Acne

Cyflwyniad

Acne

Mae acne yn gyflwr croen cyffredin sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o bobl ar ryw adeg. Mae'n achosi smotiau, croen olewog ac weithiau croen sy'n boeth neu'n boenus i'w gyffwrdd.

Yn fwyaf cyffredin, mae acne yn datblygu ar yr:

  • wyneb – mae hyn yn effeithio ar bron pawb sydd ag acne
  • cefn – mae hyn yn effeithio ar fwy na hanner y bobl sydd ag acne
  • brest – mae hyn yn effeithio ar tua 15% o’r bobl sydd ag acne

Mathau o smotiau

Mae 6 prif fath o smotiau a achosir gan acne:

  • smotiau penddu – bympiau bach du neu felynaidd sy'n datblygu ar y croen; nid ydynt yn llawn baw ond yn ddu oherwydd bod leinin mewnol ffoligl y blewyn yn cynhyrchu pigmentiad (lliw)
  • smotiau pen gwyn – maent yn edrych yn debyg i smotiau penddu ond gallant fod yn fwy cadarn ac ni fyddant yn gwacau wrth eu gwasgu
  • plorod – bympiau coch bach a all deimlo’n dyner neu’n boenus
  • llinorod – maent yn debyg i blorod ond mae ganddynt ben gwyn yn y canol, a achosir gan gasgliad o grawn
  • nodylau - lympiau mawr caled sy'n cronni o dan wyneb y croen ac yn gallu bod yn boenus
  • systiau – y math mwyaf difrifol o smotiau a achosir gan acne; maen nhw'n lympiau mawr llawn crawn sy'n edrych yn debyg i gornwydydd ac sydd â'r risg fwyaf o achosi creithio parhaol

Beth alla’ i ei wneud os oes gen i acne?

Gall y technegau hunangymorth hyn fod yn ddefnyddiol:

  • Peidiwch â golchi’r rhannau o'r croen sydd wedi'u heffeithio fwy na dwywaith y dydd. Gall golchi'n aml lidio'r croen a gwaethygu'r symptomau.
  • Golchwch y rhannau wedi’u heffeithio gyda sebon ysgafn neu lanhau â dŵr claear. Gall dŵr poeth neu oer iawn wneud acne yn waeth.
  • Peidiwch â cheisio "glanhau" smotiau penddu neu wasgu smotiau. Gall hyn eu gwneud yn waeth ac achosi creithio parhaol.
  • Dylech osgoi defnyddio gormod o golur. Defnyddiwch gynhyrchion sy'n seiliedig ar ddŵr sy'n cael eu disgrifio fel rhai nad ydynt yn gomedogenig (mae hyn yn golygu bod y cynnyrch yn llai tebygol o flocio'r mandyllau yn eich croen).
  • Dylech dynnu colur yn llwyr cyn mynd i'r gwely.
  • Os yw croen sych yn broblem, defnyddiwch eli lliniarol heb bersawr, sy'n seiliedig ar ddŵr.
  • Ni all ymarfer corff rheolaidd wella eich acne ond gall roi hwb i'ch hwyliau a gwella eich hunan-barch. Dylech gael cawod cyn gynted â phosibl ar ôl i chi orffen ymarfer corff, gan fod chwys yn gallu llidio eich acne.
  • Golchwch eich gwallt yn rheolaidd a cheisiwch osgoi gadael i'ch gwallt ddisgyn ar draws eich wyneb.

Er nad oes modd gwella acne, gellir ei reoli gyda thriniaeth. 

Os byddwch yn datblygu acne ysgafn, mae'n syniad da siarad â'ch fferyllydd am gyngor. 

Mae acne yn un o'r cyflyrau sy'n cael ei gynnwys yn y Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sef wasanaeth y GIG y gall cleifion ei gyrchu i gael cyngor am ddim a thriniaeth am ddim ac mae ar gael gan 99% o fferyllfeydd yng Nghymru. 

Dewch o hyd i'ch fferyllfa agosaf yma
Cewch fwy o wybodaeth am y gwasanaeth yma
 
Mae nifer o hufenau, elïau a geliau ar gyfer trin smotiau hefyd ar gael i'w prynu o fferyllfeydd. 

Efallai yr argymhellir cynhyrchion sy'n cynnwys crynodiad isel o bensoyl perocsid, ond byddwch yn ofalus gan y gall ddiliwio dillad. 

Os yw eich acne yn ddifrifol neu'n ymddangos ar eich brest a'ch cefn, efallai y bydd angen ei drin gyda gwrthfiotigau neu hufenau cryfach sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig. 

Pryd i ofyn am gyngor meddygol

Os oes gennych acne ysgafn, siaradwch â'ch fferyllydd am feddyginiaethau dros y cownter i'w drin.

Os nad yw'r rhain yn rheoli eich acne, neu os yw’n gwneud i chi deimlo'n anhapus iawn, ewch i weld eich meddyg teulu.

