Ecsema (atopig)

Cyflwyniad

Eczema

Ecsema atopig (dermatitis atopig) yw'r math mwyaf cyffredin o ecsema, sef cyflwr sy'n achosi i'r croen gosi a mynd yn goch, yn sych ac yn graciog.

Mae ecsema atopig yn fwy cyffredin mewn plant, gan ddatblygu'n aml cyn eu pen-blwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe allai ddatblygu am y tro cyntaf mewn oedolion hefyd.

Cyflwr hirdymor (cronig) ydyw fel arfer, er ei fod yn gallu gwella'n sylweddol, neu hyd yn oed glirio'n llwyr, mewn rhai plant wrth iddynt fynd yn hyn.

Symptomau ecsema atopig

Mae ecsema atopig yn achosi i'r croen gosi a mynd yn sych, yn graciog ac yn boenus.

Bydd gan rai pobl ddarnau bach o groen sych yn unig, ond gallai eraill fod â chroen coch, llidus ar draws y corff.

Gall croen llidus fod yn goch ar groen mwy golau, ac yn frown tywyllach, yn borffor neu'n llwyd ar groen mwy tywyll. Gall fod yn fwy anodd ei weld ar groen mwy tywyll hefyd.

Er bod ecsema atopig yn gallu effeithio ar unrhyw ran o'r corff, gan amlaf mae'n effeithio ar y dwylo, y tu mewn i'r penelinoedd, cefn y pengliniau a'r wyneb a chroen y pen mewn plant.

Fel arfer, bydd pobl sydd ag ecsema atopig yn cael cyfnodau pan fydd y symptomau'n llai amlwg, yn ogystal â chyfnodau pan fydd y symptomau'n fwy difrifol (fflamychiad).

Pryd i geisio cyngor meddygol

Ewch at feddyg teulu os oes gennych symptomau ecsema atopig. Fel arfer, bydd yn gallu gwneud diagnosis o'r cyflwr trwy edrych ar eich croen a gofyn cwestiynau fel:

  • p'un a yw'r frech yn cosi a ble mae'n ymddangos
  • pryd y dechreuodd y symptomau gyntaf
  • p'un a yw'n mynd a dod dros amser
  • p'un a oes hanes o ecsema atopig yn eich teulu
  • p'un a oes gennych unrhyw gyflyrau eraill, fel alergeddau neu asthma
  • p'un a oes rhywbeth yn eich deiet neu eich ffordd o fyw a allai fod yn cyfrannu at eich symptomau

Yn nodweddiadol, i gael diagnosis o ecsema atopig, dylech fod wedi cael cyflwr croen sy'n cosi yn ystod y 12 mis diwethaf a thri neu fwy o'r canlynol:

  • croen coch sy'n amlwg yn llidus ym mhlygiadau'r croen - er enghraifft, y tu mewn i'r penelinoedd neu y tu ôl i'r pengliniau (neu ar y bochau, y tu allan i'r penelinoedd, neu ar flaen y pengliniau mewn plant 18 mis neu iau) ar adeg yr archwiliad gan weithiwr iechyd proffesiynol
  • hanes o lid croen yn yr un mannau a grybwyllwyd uchod
  • croen sych yn gyffredinol yn ystod y 12 mis diwethaf
  • hanes o asthma neu clefyd y gwair - mae'n rhaid bod gan blant iau na phedair blwydd oed berthynas agos, fel rhiant, brawd neu chwaer, sydd ag un o'r cyflyrau hyn
  • bod y cyflwr wedi dechrau cyn dwy flwydd oed (nid yw hyn yn berthnasol i blant iau na phedair blwydd oed)

Achosion ecsema atopig

Nid ydym yn gwybod beth yn union sy'n achosi ecsema atopig, ond mae'n amlwg nad yw'n cael ei achosi gan un peth yn unig.

Mae ecsema atopig yn aml yn digwydd mewn pobl sy'n cael alergeddau - mae "atopig" yn golygu sensitifrwydd i alergenau.

Mae'n gallu rhedeg mewn teuluoedd, ac mae'n aml yn datblygu ochr yn ochr â chyflyrau eraill, fel asthma a clefyd y gwair.

Yn aml, mae symptomau ecsema atopig yn cael eu sbarduno gan bethau penodol, fel sebon, glanedyddion (detergents), straen a'r tywydd.

Weithiau, gall alergeddau bwyd gyfrannu, yn enwedig mewn plant ifanc sydd ag ecsema difrifol.

