Sepsis

Cyflwyniad

Sepsis

Pwysig

Mae sepsis yn bygwth bywyd. Mae'n gallu bod yn anodd ei adnabod.

Os ydych yn credu bod gennych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano symptomau sepsis, ffoniwch 999 neu ewch i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E). Dilynwch eich greddf.

Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran A&E os oes gan faban neu blentyn ifanc unrhyw un o symptomau canlynol sepsis:

  • croen, gwefusau neu dafod glas, gwelw neu flotiog
  • brech nad yw'n diflannu pan fyddwch yn rholio gwydr drosti, yr un fath â meningitis
  • anhawster anadlu (gallech sylwi ar synau rhochian neu ei stumog yn sugno i mewn o dan ei gawell asennau), diffyg anadl neu anadlu'n gyflym iawn
  • cri wan, fain sy'n wahanol i'w gri arferol
  • nid yw'n ymateb yn ei ffordd arferol, neu ddim diddordeb mewn bwydo neu weithgareddau arferol
  • bod yn fwy cysglyd nag arfer neu'n anodd ei ddeffro

Efallai na fydd ganddo bob un o'r symptomau hyn.

Dewch o hyd i adran A&E.

Ffoniwch 999 neu ewch i'r adran A&E os oes gan oedolyn neu blentyn hŷn unrhyw un o symptomau canlynol sepsis:

  • ymddwyn yn ddryslyd, lleferydd aneglur neu ddim yn gwneud synnwyr
  • croen, gwefusau neu dafod glas, gwelw neu flotiog
  • brech nad yw'n diflannu pan fyddwch yn rholio gwydr drosti, yr un fath â meningitis
  • anhawster anadlu, diffyg anadl neu anadlu'n gyflym iawn

Efallai na fydd ganddo bob un o'r symptomau hyn.

Dewch o hyd i adran A&E.

Adnabod sepsis

Mae sepsis yn gallu bod yn anodd ei adnabod. Mae llawer o symptomau posibl.

Mae'r symptomau yn gallu bod yn amwys. Gallant fod yn debyg i symptomau cyflyrau eraill, gan gynnwys y ffliw neu haint ar y frest.

Ffoniwch GIG 111 Cymru 

Os ydych chi, eich plentyn neu rywun rydych yn gofalu amdano:

  • yn teimlo'n sâl iawn neu fel bod rhywbeth mawr o'i le
  • heb basio dŵr drwy'r dydd (o ran oedolion a phlant hŷn) neu yn ystod y 12 awr diwethaf (o ran babanod a phlant ifanc)
  • yn chwydu o hyd ac nid yw'n gallu cadw unrhyw fwyd na llaeth i lawr (o ran babanod a phlant ifanc)
  • mae'r ardal o amgylch toriad neu glwyf wedi chwyddo, yn goch neu'n boenus
  • mae ganddo dymheredd uchel neu dymheredd isel iawn, mae'n teimlo'n boeth neu'n oer wrth gyffwrdd ag ef, neu'n crynu

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siwr ai sepsis ydyw - mae'n well ffonio 111 o hyd.

Gallant ddweud wrthych beth i'w wneud, trefnu galwad ffôn gan nyrs neu feddyg, neu alw ambiwlans i chi.

Gall sepsis fod yn arbennig o anodd ei adnabod mewn:

  • babanod a phlant ifanc
  • pobl sydd â dementia
  • pobl sydd ag anabledd dysgu
  • pobl sydd ag anhawster cyfathrebu

Beth yw sepsis?

Mae sepsis yn adwaith i haint sy'n gallu bygwth bywyd.

Mae'n digwydd pan fydd eich system imiwnedd yn gorymateb i haint ac yn dechrau niweidio meinweoedd ac organau eich corff eich hun.

Ni allwch ddal sepsis o rywun arall.

Weithiau, mae sepsis yn cael ei alw'n septicaemia neu wenwyn gwaed.

Achosion

Pwy sy'n fwy tebygol o gael sepsis

Gall unrhyw un sydd â haint gael sepsis.