Dylech fynd i weld eich meddyg teulu os oes gennych acne cymedrol neu ddifrifol neu os ydych chi'n datblygu nodylau neu systiau, gan fod angen eu trin yn iawn er mwyn osgoi creithio. 

Ceisiwch wrthsefyll y temtasiwn i bigo neu wasgu'r smotiau, gan fod hyn yn gallu arwain at greithio parhaol.

Gall triniaethau gymryd hyd at 3 mis i weithio, felly peidiwch â disgwyl canlyniadau dros nos. Wedi iddyn nhw ddechrau gweithio, mae'r canlyniadau’n dda, fel arfer.

Pam mae gen i acne?

Mae acne yn cael ei gysylltu’n fwyaf cyffredin â'r newidiadau i lefelau hormonau yn ystod y glasoed, ond gall ddechrau ar unrhyw oed.

Mae rhai hormonau yn achosi i'r chwarennau sy'n cynhyrchu saim wrth ymyl ffoliglau blew yn y croen gynhyrchu symiau mwy o olew (sebwm annormal).

Mae'r sebwm annormal hwn yn newid gweithgarwch bacteriwm croen sydd fel arfer yn ddiniwed o'r enw P. acnes, sy'n mynd yn fwy ymosodol ac yn achosi llid a chrawn.

Mae'r hormonau hefyd yn tewhau leinin mewnol y ffoliglau blew, gan achosi i'r mandyllau (agoriad y ffoliglau blew) flocio. Nid yw glanhau'r croen yn helpu i gael gwared ar y blociadau hyn.

Achosion posibl eraill

Mae'n hysbys bod acne yn rhedeg mewn teuluoedd. Os oedd gan eich mam a'ch tad acne, mae'n debygol y bydd gennych chi acne hefyd.

Gall newidiadau hormonaidd, fel y rheiny sy'n digwydd yn ystod y cylch mislif neu feichiogrwydd, hefyd arwain at benodau o acne mewn menywod.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod deiet, hylendid gwael neu weithgaredd rhywiol yn chwarae rhan mewn acne.

Pwy sy’n cael eu heffeithio?

Mae acne yn gyffredin iawn ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion iau. Mae acne yn effeithio ar tua 80% o bobl rhwng 11 a 30 oed.

Mae acne yn fwyaf cyffredin ymhlith merched 14 i 17 oed, a bechgyn 16 i 19 oed.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn dioddef acne yn achlysurol am sawl blwyddyn cyn i'w symptomau ddechrau gwella wrth fynd yn hŷn. Mae acne yn aml yn diflannu pan fydd unigolyn yn ei 20au canol.

Mewn rhai achosion, gall acne barhau i mewn i oedolaeth. Mae gan tua 5% o fenywod ac 1% o ddynion dros 25 oed acne.

Achosion

Achosir acne pan fydd tyllau bach yn y croen, sy'n cael eu galw'n ffoliglau blew, yn cael eu blocio.

Mae chwarennau sebwm yn chwarennau bach iawn a geir ger wyneb eich croen. Mae'r chwarennau ynghlwm wrth ffoliglau blew, sef tyllau bychain yn eich croen lle mae blew unigol yn tyfu allan ohono.

Mae chwarennau sebwm yn iro'r gwallt a'r croen i'w hatal rhag sychu. Maen nhw'n gwneud hyn trwy gynhyrchu sylwedd olewog o'r enw sebwm.

Yn acne, mae'r chwarennau’n dechrau cynhyrchu gormod o sebwm. Mae'r sebwm gormodol yn cymysgu â chelloedd croen marw ac mae'r ddau sylwedd yn ffurfio plwg yn y ffoligl.

Os yw'r ffoligl wedi’i blygio yn agos at wyneb y croen, mae'n chwyddo tuag allan, gan greu pen gwyn. Fel arall, gall y ffoligl wedi’i blygio fod yn agored i'r croen, gan greu pen du.

Fel arfer, gall bacteria diniwed sy'n byw ar y croen wedyn halogi a heintio'r ffoliglau wedi’u plygio, gan achosi plorod, llinorod, nodylau neu systiau.

Testosteron

Credir bod acne yn ystod yr arddegau yn cael ei sbarduno gan lefelau uwch o hormon o'r enw testosteron, sy'n digwydd yn ystod y glasoed. Mae'r hormon yn chwarae rhan bwysig wrth ysgogi twf a datblygiad y pidyn a'r ceilliau mewn bechgyn, a chynnal cryfder cyhyrau ac esgyrn mewn merched.

Mae'r chwarennau sebwm yn arbennig o sensitif i hormonau. Credir bod lefelau uwch o destosteron yn achosi i'r chwarennau gynhyrchu llawer mwy o sebwm na’r hyn sydd ei angen ar y croen.

Acne mewn teuluoedd

Gall acne redeg mewn teuluoedd. Os oedd gan eich rhieni acne, mae'n debygol y byddwch chi’n ei ddatblygu hefyd.