Efallai y gofynnir i chi gadw dyddiadur bwyd i geisio gweld a yw bwyd penodol yn gwneud eich symptomau'n waeth.

Ni fydd angen profion alergedd fel arfer, er eu bod yn ddefnyddiol weithiau i adnabod p'un a allai alergedd bwyd fod yn sbarduno'r symptomau.

Trin ecsema atopig

Gall triniaeth ar gyfer ecsema atopig helpu i leddfu'r symptomau ac mae llawer o achosion yn gwella dros amser.

Fodd bynnag, nid oes iachâd ar hyn o bryd ac mae ecsema difrifol yn aml yn cael effaith sylweddol ar fywyd pob dydd. Gallai fod yn anodd ymdopi â hyn yn gorfforol ac yn feddyliol.

Mae perygl uwch o heintiau croen hefyd.

Gellir defnyddio llawer o wahanol driniaethau i reoli symptomau ecsema, gan gynnwys:

  • technegau hunanofal, fel lleihau crafu ac osgoi sbardunwyr
  • esmwythyddion (triniaethau lleithio) - a ddefnyddir bob dydd ar gyfer croen sych
  • corticosteroidau argroenol - a ddefnyddir i leihau chwyddo, cochni a chosi yn ystod fflamychiad

Mathau eraill o ecsema

Ecsema yw'r enw ar grwp o gyflyrau croen sy'n achosi croen sych a llidus. Mae mathau eraill o ecsema yn cynnwys:

  • ecsema disgennol - math o ecsema sy'n digwydd mewn darnau cylchol neu hirgrwn ar y croen
  • dermatitis cyswllt - math o ecsema sy'n digwydd pan fydd y corff yn dod i gysylltiad â sylwedd penodol
  • ecsema faricos - math o ecsema sy'n effeithio ar rannau isaf y coesau, gan amlaf, ac sy'n cael ei achosi gan broblemau â llif y gwaed trwy wythiennau'r coes
  • ecsema seborhëig - math o ecsema lle mae darnau coch, cennog yn datblygu ar ochrau'r trwyn, yr aeliau, y clustiau a chroen y pen
  • ecsema dyshidrotig (pompholyx) - math o ecsema sy'n achosi i bothelli bychain ymddangos ar draws cledrau'r dwylo

Symptomau

Mae ecsema atopig yn achosi i rannau o'r croen gosi a mynd yn sych, yn goch, yn graciog neu'n boenus.

Fel arfer, bydd cyfnodau pan fydd y symptomau'n gwella, a ddilynir gan gyfnodau pan fyddant yn gwaethygu (fflamychu). Gallai fflamychiad ddigwydd mor aml â dwy neu dair gwaith y mis.

Gall ecsema atopig ddigwydd ar unrhyw ran o'r corff, ond mae'n fwyaf cyffredin ar y dwylo (yn enwedig y bysedd), y tu mewn i'r penelinoedd neu gefn y pengliniau, ac ar yr wyneb a chroen y pen mewn plant.

Mae difrifoldeb ecsema atopig yn gallu amrywio'n fawr o un unigolyn i'r llall. Gallai pobl ag ecsema atopig ysgafn fod â darnau bach o groen sych yn unig sy'n cosi ambell waith. Mewn achosion mwy difrifol, gall ecsema atopig achosi croen sych, llidus ar draws pob rhan o'r corff, a chosi parhaus.

Gall croen llidus fod yn goch ar groen mwy golau, ac yn frown tywyllach, yn borffor neu'n llwyd ar groen mwy tywyll. Gall hyn fod yn fwy anodd ei weld ar groen mwy tywyll.

Mae crafu yn gallu tarfu ar eich cwsg, gwneud i'ch croen waedu ac achosi heintiau eilaidd. Mae'n gallu gwneud y cosi'n waeth hefyd, a gallai cylch o gosi a chrafu rheolaidd ddatblygu. Gall hyn arwain at nosweithiau di-gwsg ac anhawster canolbwyntio yn yr ysgol neu yn y gwaith.

Hefyd, gallai darnau o groen y mae ecsema yn effeithio arnynt droi'n fwy tywyll neu'n fwy golau dros dro ar ôl i'r cyflwr wella. Mae hyn yn fwy amlwg  mewn pobl sydd â chroen mwy tywyll. Nid creithio neu sgil-effaith hufennau steroid yw hyn. Yn hytrach, "ôl troed" hen lid ydyw a bydd yn dychwelyd i'w liw arferol yn y pen draw.

