Cyflwyniad
Llid y croen ar ben blaen y pidyn yw balanitis, a gall effeithio ar ddynion a bechgyn.
Nid yw'n ddifrifol fel arfer, ond dylech fynd i weld eich meddyg teulu os ydych chi'n credu bod balanitis gennych chi neu'ch mab.
Symptomau balanitis
Mae balanitis yn effeithio ar ben blaen y pidyn a'r blaengroen.
Mae'n digwydd yn amlach o lawer ymhlith dynion a bechgyn sydd heb gael eu henwaedu.
Mae symptomau'n cynnwys:
- pidyn dolurus, coslyd a drewllyd
- cochni a chwyddo
- croniad o hylif trwchus
- poen wrth basio dwr
Gall rhai oedolion fod â blaengroen na wnaiff ei dynnu'n ôl gan rai oedolion. Cyflwr o'r enw ffimosis yw hwn.
Pa bryd i weld meddyg
Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os credwch fod balanitis gennych, dim ond i wneud yn siwr nad yw'n arwydd o rywbeth mwy difrifol, fel haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI).
Gallwch gael archwiliad mewn clinig iechyd rhywiol hefyd.
Gwneud diagnosis o balanitis
Dylai eich meddyg teulu allu dweud wrthych a oes balanitis gennych drwy edrych ar eich pidyn a gofyn ychydig o gwestiynau.
Os nad yw triniaeth yn dechrau gweithio ymhen saith niwrnod, efallai y bydd eich meddyg teulu'n awgrymu cynnal profion i weld a oes haint neu rywbeth mwy difrifol.
Os nad yw eich meddyg teulu'n siwr beth sy'n achosi eich balanitis, efallai y bydd yn eich atgyfeirio at:
- arbenigwr y croen a elwir yn ddermatolegydd
- wrolegydd, sy'n trin problemau'r pidyn
- clinig iechyd rhywiol
Trin balanitis
Mae'n hawdd trin y rhan fwyaf o achosion o balanitis gyda hylendid da a hufenau ac elïau a argymhellir gan eich meddyg teulu.
Hylendid
Os oes balanitis gennych, dylech lanhau eich pidyn yn ddyddiol gyda dwr claear a'i sychu'n dyner.
- Peidiwch â defnyddio sebon, ewyn ymolchi, siampw nac unrhyw lidiwr posibl arall.
- Sychwch yn dyner o dan y blaengroen ar ôl pasio dwr.
- Rhowch gynnig ar amnewidyn sebon fel eli esmwythaol, sydd ar gael o fferyllfa.
Glanhau pidyn plentyn
- Peidiwch â thynnu ei flaengroen yn ôl i lanhau oddi tano os yw'n dal yn sownd.
- Os yw'r plentyn yn dal mewn clytiau, newidiwch nhw'n fynych.
- Peidiwch â defnyddio clytiau gwlyb i lanhau ei bidyn.
Hufenau ac elïau
Gan ddibynnu ar beth sy'n achosi'r balanitis, gall eich meddyg teulu argymell hufenau neu elïau, fel:
- hufen neu eli steroid ar gyfer llid syml y croen
- hufen neu dabledi gwrthffyngol ar gyfer haint burum
- gwrthfiotigau ar gyfer haint facteriol
Ewch i weld eich meddyg teulu os nad yw'r driniaeth yn dechrau gweithio ymhen saith niwrnod. Efallai y bydd angen triniaeth arall arnoch chi, neu efallai y cewch eich cynghori i weld arbenigwr.
Gellir cynghori enwaediad mewn achosion prin lle mae plentyn yn cael balanitis dro ar ôl tro.
Rhyw a balanitis
Gallwch gael rhyw yn ystod triniaeth os nad yw'ch balanitis wedi'i achosi gan haint.
Ond os yw wedi'i achosi gan haint, fel STI neu'r llindag (thrush), mae perygl i chi basio'r haint ymlaen.
Achosion balanitis
Gall balanitis gael ei achosi gan:
- hylendid gwael, gan arwain at smegma yn cronni
- llid o daen y blaengroen yn cael ei achosi gan droeth
- sebonau, geliau ymolchi, a llidwyr eraill y croen
- y llindag
- haint facteriol
- haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI)
- cyflyrau'r croen, fel ecsema, soriasis, a lichen sclerosus
- plant yn chwarae gyda'u blaengroen
Atal balanitis
Gallwch leihau eich siawns o gael balanitis drwy:
- gadw eich pidyn yn lân
- osgoi sebonau caled a llidwyr eraill y croen
- defnyddio pethau yn lle sebon, fel eli esmwythaol
- cael rhyw diogel er mwyn osgoi STI
- defnyddio condomau nad ydynt yn cynnwys latecs os oes gennych alergedd i latecs
Efallai na fydd bechgyn ifanc yn gallu glanhau o dan eu blaengroen am nad yw'n tynnu'n ôl yn llwyr eto efallai.
Peidiwch â cheisio tynnu blaengroen plentyn yn ôl i lanhau oddi tano os yw'n dal yn sownd, gan y gall hyn achosi niwed.