Yn ôl un astudiaeth, os oedd gan eich dau riant acne, rydych chi'n fwy tebygol o gael acne mwy difrifol yn ifanc. Canfu hefyd os oedd gan un neu'r ddau o'ch rhieni acne yn oedolion, rydych chi'n fwy tebygol o gael acne yn oedolyn hefyd.

Acne mewn menywod

Mae mwy nag 80% o achosion o acne mewn oedolion yn digwydd mewn menywod. Credir bod llawer o achosion o acne ymhlith oedolion yn cael eu hachosi gan y newidiadau mewn lefelau hormonau sydd gan lawer o fenywod ar adegau penodol.

Mae'r cyfnodau hyn yn cynnwys:

  • mislifoedd – mae rhai menywod yn cael llid o acne ychydig cyn eu mislif
  • beichiogrwydd – mae llawer o fenywod yn cael symptomau acne bryd hynny, fel arfer yn ystod tri mis cyntaf eu beichiogrwydd
  • syndrom ofariau polysystig – cyflwr cyffredin sy'n gallu achosi acne, magu pwysau a systiau bach yn ffurfio y tu mewn i'r ofari

Sbardunau eraill

Mae sbardunau posibl eraill o llid acne yn cynnwys:

  • rhai cynhyrchion cosmetig – fodd bynnag, mae hyn yn llai cyffredin gan fod y rhan fwyaf o gynhyrchion bellach yn cael eu profi, felly nid ydynt yn achosi smotiau (heb fod yn comedogenig)
  • meddyginiaethau penodol – fel meddyginiaethau steroid, lithiwm (a ddefnyddir i drin iselder ac anhwylder deubegynol) a rhai cyffuriau gwrth-epilepsi (a ddefnyddir i drin epilepsi)
  • gwisgo eitemau sy'n rhoi pwysau ar ardal o groen sydd wedi'i heffeithio’n rheolaidd, fel band pen neu gwarbac
  • ysmygu – sy'n gallu cyfrannu at acne mewn pobl hŷn

Mythau am acne

Er ei fod yn un o'r cyflyrau croen mwyaf cyffredin, mae acne hefyd yn un o'r rhai a ddeellir waethaf. Ceir sawl myth a chamsyniad amdano:

"Caiff acne ei achosi gan ddeiet gwael"

Hyd yn hyn, nid yw ymchwil wedi dod o hyd i unrhyw fwydydd sy'n achosi acne. Argymhellir bwyta deiet iach a chytbwys oherwydd mae'n dda i'ch calon a'ch iechyd yn gyffredinol.

"Caiff acne ei achosi drwy gael croen budr a hylendid gwael"

Mae'r rhan fwyaf o'r adweithiau biolegol sy'n sbarduno acne yn digwydd o dan y croen, nid ar yr wyneb, felly nid yw glendid eich croen yn cael unrhyw effaith ar eich acne. Gallai golchi eich wyneb fwy na dwywaith y dydd waethygu eich croen.

"Gwasgu smotiau penddu, smotiau pen gwyn a smotiau yw'r ffordd orau o gael gwared ag acne"

Mewn gwirionedd, gall hyn wneud symptomau'n waeth ac efallai bydd yn gadael creithiau.

"Mae gweithgaredd rhywiol yn gallu dylanwadu ar acne"

Ni fydd cael rhyw neu fastyrbio yn gwneud acne yn well nac yn waeth.

"Mae torheulo, gwelyau haul a lampau haul yn helpu i wella symptomau acne"

Nid oes unrhyw dystiolaeth bendant y gall amlygiad am oriau maith i olau'r haul neu ddefnyddio gwelyau haul neu lampau haul wella acne. Gall llawer o feddyginiaethau a ddefnyddir i drin acne wneud eich croen yn fwy sensitif i olau, felly gallai amlygiad achosi niwed poenus i'ch croen, a chynyddu eich risg o ganser y croen hefyd.

"Mae acne yn heintus"

Ni allwch chi basio acne ymlaen i bobl eraill.

Diagnosis

Gall meddyg teulu roi diagnosis o acne drwy edrych ar eich croen. Mae hyn yn cynnwys archwilio eich wyneb, eich brest neu'ch cefn ar gyfer y gwahanol fathau o smotiau, fel smotiau penddu neu ddoluriau, nodylau coch.

Pa mor ddifrifol yw eich acne fydd yn penderfynu ble dylech fynd am driniaeth a pha driniaeth y dylech ei chael.

Mae difrifoldeb acne yn aml yn cael ei gategoreiddio fel:

  • ysgafn – smotiau pen gwyn a smotiau penddu yn bennaf, gydag ychydig o blorod a llinorod
  • cymedrol – smotiau pen gwyn a smotiau penddu mwy eang, gyda llawer o blorod a llinorod
  • difrifol – llawer o blorod, llinorod, nodylau neu systiau mawr, poenus; efallai y bydd gennych chi rywfaint o greithio hefyd

Ar gyfer acne ysgafn, dylech siarad â fferyllydd am gyngor. Ar gyfer acne cymedrol neu ddifrifol, siaradwch â meddyg teulu.