Arwyddion haint

Weithiau, gall darnau o groen y mae ecsema atopig yn effeithio arnynt gael eu heintio. Mae arwyddion haint yn gallu cynnwys:

  • gwaethygiad mawr yn eich ecsema
  • hylif yn diferu o'r croen
  • cramen felen ar wyneb y croen neu smotiau bach melynwyn yn ymddangos yn yr ecsema
  • y croen yn chwyddo ac yn boenus
  • tymheredd uchel (twymyn) a theimlo'n anhwylus yn gyffredinol

Ewch at eich meddyg cyn gynted â phosibl os ydych yn credu y gallai eich croen chi neu groen eich plentyn fod wedi cael ei heintio.  

Darllenwch fwy ynghylch heintiau a chymhlethdodau eraill ecsema atopig.

Achosion

Mae ecsema atopig yn debygol o gael ei achosi gan gyfuniad o bethau.

Yn aml, mae gan bobl sydd ag ecsema atopig groen sych iawn oherwydd nid yw eu croen yn gallu cadw llawer o leithder. Gallai'r sychder hwn wneud y croen yn fwy tebygol o adweithio i sbardunau penodol, gan achosi iddo gosi a mynd yn boenus.

Gallech gael eich geni â thebygolrwydd uwch o ddatblygu ecsema atopig oherwydd y genynnau rydych chi'n eu hetifeddu oddi wrth eich rhieni.

Mae ymchwil wedi dangos bod plant y mae gan y ddau riant ecsema atopig, neu sydd â brodyr neu chwiorydd eraill sydd ag ecsema, yn fwy tebygol o'i ddatblygu eu hunain.

Nid yw ecsema atopig yn heintus, felly ni ellir ei drosglwyddo ymlaen trwy gysylltiad agos.

Sbardunau ecsema

Gallai nifer o bethau sbarduno eich symptomau ecsema. Gall y rhain amrywio o un unigolyn i'r llall.

Mae sbardunau cyffredin yn cynnwys:

  • llidwyr - fel sebon a glanedyddion (detergents), gan gynnwys siampŵ, hylif golchi llestri a swigod bath
  • ffactorau amgylcheddol neu alergenau - fel tywydd oer a sych, lleithder, a phethau mwy penodol fel gwiddon llwch, blew anifeiliaid anwes, paill a llwydni
  • alergeddau bwyd - fel alergeddau i laeth buwch, wyau, pysgnau, soia neu wenith
  • gwisgo defnyddiau penodol yn agos i'r croen - fel gwlân a ffabrigau synthetig
  • newidiadau hormonaidd - gallai menywod weld bod eu symptomau'n gwaethygu yn ystod y diwrnodau cyn eu mislif neu yn ystod beichiogrwydd
  • heintiau croen

Mae rhai pobl yn dweud hefyd bod eu symptomau'n gwaethygu pan fydd yr aer yn sych neu'n llychlyd, neu pan fyddant dan bwysau, yn chwyslyd, yn rhy boeth neu'n rhy oer.

Os ydych yn cael diagnosis o ecsema atopig, bydd eich meddyg teulu yn gweithio gyda chi i geisio adnabod unrhyw sbardunau ar gyfer eich symptomau.

Triniaeth

Gall triniaethau ar gyfer ecsema atopig helpu i leddfu'r symptomau. Nid oes iachâd ar ei gyfer, ond mae llawer o blant yn gweld bod eu symptomau'n gwella'n naturiol wrth iddynt fynd yn hyn.

Dyma'r prif driniaethau ar gyfer ecsema atopig:

  • esmwythyddion (lleithyddion) - defnyddir y rhain bob dydd i atal y croen rhag mynd yn sych
  • corticosteroidau argroenol - hufennau ac elïau a ddefnyddir i leihau chwyddo a chochni yn ystod fflamychiadau

Mae triniaethau eraill yn cynnwys:

  • pimecrolimus neu tacrolimus argroenol ar gyfer ecsema mewn mannau sensitif nad ydynt yn ymateb i driniaethau symlach
  • cyffuriau gwrth-histamin ar gyfer cosi difrifol
  • rhwymynnau neu wisgoedd corff arbennig i alluogi'r corff i wella oddi tanynt
  • triniaethau cryfach a gynigir gan ddermatolegydd (arbenigwr ar y croen)

Amlinellir y triniaethau amrywiol ar gyfer ecsema atopig isod.

Hunan-ofal

Yn ogystal â'r triniaethau uchod, mae pethau y gallwch eu gwneud eich hun i helpu i leddfu'ch symptomau ac atal problemau ychwanegol.

