer o dystiolaeth bod geliau dannedd yn effeithiol
  • Os yw eich babi mewn poen, ceisiwch roi Calpol iddo, gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar y pecyn

Trefnwch i'ch babi weld deintydd ar ôl i'w ddannedd cyntaf dorri trwodd a mynd mor rheolaidd ag y mae eich deintydd yn ei argymell.

Triniaeth

Gall fferyllydd helpu gyda thorri dannedd 

Mae torri dannedd yn un o'r cyflyrau sy'n rhan o’r Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion ei ddefnyddio i gael cyngor am ddim a thriniaeth am ddim ac mae ar gael mewn 99% o fferyllfeydd yng Nghymru.

Dewch o hyd i’ch fferyllfa agosaf yma
Cewch fwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma

Awgrymiadau ar gyfer torri dannedd

Gall torri dannedd fod yn drallodus i rai babanod, ond mae ffyrdd o'i gwneud hi'n haws iddyn nhw.

Mae pob babi'n wahanol, ac efallai bydd rhaid i chi roi cynnig ar ambell beth gwahanol nes i chi ddod o hyd i rywbeth sy'n gweithio i'ch babi.

Modrwyau torri dannedd

Mae modrwyau torri dannedd yn rhoi rhywbeth diogel i'ch babi gnoi, a allai leddfu ei anghysur a thynnu ei sylw oddi wrth unrhyw boen.

Gellir oeri rhai modrwyau torri dannedd yn yr oergell, a allai helpu i leddfu deintgig eich babi.

Dylai'r cyfarwyddiadau sy'n dod gyda'r fodrwy ddweud wrthych pa mor hir i'w oeri.

Peidiwch byth â rhoi modrwy torri dannedd yn y rhewgell, oherwydd gallai niweidio deintgig eich babi os yw'n cael ei rewi.

Peidiwch byth â chlymu modrwy torri dannedd o amgylch gwddf eich babi, oherwydd gallai fod yn berygl tagu.

Os yw eich babi'n cnoi

Un o'r arwyddion bod eich babi'n torri dannedd yw ei fod yn dechrau cnoi ar ei fysedd, teganau neu wrthrychau eraill mae'n cael gafael arnyn nhw.

Os yw eich babi'n 6 mis neu'n hŷn, gallwch roi pethau iach iddyn nhw eu cnoi, fel ffrwythau a llysiau amrwd. Mae ffrwythau meddal fel melon yn gallu lleddfu deintgig.

Gallech hefyd roi crwst bara neu ffon fara i'ch babi.

Gwyliwch bob amser pan fydd eich babi'n bwyta rhag ofn iddo dagu.

Mae'n well osgoi rysgs oherwydd mae bron pob brand yn cynnwys rhywfaint o siwgr.

Ceisiwch osgoi unrhyw fwydydd sy'n cynnwys llawer o siwgr, gan y gallant achosi pydredd dannedd, hyd yn oed os dim ond ychydig o ddannedd sydd gan eich plentyn.

Geliau torri dannedd

Mae diffyg tystiolaeth bod geliau torri dannedd yn effeithiol. Argymhellir bod rhieni'n rhoi cynnig ar opsiynau anfeddygol ar gyfer torri dannedd yn gyntaf, fel modrwy torri dannedd.

Os byddwch yn penderfynu defnyddio gel, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio gel torri dannedd sydd wedi cael ei ddylunio'n arbennig ar gyfer plant ifanc.

Nid yw geliau lleddfu poen geneuol cyffredinol yn addas i blant.

Mae geliau torri dannedd yn cynnwys anesthetig lleol ysgafn ac maent ar gael mewn fferyllfeydd yn unig. Siaradwch â fferyllydd am gyngor pellach.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod geliau torri dannedd homeopathig yn effeithiol. Os ydych chi'n defnyddio gel homeopathig, gwnewch yn siŵr ei fod wedi cael ei drwyddedu i'w ddefnyddio yn y DU.

Mae rhai geliau homeopathig heb drwydded a hysbysebir ar y we wedi cael eu cysylltu â sgil-effeithiau difrifol.

Mae gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd restr o geliau homeopathig trwyddedig.