Acne mewn menywod

Os bydd acne'n dechrau'n sydyn pan fydd menyw yn oedolyn, gall fod yn arwydd o anghydbwysedd hormonaidd, yn enwedig os yw'n cyd-fynd â symptomau eraill fel:

  • blew corff gormodol (gorflewogrwydd)
  • mislifoedd afreolaidd neu ysgafn

Achos mwyaf cyffredin anghydbwysedd hormonaidd mewn menywod yw syndrom ofarïau  polysystig (PCOS).

Gellir rhoi diagnosis o PCOS gan ddefnyddio cyfuniad o sganiau uwchsain a phrofion gwaed.

Triniaeth

Mae triniaeth ar gyfer acne yn dibynnu ar ba mor ddifrifol ydyw. Gall gymryd sawl mis o driniaeth cyn i symptomau acne wella.

Os oes gennych ychydig o smotiau penddu, smotiau pen gwyn a smotiau, dylai fferyllydd allu eich cynghori ar sut i'w trin yn llwyddiannus gyda geliau neu eli dros y cownter (triniaethaulleol) sy'n cynnwys bensoyl perocsid.

Triniaethau gan eich meddyg teulu

Ewch i weld eich meddyg teulu os yw’ch acne yn gymedrol neu'n ddifrifol, neu os nad yw meddyginiaeth dros y cownter wedi gweithio, gan y bydd yn debybol y bydd angen meddyginiaeth presgripsiwn arnoch.

Mae meddyginiaethau presgripsiwn y gellir eu defnyddio i drin acne yn cynnwys:

  • retinoidau lleol
  • gwrthfiotigau lleol
  • asid aselaig
  • tabledi gwrthfiotig
  • mewn menywod, y bilsen atal cenhedlu gyfun
  • tabledi isotretinoin

Os oes gennych acne difrifol, gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at arbenigwr ar drin cyflyrau'r croen (dermatolegydd).

Er enghraifft, os oes gennych:

  • nifer fawr o blorod a llinorod ar eich brest a'ch cefn, yn ogystal â'ch wyneb
  • nodylau poenus
  • creithio, neu mewn perygl o greithio

Fel arfer, cyfuniad o dabledi gwrthfiotig a thriniaethau lleol yw'r opsiwn cyntaf o ran triniaeth ar gyfer acne difrifol.

Os na fydd hyn yn gweithio, gellir cael meddyginiaeth o'r enw isotretinoin ar bresgripsiwn.

Gall therapïau hormonaidd neu'r bilsen atal cenhedlu gyfun hefyd fod yn effeithiol mewn menywod sydd ag acne.

Ond gall y bilsen progestogen yn unig neu'r mewnblaniad atal cenhedlu wneud acne yn waeth, weithiau.

Gall nifer o'r triniaethau hyn gymryd 2 i 3 mis cyn iddyn nhw ddechrau gweithio.

Mae'n bwysig bod yn amyneddgar a pharhau â’r driniaeth a argymhellir, hyd yn oed os nad oes effaith ar unwaith.

Triniaethau lleol (geliau, hufenau ac eliau)

Bensoyl perocsid

Mae bensoyl perocsid yn gweithio fel gwrthseptig i leihau nifer y bacteria ar wyneb y croen.

Mae hefyd yn helpu i leihau nifer y smotiau pen gwyn a smotiau penddu, ac mae’n cael effaith wrthlidiol.

Mae bensoyl perocsid fel arfer ar gael fel hufen neu gel. Caiff ei ddefnyddio naill ai unwaith neu ddwywaith y dydd.

Dylid ei ddefnyddio 20 munud ar ôl golchi i'r holl rannau o'ch wyneb sydd wedi'u heffeithio gan acne.

Dylid ei ddefnyddio'n gynnil, gan fod gormod yn gallu llidio'ch croen. Mae hefyd yn gwneud eich wyneb yn fwy sensitif i olau'r haul, felly ceisiwch osgoi gormod o haul a golau uwchfioled (UV), neu gwisgwch hufen haul.

Mae bensoyl perocsid yn gallu cael effaith ddiliwio, felly ceisiwch osgoi ei gael ar eich gwallt neu ddillad.

Mae sgil effeithiau cyffredin bensoyl perocsid yn cynnwys:

  • croen sych a thynn
  • teimlad o losgi, cosi neu enyniad
  • ychydig o gochni a'r croen yn pilio

Fel arfer, mae sgil-effeithiau yn ysgafn a dylen nhw ddod i ben ar ôl i'r driniaeth orffen.

Mae'r rhan fwyaf o bobl angen cwrs 6 wythnos o driniaeth i glirio'r rhan fwyaf neu'r cyfan o'u acne.

Efallai y cewch eich cynghori i barhau â'ch triniaeth yn llai aml i atal acne rhag dychwelyd.