Ceisiwch leihau'r niwed o grafu

Mae ecsema yn aml yn cosi, ac mae'n gallu bod yn anodd peidio â chrafu'r ardaloedd o groen yr effeithir arnynt.

Ond mae crafu fel arfer yn niweidio'r croen, sy'n gallu achosi i fwy o ecsema ddatblygu.

Yn y pen draw, bydd crafu cronig yn achosi i'r croen dewychu, gan ffurfio darnau sy'n teimlo fel lledr.

Mae crafu dwfn hefyd yn achosi gwaedu ac yn cynyddu'r risg y gallai eich croen gael ei heintio neu ei greithio.

Ceisiwch grafu llai pryd bynnag y bo'n bosibl. Gallech geisio rhwbio'ch croen yn ysgafn â'ch bysedd yn lle hynny.

Os oes gan eich baban ecsema atopig, gallai menig gwrthgrafu ei atal rhag crafu ei groen.

Cadwch eich ewinedd yn fyr ac yn lân i leihau niwed i'r croen o ganlyniad i grafu anfwriadol.

Cadwch eich croen wedi'i orchuddio â dillad ysgafn i leihau niwed o grafu  cyson.

Ceisiwch osgoi ffactorau sbarduno

Bydd meddyg teulu yn gweithio gyda chi i geisio penderfynu beth allai fod yn achosi'r fflamychiadau ecsema, er y gallai wella neu fynd yn waeth heb unrhyw reswm amlwg.

Pan fyddwch yn gwybod beth sy'n sbarduno fflamychiad, gallwch geisio ei osgoi.

Er enghraifft:

  • os yw ffabrigau penodol yn llidio'ch croen, dylech osgoi gwisgo'r rhain a gwisgo dillad ysgafn, gwead mân neu ddefnyddiau naturiol, fel cotwm
  • os yw gwres yn gwaethygu'ch ecsema, cadwch yr ystafelloedd yn eich cartref yn oer, yn enwedig yr ystafell wely
  • dylech osgoi sebonau neu lanedyddion (detergents) a allai effeithio ar eich croen - defnyddiwch sylweddau eraill yn lle sebon

Er bod gan rai pobl sydd ag ecsema alergedd i widdon llwch, ni ddylech geisio cael gwared arnynt o'ch cartref yn llwyr. Mae'r broses yn gallu bod yn anodd ac nid oes tystiolaeth glir i ddangos bod hynny'n helpu.

Newidiadau i'ch deiet

Gall rhai bwydydd, fel wyau a llaeth buwch, sbarduno symptomau ecsema.

Ond ni ddylech wneud newidiadau mawr i'ch deiet heb siarad â'ch meddyg teulu yn gyntaf.

Efallai na fyddai'n iach rhoi'r gorau i gynnwys y bwydydd hyn yn eich deiet, yn enwedig mewn plant iau y mae arnynt angen calsiwm, calorïau a phrotein o'r bwydydd hyn.

Os yw eich meddyg teulu yn amau bod gennych alergedd bwyd, fe allech gael eich atgyfeirio i ddeietegydd (arbenigwr ar ddeiet a maeth).

Gall eich helpu i benderfynu ar ffordd o osgoi'r bwyd y mae gennych alergedd iddo ar yr un pryd â sicrhau eich bod yn cael yr holl faeth y mae arnoch ei angen.

Fel arall, fe allech gael eich atgyfeirio i arbenigwr mewn ysbyty, fel imiwnolegydd, dermatolegydd neu bediatregydd.

Os ydych yn bwydo baban ar y fron ac mae ecsema atopig ganddo,  dylech ofyn am gyngor meddygol cyn gwneud unrhyw newidiadau i'ch deiet arferol.

Esmwythyddion

Mae esmwythyddion yn driniaethau lleithio sy'n cael eu rhoi yn syth ar y croen i leihau faint o ddwr sy'n cael ei golli o'r croen trwy ei orchuddio â haen amddiffynnol.                                                

Maen nhw'n aml yn cael eu defnyddio i helpu i reoli cyflyrau croen sych neu gennog, fel ecsema atopig.

Yn ogystal â gwneud i'r croen deimlo'n llai sych, gallent hefyd gyflawni rôl wrthlidiol ysgafn a helpu i leihau nifer y fflamychiadau rydych chi'n eu cael.

Os oes gennych ecsema ysgafn, siaradwch â fferyllydd i gael cyngor ar esmwythyddion. Os oes gennych ecsema cymedrol neu ddifrifol, siaradwch â meddyg teulu.

