Tarwden

Cyflwyniad

Mae tarwden yn haint ffyngaidd cyffredin. Fel arfer, gallwch brynu meddyginiaeth o fferyllfa i’w thrin.

Gwirio ai tarwden ydyw

Prif symptom tarwden yw brech. Gall edrych yn goch, yn arian neu’n dywyllach na’r croen o’i chwmpas, yn dibynnu ar liw eich croen.

Gall y frech fod yn gennog, yn sych, yn chwyddedig neu’n goslyd.

Gall tarwden ymddangos unrhywle ar y corff, gan gynnwys ar groen y pen (tinea capitis) a chesail y forddwyd (jock itch).
 
Ringworm 
 

Fel arfer, siâp cylch sydd i’r frech, ond gall edrych yn wahanol ar eich wyneb, eich gwddf neu ar groen eich pen.

Gall lliw brech y darwden fod yn llai amlwg ar groen brown a du.

Weithiau, mae’r frech yn tyfu, yn lledaenu ac mae mwy nag 1 frech.

Gall tarwden ar yr wyneb neu ar groen y pen achosi patsys o golli gwallt hefyd

Gall fferyllydd helpu gyda tharwden

Siaradwch â fferyllydd yn gyntaf. 

Mae tarwden yn un o’r cyflyrau sy’n dod o dan y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef gwasanaeth y GIG y gall cleifion droi ato am gyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim ac mae ar gael o 99% o fferyllfeydd yng Nghymru. 
Chwiliwch am eich fferyllfa agosaf yma
Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaeth yma

Gall y fferyllydd edrych ar eich brech ac argymell y feddyginiaeth wrthffyngaidd orau. Gall hwn fod yn hufen, yn gel neu’n chwistrell, yn dibynnu ar ble mae’r frech. 

Fel arfer, mae angen i chi ddefnyddio meddyginiaeth wrthffyngaidd bob dydd am hyd at 4 wythnos. Mae’n bwysig ei defnyddio am y cyfnod cywir, hyd yn oed os yw’r frech wedi diflannu. 

Bydd fferyllydd yn dweud wrthych os bydd o’r farn y dylech fynd i weld meddyg teulu. 

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os nad yw tarwden wedi gwella ar ôl defnyddio meddyginiaeth wrthffyngaidd a argymhellir gan fferyllydd
  • os oes gennych darwden ar groen eich pen – fel arfer, bydd angen tabledi a siampŵ gwrthffyngaidd ar bresgripsiwn arnoch
  • os oes gennych system imiwnedd wannach – er enghraifft o gemotherapi, steroidau neu ddiabetes

Sut mae tarwden yn cael ei throsglwyddo

Mae tarwden yn cael ei hachosi gan fath o ffwng.

Gall gael ei lledaenu’n hawdd trwy gysylltiad agos â:

  • pherson neu anifail heintiedig
  • gwrthrychau heintiedig – fel dillad gwely, cribau neu dywelion
  • pridd heintiedig – er bod hyn yn llai cyffredin

Mae’n iawn i’ch plentyn fynd i’r ysgol neu’r feithrinfa pan fydd wedi dechrau’r driniaeth. Gadewch i athrawon eich plentyn wybod os oes ganddo/ganddi darwden.

Sut i atal tarwden rhag lledaenu

Gwnewch y canlynol:

  • dechreuwch driniaeth cyn gynted â phosibl
  • golchwch dywelion a dillad gwely yn rheolaidd
  • cadwch eich croen yn lân a golchwch eich dwylo ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid neu bridd
  • archwiliwch eich croen yn rheolaidd os buoch mewn cysylltiad â pherson neu anifail heintiedig
  • ewch â’ch anifail anwes at y milfeddyg os yw’n bosibl bod tarwden arno (er enghraifft, patsys o flew coll)

Peidiwch â:

  • rhannu tywelion, cribau a dillad gwely gyda rhywun sydd â tharwden
  • crafu brech tarwden – gallai hyn ei lledaenu i rannau eraill o’ch corff


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 20/03/2023 16:06:01