Retinoidau lleol

Mae retinoidau lleol yn gweithio trwy dynnu celloedd croen marw o wyneb y croen (sgwrio), sy'n helpu i'w hatal rhag adeiladu o fewn ffoliglau blew.

Mae tretinoin ac adapalene yn retinoidau lleol a ddefnyddir i drin acne. Maen nhw ar gael ar ffurf gel neu hufen ac fel arfer yn cael eu defnyddio unwaith y dydd cyn i chi fynd i'r gwely.

Dylech ei ddefnyddio ar holl rannau o'ch wyneb wedi’i effeithio gan acne 20 munud ar ôl golchi'ch wyneb.

Mae'n bwysig defnyddio retinoidau lleol yn gynnil ac osgoi amlygiad gormodol i olau'r haul a golau uwchfioled.

Nid yw retinoidau lleol yn addas i'w defnyddio yn ystod beichiogrwydd, gan fod risg y gallent achosi diffygion o ran genedigaeth.

Sgil-effeithiau mwyaf cyffredin retinoidau lleol yw llid ysgafn ac enyniad y croen.

Fel arfer, mae angen cwrs 6 wythnos ond efallai y cewch eich cynghori i barhau i ddefnyddio'r feddyginiaeth yn llai aml ar ôl hyn.

Gwrthfiotigau lleol

Mae gwrthfiotigau lleol yn helpu i ladd y bacteria ar y croen sy'n gallu heintio ffoliglau blew wedi'u plygio. Maen nhw ar gael fel eli neu gel sy'n cael ei ddefnyddio unwaith neu ddwywaith y dydd.

Fel arfer, argymhellir cwrs 6 i 8 wythnos. Ar ôl hyn, mae triniaeth fel arfer yn cael ei stopio, gan fod perygl y gallai'r bacteria ar eich wyneb allu gwrthsefyll y gwrthfiotigau.

Gallai hyn wneud eich acne yn waeth ac achosi heintiau ychwanegol.

Mae sgil effeithiau yn anghyffredin, ond gallant gynnwys:

  • mân lid y croen
  • cochni a llosgi'r croen
  • y croen yn pilio

Asid aselaig

Defnyddir asid aselaig yn aml fel triniaeth amgen ar gyfer acne os yw sgil-effeithiau bensoyl perocsid neu retinoidau lleol yn arbennig o lidus neu'n boenus.

Mae asid Azelaig yn gweithio trwy gael gwared ar groen marw a lladd bacteria. Mae ar gael fel hufen neu gel ac fel arfer mae'n cael ei ddefnyddio ddwywaith y dydd (neu unwaith y dydd os yw eich croen yn arbennig o sensitif).

Nid yw'r feddyginiaeth yn gwneud eich croen yn sensitif i olau'r haul, felly nid oes rhaid i chi osgoi dod i gysylltiad â'r haul.

Fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio asid aselaig am fis cyn i'ch acne wella.

Mae sgil-effeithiau asid aselaig fel arfer yn ysgafn ac yn cynnwys:

  • llosgi neu enyniad y croen
  • cosi
  • croen sych
  • cochni'r croen

Tabledi gwrthfiotig

Defnyddir tabledi gwrthfiotig (gwrthfiotigau drwy’r geg) fel arfer ar y cyd â thriniaeth leol i drin acne mwy difrifol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, rhagnodir dosbarth o wrthfiotigau o'r enw tetracyclines, oni bai eich bod yn feichiog neu'n bwydo ar y fron.

Fel arfer, cynghorir menywod beichiog neu fenywod sy’n bwydo ar y fron i gymryd gwrthfiotig o'r enw erythromycin, sy’n fwy diogel i'w ddefnyddio.

Fel arfer, mae'n cymryd tua 6 wythnos cyn i chi sylwi ar welliant yn eich acne.

Gan ddibynnu ar ba mor dda rydych chi'n ymateb i'r driniaeth, gall cwrs o wrthfiotigau drwy’r geg bara 4 i 6 mis.

Gall tetracyclines wneud eich croen yn sensitif i olau'r haul a golau uwchfioled, a gall hefyd wneud y bilsen atal cenhedlu drwy’r geg yn llai effeithiol yn ystod wythnosau cyntaf y driniaeth.

Bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o atal cenhedlu, fel condomau, yn ystod y cyfnod hwn.

Therapïau hormonaidd

Yn aml, gall therapïau hormonaidd fod o fudd i fenywod ag acne, yn enwedig os yw'r acne’n ymddangos o gwmpas adeg mislifoedd neu'n gysylltiedig â chyflyrau hormonaidd fel syndrom ofarïau polysystig.

Os nad ydych eisoes yn ei ddefnyddio, efallai y bydd eich meddyg teulu'n argymell y bilsen atal cenhedlu gyfunol, hyd yn oed os nad ydych chi'n cael rhyw ar yr adeg honno.

Yn aml, gall y bilsen gyfun hon helpu i wella acne mewn menywod, ond gall gymryd hyd at flwyddyn cyn y gwelwch y manteision llawn.