Dewis esmwythydd

Mae nifer o wahanol esmwythyddion ar gael. Siaradwch â fferyllydd i gael cyngor ar ba esmwythyddion i'w defnyddio. Efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar ambell un cyn dod o hyd i un sy'n addas i chi.

Efallai y cewch eich cynghori i ddefnyddio cymysgedd o esmwythyddion, fel:

  • eli ar gyfer croen sych iawn
  • hufen neu olchdrwyth (lotion) ar gyfer croen llai sych
  • esmwythydd i'w ddefnyddio yn lle sebon
  • esmwythydd i'w ddefnyddio ar eich wyneb a'ch dwylo, ac un gwahanol i'w ddefnyddio ar eich corff

Mae'r gwahaniaeth rhwng golchdrwythau, hufennau ac elïau yn ymwneud â faint o olew maen nhw'n ei gynnwys.

Elïau sy'n cynnwys y mwyaf o olew, felly gallant fod yn eithaf seimllyd, ond nhw sydd fwyaf effeithiol wrth gadw'r croen yn llaith.

Golchdrwythau sy'n cynnwys y lleiaf o olew, felly nid ydynt yn seimllyd, ond gallant fod yn llai effeithiol. Mae hufennau yn y canol.

Os ydych wedi bod yn defnyddio esmwythydd penodol ers tro, gallai fynd yn llai effeithiol yn y pen draw neu ddechrau llidio eich croen.

Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd cynnyrch arall yn well i chi. Gallwch drafod opsiynau eraill gyda fferyllydd.

Yr esmwythydd gorau yw'r un rydych chi'n hapus i'w ddefnyddio bob dydd.

Sut i ddefnyddio esmwythyddion

Defnyddiwch eich esmwythydd drwy'r amser, hyd yn oed pan nad oes gennych symptomau.

Mae llawer o bobl yn credu ei bod yn ddefnyddiol cadw cyflenwadau ar wahân o esmwythyddion yn y gwaith neu'r ysgol, neu gyflenwad yn yr ystafell ymolchi ac un arall mewn ardal fyw.

Wrth ddefnyddio'r esmwythydd:

  • defnyddiwch lawer ohono
  • peidiwch â'i rwbio i mewn - dylech lyfnhau'r esmwythydd ar y croen yn yr un cyfeiriad y mae'r blew yn tyfu
  • ar ôl cael bath neu gawod, sychwch y croen yn dyner a rhowch yr esmwythydd ar y croen pan fydd y croen yn dal yn llaith er mwyn ei gadw'n llaith

Dylech ddefnyddio esmwythydd o leiaf ddwywaith y dydd os oes modd, neu'n amlach os oes gennych groen sych iawn.

Yn ystod fflamychiad, rhowch lawer o'r esmwythydd ar eich croen yn amlach, ond cofiwch drin croen llidus gyda chorticosteroid argroenol oherwydd ni fydd esmwythyddion yn unig yn ddigon i'w reoli.

Peidiwch â rhoi eich bysedd yn y pot esmwythydd - defnyddiwch lwy neu botel â phwmp yn lle, gan fod hyn yn lleihau perygl haint. A pheidiwch byth â rhannu eich esmwythydd â phobl eraill.

Corticosteroidau argroenol

Os yw'ch croen yn boenus ac yn llidus, gallai eich meddyg teulu ragnodi corticosteroid argroenol (sy'n cael ei roi yn syth ar eich croen), sy'n gallu lleihau'r llid o fewn ychydig ddiwrnodau.   

Gall corticosteroidau argroenol gael eu rhagnodi mewn cryfderau gwahanol, yn dibynnu ar ddifrifoldeb eich ecsema atopig a'r rhannau o groen yr effeithir arnynt.

Gallant fod:

  • yn ysgafn iawn (fel hydrocortisone)
  • yn gymedrol (fel betamethasone valerate a clobetasone butyrate)
  • yn gryf (fel dos uwch o betamethasone valerate a betamethasone diproprionate)
  • yn gryf iawn (fel clobetasol proprionate a diflucortolone valerate)

Os oes angen i chi ddefnyddio corticosteroidau yn aml, ewch i weld eich meddyg teulu'n rheolaidd er mwyn iddo wneud yn siwr bod y driniaeth yn gweithio'n effeithiol a'ch bod yn defnyddio'r maint iawn.

Sut i ddefnyddio corticosteroid argroenol

Peidiwch ag ofni rhoi'r driniaeth ar yr ardaloedd yr effeithir arnynt i reoli'ch ecsema.