Mae rhai pobl yn fwy tebygol o gael haint a allai arwain at sepsis, gan gynnwys:

  • babanod iau na blwydd oed, yn enwedig os ydynt wedi cael eu geni'n gynnar (cyn pryd) neu os cafodd eu mam haint tra oedd yn feichiog
  • pobl sy'n hŷn na 75 oed
  • pobl sydd â diabetes
  • pobl sydd â system imiwnedd wannach, fel pobl sy'n cael triniaeth cemotherapi neu sydd wedi cael trawsblaniad organ yn ddiweddar
  • pobl sydd wedi cael llawdriniaeth neu salwch difrifol yn ddiweddar
  • menywod sydd newydd roi genedigaeth, cael camesgoriad neu erthyliad

Ni allwch ddal sepsis o rywun arall. Mae'n digwydd pan fydd eich corff yn gorymateb i haint.

Sut i helpu i atal heintiau

Nid yw'n bosibl atal sepsis bob amser.

Mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i helpu i atal heintiau sy'n gallu arwain at sepsis.

Gwnewch y canlynol:

  • gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael eich holl frechlynnau, yn enwedig o ran babanod, plant, pobl hŷn a menywod beichiog
  • glanhewch a gofalwch am unrhyw glwyfau
  • dilynwch y cyfarwyddiadau wrth gymryd gwrthfiotigau
  • cymerwch yr holl wrthfiotigau a ragnodwyd i chi, hyd yn oed os ydych yn teimlo'n well
  • golchwch eich dwylo'n rheolaidd a dysgwch blant sut i olchi eu dwylo'n dda

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • peidiwch ag anwybyddu symptomau sepsis

Triniaeth

Triniaeth ar gyfer sepsis

Mae angen i sepsis gael ei drin mewn ysbyty ar unwaith oherwydd ei fod yn gallu gwaethygu'n gyflym.

Dylech gael gwrthfiotigau o fewn awr o gyrraedd yr ysbyty.

Os na fydd sepsis yn cael ei drin yn gynnar, gall droi'n sioc sepsis ac achosi i'ch organau fethu. Mae hyn yn rhoi bywyd yn y fantol.

Efallai y bydd angen i chi gael profion neu driniaethau eraill, yn dibynnu ar eich symptomau, gan gynnwys:

  • triniaeth mewn uned gofal dwys
  • peiriant i'ch helpu i anadlu (peiriant anadlu)
  • llawdriniaeth i dynnu ymaith ardaloedd o haint

Efallai y bydd angen i chi aros yn yr ysbyty am sawl wythnos.

Gwella ar ôl sepsis

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr ar ôl sepsis. Ond mae'n gallu cymryd amser.

Gallech barhau i brofi symptomau corfforol ac emosiynol. Gall y rhain bara am fisoedd, neu hyd yn oed flynyddoedd, ar ôl i chi gael sepsis.

Weithiau, gelwir yr effeithiau tymor hir hyn yn syndrom ôl-sepsis, a gallant gynnwys:

  • teimlo'n flinedig ac yn wan iawn, a chael trafferth cysgu
  • diffyg chwant bwyd
  • mynd yn sâl yn amlach
  • newidiadau i'ch hwyliau, neu orbryder neu iselder
  • hunllefau neu ôl-fflachiau
  • anhwylder straen wedi trawma (PTSD)

Triniaeth ar gyfer syndrom ôl-sepsis

Dylai'r rhan fwyaf o symptomau syndrom ôl-sepsis wella ar eu pen eu hunain. Ond mae'n gallu cymryd amser.

Mae pethau y gallwch eu gwneud i helpu gyda rhai o'r effeithiau tymor hir, fel:

Gwnewch y canlynol:

  • holwch eich cyflogwr ynghylch newidiadau i'ch oriau neu'ch amodau gwaith tra byddwch yn gwella
  • ychydig o ymarferion ysgafn, rhwydd i'ch helpu i gryfhau
  • rhowch gynnig ar rai awgrymiadau i'ch helpu i gysgu'n well
  • pethau i helpu i atal heintiau
  • ceisiwch gymorth - mae'r Ymddiriedolaeth Sepsis yn cynnig cefnogaeth i oroeswyr sepsis, neu siaradwch â meddyg teulu
  • ceisiwch fwyta ychydig yn aml os nad oes gennych lawer o chwant bwyd

Peidiwch â gwneud y canlynol:

  • peidiwch â cheisio rhuthro'ch gwellhad - rhowch amser i'ch hun

Ymwelwch â'r Ymddiriedolaeth Sepsis i gael:

Ewch i weld meddyg teulu ynghylch:

  • triniaeth ar gyfer sgil-effeithiau corfforol
  • triniaeth a chefnogaeth ar gyfer symptomau emosiynol


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan
NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 02/02/2023 11:03:33