Co-cyprindiol

Mae co-cyprindiol yn driniaeth hormonaidd sy'n gallu cael ei defnyddio ar gyfer acne mwy difrifol sydd ddim yn ymateb i wrthfiotigau. Mae'n helpu i leihau faint o sebwm sy’n cael ei gynhyrchu.

Fwy na thebyg, bydd rhaid i chi ddefnyddio co-cyprindiol am 2 i 6 mis cyn i chi sylwi ar welliant sylweddol yn eich acne.

Mae risg bach y gallai menywod sy'n cymryd co-cyprindiol ddatblygu canser y fron yn ddiweddarach yn eu bywydau.

Er enghraifft, allan o grŵp o 10,000 o fenywod sydd heb gymryd co-cyprindiol, byddech chi'n disgwyl i 16 ohonyn nhw ddatblygu canser y fron erbyn iddyn nhw fod yn 35 oed.

Mae'r ffigwr hwn yn codi i 17 neu 18 ar gyfer menywod a gafodd eu trin â co-cyprindiol am o leiaf 5 mlynedd yn eu 20au cynnar.

Hefyd, mae siawns fach iawn y gallai co-cyprindiol achosi tolchen gwaed. Amcangyfrifir fod y risg tua 1 o bob 2,500 mewn unrhyw flwyddyn benodol.

Ni chredir ei bod yn ddiogel i gymryd co-cyprindiol os ydych chi'n feichiog neu'n bwydo ar y fron. Mae'n bosibl y bydd angen i fenywod gymryd prawf beichiogrwydd cyn dechrau triniaeth.

Mae sgil-effeithiau eraill co-cyprindiol yn cynnwys:

  • gwaedu a sbotio rhwng eich mislifoedd, a all ddigwydd weithiau am y misoedd cyntaf
  • cur pen
  • bronnau poenus
  • hwyliau’n newid
  • colli diddordeb mewn rhyw
  • magu pwysau neu golli pwysau

Isotretinoin

Mae gan Isotretinoin nifer o effeithiau buddiol:

  • mae'n helpu normaleiddio sebwm a lleihau faint sy'n cael ei gynhyrchu
  • mae'n helpu i atal ffoliglau rhag cael eu blocio
  • mae'n lleihau faint o facteria sydd ar y croen
  • mae'n lleihau cochni a chwyddo mewn smotiau ac o'u cwmpas

Ond mae'r cyffur hefyd yn gallu achosi ystod eang o sgil-effeithiau. Mae ond yn cael ei argymell ar gyfer achosion difrifol o acne sydd heb ymateb i driniaethau eraill.

Oherwydd risg sgil-effeithiau, dim ond meddyg teulu sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig neu dermatolegydd all rhagnodi isotretinoin.

Mae isotretinoin yn cael ei gymryd fel tabled. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dilyn cwrs 4 i 6 mis.

Efallai y bydd eich acne yn gwaethygu yn ystod y 7 i 10 diwrnod cyntaf o driniaeth, ond mae hyn yn arferol ac yn setlo'n fuan.

Mae sgil-effeithiau cyffredin isotretinoin yn cynnwys:

  • llid, sychder a chracio'r croen, y gwefusau a'r ffroenau
  • newidiadau yn lefelau siwgr eich gwaed
  • llid yr amrannau (Blepharitis)
  • llid ac enyniad ar eich llygaid (conjunctivitis)
  • gwaed yn eich wrin

Mae sgil-effeithiau prinnach isotretinoin yn cynnwys:

  • llid ar yr afu (hepatitis)
  • llid y pancreas (pancreatitis)
  • clefyd yr arennau

Oherwydd y risg o'r sgil effeithiau prinnach hyn, bydd angen prawf gwaed arnoch cyn ac yn ystod y driniaeth.

Isotretinoin a diffygion geni

Bydd isotretinoin yn niweidio babi cyn-geni. Os ydych chi'n fenyw o oedran a allai feichiogi:

  • peidiwch â defnyddio isotretinoin os ydych chi'n feichiog neu os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n feichiog
  • defnyddiwch 1, neu yn ddelfrydol, 2 ddull atal cenhedlu am fis cyn i'r driniaeth ddechrau, yn ystod triniaeth, ac am fis ar ôl i'r driniaeth orffen
  • cymerwch brawf beichiogrwydd cyn, yn ystod ac ar ôl y driniaeth

Gofynnir i chi lofnodi ffurflen sy'n cadarnhau eich bod yn deall y risg diffygion o ran genedigaeth a’ch bod yn fodlon defnyddio dulliau atal cenhedlu i atal y risg hon, hyd yn oed os nad ydych yn cael rhyw ar hyn o bryd.

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod wedi beichiogi wrth gymryd isotretinoin, cysylltwch â'ch dermatolegydd ar unwaith.

Hefyd, nid yw isotretinoin yn addas os ydych chi'n bwydo o'r fron.