Oni bai bod meddyg yn dweud wrthych am wneud rhywbeth arall, dilynwch y cyfarwyddiadau ar y daflen gwybodaeth i gleifion sy'n dod gyda'ch meddyginiaeth.

Bydd hyn yn manylu ar faint ohoni i'w rhoi.

Bydd angen i'r rhan fwyaf o bobl roi'r driniaeth unwaith y dydd yn unig, gan nad oes tystiolaeth fod ei rhoi yn amlach yn fuddiol.

Wrth ddefnyddio corticosteroid argroenol:

  • rhowch eich esmwythydd ar eich croen yn gyntaf ac, yn ddelfrydol, arhoswch tua 30 munud i'r esmwythydd dreiddio i'ch croen, neu rhowch y corticosteroid ar adeg wahanol o'r dydd (fel yn y nos)
  • rhowch faint o'r corticosteroid argroenol a argymhellir ar yr ardal yr effeithir arni
  • defnyddiwch ef am 48 awr ar ôl i'r fflamychiad glirio fel bod y llid o dan wyneb y croen yn cael ei drin 

Efallai y bydd eich meddyg yn awgrymu defnyddio corticosteroid argroenol yn llai aml, ond am gyfnod hwy. Diben hyn yw helpu i atal fflamychiadau.

Weithiau, gelwir hyn yn driniaeth benwythnos, pan fydd rhywun sydd eisoes wedi rheoli ei ecsema yn defnyddio'r corticosteroid argroenol bob penwythnos ar y mannau trafferthus i'w hatal rhag fflamychu eto.   

Sgil-effeithiau

Gallai corticosteroidau argroenol achosi teimlad ysgafn o bigo am lai na munud wrth i chi eu rhoi ar eich croen.

Mewn achosion prin, gallent hefyd achosi'r canlynol:

  • teneuo'r croen - yn enwedig os defnyddir steroidau cryf yn y mannau anghywir, fel yr wyneb, am gyfnod rhy hir (er enghraifft, sawl wythnos)
  • newidiadau i liw'r croen - fel arfer, bydd y croen yn goleuo ar ôl sawl mis o ddefnyddio steroidau cryf iawn, ond mae'r rhan fwyaf o oleuo ar ôl ecsema yn "ôl troed" hen lid yn hytrach nag unrhyw beth sy'n gysylltiedig â thriniaethau
  • acne (smotiau) - yn enwedig pan fyddant yn cael eu defnyddio ar wyneb pobl ifanc yn eu harddegau
  • cynnydd mewn tyfiant blew

Bydd y rhan fwyaf o'r sgil-effeithiau hyn yn gwella pan fydd y driniaeth yn dod i ben.

Gallech fod mewn perygl uwch o brofi sgil-effeithiau os ydych yn defnyddio corticosteroid argroenol cryf:

  • am sawl mis
  • mewn mannau sensitif fel yr wyneb, y ceseiliau neu'r afl (groin)
  • mewn symiau mawr

Dylid rhagnodi'r driniaeth effeithiol wannaf i chi i reoli eich symptomau.

Cyffuriau gwrth-histamin

Mae cyffuriau gwrth-histamin yn fath o feddyginiaeth sy'n atal effeithiau sylwedd yn y gwaed o'r enw histamin.

Gallant helpu i leddfu'r cosi sy'n gysylltiedig ag ecsema atopig.

Gallant fod yn rhai sy'n tawelu, sy'n achosi i bobl deimlo'n gysglyd, neu'n rhai nad ydynt yn tawelu.

Os ydych yn profi cosi difrifol, gallai meddyg teulu awgrymu rhoi cynnig ar gyffur gwrth-histamin nad yw'n tawelu.

Os yw'r cosi yn ystod fflamychiad yn effeithio ar eich cwsg, gallai meddyg teulu awgrymu cymryd cyffur gwrth-histamin sy'n tawelu.

Gall cyffuriau gwrth-histamin sy'n tawelu achosi i bobl deimlo'n gysglyd y diwrnod wedyn hefyd, felly fe allai fod yn syniad da rhoi gwybod i ysgol eich plentyn efallai na fydd mor effro ag arfer.

Rhwymynnau sych a gwlyb

Mewn rhai achosion, gallai meddyg teulu ragnodi rhwymynnau sych, dillad neu rwymynnau gwlyb meddyginiaethol arbennig i'w gwisgo dros ardaloedd o groen y mae ecsema yn effeithio arnynt.