Poenladdwyr

Os yw eich babi mewn poen, efallai y byddwch chi eisiau rhoi poenladdwr heb siwgr iddo.

Gellir rhoi paracetamol neu ibuprofen i leddfu symptomau torri dannedd babanod a phlant ifanc 3 mis oed neu'n hŷn.

Ni ddylai plant dan 16 oed gael aspirin.

Dilynwch y cyfarwyddiadau sy'n dod gyda'r feddyginiaeth bob amser.

Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i'ch meddyg teulu neu fferyllydd.

Cysuro babi sy’n torri dannedd

Gall cysuro neu chwarae gyda'ch babi dynnu ei sylw oddi ar y boen yn ei ddeintgig. 

Gall rhwbio ei ddeintgig yn dyner gyda bys glân helpu hefyd.

Atal brechau torri dannedd

Os yw torri dannedd yn gwneud i'ch babi driblo'n fwy nag arfer, gall sychu ei wyneb yn ysgafn helpu i atal brech. 

Gofalu am ddannedd newydd eich babi

Bydd angen i chi gofrestru eich babi gyda deintydd pan fydd ei ddannedd yn dechrau torri trwodd.

Dod o hyd i ddeintydd yn agos atoch chi

Dechreuwch frwsio dannedd eich babi gyda phast dannedd fflworid cyn gynted ag y bydd ei ddant cyntaf yn torri trwodd.  

Argymhellion

Gofalu am ddannedd eich babi

Gallwch ddechrau brwsio dannedd eich babi cyn gynted ag y byddant yn dechrau torri trwodd. Defnyddiwch frwsh dannedd babi gydag ychydig bach o bast dannedd fflworid.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n llwyddo i frwsio llawer ar y dechrau. Y peth pwysig yw i'ch babi ddod yn gyfarwydd â brwsio ei ddannedd fel rhan o'i drefn ddyddiol. Gallwch helpu drwy osod esiampl dda a gadael iddo eich gweld chi'n brwsio eich dannedd eich hun.

Argymhellion ar gyfer brwsio dannedd i fabanod

  • Defnyddiwch ychydig bach iawn o bast dannedd ar gyfer babanod a phlant bach hyd at 3 oed, a swm maint pys i blant rhwng 3 a 6 oed.
  • Yn raddol, dechreuwch frwsio dannedd eich plentyn yn fwy trylwyr, gan orchuddio holl arwynebau'r dannedd. Gwnewch hynny o leiaf ddwywaith y dydd: ychydig cyn mynd i'r gwely ac ar adeg arall sy'n cyd-fynd â'ch trefn.
  • Nid yw pob plentyn yn hoffi brwsio ei ddannedd, felly efallai bydd rhaid i chi barhau i drio. Gwnewch gêm ohono, neu brwsiwch eich dannedd eich hun ar yr un pryd ac yna helpu'ch plentyn i orffen brwsio ei ddannedd ei hun.
  • Y ffordd hawsaf i frwsio dannedd babi yw ei roi i eistedd ar eich pen-glin, gyda'i ben yn gorffwys yn erbyn eich brest. Gyda phlentyn hŷn, sefwch y tu ôl i'r plentyn a throi ei ben am yn ôl.
  • Brwsiwch y dannedd mewn cylchoedd bach, gan orchuddio'r holl arwynebau, ac anogwch eich plentyn i boeri'r past dannedd allan wedyn. Nid oes angen rinsio gyda dŵr, gan y bydd hyn yn golchi'r fflworid i ffwrdd.
  • Gwiriwch i wneud yn siŵr bod eich plentyn yn cael y swm cywir o bast dannedd ac nad yw’n bwyta nac yn llyfu past dannedd o'r tiwb.
  • Parhewch i helpu'ch plentyn i frwsio'i ddannedd nes eich bod yn siŵr y gall ei wneud yn ddigon da ei hun. Fel arfer, bydd hyn tan ei fod yn 7 oed o leiaf.

Mynd â'ch babi at y deintydd

Ewch â'ch plentyn gyda chi pan fyddwch chi'n mynd i'ch apwyntiadau deintyddol eich hun fel ei fod yn dod yn gyfarwydd â'r syniad.

Mae triniaeth ddeintyddol y GIG ar gyfer plant am ddim, ond nid pob deintydd fydd yn derbyn cleifion newydd y GIG.