Isotretinoin a newidiadau i hwyliau

Mae adroddiadau wedi bod am bobl yn profi newidiadau i'w hwyliau wrth gymryd isotretinoin.

Nid oes unrhyw dystiolaeth bod y newidiadau i hwyliau o ganlyniad i'r feddyginiaeth.

Ond fel rhagofal, cysylltwch â'ch meddyg ar unwaith os ydych chi'n teimlo'n isel neu'n bryderus, neu os oes gennych deimladau o ymddygiad ymosodol neu feddyliau hunanladdol.

Triniaethau nad ydynt yn fferyllol

Mae sawl triniaeth ar gyfer acne yn rhai heb feddyginiaeth.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • echdynnwr smotiau penddu – offeryn bach siâp ysgrifbin y gellir ei ddefnyddio i lanhau smotiau penddu a smotiau pen gwyn
  • piliwr cemegol – lle mae hydoddiant cemegol yn cael ei roi ar yr wyneb, gan achosi i'r croen bilio i ffwrdd a chroen newydd i ddod yn ei le
  • therapi ffotodynamig – lle caiff golau ei roi ar y croen mewn ymgais i wella symptomau acne

Ond efallai na fydd y triniaethau hyn yn gweithio ac ni ellir eu hargymell fel mater o drefn.

Acne a past dannedd

Awgrym a geir ar lawer o wefannau yw bod past dannedd yn gallu sychu smotiau unigol.

Er bod past dannedd yn cynnwys sylweddau gwrthfacteriol, mae hefyd yn cynnwys sylweddau sy'n gallu llidio a niweidio'ch croen.

Ni argymhellir defnyddio past dannedd fel hyn. Mae triniaethau llawer mwy effeithiol a mwy diogel ar gael gan fferyllwyr neu eich meddyg teulu.

Cymhlethdodau

Gall creithio acne weithiau ddatblygu fel cymhlethdod acne. Gall unrhyw fath o smotyn acne arwain at greithio, ond mae'n fwy cyffredin pan fydd y mathau mwyaf difrifol o smotiau (nodylau a systiau) yn byrstio ac yn niweidio croen cyfagos.

Hefyd, gall creithio ddigwydd os byddwch chi'n pigo neu’n gwasgu eich smotiau, felly mae'n bwysig peidio â gwneud hyn.

Mae tri phrif fath o greithiau acne:

  • creithiau pig iâ – tyllau bach, dwfn yn wyneb eich croen sy'n edrych fel bod y croen wedi cael ei dyllu â gwrthrych miniog
  • creithiau rholio – wedi cael eu hachosi gan fandiau o feinwe greithiol sy'n ffurfio o dan y croen, gan roi ymddangosiad rholio ac anwastad i wyneb y croen
  • creithiau bocscar – pantiau crwn neu hirgrwn, neu graterau, yn y croen

Trin creithio acne

Mae triniaethau ar gyfer creithio acne yn cael eu hystyried yn fath o lawdriniaeth gosmetig sydd ddim ar gael ar y GIG, fel arfer. Fodd bynnag, yn y gorffennol, mae eithriadau wedi cael eu gwneud pan ddangoswyd bod creithio acne wedi achosi gofid seicolegol difrifol.

Ewch i weld eich meddyg teulu os ydych chi'n ystyried cael llawdriniaeth gosmetig. Byddant yn gallu trafod eich opsiynau gyda chi a'ch cynghori ynghylch y tebygolrwydd o gael cyflawni'r weithdrefn ar y GIG.

Mae llawer o glinigau preifat yn cynnig triniaeth ar gyfer creithio acne. Gall prisiau amrywio'n fawr (o £500 i fwy na £10,000) gan ddibynnu ar y math o driniaeth sydd ei angen.

Mae gan wefan y British Association of Aesthetic Plastic Surgeons fwy o wybodaeth am driniaeth breifat sydd ar gael yn eich ardal chi.

Mae'n bwysig cael disgwyliadau realistig ynglŷn â beth y gall triniaeth gosmetig ei chyflawni. Er bod triniaeth yn sicr yn gallu gwella ymddangosiad eich creithiau, ni all gael gwared ohonynt yn llwyr.

Ar ôl triniaeth ar gyfer creithio acne, mae'r rhan fwyaf o bobl yn sylwi ar welliant o 50-75% yn eu hedrychiad.

Mae triniaethau ar gyfer creithio acne yn cynnwys:

Dermabrasion

Mae “dermabrasion” yn golygu cael gwared ar yr haen uchaf o groen, naill ai trwy ddefnyddio laserau neu frwsh gwifren wedi'i wneud yn arbennig.

Ar ôl y driniaeth, bydd eich croen yn edrych yn goch ac yn boenus am rai misoedd, ond wrth iddo wella dylech sylwi ar welliant yn ymddangosiad eich creithiau.