Gellir defnyddio'r rhain naill ai dros esmwythyddion neu gyda chorticosteroidau argroenol i atal crafu, i ganiatáu i'r croen wella, ac i atal y croen rhag sychu.

Tabledi corticosteroid 

Anaml iawn y defnyddir tabledi corticosteroid i drin ecsema atopig heddiw, ond gallent gael eu rhagnodi weithiau am gyfnodau byr o bump i saith diwrnod i helpu i reoli fflamychiadau difrifol iawn.

Yn gyffredinol, mae triniaeth am gyfnod hwy yn cael ei hosgoi oherwydd risg sgil-effeithiau a allai fod yn ddifrifol.

Os yw'ch meddyg teulu yn credu y gallai eich cyflwr fod yn ddigon difrifol i elwa o driniaeth ailadroddus neu hir gyda thabledi corticosteroid, mae'n debygol o'ch atgyfeirio i arbenigwr.

Gweld arbenigwr

Mewn rhai achosion, gallai eich meddyg teulu eich atgyfeirio i arbenigwr ar drin cyflyrau croen (dermatolegydd).

Gallech gael eich atgyfeirio:

  • os nad yw'ch meddyg teulu yn siwr pa fath o ecsema sydd gennych
  • os nad yw triniaeth arferol yn rheoli eich ecsema
  • os yw'ch ecsema yn effeithio ar eich bywyd pob dydd
  • os nad yw'n glir beth sy'n achosi eich ecsema.

Efallai y bydd dermatolegydd yn gallu cynnig y canlynol:

  • prawf alergedd
  • adolygiad trylwyr o'ch triniaeth bresennol - i sicrhau eich bod yn defnyddio digon o'r pethau iawn ar yr adegau iawn
  • atalyddion calcineurin argroenol - hufennau ac elïau sy'n llethu'ch system imiwnedd, fel pimecrolimus a tacrolimus
  • corticosteroidau argroenol cryf iawn
  • ffototherapi - golau uwchfioled (UV) sy'n lleihau llid
  • rhwymynnau sych a gwlyb
  • tabledi imiwnolethu - i lethu'ch system imiwnedd, fel azathioprine, ciclosporin a methotrexate
  • alitretinoin - meddyginiaeth i drin ecsema difrifol sy'n effeithio ar y dwylo mewn oedolion
  • dupilumab - meddyginiaeth ar gyfer oedolion sydd ag ecsema cymedrol i ddifrifol y gellir rhoi cynnig arni pan nad yw triniaethau eraill wedi gweithio

Gallai dermatolegydd gynnig cymorth ychwanegol hefyd i'ch helpu i ddefnyddio'ch triniaethau'n iawn, fel arddangosiadau gan nyrsys arbenigol, ac fe allai eich atgyfeirio ar gyfer cymorth seicolegol os ydych yn credu bod arnoch ei angen.

Therapïau cyflenwol

Gallai rhai pobl weld bod therapïau cyflenwol, fel meddyginiaethau llysieuol, yn ddefnyddiol wrth drin eu hecsema, ond nid oes llawer o dystiolaeth i ddangos bod y rhain yn effeithiol.

Os ydych yn ystyried defnyddio therapi cyflenwol, siaradwch â meddyg teulu yn gyntaf i sicrhau bod y therapi yn un diogel i chi ei ddefnyddio.

Gwnewch yn siwr eich bod yn parhau i ddefnyddio triniaethau eraill a ragnodwyd gan feddyg teulu.

Cymhlethdodau

Weithiau, gall pobl sydd ag ecsema atopig ddatblygu problemau corfforol a seicolegol eraill.

Heintiau croen bacterol

Gan fod ecsema atopig yn gallu achosi i'ch croen gracio a thorri, mae perygl y gallai'r croen gael ei heintio â bacteria. Mae'r risg yn uwch os ydych yn crafu'r ecsema ac os nad ydych yn defnyddio'ch triniaethau yn gywir.

Mae arwyddion haint facterol yn gallu cynnwys:

  • hylif yn diferu o'r croen
  • cramen felen ar wyneb y croen
  • smotiau bach melynwyn yn ymddangos yn yr ecsema
  • y croen yn chwyddo ac yn boenus
  • teimlo'n boeth ac yn grynedig ac yn anhwylus yn gyffredinol

Gallai eich symptomau arferol waethygu'n gyflym ac efallai na fydd eich ecsema'n ymateb i'ch triniaethau arferol.