I ddod o hyd i ddeintydd, ewch i GIG 111 Cymru - Gwasanaethau yn agos atoch chi: Deintyddion

Siwgr a phydredd dannedd

Mae siwgr yn achosi pydredd dannedd. Nid yw'n ymwneud â faint o siwgr mewn bwyd a diodydd melys yn unig, ond pa mor hir a pha mor aml mae'r dannedd mewn cysylltiad â siwgr.

Mae lolipops a diodydd melys mewn potel fformiwla yn arbennig o niweidiol, oherwydd eu bod yn ymdrochi’r dannedd mewn siwgr am gyfnodau hir. Mae'r asid mewn diodydd fel sudd ffrwythau a diod ffrwythau yn gallu niweidio dannedd hefyd.

Mae'r siwgr a geir yn naturiol mewn ffrwythau cyfan a llaeth yn llai tebygol o achosi pydredd dannedd.

Mae swcros, glwcos, decstros, maltos, ffrwctos a startsh hydrolysad yn siwgr. Mae siwgr gwrthdro neu surop, mêl, siwgr amrwd, siwgr brown, siwgr câns, siwgr crai a sudd ffrwythau tewychedig yn siwgr hefyd.

Sut i leihau siwgr yn neiet eich plentyn

Bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i leihau faint o siwgr sydd yn neiet eich plentyn ac atal pydredd dannedd:

  • Ceisiwch osgoi diodydd wedi'u melysu gan siwgr – y diodydd gorau i blant ifanc yw llaeth plaen a dŵr.
  • Mae'n iawn defnyddio poteli ar gyfer llaeth y fron wedi'i odro, llaeth fformiwla, neu ddŵr berw wedi'i oeri. Ond gall eu defnyddio ar gyfer sudd neu ddiodydd siwgraidd gynyddu pydredd dannedd.
  • O 6 mis oed, gallwch gynnig diodydd i fabanod mewn cwpan di-falf sy'n llifo'n rhydd.
  • Pan fydd eich babi'n dechrau bwyta bwydydd solet, dylech ei annog i fwyta bwyd a diodydd sawrus heb siwgr. Gwiriwch a oes siwgr mewn bwydydd babanod wedi'u paratoi ymlaen llaw (gan gynnwys y rhai sawrus), bisgedi a diodydd babi. Darllenwch fwy am labeli bwyd.
  • Os byddwch chi'n dewis rhoi bwydydd melys neu sudd ffrwythau i'ch plentyn, dylech ond eu rhoi amser bwyd. Cofiwch wanhau 1 rhan o sudd i 10 rhan o ddŵr. Ni ddylai eich plentyn gael mwy nag 1 diod o sudd ffrwythau (150ml) mewn unrhyw 1 diwrnod fel rhan o'i 5 y dydd.
  • Peidiwch â rhoi bisgedi neu losin i'ch plentyn - gofynnwch i'ch teulu a ffrindiau wneud yr un peth. Dylech gynnig pethau fel sticeri, sleidiau gwallt, creonau, llyfrau lliwio a swigod yn lle. Efallai eu bod nhw'n ddrytach na losin, ond maen nhw'n para'n hirach.
  • Amser gwely neu yn ystod y nos, dim ond llaeth o'r fron, llaeth fformiwla neu ddŵr wedi'i oeri y dylech eu rhoi i'ch plentyn.
  • Os oes angen meddyginiaeth ar eich plentyn, gofynnwch i fferyllydd neu feddyg teulu a oes opsiwn heb siwgr.

A ddylwn i roi dymi i fy mabi?

Mae'n iawn rhoi dymi i'ch babi ond dylech osgoi ei ddefnyddio ar ôl 12 mis oed. Gall defnyddio dymis ar ôl hyn annog brathiad agored, sef pan fydd dannedd yn symud i wneud lle i'r dymi. Efallai y byddan nhw hefyd yn effeithio ar ddatblygiad lleferydd eich plentyn.

Dylech annog eich plentyn i beidio â siarad neu wneud synau â dymi neu fawd yn ei geg, a pheidiwch â dipio dymis mewn unrhyw beth melys, fel siwgr neu jam.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16/03/2023 12:15:34