Triniaeth laser

Gellir defnyddio triniaeth laser i drin creithiau acne ysgafn i gymedrol. Mae dau fath o driniaeth laser:

  • triniaeth laser abladol – defnyddir laserau i dynnu darn bach o groen o amgylch y graith i gynhyrchu darn o groen newydd sy'n edrych yn llyfn
  • triniaeth laser nad yw'n abladol – defnyddir laserau i ysgogi twf colagen newydd (math o brotein a geir mewn croen), sy'n helpu i atgyweirio rhywfaint o'r difrod a achosir gan greithio, gan wella ymddangosiad

Technegau dyrnu

Defnyddir technegau dyrnu i drin creithiau pig iâ a chreithiau bocscar. Mae tri math o dechneg dyrnu:

  • toriad dyrnu – caiff ei ddefnyddio i drin creithiau pig iâ ysgafn. Mae'r graith yn cael ei thynnu'n llawfeddygol ac mae'r clwyf sy'n weddill yn cael ei selio. Ar ôl i'r clwyf wella, mae'n gadael ardal o groen sy’n llyfnach ac yn fwy gwastad.
  • codiad dyrnu – caiff ei ddefnyddio i drin creithiau bocscar. Mae gwaelod y graith yn cael ei dynnu'n llawfeddygol, gan adael ochrau'r graith yno. Yna mae'r gwaelod yn cael ei ailgysylltu i'r ochrau ond yn cael ei godi fel ei fod ar yr un  lefel â wyneb y croen. Mae hyn yn gwneud y graith yn llawer llai amlwg.
  • impiad dyrnu – caiff ei ddefnyddio i drin creithiau pig iâ dwfn iawn. Yn yr un modd â toriad dyrnu, mae'r graith yn cael ei thynnu, ond mae'r clwyf yn cael ei "blygio" gyda sampl o groen wedi'i gymryd o rywle arall ar y corff (o gefn y glust, fel arfer).

Subcision

Triniaeth lawfeddygol y gellir ei defnyddio i drin creithiau rholio yw” subcision”. Yn ystod y llawdriniaeth, mae haen uchaf y croen yn cael ei thynnu o'r meinwe greithiol waelodol. Mae hyn yn caniatáu i waed gronni o dan yr ardal sydd wedi'i heffeithio. Mae'r tolchen gwaed yn helpu i ffurfio meinwe gysylltiol, sy'n gwthio'r graith rolio i fyny fel ei fod ar yr un lefel â gweddill wyneb y croen.

Ar ôl cwblhau “subcision”, gellir defnyddio triniaeth ychwanegol, fel triniaeth laser a “dermabrasion”, i wella edrychiad y graith ymhellach.

Iselder

Yn aml, gall acne achosi teimladau dwys o bryder a straen, sydd weithiau'n gallu gwneud i bobl â'r cyflwr gilio’n gymdeithasol. Gall y cyfuniad hwn o ffactorau arwain at bobl ag acne yn dioddef o iselder.

Efallai eich bod chi'n dioddef o iselder os ydych chi, yn ystod y mis diwethaf, wedi teimlo'n isel, yn ddigalon neu'n anobeithiol, heb lawer o ddiddordeb na phleser mewn gwneud pethau.

Os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennych chi neu'ch plentyn iselder, mae'n bwysig siarad â'ch meddyg teulu.

Mae triniaethau ar gyfer iselder yn cynnwys:

  • therapïau siarad fel therapi ymddygiad gwybyddol (CBT)
  • math o feddyginiaeth wrth-iselder o'r enw atalyddion ailddefnyddio serotonin detholus (SSRIs)

Cymorth ar gyfer acne

Nid oes prif elusen na grŵp cymorth ar gyfer pobl sy'n cael eu heffeithio gan acne yng Nghymru ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae amrywiaeth o fyrddau negeseuon a blogiau anffurfiol am acne ar y we. Gall fod o gymorth i chi ddarllen am brofiad pobl eraill o fyw gydag acne.

Er enghraifft, mae talkhealth yn darparu cymuned sy’n cynnig cymorth a gwybodaeth rhad ac am ddim am acne.

Hefyd, mae gan The Mix (Get Connected y flaenorol) wefan a llinell gymorth ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau a phobl ifanc ag anawsterau emosiynol a phroblemau eraill. 

Colur

Gall colur helpu i orchuddio creithiau a gall fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer creithiau'r wyneb.

Mae colur cuddliw sydd wedi cael ei gynllunio'n arbennig i orchuddio creithiau ar gael dros y cownter mewn fferyllfeydd. Gallwch ofyn i'ch meddyg teulu am gyngor, hefyd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am orchuddio marc, craith, cyflwr croen nad yw'n heintus neu datŵ, ewch i dudalen we gwasanaeth cuddliw croen Changing Faces neu ffoniwch 0300 012 0276.



Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon wedi'i haddasu gan GIG Cymru o gynnwys gwreiddiol a ddarparwyd gan NHS UK wefan y GIG nhs.uk
Dyddiad diweddaru diwethaf: 16/03/2023 12:11:45