Mae'r rhan fwyaf o achosion o boen gwddf yn para am ychydig o wythnosau yn unig. Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i'w leddfu, ond ewch i weld meddyg teulu os na fydd yn gwella.
Sut gallwch chi leddfu poen gwddf eich hun
Pethau y dylech eu gwneud:
- cymerwch paracetamol neu ibuprofen - neu defnyddiwch gel ibuprofen ar eich gwddf
- defnyddiwch obennydd isel, caled
- rhowch becynnau gwres neu oer ar eich gwddf
- ceisiwch aros yn egnïol - parhewch â'ch gweithgareddau dyddiol arferol cymaint ag y bo modd
Pethau na ddylech eu gwneud:
- peidiwch â gwisgo coler gwddf - mae'n well cadw'ch gwddf yn symud (oni bai bod meddyg yn dweud wrthych i beidio â gwneud hynny)
- peidiwch â gwneud unrhyw beth a allai fod yn beryglus oherwydd nad ydych chi'n gallu symud eich gwddf - er enghraifft, gyrru neu feicio
Rhoi pecynnau gwres neu oer ar eich gwddf
Ceisiwch ddefnyddio'r naill neu'r llall o'r rhain:
- pecyn o bys wedi rhewi wedi'i lapio mewn lliain sychu llestri am 5 munud, 3 gwaith y dydd
- potel dŵr poeth wedi'i lapio mewn lliain sychu llestri am 20 munud, 2 i 3 gwaith y dydd
Gallwch chi hefyd brynu pecynnau gwres neu oer o fferyllfa.
Ewch i weld meddyg teulu:
- os nad yw'r poen neu'r stiffrwydd yn gwella ar ôl ychydig wythnosau
- os nad yw cyffuriau lladd poen fel paracetamol neu ibuprofen wedi gweithio
- os ydych chi'n poeni am y poen
- os oes gennych chi symptomau eraill, fel pinnau bach neu fraich oer - gallai hyn fod yn rhywbeth mwy difrifol
Beth sy'n achosi poen gwddf
Yr achosion mwyaf cyffredin yw:
- mae'r gwddf yn cloi mewn safle lletchwith tra byddwch yn cysgu
- ystum gwael - er enghraifft, pan fyddwch yn eistedd wrth ddesg am gyfnod hir
- nerf wedi pinsio
- anaf - er enghraifft, atchwipio (whiplash) o ddamwain traffig neu gwympo
Sut gallwch chi atal poen gwddf
Pethau y dylech eu gwneud:
- pan fyddwch chi'n cysgu, gwnewch yn siŵr fod eich pen yr un uchder â gweddill eich corff
- dylech gael matres caled
- eisteddwch yn syth - rholiwch eich ysgwyddau'n ôl yn dyner a dod â'ch gwddf yn ôl
Pethau na ddylech eu gwneud:
- peidiwch â chadw eich gwddf yn yr un safle am amser hir - er enghraifft, pan fyddwch yn eistedd wrth ddesg
- peidiwch â chysgu ar flaen eich corff
- peidiwch â throi eich gwddf pan fyddwch chi yn y gwely