Mae llid y gyfbilen yn gyflwr y llygaid sy'n cael ei achosi gan haint neu alergedd. Fel arfer, mae'n gwella mewn cwpwl o wythnosau heb driniaeth.
Gwiriwch a oes gennych lid y gyfbilen
Mae pobl yn aml yn galw llid y gyfbilen yn llid yr amrannau neu'n llid ar y llygaid.
Fel arfer, mae'n effeithio ar y ddau lygad ac:
- yn achosi cochni yn y llygaid
- llosgi neu'n teimlo'n grutiog
- yn cynhyrchu crawn sy'n gludio i'r blew amrannau
- cosi
- dyfrio
Mae llid y gyfbilen sy'n cynhyrchu crawn gludiog yn heintus.
Os yw'ch llygaid yn goch ac yn teimlo'n grutiog, mae'r llid y gyfbilen yn heintus hefyd.
Caiff llid y gyfbilen ei achosi gan alergeddau fel clefyd y gwair, sy'n achosi cochni i'r llygaid a dyfrio, ond nid yw'n heintus.
Atal llid y gyfbilen heintus rhag lledaenu
- golchwch eich dwylo'n rheolaidd gyda dwr cynnes a sebon
- golchwch obenyddion a llieni wyneb mewn dwr poeth a phowdr golchi
- peidiwch â rhannu tywelion a gobenyddion
- peidiwch â rhwbio eich llygaid
Bod i ffwrdd o'r gwaith neu'r ysgol
Nid oes rhaid osgoi mynd i'r gwaith neu'r ysgol oni bai eich bod chi neu'ch plentyn yn teimlo'n sâl iawn.
Gall fferyllydd helpu gyda llid y gyfbilen
Siaradwch â fferyllydd am lid y gyfbilen. Gall roi cyngor i chi ac awgrymu diferion llygaid neu wrth-histamin i helpu gyda'ch symptomau.
Chwiliwch am fferyllfa yma.
Ewch i weld meddyg teulu:
- os oes gan eich babi lygaid coch - mynnwch apwyntiad brys os yw eich babi'n iau na 28 diwrnod oed
- os ydych yn gwisgo lensys cyffwrdd ac â symptomau llid y gyfbilen, ynghyd â smotiau ar eich amrannau - gallai fod gennych alergedd i'r lensys
- os nad yw eich symptomau wedi gwella ar ôl pythefnos
Yn ystod y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, cysylltwch â'ch meddygfa. Gyda'r nos ac ar benwythnosau gallwch ffonio 111 am ddim.
- os oes gennych boen yn eich llygaid
- os ydych yn sensitif i olau
- os oes newidiadau i'ch golwg, fel llinellau tonnog neu fflachio
- os yw un neu'r ddau lygad yn goch iawn
- os oes gan eich babi sy'n iau na 28 diwrnod lygaid coch
Gallai'r rhain fod yn arwyddion o broblem fwy difrifol.
Bydd GIG 111 Cymru yn dweud wrthych beth i'w wneud. Gallant drefnu galwad ffôn gan nyrs neu feddyg os oes angen un arnoch.
Triniaeth gan feddyg teulu
Bydd triniaeth yn dibynnu ar achos eich llid y gyfbilen.
Os yw'n haint bacterol, mae'n bosibl y cewch wrthfiotigau. Ond ni fydd y rhain yn gweithio os caiff ei achosi gan feirws (llid y gyfbilen feirol) neu alergedd.
Gall rhai heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) achosi llid y gyfbilen. Mae'r math hwn yn cymryd mwy o amser i wella.