Dylech weld meddyg cyn gynted â phosibl os ydych yn credu bod eich croen chi neu groen eich plentyn wedi cael ei heintio.

Fel arfer, bydd yn rhagnodi gwrthfiotigau i drin yr haint, yn ogystal â sicrhau bod y llid croen a arweiniodd at yr haint yn cael ei gadw dan reolaeth.

Siaradwch â meddyg teulu os nad yw'r rhain yn helpu neu os yw'ch symptomau'n gwaethygu.

Pan fydd eich haint wedi gwella, bydd meddyg teulu yn rhagnodi cyflenwadau newydd o unrhyw hufennau ac elïau rydych chi'n eu defnyddio i osgoi halogiad. Dylid cael gwared ar hen driniaethau.

Heintiau croen firaol

Mae hefyd yn bosibl i ecsema gael ei heintio gan y firws herpes simplex, sydd fel arfer yn achosi doluriau annwyd. Gall hyn ddatblygu i fod yn gyflwr difrifol o'r enw ecsema herpeticum.

Mae symptomau ecsema herpeticum yn cynnwys:

  • mannau o ecsema poenus sy'n gwaethygu'n gyflym
  • grwpiau o bothelli llawn hylif sy'n torri ar agor ac yn gadael doluriau agored ar y croen
  • teimlo'n boeth ac yn grynedig ac yn anhwylus yn gyffredinol, mewn rhai achosion

Cysylltwch â meddyg teulu ar unwaith os ydych yn amau ecsema herpeticum. Os na allwch gysylltu â meddyg teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru (os ar gael yn eich ardal) neu 0845 4647 neu ewch i'ch ysbyty agosaf.

Os ydych yn cael diagnosis o ecsema herpeticum, byddwch yn cael meddyginiaeth wrthfiraol o'r enw aciclovir.

Effeithiau seicolegol

Yn ogystal ag effeithio arnoch yn gorfforol, gallai ecsema atopig effeithio arnoch yn seicolegol hefyd.

Mae plant cyn oed ysgol sydd ag ecsema atopig yn fwy tebygol o gael problemau ymddygiad, fel gorfywiogrwydd, na phlant nad yw'r cyflwr ganddynt. Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o fod yn fwy dibynnol ar eu rhieni.

Bwlio

Gallai plant ysgol ddioddef pryfocio, neu fwlio, os bydd ecsema atopig ganddynt. Gall unrhyw fath o fwlio fod yn drawmatig ac yn anodd i blentyn ddelio ag ef.

Efallai y gwelwch fod eich plentyn yn mynd yn dawel ac yn encilgar. Esboniwch y sefyllfa i athro eich plentyn, ac anogwch eich plentyn i ddweud wrthych sut mae'n teimlo.

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol Ecsema yn darparu gwybodaeth am grwpiau cymorth rhanbarthol, lle gallech gyfarfod â phobl eraill sy'n byw gydag ecsema atopig.

Problemau cysgu

Mae problemau sy'n gysylltiedig â chwsg yn gyffredin ymhlith pobl sydd ag ecsema.

Gallai diffyg cwsg effeithio ar hwyl ac ymddygiad. Gallai hefyd ei gwneud hi'n fwy anodd canolbwyntio yn yr ysgol neu yn y gwaith.

Os yw'ch plentyn yn cael problemau cysgu oherwydd ei ecsema, gallai fod ar ei hôl hi gyda'i waith ysgol. Mae'n syniad da rhoi gwybod i athro eich plentyn am ei gyflwr, er mwyn iddo allu ei gadw mewn cof.

Yn ystod fflamychiad ecsema difrifol, efallai y bydd angen i'ch plentyn gymryd amser i ffwrdd o'r ysgol. Gallai hyn effeithio ar ei allu i ddal i fyny â'i astudiaethau hefyd.

Hunanhyder

Gall ecsema atopig effeithio ar hunanhyder oedolion a phlant. Gallai plant ei chael hi'n arbennig o anodd delio â'u cyflwr, a gallai hynny achosi iddynt gael hunanddelwedd wael.

Os yw'ch plentyn yn dioddef diffyg hyder difrifol, gallai hynny effeithio ar ei allu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol. Bydd cefnogaeth ac anogaeth yn helpu i hybu hunanhyder eich plentyn, a bydd yn rhoi agwedd fwy cadarnhaol iddo ynglyn â'i olwg.

Siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych yn pryderu bod ecsema eich plentyn yn effeithio'n ddifrifol ar ei hyder. Gallai elwa o gymorth seicolegol.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 25/05/2023 09:07:48