Salwch teithio

Cyflwyniad

Motion sickness
Motion sickness

Mae salwch teithio yn teimlo'n sâl wrth deithio mewn car, cwch, awyren neu drên. Gallwch chi wneud pethau i'w atal neu leddfu'r symptomau.

Sut i leddfu salwch eithio eich hun

Gwnewch:

  • cyn lleied o symud â phosib - eisteddwch yn flaen y car neu yng nghanol cwch
  • edrych yn syth ymlaen ar bwynt sefydlog, fel y gorwel
  • anadlu awyr iach os yn bosibl - er enghraifft, trwy agor ffenestr car
  • cau eich llygaid ac anadlu'n araf wrth ganolbwyntio ar eich anadlu
  • tynnu sylw plant trwy siarad, gwrando ar gerddoriaeth neu ganu caneuon
  • torri siwrneiau hir i gael ychydig o awyr iach, yfed dŵr neu fynd am dro
  • rhowch gynnig ar sinsir, y gallwch chi ei gymryd fel tabled, bisged neu de

Peidiwch â:

  • peidiwch â darllen, gwylio ffilmiau na defnyddio dyfeisiau electronig
  • peidiwch ag edrych ar wrthrychau symudol, fel ceir sy'n pasio neu donnau
  • peidiwch â bwyta prydau trwm, bwydydd sbeislyd nac yfed alcohol ychydig cyn neu wrth deithio
  • peidiwch â mynd ar reidiau ffair os ydyn nhw'n gwneud ichi deimlo'n sâl

Gall fferyllydd helpu gyda salwch symud

Gallwch brynu meddyginiaethau o fferyllfeydd i atal salwch symud, gan gynnwys:

  • tabledi - mae tabledi toddadwy ar gael i blant
  • clytiau - gellir eu defnyddio gan oedolion a phlant dros 10 oed
  • bandiau aciwbwysau - nid yw'r rhain yn gweithio i bawb

Bydd eich fferyllydd yn gallu argymell y driniaeth orau i chi neu'ch plentyn.

Dewch o hyd i fferyllfa

Achosion salwch teithio

Mae salwch teithio yn cael ei achosi gan symudiadau dro ar ôl tro wrth deithio, fel mynd dros lympiau mewn car neu symud i fyny ac i lawr mewn cwch.

Mae'r glust fewnol yn anfon gwahanol signalau i'ch ymennydd i'r rhai y mae eich llygaid yn eu gweld. Mae'r negeseuon dryslyd hyn yn achosi ichi deimlo'n sâl.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 22/12/2022 12:55:32