Emboledd ysgyfeiniol

Cyflwyniad

Rhwystr mewn gwaedlestr yn eich ysgyfaint yw emboledd ysgyfeiniol. Gall roi bywyd yn y fantol os na chaiff ei drin yn gyflym.

Ewch i weld meddyg teulu:

  • os teimlwch boen yn eich brest neu yn rhan uchaf eich cefn
  • os cewch drafferth anadlu
  • os byddwch yn pesychu gwaed

Gallech hefyd gael poen, cochni a chwyddo yn un o'ch coesau (yng nghroth y goes, fel arfer). Mae'r rhain yn symptomau tolchen/clot, a elwir hefyd yn thrombosis gwythïen ddofn.

Ffoniwch 999 neu ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys:

  • os cewch drafferth ddifrifol i anadlu
  • os yw'ch calon yn curo'n gyflym iawn
  • os bydd rhywun yn anymwybodol

Gallai'r rhain fod yn arwyddion emboledd ysgyfeiniol neu gyflwr difrifol arall.

Trin emboledd ysgyfeiniol

Os bydd eich meddyg teulu'n meddwl bod gennych emboledd ysgyfeiniol, cewch eich anfon i'r ysbyty am ragor o brofion a thriniaeth.

Yn yr ysbyty, mae'n siwr y cewch bigiad o feddyginiaeth gwrthgeulo cyn i chi gael canlyniadau unrhyw brofion.

Mae cyffuriau gwrthgeulo'n atal tolchenni rhag mynd yn fwy ac maent yn atal tolchenni newydd rhag ffurfio.

Os bydd profion yn cadarnhau bod gennych emboledd ysgyfeiniol, byddwch yn parhau â phigiadau gwrthgeulo am o leiaf 5 niwrnod.

Hefyd, bydd angen i chi gymryd tabledi gwrthgeulo am o leiaf 3 mis.

Gallwch ddisgwyl gwella'n llawn o emboledd ysgyfeiniol os caiff ei ddarganfod a'i drin yn gynnar.

Lleihau'ch risg o gael emboledd ysgyfeiniol

Gallwch leihau'ch risg o gael emboledd ysgyfeiniol trwy gymryd camau i atal thrombosis gwythïen ddofn.

Mae emboledd ysgyfeiniol yn digwydd yn gyffredin pan fydd rhan o'r dolchen yn rhyddhau o'ch coes ac yn teithio i'ch ysgyfaint, gan achosi rhwystr.

Os byddwch yn cael eich trin yn yr ysbyty am gyflwr arall, dylai eich tîm meddygol gymryd camau i atal thrombosis gwythïen ddofn.

Weithiau, gallwch ddatblygu thrombosis gwythïen ddofn ar deithiau sy'n para mwy na 6 awr.

Gallwch gymryd camau i leihau'ch risg o gael thrombosis gwythïen ddofn oherwydd teithio:

  • eisteddwch yn gyfforddus yn eich sedd a gorwedd yn ôl cymaint â phosibl
  • gwisgwch ddillad llac
  • gwnewch yn siwr bod gennych ddigon o le i'ch coesau
  • yfwch ddwr yn rheolaidd
  • codwch o eistedd yn rheolaidd
  • plygwch a sythwch eich coesau, eich traed a bysedd eich traed bob 30 munud tra byddwch yn eistedd
  • pwyswch belenni'ch traed yn galed wrth y llawr bob hyn a hyn
  • gwisgwch hosanau hedfan

Peidiwch ag:

  • eistedd am gyfnodau hir heb symud
  • yfed alcohol
  • yfed gormod o goffi na diodydd caffein eraill
  • cymryd tabledi cysgu


Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 21/12/2022 11:52:16